Y Siswrn/Mr. Jones y Shop a William Thomas

Mr. Jones y Shop a George Rhodric Y Siswrn

gan Daniel Owen

William Thomas a'r dewis Blaenoriaid

Mr. Jones y shop a William Thomas.

TUA'R adeg yr ydym yn ysgrifenu yn ei chylch, nid oedd ar yr eglwys y perthynai Mr Jones iddi ond dau flaenor yn unig, ac edrychid ar William Thomas fel y pen blaenor. Ennillodd y swydd, a'r uchafiaeth yn y swydd, yn gwbl yn rhinwedd purdeb ei gymeriad ac ysbrydolrwydd ei grefydd. Gweithiwr mewn ffermdy a fuasai ei dad o'i flaen, a gweithiwr yn yr un man ydoedd yntau. Nid ennillasai erioed fwy na deunaw swllt yn yr wythnos. Magasai loned tŷ o blant, ac o anghenrheidrwydd ni chododd yn ei fywyd uwchlaw prinder. Ond er hyn, yr oedd efe, yn ddiau, y cyfoethocaf tuag at Dduw yn yr holl gymydogaeth; ac ni theimlodd bangfa anghen erioed ond fel yr oedd yn anfantais ynglŷn â chrefydd. Yn y wedd hon, teimlodd i'r byw, a llawer tro y llifodd y dagrau dros ei ruddiau am na fedrai roddi lletty i bregethwr, na chyfranu fel y dymunai at ryw achos y byddai ei galon yn llosgi am ei lwyddiant. Er cymaint oedd y gwahaniaeth yn eu sefyllfa fydol, llawer tro y teimlasai Mr. Jones yn y cyfarfodydd eglwysig y buasai yn barod i roddi ei shop a'i holl eiddo am grefydd ac ysbrydolrwydd William Thomas.

Rhwng fod Mr. Jones wedi bod mor gaeth i'w fasnach, a William Thomas yn byw bellder o ddwy filldir mewn diffeithwch yn y wlad, ni buasai y blaenaf erioed yn nhŷ y diweddaf, er iddo addaw iddo ei hun y pleser hwnw ugeiniau o weithiau. Ond un prydnawngwaith yn mis Mehefin, cyfeiriodd Mr. Jones ei gamrau tuag yno; ac wedi dyfod o hyd i babell yr hen bererin, safodd am enyd mewn syndod yn edrych arno. Er ei fod yn weddol gydnabyddus âg amgylchiadau W. Thomas, ni feddyliodd erioed ei fod yn preswylio mewn annedd mor ddiaddurn; ac nid allai lai, yn yr olwg arno, na gofyn iddo ei hun, wrth adgofio y gwleddoedd a fwynhasai yn nghymdeithas ei breswylydd, ai onid oedd iselder sefyllfa a chyfyngder amgylchiadau yn fanteisiol i adgynnyrchu ysbryd yr Hwn nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr. "Tŷ a siamber," fel y dywedir, oedd yr annedd, a thô gwellt arno. Yr oedd gwal isel o'i flaen, a llidiart bychan gyferbyn â drws y tŷ. Yr oedd yn hawdd gweled oddiwrth y llestri a'r celfi oeddynt ar hyd y wal, eu bod yno am nad oedd ystafell briodol i dderbyn y cyfryw oddimewn. Ar y naill ochr i'r tŷ, yr oedd gardd fechan a thaclus; ar yr ochr arall yr oedd popty, o wneuthuriad diammheuol y preswylydd, neu ynte un o'i hynafiaid. Ar ben simdde yr adeilad, yr oedd padell bridd heb yr un gwaelod iddi, ac wedi ei throi â'i gwyneb yn isaf. Ychydig y naill du yr oedd adeilad bychan arall, lle y porthid un o hiliogaeth creaduriaid rhochlyd gwlad y Gadareniaid. Yr oedd yr adeilad hwn yn ddiweddarach o ran arddull na'r tŷ annedd, gan fod iddo lofft â mynediad i mewn iddi o'r tu allan, lle y cysgai rhyw arall o greaduriaid, ac o ba le hefyd y clywid, yn oriau cyntaf y bore—gan nad pa mor dderbyniol a fyddai hyny i'r chwyrnwr a gysgai yn y gwellt odditano—lais uchel a chlir y rhybuddiwr a weithredodd mor effeithiol ar Simon Pedr gynt. Tra yr oedd Mr. Jones yn edrych o'i gwmpas, daeth bachgen bychan bywiog ar ei redeg i ddrws y tŷ; ond càn gynted ag y gwelodd efe y gwr dyeithr, rhedodd yn ei ol, gan waeddi ar ei fam fod dyn yr adnod " wrth у llidiart. Gelwid Mr. Jones yn "ddyn yr adnod" gan blant William Thomas am mai efe yn gyffredin a fyddai yn gwrandaw y plant yn dyweyd eu hadnodau yn y cyfarfodydd eglwysig.

Daeth y fam, yr hon oedd gryn lawer yn ieuengach na'r gŵr, i gyfarfod Mr. Jones; a gwahoddodd ef i ddyfod i mewn, "os gallai," gan gyfeirio yn ddiammheu at fychander y drws. Yr oedd William Thomas erbyn hyn wedi sylweddoli ei ddyfodiad, ac wedi tynu ei yspectol, a'i wyneb yn dysgleirio gan lawenydd. Canfyddodd Mr. Jones nad oedd gwedd dufewnol y tŷ yn rhagori llawer ar yr allanol. Yr oedd hyny o ddodrefn oedd yno yn hynafol, ac yn ymddangos eu bod wedi gwasanaethu llawer cenedlaeth. Ar un ochr i'r tân yr oedd hen settle dderw, lle y gallai tri neu bedwar eistedd; yr ochr arall yr oedd cadair ddwy fraich, i'r hon yr arweiniwyd Mr. Jones. Yr oedd y cyfleusderau eraill i eistedd yn gynnwysedig mewn ystolion, y rhai oeddynt yn amrywio mewn maint a llun; a rhwng y rhai hyny a'r plant yr oedd cryn gyfatebiaeth. Nid oedd yr hyn a alwent yn fwrdd, mewn gwirionedd, ond ystôl megys wedi gordyfu; a gallai yr anghyfarwydd dybied mai hi ydoedd mam yr holl ystolion eraill. Yr oedd muriau yr annedd yn llwydion, ac yn hollol ddiaddurn, oddigerth gan un neu ddau o ddarluniau a gymerasid o "gyhoeddiad y corff," ac a ddodasid mewn hen fframiau, un o ba rai oedd darlun o'r diweddar Barch. Henry Rees. Yr oedd y darlun yn ymddangos yn lled newydd, ond yr oedd y ffrâm yn dangos yn rhy eglur ei bod wedi gwasanaethu darlun neu ddarluniau eraill, y rhai oeddynt oll wedi gorfod rhoddi lle i'w gwell. Y dodrefnyn gwerthfawrocaf yn y tŷ oedd hen awrlais â gwyneb pres iddo, yr hwn, yn ol pob golwg, oedd wedi disgyn o dad i fab am genedlaethau, ac wedi duo cymaint gan henaint fel nad ellid dyweyd pa faint ydoedd ar y gloch arno heb fyned yn glos i'w ymyl.

Ac nid ar allanolion yr hen gloc yn unig yr oedd amser wedi effeithio, canys yr oedd profion rhy amlwg fod ei lungs yn ddrwg; oblegid pan fyddai ar ben taro, byddai yn gwneyd sŵn anhyfryd, fel dyn â brest gaeth, ac yn ymddangos fel ar ddarfod am dano; ond wedi i'r bangfa fyned trosodd, byddai yn dyfod ato ei hun, ac yn adfeddiannu ei iechyd am awr. Nid oedd llawer o ddibyniad ychwaith i'w roddi ar gywirdeb yr hen greadur, ac o herwydd hyny byddai W. Thomas, er mwyn i'r wraig wybod pa bryd i'w ddysgwyl gartref, yn gadael ei oriawr ar hoel uwchben y lle tân, wrth yr hon yr oedd yn grogedig gadwen o fetal, sêl, a dwy gragen fechan. Yr oedd y plant oeddynt yn dygwydd bod yn y tŷ pan ddaeth Mr. Jones i mewn, wedi hel yn dwr i un gongl, ac yn edrych yn yswil iawn; un yn cnoi ei frat, y llall â'i fŷs yn ei safn, a'r trydydd yn amlwg yn sugno ei gof, oddiar ofn i Mr. Jones ofyn iddo am adnod.

Wedi cyfarch gwell, a dadgan eu llawenydd o weled eu gilydd, gwelid yr hen batrïarch yn dwyn ymlaen yr unig groesaw y gallai ei gynnyg i ŵr o safle Mr. Jones, yr hwn groesaw a gedwid yn mhoced ei wasgod, ac oedd yn gynnwysedig mewn blwch corn hirgrwn, a'r ddwy lythyren, W. T., wedi eu tori ar ei gauad. Ië, hwn ydoedd yr unig foeth daearol a dianghenrhaid у bu William Thomas yn euog o ymbleseru ynddo; a phwy, pa mor wrthsmocyddol bynag, a fuasai yn ei warafun iddo? "

Wel, William Thomas, yr wyf wedi dyfod yma i ofyn ffafr genych." "Ffafr gen'i, Mr. Jones bach?" ebe fe. "Ië, ffafr genych chwi, W. Thomas. Yr wyf yn deall fod teulu y Fron Hên yn ymadael â'r gymydogaeth; a chwi a wyddoch nad oedd neb ond hwy yn arfer derbyn pregethwyr yma; ac nid wyf wedi clywed fod un lle arall yn agor i'w derbyn; ac y mae Mrs. Jones a minnau wedi bod yn siarad â'n gilydd am ofyn i chwi a gawn ni eu croesawu. Yrwan, ar ol i ni altro y tŷ acw, yr wyf yn meddwl y gallwn eu gwneyd yn lled gysurus. A dyweyd y gwir i chwi, William Thomas, dyna oedd un amcan mawr mewn golwg genyf wrth wneyd y lle acw gymaint yn fwy; bod dipyn yn fwy defnyddiol gyda'r achos, os byddwch mor garedig a chaniatau ein cais. "

Ar hyn daeth rhywbeth i wddf W. Thomas, fel nad allai ateb mewn mynyd. O'r diwedd dywedodd ei fod yn ofni ei fod wedi cael anwyd, gan fod rhyw grugni yn ei wddf, ac yn wir ei fod yn teimlo ei lygaid yn weiniaid. Nid oedd yr anwyd hwn, pa fodd bynag, ond o fyr parhâd, canys ennillodd W. Thomas ei lais clir arferol yn fuan. "Wel, bendith arnoch, Mr. Jones! yr ydych yn garedig dros ben, ac wedi cymeryd baich mawr oddiar fy meddwl i, sydd wedi peri i mi fethu cysgu yn iawn er pan glywais fod fy nghyd—swyddog a'i deulu o'r Fron Hên yn myn'd i'n gadael. Yr oeddwn i yn dirgel gredu o hyd yr agorai yr Arglwydd ddrws o ymwared i ni rhag i'w weision orfod ysgwyd y llwch oddiwrth eu traed yn yr ardal yma. Chwi wyddoch, Mr. Jones, fod yma eraill yn meddu ar y cyfleusderau, ond y mae gen' i ofn nad ydi'r galon ddìm ganddynt. Mi gewch fendith, Mr. Jones; fe dal y pregethwr am ei le i chwi. "Nac anghofiwch lettŷgarwch, canys wrth hyny y llettŷodd rhai angylion yn ddiarwybod." Un hynod o lettŷgar oedd yr hen batriarch. Pan ddaeth y bobl ddyeithr hyny heibio ei dŷ, ni wyddai fo yn y byd mawr pwy oeddan' nhw, ond ei fod yn guessio eu bod yn weision yr Arglwydd ; 'ac efe a fu daer arnynt, ac â roes y croeso gore iddynt; a chyn y bore yr oeddynt wedi troi allan yn angylion, ae fe'i cadwyd yntau rhag i un dafn o'r gawod frwmstan syrthio ar ei goryn. Yr oedd George Rhodric yn sôn wrtha'i am i ni dalu hyn a hyn y Sabbath am le y pregethwr; ond er na fedra'i roi llettŷ i bregethwr fy hunan, yr ydw' i yn hollol yn erbyn y drefn yna. Pe buaswn i yn bregethwr, fuaswn i ddim yn gallu mwynhâu pryd o fwyd yr oeddwn i yn gwybod fod rhywun arall yn talu hyn a hyn am dano. Mi fuaswn yn myn'd i feddwl faint, tybed, oeddan nhw yn dalu, ac â oeddwn i wedi bwyta tua'r marc, neu â oeddwn yn peidio myn'd dros ben y marc; er, byd a'i gŵyr o, y mae y rhei'ny welais i o honynt yn bwyta digon ychydig, ac yn enwedig y bechgyn â'r gwynebau llwydion o'r Bala yna. Ha! mi fuasai yn o arw gan Mair a Martha gymeryd tâl am le yr Athraw, goelia' i, Mr. Jones. Ar yr un pryd, yr wyf yn credu mai diffyg ystyriaeth sydd wedi rhoi cychwyniad i'r drefn mewn ìlawer man. Mae pobl yn eu hanystyriaeth yn cymysgu rhinweddau crefyddol, ac yn tybied os cyflawnant un gorchymyn yn lled dda fod hyny yn gwneyd i fyny am orchymyn arall tebyg iddo. Mae ambell ddyn da yn meddwl os bydd o yn cyfranu yn haelionus at y weinidogaeth, fod hyny yn gwneyd i fyny am letygarwch, er ei fod, hwyrach, yn meddu tŷ da a chysurus, a digon o eiddo. Ond y mae hyny yn gamgymeriad, yr ydw' i yn meddwl; yr hen drefn sydd iawn. Diolch yn fawr i chwi, Mr. Jones; mi gewch fendith yn siwr i chwi." "Yr ydych yn hollol yn eich lle gyda golwg ar lettygarwch, William Thomas," ebe Mr. Jones; "a chan fy mod wedi cael fy neges, rhaid i mi ddyweyd nos dawch i chwi i gyd, a hwylio at yr hen lyfrau acw." Ond cyn ymadael galwodd ato bob un o'r plant, a rhoddodd ddarn gwyn yn llaw pob un; ac os rhaid dyweyd y gwir, yr oedd yn well gan y crefyddolion bychain gael y darn gwyn na chael dyweyd adnod. Fel yr oedd Mr. Jones yn agosâu at y drws, yr oedd llaw ddehau William Thomas yn dyrchafu yn raddol i uwchder ei ben; ac fel yr oedd Mr. Jones yn yr act o gau y drws ar ei ol, daeth y llaw i lawr gyda nerth i gyffyrddiad â phen ei lin. "Mary," ebe efe, " rhaid i ni gael gwneyd Mr. Jones yn flaenor!"

Nodiadau

golygu