Y Rhugl Groen
gan Dafydd ap Gwilym
- Fal yr oeddwn, fawl rwyddaf,
- y rhyw ddiwrnod o’r haf
- dan wŷdd rhwng mynydd a maes
- yn gorllwyn fy nyn geirllaes,
- dyfod a wnaeth, nid gwaeth gwad,
- lle’r eddewis, lloer ddiwad.
- Cydeistedd, cywiw destun,
- amau o beth, mi a bun;
- cyd-draethu, cyn henu hawl,
- geiriau â bun ragorawl.
- A ni felly, anhy oedd,
- yn deall serch ein deuoedd,
- yn celu murn, yn cael medd,
- dyfod a wnaeth, noethfaeth nych,
- dan gri, rhyw feistri fystrych,
- salw ferw fach sain gwtsach sail
- o begor yn rhith bugail;
- a chanto’r oedd, cyhoedd cas,
- rugl groen flin gerngrin gorngras.
- Canodd, felengest westfach,
- Y rhugl; och I’r hegl grach!
- Ac yno cyn digoni
- gwiw fun a wylltiodd; gwae fi!
- Pan glybu hon, fron fraenglwy,
- Nithio’r main, ni thariai mwy.
- Dan Grist ni bu dôn o Gred
- can oer ben ffon yn sonio,
- cloch sain o grynfain a gro.
- Crwth cerrig Seisnig yn sôn
- crynedig mewn croen eidion.
- Cawell teirmil o chwilod,
- callor dygfor, du god.
- Ceidwades gwam, cydoes gwellt,
- Groenddu, feichiog o grynddellt.
- Cas ei hacen gan heniwrch,
- cloch ddiawl, a phawl yn ei ffwrch;
- greithgrest garegddwyn grothgro,
- yn gareiau byclau y bo.
- Oerfel I’r carl gwasgarlun,
- Amen, a wylltiodd fy mun.