gan Dafydd ap Gwilym

Gwae fardd a fai, gyfai or,
Gofalus ar gyfeilioren.
Tywyll yw’r nos ar ros ryn,
Tywyll, och am etewyn.
Tywyll draw, ni ddaw ym dda,
Tywyll, mau amwyll, yma.
Tywyll iso, mau fro frad,
Tywyll yw y lleuad.


Gwae fin a ŵyr, lwyr loywryw,
Du ei llun, mor dywyll yw,
Fy mod, mai ci chlod achlân,
Mewn tywyllwg tew allan.
Dilwybr hyn o ardelydd,
Da y gwn mad oeddwn, bei dydd,
Gyfarwydd i gyfeiriaw
Na thred nac yma na thaw
Chwaethach, casach yw’r cysur,
Nos yw, heb olau na sŷr.
Nid call i fardd arallwlad,
Ac nid teg rhag brag na brad,
O’m ceir yn unwlad â’m cas,
A’m daly, mi a’m march dulas.
Nid callach, dyrysach draw,
Ynn ein cael, yn encilliaw,
Ym mawnbwll ar ól mwynbarch,
Gwedy boddi, mi a a’m march.
Pyd arros agos eigiawn,
Pwy a eill mwy mewn pwll mawn?


Pysgodlyn I Wyn yw ef
Fabb Nudd, wb ynn ei oddef.
Pydew thwng gwaun a cheunant,
Plas yrellyllon a’u plant.
Y dwfr o’m bodd nid yfmn,
Eu braint a’u hennaint yw hwn.
Llyn gwin egr, llanw gwineugoch
Lloches lle’r ymolches moch.
Llygrais achlan f’hosanau
Cersi o Gaer mewn cors gau.
Mordwy lle nid rhadrwy whwyd,
Marwddwfr, ynddo ni’m urddwyd.
Ni wn paham, ond amarch,
Ydd awn i’r pwll mawn â’m march.
Oerfel i’r delff, ni orfu,
A’I cloddies, ar fawrdes fu.
Hwyr y rhof, o dof I dir,
Fy mendith yn y mawndir.