Y Pennaf Peth/Y Pennaf Peth yn y Byd
← Y Cynhwysiad | Y Pennaf Peth gan John Hughes Morris |
Yr Eliffant Gwyn → |
YSTORIAU CENHADOL
Y Pennaf Peth yn y Byd
EISTEDDAI tri brawd gyda'i gilydd gerllaw gwesty a safai ar fin coedwig yn yr India. Tri mab Brenin Benares oeddynt, a cheisient gynllunio pa fodd i gael yn ôl deyrnas eu tad, yr hon a draws-feddian- nwyd gan ormeswr pan fu farw'r brenin. Wrth geisio trefnu eu cynlluniau, gofynnodd yr hynaf, y Tywysog Deva, "Beth ydyw'r peth mwyaf yn y byd?"
Atebodd yr ail frawd, y Tywysog Sanka, "Y peth mwyaf yn y byd ydyw gallu; nid oes dim mwy nerthol na byddin gref."
"Na," atebodd y Tywysog Deva, "yr wyt. yn camgymryd. Y peth mwyaf yn y byd ydyw cyfoeth. Ti wyddost mai trwy roddi arian i'r milwyr y llwyddodd y gormeswr i draws-feddiannu teyrnas ein tad."
Daliasant ati i ddadlau eu dau, ond eis- teddai eu brawd ieuengaf, y Tywysog Aman- da, yn ddistaw, heb ddweud gair. Yn y man dywedodd y Tywysog Deva: "Af i China, a chasglaf yno gyfoeth mwy nag a fedd undyn ar wyneb y ddaear."
"Af finnau tua'r gorllewin," ebe'r ail Dywysog, Sanka; "codaf fyddin fawr yng ngwlad Twrcistan. Caiff ein brawd ieueng- af, Amanda, fyned tua'r de i wlad Siam."
"Pa bryd y cawn gyfarfod eto?" gofynnodd Amanda.
"Gadewch inni," meddai Sanka, "gyfarfod yn y fan hon ar y dydd cyntaf o'r gwanwyn, ddeng mlynedd ymlaen. Cawn weled y pryd hwnnw pwy fydd wedi cael y peth mwyaf yn y byd, ac yna, fe ddichon, gallwn adfeddiannu teyrnas ein tad."
Ymwahanasant. Aeth y Tywysog Deva ar gefn march, ac ymunodd â charafan o farsiandwyr oedd yn cychwyn tua China. Trodd y Tywysog Sanka tua'r gorllewin, gan deithio llwybr unig drwy'r diffeithwch i gyfeiriad gwlad wyllt Twrcistan. Amharod iawn oedd y Tywysog Amanda i adael ei wlad; 'roedd ganddo gyfeillion lawer yno; ond o'r diwedd cychwynnodd i gyfeiriad y de, yn araf ac yn drist.
Aeth deng mlynedd heibio. Gwawriodd y bore cyntaf o'r gwanwyn. Edrychai'r gwesty yn brydferth odiaeth y diwrnod. hwnnw, ac wrth ei ddrws safai gwraig ieuanc hardd, a baban yn ei breichiau, ac wrth ei hochr ddau fachgennyn iach a llon. Yn y man gwelwyd mintai fawr,—camelod, a meirch, a dynion,—yn cludo llwythi o nwyddau a thrysorau gwerthfawr, yn dyfod o gyfeiriad y dwyrain, ac ar flaen y fintai marchogai gŵr gwelw ei wedd, ac ôl pryder a gofal yn ddwfn arno. Y Tywysog Deva ydoedd. O gyfeiriad y gorllewin gwelid mintai arall, byddin enfawr, yn nesáu,—can mil o wyr arfog, rhai ar feirch a rhai ar draed, a'u harfogaeth yn fflachio ac yn disgleirio ym mhelydrau'r haul. Ar eu blaen marchogai'r Tywysog Sanka.
Wedi cyfarch ei gilydd, dechreuasant holi beth a ddigwyddasai iddynt y deng mlynedd a aeth heibio. Dywedodd Deva: "Gweithiais yn ddi—orffwys, ddydd a nos, a heddiw myfi ydyw'r gwr cyfoethocaf ar y ddaear."
"Edrych," meddai Sanka, "ar y fyddin a gesglais i; bu rhaid imi frwydro yn galed i'w chael, a darostwng llawer teyrnas."
"Ie," atebodd Deva; "ond cyfoeth ydyw'r peth mwyaf yn y byd wedi'r cyfan, oherwydd ni byddai raid imi ond cynnig mwy o arian i dy filwyr nag yr wyt ti yn ei roddi iddynt, na ddeuent drosodd ataf fi ar unwaith."
"Paid a drysu," atebodd Sanka yn gyffrous. "Pe dywedwn i ond y gair, ymosodai fy milwyr ar dy gludwyr di, ac fe'i lladdent yn y fan, ac yna byddai dy holl gyfoeth yn eiddo i mi cyn pen pum munud."
Wedi iddynt ymddadlau fel hyn am beth amser, cofiasant am eu brawd ieuengaf. "Pa le mae Amanda, tybed? Beth ddarganfyddodd ef ydyw'r peth mwyaf yn y byd?" Ar hynny daeth gŵr ieuanc hardd, heinyf, iach, allan o ddrws y gwesty. Dillad gweithiwr oedd amdano, ond edrychai yn hapus a bodlon ryfeddol.
"Amanda ydyw!" meddai'r ddau frawd mewn syndod. "Wel, Amanda, dywed wrthym a lwyddaist i ddarganfod y peth mwyaf yn y byd?"
"Do," meddai Amanda, gyda gwên ar ei wyneb. "Cychwynais tua Siam, ond troais yn fy ôl. Dyma fy ngwraig a'm tri phlentyn. Y peth mwyaf yn y byd," meddai, yn araf a phwyllog—"y peth mwyaf yn y byd ydyw— cariad."
Aeth y ddau frawd hynaf yn ddistaw. Yn y man dywedodd Deva: "Mae'r bachgen yn ei le. Fe geisiaist ti allu, Sanka, a chefaist ef; ond nid wyt yn ddedwydd. Ceisiais innau gyfoeth, a chefais ef; ond nid wyf finnau yn ddedwydd. Ceisiodd Amanda gariad, a gwêl mor wir ddedwydd ydyw. Gallu, Cyfoeth, Cariad: y tri hyn; a'r mwyaf o'r rhai hyn yw Cariad."