Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Attodiad–Y Tadau Methodistaidd a'u Cyhuddwyr
← William Davies, Castellnedd; Dafydd Morris, Twrgwyn; William Llwyd, o Gayo | Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I gan John Morgan Jones a William Morgan, Pant |
→ |
ATTODIAD I'R GYFROL GYNTAF.
Y TADAU METHODISTAIDD A'U CYHUDDWYR.
FEL y dysgwyliem, darfu i'r benod gyntaf yn Y Tadau Methodistaidd, ar sefyllfa foesol Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth, yn nghyd a'r dadleniad a wnaethom ynddi o'r modd y darfu i'r diweddar Dr. Rees, Abertawe, gam ddifynu taflen Dr. John Evans, beri cryn gyffro mewn rhai cylchoedd. Daeth cyfeillion Dr. Rees allan i'w amddiffyn; ysgrifenwyd erthyglau ar y mater yn y newyddiaduron, a phasiwyd penderfyniadau yn ein condemnio mewn cynadleddau. Teimlwn fod hyn yn galw arnom i ail gerdded y tir mewn dadl, ac ymdrechwn wneyd hyny gyda phob boneddigeiddrwydd. Ar yr un pryd, teimlwn ei fod yn gorphwys arnom i wneyd cyfiawnder a chofadwriaeth Sylfaenwyr y Cyfundeb, y rhai sydd wedi huno er ys ugeiniau o flynyddoedd bellach, ac wedi gadael eu cymeriadau dysglaer, yn ogystal â ffrwyth eu llafur, ar ol i ni, eu holynwyr, yn etifeddiaeth werthfawr.
Nid anfuddiol adgofio ein darllenwyr o'r modd y cychwynodd y ddadl. Dechreuodd trwy i Dr. Rees, yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales, gyhuddo y Tadau Methodistaidd o gamddarlunio yn wirfoddol sefyllfa foesol y Dywysogaeth, naill ai o ragfarn at yr Ymneillduwyr, neu ynte o awydd am gael iddynt eu hunain yr holl glod o efengyleiddio Cymru. Fel na byddo unrhyw amheuaeth ar y pen hwn difynwn ei eiriau: It seems that the early Methodists, either from prejudice against their Nonconforming brethren, or a desire to claim to themselves the undivided honour of having evangelized the Principality, designedly mispresented or ignored the labours of all other sects. Mr. W. Williams, of Pantycelyn, in his elegy on the death of Mr. Howell Harris, printed in 1773, asserts, without any qualifying remark, that all Wales was enveloped in thick darkness" (tudal. 279, ail argraffiad). Cyhuddiad mwy difrifol na hwn nis gellid ei ddwyn yn erbyn unrhyw ddosparth o bobl. Gesyd y Tadau Methodistaidd allan fel dynion dibarch i wirionedd, llawn o ymffrost ac o awydd am wag-ogoniant, gan fod wedi ymlenwi o genfigen a rhagfarn yn erbyn eu brodyr Ymneillduol. Gyda golwg ar hyn, meddai un Ysgrifenydd, "Temtiwyd y Doctor i ysgrifenu eu bod wedi camgyfleu pethau yn fwriadol." Temtio dyn, yn ol ystyr gyffredin yr ymadrodd, yw ei fod yn cael ei orddiwes gan brofedigaeth sydyn, yr hon yn aml a'i gorchfyga, ac a bar iddo, mewn byrbwylldra, gyflawni gweithred y bydd yn edifar ganddo am dani yn ol law. Ond, yn sicr, nid dan amgylchiadau felly y dygodd Dr. Rees ei gyhuddiad yn erbyn y Methodistiaid. Daeth yr argraffiad cyntaf o'i lyfr allan yn y flwyddyn 1861; ni ddygwyd yr ail argraffiad allan hyd y flwyddyn 1883; felly, cafodd y Doctor ddwy-flynedd-ar-hugain i feddwl uwchben yr hyn oedd wedi ysgrifenu, a phe y teimlai ei fod wedi gwneyd unrhyw gamwri, i wella ei eiriau. Dywed, yn ei ragymadrodd i'r ail argraffiad, ei fod wedi ceisio peidio ysgrifenu brawddeg i ddolurio teimlad neb; ond y mae y cyhuddiad gwaradwyddus yn erbyn y Tadiu Methodistaidd yn cael ei gadw i mewn; parheir i'w dal ger bron y byd fel pobl ymffrostgar, trachwantus am glod, ac yn ddigon diegwyddor i bardduo cymeriad eu cenedl eu hun er mwyn gwag-ogoniant; ac aeth Dr. Rees i'w fedd gan adael yr ystaen ddu hon ar gymeriad Sylfaenwyr y Cyfundeb. Pa ryfedd fod Methodistiaid y dyddiau presenol yn teimlo yn ddolurus, ac, i raddau, yn ddigllawn? Os oes unrhyw chwerwder wedi cael ei ddwyn i mewn i'r ddadl, ac os oes geiriau caledion wedi cael eu llefaru a'u hysgrifenu, ceir y rheswm am hyny yn yr ymadroddion celyd ydym wedi ddifynu.
Er mwyn edrych ar y pwnc yn gymharol gyflawn, cymerwn i fynu o un i un y gwahanol ddadleuon, pha rai y ceisir cyfiawnhau ymosodiadau Dr. Thomas Rees ar y Methodistiaid. I gychwyn, honir na ddywedodd erioed fod Cymru wedi cael agos ei chwbl grefyddoli cyn i'r Methodistiaid gyfodi, a honir fod ddadl hon yn tynu y tir yn hollol odditan ein traed. Ein geiriau ni, yn Y Tadau Methodistaidd, ydynt fod Dr. Rees yn honi fod rhanau helaeth o'r Deheudir wedi cael agos eu llwyr feddianu gan yr Ymneillduwyr cyn cyfodiad y Cyfundeb Methodistaidd (gwel tudal. 10 a 14). Dyna a ddywedasom, "yn ei hyd, a'i led, a'i drwch," ac yr ydym yn glynu wrtho. Y mae yn wir nad yw Dr. Rees yn defnyddio y cyfryw eiriau, ond dyna y casgliad anocheladwy y rhaid dod iddo oddiwrth yr hyn a ysgrifena. Gwna rif yr Ymneillduwyr yn Nghymru yn y flwyddyn 1715, yn ol taflen Dr. John Evans, yn haner can' mil (History of Nonconformity, tudal. 266); dywed yn mhellach (tudal. 279), nad oedd Ymneillduwyr Gogledd Cymru, ar y pryd, ond prin un ran o ugain o holl Ymneillduwyr y Dywysogaeth; felly, rhaid fod rhif Ymneillduwyr y Deheudir, o leiaf, yn saith-mil-a-deugain a phum' cant. Ac yn ol cyfrifiad Dr. Rees, rhif holl drigolion y Dywysogaeth yr adeg hono oedd pedwar can' mil, o ba rai yr oedd dwy ran o dair yn perthyn i'r Dê. ydym yn teimlo yn gwbl sicr fod ei ffigyrau yn anghywir; fod poblogaeth Cymru yr adeg hono yn nes i dri chan' mil nac i bedwar can' mil; a chan nad oedd y fath wahaniaeth y pryd hwnw ag sydd yn awr rhwng poblogaeth y Deheudir ag eiddo Gwynedd, mae yn amheus genym a oedd dau can' mil o drigolion yn Neheudir Cymru yr adeg hono. Ond hyd yn nod pe y cymerem gyfrif y Doctor o boblogaeth Cymru fel un cywir, ni a welwn ei fod yn gwneyd Ymneillduwyr y Dalaeth Ddeheuol yn agos i un ran o bump o'r holl boblogaeth. Nis gallai hyn fod, heb i ranau helaeth o'r Deheudir fod wedi cael eu meddianu gan Ymneilleuaeth. yn bur llwyr
Ond daw ein hymresymiad yn fwy eglur os cymerwn rai o'r gwahanol leoedd ar wahan. Yn ol taflen Dr. John Evans, yr oedd cynulleidfa Llanafan a Llanwrtyd yn rhifo wyth cant. Yr ydym yn barod wedi datgan ein barn fod y rhif hwn yn ormod; ond mae Dr. Rees, trwy y cyfnewidiad a wnaeth yn y daflen, yn dyblu y rhif yma, ac yn gwneyd cynulleidfa Llanafan a Llanwrtyd yn un-cant-ar-bymtheg. Cymerer yn ganiataol fod Llanafan a Llanwrtyd yn golygu holl Gantref Buallt, o fynydd Abergwesyn yn y gorllewin, hyd Llanfair-muallt a Rhaiadr-ar-Wy yn y dwyrain, ai tybed fod un-cant-ar-bymtheg o drigolion i'w cael yn yr holl fro fynyddig hono ar hyny o bryd? Pa faint yn ychwaneg nag un-cant-ar-bymtheg sydd yn mynychu moddion gras yn Nghantref Buallt yn bresenol, pan y mae y fath gynydd wedi cymeryd lle yn y boblogaeth tuag ardaloedd Llanwrtyd, a Llangamarch, a'r cyffiniau? Ond i adael hyn, nid ydym yn gweled y posiblrwydd i neb ysgoi y casgliad, os oedd un-cant-ar-bymtheg o Ymneillduwyr yn Nghantref Buallt yn y flwyddyn 1715, y rhaid fod y darn hwnw o'r wlad, beth bynag, wedi cael ei lwyr feddianu gan Anghydffurfiaeth. Ac eto, tuag ardaloedd Llanfair-muallt a Rhaiadr yr erlidiwyd Howell Harris waethaf, ac y cafodd ei gamdrin fwyaf. Pa le yr oedd yr un-cant-ar-bymtheg Ymneillduwyr y pryd hwnw? Cymerer eto y cyfrifon a roddir i Sir Gaerfyrddin. Rhifai Ymneillduwyr Caerfyrddin a Bwlchnewydd, yn ol Dr. John Evans, 600; yn ol Dr. Rees, 1,200; Ymneillduwyr Henllan, yn ol Dr. John Evans, 700; yn ol Dr. Rees, 1,400; Ymneillduwyr Rhydyceisiaid, Moor, ac Aberelwyn, yn ol Dr. John Evans, 800; yn ol Dr. Rees, 1,600; Ymneillduwyr Llanedi, Crugybar, a Chrugymaen, yn ol Dr. John Evans, 600; yn ol Dr. Rees, 1,200; Ymneillduwyr Capel Seion a Llety hawddgar, yn ol Dr. John Evans, 500; yn ol Dr. Rees, 1,000; ac Ymneillduwyr Llanybri, yn ol Dr. John Evans, 400; ac yn ol Dr. Rees, 800. Os cymerir cyfrif Dr. Rees o Ymneillduwyr y lleoedd uchod, yn y flwyddyn 1715, fel un cywir, a chofier eu bod yn ardaloedd amaethyddol, heb ond un dref o bwys rhyngddynt oll, ai tybed nad rhaid casglu fod Ymneillduaeth wedi eu meddianu yn bur llwyr? Yn Sir Aberteifi drachefn, rhoddir rhif Ymneillduwyr y Cilgwyn, a phump neu chwech o leoedd eraill, yn 1,000 gan Dr. John Evans; ac yn 2,000 gan Dr. Rees; ac ystyried fod hyn yn golygu yr holl randir o Llwynpiod i Llanbedr-pont-Stephan, rhaid fod Ymneillduaeth wedi ei meddianu i raddau mawr, pe y byddai cyfrifiad Dr. Rees yn gywir. Ac ychwaneg, yn ol Dr. Rees, bu y cyfnod cydrhwng adeg cyfrif Dr. John Evans yn 1715 a chyfodiad Methodistiaeth, yn adeg o lwyddiant anarferol yn nglyn âg Ymneillduaeth yn ardaloedd Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin. Dywedir i gant gael eu hychwanegu at gymunwyr Capel Isaac yn ystod yr amser hwn; fod eglwysi Crugybar a Chrofftycyff wedi cynyddu yn ol yr un raddeg; ac i dros ddau cant gael eu hychwanegu at gymunwyr Llwynpiod a'r Cilgwyn. Nis gallai yr ychwanegiadau mawrion hyn at rif yr aelodau cyflawn gymeryd lle, heb fod cynydd mawr wedi cymeryd lle yn rhif y gwrandawyr. Ychwaneger y cynydd hwn at y rhif a roddir gan Dr. Rees yn y flwyddyn 1715, a rhaid ei fod yn edrych ar ranau helaeth o'r Dê agos wedi cael eu llwyr feddianu gan Ymneillduaeth cyn i'r Methodistiaid wneyd eu hymddangosiad.
Credwn yn sicr ein bod wedi profi yr hona Dr. Rees yn ei lyfr yr hyn a briodolwn iddo parthed agwedd Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth. Pa fodd bynag, nid oes neb yn amheu ei fod yn honi fod y wlad wedi cael ei hefengyleiddio i raddau llawer helaethach nag a ddarlunia y Tadau Methodistaidd. Oni bai am hyn, ni buasai anghytundeb rhyngom âg ef. Dywed yn bendant iddynt gamddarlunio agwedd y Dywysogaeth, a gwneyd hyny yn wirfoddol. Am y rhan olaf o'r cyhuddiad, ni ddylasai gael ei ddwyn ond tan ar- gyhoeddiad difrifol o wirionedd, a dylasai gael ei brofi hyd y carn. Ond nid yw y Doctor yn gweled yn dda gyflwyno i ni rith o brawf. Dysgwylia i ni ei dderbyn ar ei air noeth ef; "It seems" yw yr oll a ddywed gyda golwg arno. Da genym weled yr Annibynwyr yn bresenol yn taflu y rhan hon o'r cyhuddiad dros y bwrdd yn ddiseremoni, gan ddatgan eu gofid iddi gael eu hysgrifenu, a'i galw yn "fryntwaith." A bryntwaith yn ddiau ydyw; nis gallesid ysgrifenu dim mwy annheilwng. " Ond cyduna Dr. Rees, a'i amddiffynwyr, i ddadleu ddarfod i'r Tadau Methodistaidd gamddarlunio sefyllfa foesol ac ysprydol y wlad, a gwnant hyn yn gyfangwbl ar sail damcaniaethau a thybiau nas gellir eu profi. Y mae damcaniaethau a dychymygion yn werth rhywbeth weithiau, yn absenoldeb tystiolaeth bendant ac uniongyrchol; ond pan y ceir y cyfryw dystiolaeth, nid ydynt yn werth dim. Y mae owns o dystiolaeth gan lygad-dyst, yn pwyso yn drymach na thunell o ddamcaniaeth. Ac ar sail tystiolaeth felly, tystiolaeth dynion yn adrodd yn syml yr hyn a welent ac a glywent, yr ydym yn dadleu fod sefyllfa foesol y Dywysogaeth yn ddifrifol o druenus pan y cododd Duw y Methodistiaid i fynu. Goddefer i ni alw sylw at y tystiolaethau sydd genym. Y gyntaf ydyw Dydd-lyfr Howell Harris. Ysgrifenai efe yn fanwl bob nos ddygwyddiadau y diwrnod; cofnodai y golygfeydd llygredig a ganfyddai, y ffeiriau annuwiol oeddynt yn cael eu cynal, tywyllwch ysprydol dudew y bobl a gyfarfyddai, a'r ymosodiadau ffyrnig a wnelid arno gan greaduriaid meddw a rheglyd, y rhai a geisient ei fywyd. Yn sicr, nid croniclo dychymygion yr ydoedd, na chyfansoddi ffughanes, ond adrodd yn syml yr hyn a welodd â'i lygaid, a glywodd â'i glustiau, ie, ac a deimlodd â'i gorph mewn gwaed. Pe y credem am dano, ar ol bod yn gyfrwng dylanwadau ysprydol cryfion, na theimlwyd eu cyffelyb hyd yn nod yn Nghymru ond yn anaml, y rhai a barent i oferwyr annuwiol grynu fel dail y coed yn ei bresenoldeb, y gallai fyned yn uniongyrchol i'w ystafell, ac ysgrifenu anwiredd pendant ar ei Ddydd-lyfr, byddem wedi darfod ag ef am byth. Cofier na fwriedid y Dydd-lyfr hwn i'w ddarllen gan neb ond efe ei hun; yn wir, ni ddarllenwyd mo hono gan neb arall am ugeiniau o flynyddoedd wedi ei farw. Y mae llythyr ar gael yn awr yn Nhrefecca oddiwrth berson yn Lloegr, yn ceisio gan Harris ysgrifenu hanes y Diwygiad. Gwrthoda yntau yn bendant, gan roddi fel rheswm am hyny y byddai y cyfryw hanes, o'i du ef, yn rhy debyg i wag ymffrost.
Y dystiolaeth nesaf yw eiddo Williams Pant-y- celyn. Darlunia ef gyflwr gresynus y wlad mewn lliwiau cryfion. Yr ydym yn methu deall paham y mae yr Annibynwyr mor llawdrwm ar y Bardd o Bantycelyn, ac mor ddrwgdybus o hono, gan dybio na chaent chwareu teg ar ei law. Yn eu mysg hwy y cafodd ei ddwyn i fynu; diacon parchus yn eglwys Annibynol Cefnarthen oedd ei dad, ac yn ol pob tebyg Annibynwraig zêlog a fu ei fam hyd ddydd ei marwolaeth, er i'w mab droi yn Fethodist. Iddo ef byddai diraddio yr Ymneillduwyr yn debyg i aderyn yn aflanhau ei nyth ei hun. Ac y mae yn anmhosibl credu y byddai yr awen hono, a esgynai mor uchel i'r ysprydol, nes bron cyhaedd y goleuni pur lle y mae Duw yn cartrefu, yn ymostwng i gamddarluniad ac anwiredd.
Y drydedd dystiolaeth yw eiddo Charles o'r Bala, tad Cymdeithas y Beiblau, a thad Ysgol Sabbothol Cymru. Y mae y darluniad a rydd ef yn y Drysorfa Ysprydol o gyflwr moesol y Dywysogaeth pan yr ymddangosodd Methodistiaeth yn nodedig o ddu. Yr oedd Mr. Charles yn ŵr mor bwyllog, mor gymedrol ei eiriau, ac mor rhydd oddiwrth bob math o eithafion, fel nad yw hyd yn nod Dr. Rees yn meiddio ei gyhuddo ef o gamddarlunio. Ond dywed mai Gogledd Cymru a ddarluniai. Nage, yn gyfangwbl, yn sicr. Cawsai Mr. Charles ei ddwyn i fynu hyd nes yr aeth i Rydychain yn y Dê, a hyny o fewn ychydig filltiroedd i Gaerfyrddin, lle yr oedd athrofa gan yr Ymneillduwyr, ac yn yr hwn le mewn undeb & Bwlchnewydd, yr oedd cynulleidfa o Ymneillduwyr, yn rhifo 1,200, yn ol Dr. Rees, yn y flwyddyn 1715. Rhaid felly y gwyddai Mr. Charles yn dda am ansawdd grefyddol y De yn ogystal a'r Gogledd. Tystiolaeth arall y gallem gyfeirio ati ydyw eiddo Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, yr hwn lyfr sydd yn nodedig o ddyddorol, ac yn rhoddi lle mawr i waith y Tadau Ymneillduol oeddynt yn byw cyn i'r Methodistiaid ymddangos.
Os dadleuir mai Methodistiaid yw yr oll o'r tystion hyn, ac felly nad ydynt i'w credu, gallwn ddwyn yn mlaen gwmwl o dystion yn sicrhau yr un peth, heb fod yn Fethodistiaid. Dyna un, Griffith Jones, Llanddowror. Cawsai yntau ei ddwyn i fynu gyda'r Ymneillduwyr; i gapel Annibynol Henllan yr arferai fyned i wrandaw gyda ei rieni pan yn ieuanc, ac y mae yn anhawdd credu y gwnelai gam a'r enwad mewn modd yn y byd. Dywedai efe fod anwybodaeth y wlad yn gyfryw, fel pan y caffai gynulleidfa o driugain neu bedwar ugain yn nghyd, na fyddai ond ryw dri neu bedwar yn medru Gweddi yr Arglwydd, nac yn deall pwy oedd eu Tad yr hwn oedd yn y nefoedd. A ellir dychymygu am anwybodaeth mwy dybryd? Faint o grefydd allasai fod yn mysg gwerin felly? Tyst arall yw y Parch. John Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn y Rhaiadr. Y mae y darluniad a rydd ef o gyflwr Cymru lawn mor ddu ag eiddo Williams, Pantycelyn. Ac yn sicr, ni fwriadai leihau clod yr enwad i'r hwn y perthynai efe ei hun. Yr ydym yn Y Tadau Methodistaidd hefyd wedi difynu tystiolaethau Dr. Erasmus Saunders, ac eiddo Mr. Pratt, y rhai ydynt yn hollol i'r un perwyl. Yn awr, yr ydym yn dadleu fod y cyfangorph yma o dystiolaethau yn gyfryw nas gellir eu troi yn ol. Nis gellir dychymygu am brawf cryfach; y mae can gadarned ag unrhyw brawf yn Euclid. Y mae nifer mawr o dystion yn dwyn tystiolaeth i'r hyn ydoedd o fewn cylch eu sylwadaeth, a hyny i raddau mawr yn annibynol ar eu gilydd, ac eto y cyfryw dystiolaeth yn cydredeg mewn cysondeb; y mae hyn, meddwn, yn ffurfio y math uchaf o brawf. Ofer ceisio ei wrthbrofi â damcaniaethau. Cyn y gellir ysgubo i ffwrdd y prawf ydym wedi ei ddwyn yn mlaen, rhaid cael nifer mwy o dystion, gyda mwy o sicrwydd o'u geirwiredd, i dystiolaethu i'r gwrthwyneb. Ond nid yw Dr. Rees na neb o'i amddiffynwyr wedi dwyn yn mlaen gymaint ag un tyst felly.
Teimla Dr. Rees ei hun fod y tystiolaethau am gyflwr gresynus Cymru, adeg cyfodiad Methodistiaeth, yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, ac felly, darpara loches arall i ddianc iddi, trwy ddweyd iddynt adael rhanau helaeth o'r wlad yn hollol yn yr un cyflwr. Defnyddia un o'i amddiffynwyr ymadrodd cryfach fyth, a dywed y buasai y tystiolaethau uchod ydym wedi ddifynu yn wir agos oll yn mhen can' mlynedd wedi i Fethodistiaeth gychwyn. Y mae yn anhawdd genym dybio iddo feddwl y frawddeg hon cyn ei hysgrifenu. Os oes ystyr i eiriau, golyga ddarfod i'r diwygiad Methodistaidd basio heb adael nemawr ddim o'i ôl ar y wlad. Wedi i Howell Harris daranu, ac i Daniel Rowland gynhyrfu, ac i Williams, Pantycelyn, ganu ei emynau bendigedig, dywedir iddynt farw gan adael Cymru agos yn hollol fel yr oedd! Dianc o loches i loches yw peth fel hyn. I gychwyn, honir nad oedd y nos mor dywyll ag y myn y Methodistiaid; wedi gorfod cydnabod fod y nos yn ddu dros ben, dywedir nad oedd nemawr ddim goleuach wedi i'r Methodistiaid lafurio yn galed am haner cant o flynyddau. Tybed fod hyn yn wir? A ellid cael cynulleidfa o bedwar ugain mewn unrhyw ardal, wedi i'r Methodistiaid fod yn cynhyrfu am haner can' mlynedd, ac yn pregethu y gwirionedd i'r bobl, yn mysg pa rai na fyddai ond pedwar yn gwybod pwy oedd eu Tad yr hwn sydd yn y nefoedd? Tybed fod y llygredigaethau mor uchel eu pen, y drygfoes mor amlwg, y cynulliadau annuwiol mor lliosog, a'r wlad mor ddifater gyda golwg ar grefydd? Beth mewn difrif a wnaeth y Methodistiaid yn ystod yr haner can' mlynedd hyn? A pheth a wnaeth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, y rhai oeddent ill dau wedi cyfranogi yn helaeth o dân y diwygiad, yn ystod y tymhor hwn? Ai y nesaf peth i ddim? Os felly, cyfyd y gofyniad yn naturiol, Gan bwy y newidiwyd moesau y trigolion? Pwy gondemniodd y cyfarfodydd llygredig, yr halogi Sabbathau, y difrawder gyda golwg ar wrando yr efengyl, a'r holl ddrygfoes, gyda'r fath nerth ac angerddoldeb, nes eu gwneyd yn anghymeradwy yn ngolwg y werin? Canmolir Howell Harris a Daniel Rowland fel dynion anghyffredin; cyfeirir atynt fel dynion o ysprydolrwydd a brwdfrydedd eithriadol; cydunir fod pellder mawr rhyngddynt fel Diwygwyr â bron bawb o'u cydoeswyr yn Nghymru, a'u bod wedi eu tanio yn llwyrach; ac eto, dywedir y buasai y desgrifiad a roddwyd am ddrygfoes y werin Gymreig cyn i'r dynion anghyffredin hyn ddechreu llafurio yn wir agos oll wedi iddynt fol ar y maes am haner can' mlynedd! Os felly, cyfododd dynion cryfach na hwy ar eu hol, ac anrhaethol mwy llwyddianus. Y mae genym hawl i ofyn pwy oedd yr enwogion hyn? Beth oedd eu henwau? Ac yn mha le yr oeddynt yn preswylio? Nid ydym yn gwybod ddarfod i neb yn Nghymru, heblaw Daniel Rowland, dynu tair mil o gymunwyr i bentref anhygyrch bob Sul pen mis, o eithaf Môn yn y Gogledd hyd eithaf Morganwg yn y De, a hyny am haner can' mlynedd! Ac eto dywedir iddo adael wlad agos mor annuwiol ag y cafodd hi. Rhaid i ni addef nad ydym yn credu yr honiad hwn. Y mae yn rhedeg yn ngwddf pob tystiolaeth sydd genym, ac yn groes i farn gyffredinol y Bedyddwyr, yr Eglwyswyr, a'r Annibynwyr eu hunain, heblaw y Methodistiaid. Ni wnawn ei dderbyn ond ar sail y profion cadarnaf, ac nid oes rhith o brawf wedi cael ei roddi eto.
Y gwir yw, i gyfodiad Methodistiaeth ddwyn oddiamgylch chwyldroad yn Nghymru. Yr oedd y cyffro ddarfu iddynt gynyrchu yn aruthrol. Pa le bynag yr aent, gosodent y wlad yn fflam. Addefa Dr. Rees ei hun hyn; meddai (tudal. 354): Before the close of the year 1742, the population of almost every district of South Wales, and of many parts of the North, had been aroused to be either earnestly religious, or enraged persecutors." A chan i'r erledigaeth yn y Dê beidio yn fuan, ac i'r elfen grefyddol orchfygu, rhaid fod y cyfnewidiad a gymerodd le yn sefyllfa crefydd yn y wlad yn un sydyn a chyflym iawn. Dwg Williams, Pantycelyn, dystiolaeth i ddysgleirder y goleuni yn ogystal a dwysder y tywyllwch blaenorol. Meddai yn Marwnad Daniel Rowland:
"Mae'r torfeydd yn dychwel adref
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi taflu 'lawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd;
Y ffyrdd mawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes yw'r creigydd oer a'r cymydd
Yn adseinio'r hyfryd dôn."
Pan y dechreuodd Rowland ar ei waith adseiniai y creigiau gan grechwen ffyliaid, a chan swn rhegfeydd yr oferddyn; pan y bu farw, adseinient gan "swn caniadau'r nefol Oen."
II. Yn nesaf, dadleuir ddarfod i'r Tadau Ymneillduol wneyd gwaith mawr yn Nghymru cyn cyfodiad Methodistiaeth. Nid oes i ni unrhyw ddadleuaeth â Dr. Rees, nac a neb o'i amddiffynwyr, ar y pen hwn. Y mae awdwr parchus Methodistiaeth Cymru wedi talu parch dirfawr i W. Wroth, Walter Cradoc, John Williams, Llanddwrog, a Hugh Owen, o Fronyclydwr, ac eraill.
Yr ydym ninau, yn ein Llyfr, wedi dihysbyddu ein geiriadaeth wrth edmygu eu coffadwriaeth, a dangos pa mor dra rhagorol oedd eu hymdrechion, ac mor fawr oedd eu dyoddefiadau a'u hamynedd. Ffurfia eu gwaith benod ardderchog yn hanes eglwys Crist. Ac y mae yn sicr, a chymeryd eu hanfanteision i ystyriaeth, y cyflwr paganaidd yn mha un y cawsant y wlad, y deddfau seneddol erlidgar â pha rai y rhwystrid eu gweithrediadau, a'r gorthrwm a arferid atynt gan y pendefigion, i'w llwyddiant fod yn fawr. Ar yr un pryd, rhaid cofio mai yn mysg y dosparth canol y buont fwyaf llwyddianus; dynion cefnog ac yn dda arnynt yn y byd oedd eu gwrandawyr a'u haelodau gan mwyaf; i raddau bychan y buont yn alluog i ddylanwadu ar y bobl gyffredin. Diau fod rhai tlodion yn perthyn i'w cynulleidfaoedd; ceir nifer yn cael eu dynodi fel labrwyr yn nhaflen Dr. John Evans, a dywedir am rai lleoedd fod y gwrandawyr gan mwyaf yn dlodion; ond wedi y cyfan, perthyn i'r dosparth canol yr oedd eu haelodau gan mwyaf; ychydig a deimlodd y werin bobl oddiwrth eu pregethau. Cyfaddefa y Parch. John Thomas, D.D., Liverpool, hyn yn rhydd ac yn agored, ac, yn sicr, nid oes neb a amheua ei fod ef yn Annibynwr zelog, yn gystal ag yn hanesydd gwych. Fel hyn y dywed efe: "Yr oeddynt gan mwyaf" (yr Ymneillduwyr a flaenorent y Methodistiaid) "mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac uwchlaw lliaws y bobl o'u cylch mewn gwybodaeth. Nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond âg ymylon cymdeithas. Yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac annuwioldeb. Nid oedd y Sabbath ond dydd i chwareu ac ymddifyru, i ddilyn ofergoeledd ac anghymedroldeb. Cynelid ffeiriau gwagedd a gwylmabsantau, a'r Sabbath oedd dydd mawr yr wyl." Dyna yn hollol fel y darlunia haneswyr y Methodistiaid agwedd pethau yn flaenorol i'r diwygiad. Yr oedd y Tadau Ymneillduol cyntaf yn ddynion tra rhagorol; buont yn hynod lwyddianus, a chymeryd i ystyriaeth eu hanfanteision a'r rhwystrau oedd ar eu ffordd. Ond nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond âg ymylon cymdeithas; yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac annuwioldeb." Ni ddarfu i'r un Methodist ddefnyddio ymadroddion cryfach wrth ddesgrifio sefyllfa druenus Cymru cyn i Rowland a Harris ddechreu cynhyrfu.
III. Y mae Dr. Rees a'i amddiffynwyr yn gwadu fod Ymneillduaeth wedi dirywio i'r fath raddau fel ag i fod mewn perygl o farw pan gyfododd Methodistiaeth. Dywed awdwr fel Mr. Johnes ei bod. "Till the breaking out of Methodism their cause continued to decline," meddai efe. Ofer ceisio gosod Mr. Johnes allan fel dyn anwybodus yn hanesiaeth ei wlad; nid yw camsynied parthed enw, neu gamgyfleu dyddiad, yn profi nad oes ganddo syniad cywir ar y cyfan am gwrs amgylchiadau. Cadarnheir yr hyn a ddywed hefyd yn llyfr Syr Thomas Phillips. Y gwir yw, fod rhai o'r eglwysi Ymneillduol wedi dirywio i'r fath raddau, fel y methodd y diwygiad a rhoddi bywyd newydd ynddynt. Fel esiampl o'r cyfryw, gallwn gyfeirio at yr eglwys ar yr hon y gweinidogaethai Hugh Owen, o Fronyclydwr. Yr oedd wedi llwyr ddarfod pan y dechreuodd y Methodistiaid lafurio yn y lle. Yn hytrach nag ymroddi i ddadleu, caiff y Parch. John Thomas, D.D., Liverpool, ddarlunio cyflwr yr Ymneillduwyr yn Nghymru pan yr ymddangosodd y Methodistiaid. Meddai, yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (cyf. v., tudal. 462): "Ond wedi y cwbl, nid oedd eu nerth ysprydol (sef yr Ymneillduwyr), i gario dylanwad ar y genedl, yr hyn a allesid ei ddysgwyl, yn ol eu nifer, eu gwybodaeth, eu cymeriad, a'u safle gymdeithasol. Yr oedd oerni a ffurfioldeb yn eu holl wasanaeth, at yr hyn yr ychwanegid yn fawr gan ei hirfeithder. Ymdrinient â phob gwirionedd, yn bynciol ac yn ddadleugar, heb ei ddwyn adref gyda difrifwch at eu gwrandawyr. Cadwent ddrysau eu capeli yn agored bob Sabbath, fel bugail yn cadw drws y gorlan yn agored, modd y gallai y ddafad golledig ddychwelyd, ond nid anfonid y bugail allan i'r anialwch i chwilio am dani. Nid elent allan i'r prif ffyrdd a'r caeau i gymhell yr esgeuluswyr i mewn fel y llenwid y tŷ. . . Erbyn yr ychwanegir at hyn yr ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd oedd mewn nifer o eglwysi, nid yw yn rhyfedd o gwbl fod nerth yr eglwysi wedi gwanychu, ac nad oedd ynddynt y gallu hwnw y mae yn rhaid ei gael i ddarostwng gwlad i'r efengyl. Nid oeddynt eto ond wedi cyffwrdd ag ymylon cymdeithas." Felly yr ysgrifena Dr. John Thomas, ac y mae y darlun a dynir ganddo o gyflwr yr hen Ymneillduwyr yn dra gresynus. Gwelwn hwynt wedi llwyr golli yr yspryd ymosodol y rhaid ei gael i efengyleiddio gwlad; nid ydynt yn myned ar ol y colledig; caiff y werin bobl redeg tua'r trueni heb unrhyw ymdrech i'w hachub o'u tu hwy, rhagor na chadw drysau eu capelau yn agored. Eu haddoliad sydd yn ffurfiol ac yn oer; y pregethau ydynt yn bynciol ac yn ddadleugar, ac yn hollol amddifad o ymdrech i wasgu y gwirionedd adref at y gydwybod. Yn ychwanegol, y mae ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd mewn amryw leoedd, a nerth yr eglwysi wedi gwanychu yn ddirfawr o'rPEDWAR O DDARLUNIAU YN DAL PERTHYNAS A CHOFFADWRIAETH WILLIAM LLWYD, O GAYO.
1. AMAETHDY BLAENCLAWDD Lle y ganwyd ef.
2. AMAETHDY HENLLAN. Lle y preswyliai.
3. CAPEL CAYO. Lle yr ymaelodai.
4. EGLWYS A MYNWENT CAYO Lle y claddwyd ef.
DAU O GAPELAU MWYAF HYNAFOL SIR GAERFYRDDIN.
5. CEFNBYRACH, 1747.
6. LLANLLUAN, 1745.
herwydd. Nid yw y Parch. John Hughes, yn Methodistiaeth Cymru, ac nid ydym ninau yn ein Llyfr wedi ysgrifenu gair am gyflwr Ymneillduwyr Cymru yn flaenorol i'r diwygiad, nad yw yn cael ei gydnabod yn llawn yn y difyniad uchod. Y mae darlun Dr. Thomas o'u cyflwr mor ddu a'r un a dynwyd. Os nad yw egwyddorion marwolaeth i'w gweled yn amlwg yn y pethau a noda efe, rhaid i ni gyfaddef nad ydym yn adnabod arwyddion angau. Y peth cyntaf sydd gan amddiffynwyr Dr. Rees i'w wneyd, os ydynt am lynu wrth eu dadl, yw cywiro Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, a rhoddi Dr. John Thomas, Liverpool, ar yr iawn.
Yn awr, deuwn at daflen Dr. John Evans, ac yn y fan hon y gorwedd cnewullyn y ddadl. Rhoddasom ein rhesymau dros dybio nad yw y daflen yn un y gellir rhoddi ymddiried llwyr ynddi; ac os yw yn cyfeiliorni, ei bod yn gwneyd hyny yn ffafr Ymneillduaeth. Nid oes neb wedi cyffwrdd a'r un o'r rhesymau hyny; felly, rhaid i ni eu hail-adrodd.
(1) Caria yr ystadegau ar eu gwyneb amddifadrwydd o fanylwch; crynhoir amryw eglwysi yn nghyd; wedi enwi dwy neu dair, cawn yn fynych "&c." yn dynodi fod cyfrif eglwysi eraill, na roddir eu henwau, yn cael ei osod i fewn. Ceir un eglwys a chynulleidfa yn cael eu harddangos fel yn wasgaredig dros wlad ddeugain milldir o hyd wrth ugain o led. Efallai y gofynir pa wahaniaeth a wna hyn? Y mae yn gwneyd yr holl wahaniaeth; dengys yr amddifadrwydd manylwch mai cyfrifon ar antur ydynt; a thuedd pob cyfrif felly yw chwyddo y rhif yn ormodol. Er prawf o hyn, difynwn gyfran o erthygl olygyddol y Tyst am Medi 29ain, 1882, ac yn sicr fe gymer yr Annibynwr mwyaf zêlog yr hyn a ddywed y Tyst ar bwnc o'r fath fel gwirionedd. Y mae cyfeiriad cyntaf y sylwadau at y cyfrifon a gasglai Dr. Rees ar y pryd; ond y maent lawn mor gymhwysiadol at gyfrifon Dr. John Evans. Drwg genym weled Dr. Rees yn dywedyd," medd y Tyst, "na fwriada gyhoeddi cyfrifon pob eglwys ar wahan, ond cyfanswm pob sir. Nis gwyddom a ydyw yn tybied y bydd yn debycach o gael cyfrifon pob lle wrth ddweyd na fwriedir cyhoeddi cyfrifon pob eglwys ar wahan. Buasem ni yn tybied yn amgen, ac ychydig o bwys a roddem ar gyfrifon na ellir eu cyhoeddi yn y manylion. Ychydig iawn o werth a osodwn ar ystadegaeth yn y cyfanswm, oblegyd heb y manylion nis gellir profi eu cywirdeb; ac nid yn meddiant un dyn y dylai y manylion hyny fod, ond dylent fod yn gyfryw ag y gallo y rhai a'u hamheuo eu profi. . . . Y mae pob ystadegaeth a gymerir ar antur yn agored i fyned yn mhell iawn oddiwrth nod, ac, fel y dywedasom eisioes, nid oes dim y mae dynion yn camgymeryd yn fwy ynddynt na rhif eu cynulleidfaoedd. Byddwn yn tynu 25 y cant oddiwrth gyfrifon a gymerir felly, a gellir yn aml gymeryd 50 y cant, a bod ar yr ochr ddyogelaf." Drachefn cawn: " Nid oes dim mor gamarweiniol a'r cyfrif o eglwysi a chynulleidfaoedd a gymerir ar antur." Felly y dywed y Tyst, ac yr ydym yn cyduno yn hollol. Ychydig o werth sydd mewn ystadegaeth yn y cyfanswm; cyn y gellir ymddiried ynddi, rhaid cael y manylion. Nid yw taflen Dr. John Evans yn rhoddi manylion; ac yn ol y Tyst, dyogel, o leiaf, fyddai cymeryd 25 y cant oddiwrth y cyfrif a roddir.
(2) Amcan yr ystadegaeth a gymerodd Dr. John Evans oedd dangos pa mor gryf oedd Ymneillduaeth yn y deyrnas ar y pryd, er mwyn cynyrchu ofn yn yr erlidwyr. Ac er mwyn gwneyd hyn, yr oedd yn rhaid dangos y cynulleidfaoedd mor lliosog ac mor barchus ag oedd bosibl. Pe y rhoddid y cyfrif yn llai nag ydoedd, ni fuasai yn ateb y pwrpas; yn wir, buasai yn gwrthweithio y cyfryw bwrpas, ac yn rhoddi arf peryglus yn llaw y gwrthwynebwyr. Am y rheswm yma y dywedir fod nifer penodol o ynadon, ac o rai yn meddu pleidlais yn y sir ac yn y dref, yn perthyn i'r gwahanol gynulleidfaoedd. Oni bai fod yr amcan hwn mewn golwg, buasai y fath ddynodiad yn brawf o falchder dirmygus. Ymddengys i ni felly yn hollol sicr na chyfrifwyd y cynulleidfaoedd yn llai nag oeddynt; ac os oes rhyw gymaint o wyro yn bod, fod y gwyriad o'r tu arall.
Addefir ddarfod i Dr. Rees gyfnewid penawd prif golofn taflen Dr. John Evans, gan osod yn lle number of hearers," "average attendance." Cyfaddefwn yn rhydd," meddai un Annibynwr galluog, "fod y penawd wedi ei gyfnewid." Nis gellid gwadu hyn, oblegyd y mae y daflen ar glawr a chadw yn llyfrgell Dr. Williams, yn Llundain, ac wedi ei photographio yn Y Tadau Methodistaidd. Y mae y cyfnewidiad a wnaed yn un mor bwysig, fel y mae yn newid holl ystyr y golofn; trwy rinwedd y sleight of hand yma y mae cynulleidfa Dyffryn Honddu yn chwyddo o 150 i 300; cynulleidfa Tredwstan o 250 i 500; ac felly trwy y golofn o'r pen i'r gwaelod. I'n bryd ni y mae hyn yn drosedd llenyddol enbyd; nis gallwn ddychymygu am amryfusedd gwaeth. Dysgwyliem yn sicr y byddai ein brodyr parchus, yr Annibynwyr, er eu mwyn eu hunain, yn datgan eu gofid oblegyd i Dr. Rees ymostwng i gyflawni gweithred o'r fath. Ond cawsom ddysgwyl yn ofer. Cydnabyddant y buasai yn dda ganddynt pe buasai y Doctor wedi egluro paham y gwnaeth y cyfnewidiad; ond nid oes air na sillaf yn dynodi galar oblegyd y weithred. Yn wir, ceisir ei gyfiawnhau a'i wyngalchu; ond y mae hyny yn anmhosibl heb allu profi ar yr un pryd nad oes gwahaniaeth hanfodol rhwng gwirionedd a ffalsder.
Goddefer i ni edrych ar y rhesymau a roddir paham y darfu i Dr. Rees, yn lle rhoddi penawd Dr. John Evans, "amcanu dyfeisio penawd" o'i eiddo ei hun, a fuasai yn fynegiad tecach o gynwys y golofn. Nid ydym yn meddwl ei fod wedi llwyddo," meddai un o'i amddiffynwyr, "ond yn hytrach wedi methu." Rhaid mai ystyr hyn yw fod cyfnewidiad Dr. Rees yn gamarweiniol. Y mae yr Ysgrifenydd dywededig am gynyg cyfnewidiad arall yn y penawd, sef rhoddi known adult adherents," yn lle "number of hearers." Yn enw pob synwyr, paham y ceisir gwthio tybiaethau disail i fewn i'r daflen? Ai ni wyddai Dr. John Evans, a'r rhai a gydlafurient âg ef yn y gorchwyl o gasglu y cyfrifon, pa benawd i roddi uwchben gwahanol golofnau eu taflen, yn well na phobl sydd yn byw agos i ddau cant o flynyddoedd ar eu holau? Ond yn awr at y rhesymau dros "ddyfeisio penawd." (1) Y buasai "number of hearers" yn sicr o greu camargraff i feddyliau darllenwyr Cymreig, yn gymaint ag mai rhai heb fod yn aelodau a feddylia y Cymry fynychaf wrth wrandawyr. Nid oes rhith o brawf fod y Cymry yn edrych ar y term "gwrandawyr" mewn goleu gwahanol i'r Saeson. A phe mai hyna oedd amcan Dr. Rees, ni fuasai raid llurgunio y daflen er mwyn ei gyrhaedd; gallesid rhoddi nodiad ar y terfyn fod "hearers Dr. John Evans yn cynwys y gwrandawyr oeddynt yn aelodau, a'r rhai nad oeddynt yn aelodau. Buasai hyn yn syml ac yn onest. (2) Nad yw colofn Dr. John Evans yn rhoddi holl nerth Ymneillduaeth yn Nghymru ar y pryd. Dychymygol hollol yw y rheswm hwn eto; ymddengys i ni, fel yr ydym wedi dangos yn barod, ei bod yn debycach o fod yn gorgyfrif nag yn rhoddi cyfrif rhy fychan. Honir i Dr. John Evans adael allan lu o weision a morwynion a phlant. Yr unig sail o blaid y dybiaeth yw, fod dyblu y rhai a ddesgrifir fel boneddwyr, rhydd-ddeiliaid, crefftwyr, a llafurwyr, yn rhoddi mwy na'r cyfanswm mewn dwy o'r eglwysi, ac mewn pedair o rai eraill fod eu dyblu yn dyfod yn agos iawn at y cyfanswm. Ond yr eglurhad ar hyn yw, nid fod y gweision a'r morwynion wedi cael eu gadael allan, ond nad oeddynt, fel rheol, yn cydymdeimlo âg Ymneillduaeth; yr oeddynt fel dosparth heb eu crefyddoli. Fel y dywed Dr. Thomas, Liverpool, rhai "mewn amgylchiadau bydol cysurus," oedd yr Ymneillduwyr; "yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd." Buasai Dr. John Evans yn cyfrif y gwas a'r forwyn yn o gystal a'r boneddwr a'i foneddiges, pe buasai y cyfryw yn arfer gwrandaw gyda'r Ymneillduwyr, ond nid oeddynt. Gwraidd camgymeriad amddiffynwyr Dr. Rees yn y fan yma yw cymeryd yn ganiataol fod Ymneillduwyr yr adeg hono yn gyffelyb o ran sefyllfa fydol i Ymneillduwyr ein dyddiau ni. Y mae mor amlwg a'r haul i ni y cyfrifid y plant. Dyna y rheswm dros ddyblu, ac weithiau treblu, y rhai y rhoddir desgrifiad o'u sefyllfa yn y cyfanswm. Ie, hyd yn nod pe y gellid dangos nad yw taflen Dr. John Evans yn rhoddi holl nerth yr Ymneillduwyr ar y pryd, ni fuasai gan Dr. Rees yr hawl leiaf i ddyblu y rhif. Addefir fod ei average attendance yn gamarweiniol, yn gystal ag yn anghywir. Y mae ei sail yn bwdr. Os eir i gyfnewid, gellir treblu lawn cystal a dyblu. Yr un sail fyddai i'r naill a'r llall. Yn wir, y mae Dr. John Thomas, Liverpool, yn taflu dyfaliaeth Dr. Rees dros y bwrdd yn ddiseremoni. Y mae Dr. Recs," meddai, 'yn dyblu y nifer, ac yn gosod rhifedi Ymneillduwyr Cymru yn 50,000; ond yn absenoldeb unrhyw reol ddyogel i gyfrif, gwell genym beidio dyfalu" (Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf v., tudal. 456). Hollol wir; unwaith yr ymwrthodir a'r daflen, gan ychwanegu ati, neu dynu oddiwrthi, yr ydym yn yr anialwch, yn nghanol y niwl. Gallem feddwl mai tua 30,000 y cyfrifai Dr. Thomas Ymneillduwyr y dyddiau hyny. Y mae yn sicr pe y gwybuasai mai nid average attendance sydd yn y golofn, ond number of hearers, y buasai yn gosod y rhif gryn lawer yn is. Eithr, a chaniatau y tybiai Dr. Rees fod taflen Dr. John Evans yn cyfrif Ymneillduwyr y Dywysogaeth yn is nag oeddynt, nid oedd ganddo hawl i wau ei dybiaethau a'i ddychymygion i mewn iddi, gan gyflwyno falsified copy o honi i'r byd yn lle copi gwirioneddol. Ei ddyledswydd ddiamheuol fuasai gosod y document i mewn yn ei lyfr fel yr ydoedd, air am air, a ffugr am ffugr, heb ychwanegu at, na thynu oddiwrth; ac os meddyliai ei bod yn ddiffygiol mewn unrhyw gyfeiriad, ei chyflenwi ar y diwedd, gan ddangos yn glir i'r darllenydd mai cyflenwad ydoedd, a nodi ei resymau dros geisio ei diwygio. I hanesydd cywir nid oedd unrhyw gwrs arall yn agored. Yr oedd llurgunio document o'r fath bwysigrwydd, a'i chyhoeddi felly i'r byd, heb gymaint ag awgrymu ei fod wedi ei chyfnewid, yn drosedd nas gellir ei ddarlunio mewn lliwiau rhy ddu. Trwy drugaredd, Dr. Rees yw yr unig hanesydd y gwyddom am dano a fu yn euog o'r fath beth. Gellir maddeu i hanesydd am dynu casgliadau unochrog; gellir maddeu iddo am edrych ar ffeithiau mewn goleu anghywir; ac, yn wir, am adael yn ddisylw ffeithiau anghydnaws a'i syniadau; y mae yr holl ffaeleddau hyn yn faddeuadwy, er nad ydynt mewn un modd i'w canmol, a'u bod yn tynu yn fawr oddiwrth werth safonol llyfr; ond am lurgunio tafleni pwysig mewn gwaed oer, a'u hanfon allan felly i'r byd yn eu holl anghywirder, y mae yn drosedd llenyddol nas gellir, ac na ddylid ei faddeu. Addefir hyn gan ysgrifenydd perthynol i'r Annibynwyr, yr hwn sydd wedi gwneyd hanesiaeth yn faes arbenig ei efrydiaeth; a dywed mai anfedrusrwydd Dr. Rees a'i harweiniodd i'r pwll. Fel hyn y dywed efe am Dr. Rees mewn newyddiadur dyddiol sydd yn cael cylchrediad mawr yn y Deheudir: "Unfortunately for his reputation, and for the success of his object, he, it seems clear, tampered with a return which Dr. J. Evans, of London, made in 1715, of the number of Nonconformists. His motives were pure, and his deductions were undoubtedly right. But no historian should take upon himself to alter in any degree an original document, from which he is quoting, without apprising the reader of the fact, and, unfortunately, Dr. Rees must be held guilty of doing this. In quoting Dr. J. Evans' return he changed the heading number of hearers' into 'average attendance.' We believe he was perfectly justified in concluding that Dr. Evans' hearers would in our days be reckoned as the average attendance; but it was an unwarranted liberty, excusable only in a man who had received no special training for the work of a historian, to embody his own convictions in Dr. Evans' returns without a word of warning or explanation." Yn mhob cymal o'r difyniad uchod, teimlir awyddfryd i geisio taflu clogyn dros ymddygiad Dr. Rees; priodolir purdeb amcan iddo, a chredir fod ei dyb yn gywir, ond y mae greddf hanesyddol yr Ysgrifenydd yn ei orfodi i gyfaddef fod ymddygiad y Doctor yn hyn o fater yn unwarranted liberty. Dyna yn ddiau ydoedd, ac y mae yn syn genym na chyfaddefid hyny yn ddigel.
Rhydd i ni yw cyfaddef ddarfod i ni gamgymeryd wrth dybio fod ail-argraffiad llyfr y Parch. W. Williams, Abertawe, allan o flaen ail-argraffiad History of Protestant Nonconformity in Wales, gan Dr. Rees, ac yr ydym yn ofidus am y camsynied. Ond nid yw yn gwneyd y gwahaniaeth lleiaf i'r pwnc mewn dadl. Yr hyn sydd yn bwysig i'w gadw mewn cof ydyw, ddarfod i Dr. Rees gael ei gyhuddo yn ystod ei fywyd o ymyraeth yn anghyfreithlon â thaflen Dr. John Evans; i'r cyhuddiad hwn gael ei ddwyn yn ei erbyn, nid mewn llythyr dan ffugenw mewn newyddiadur, ond mewn llyfr safonol gan weinidog Ymneillduol a breswyliai yn yr un dref ag ef, ac o safle barchus fel yntau; ond na ysgrifenodd y Doctor gymaint a llinell i'r wasg i amddiffyn ei hun, nac i egluro ei resymau dros yr hyn a gyflawnodd. Y mae genym awdurdod dros ddweyd ddarfod i Mr. Williams a'r Doctor gael aml i awr o ymgom ar ol hyn, ond na wnaeth Dr. Rees y cyfeiriad leiaf at y cyhuddiad pwysig a ddygasai Mr. Williams yn ei erbyn. Pe buasai ganddo amddiffyniad digonol, amddiffyniad a fuasai yn cymeradwyo ei hun i gydwybod y cyhoedd, tybed na fuasai yn dal ar y cyfle cyntaf i'w gyflwyno i'r wlad? Ni fuasai raid iddo fod yn amddifad o gyfryngau, oblegyd yr oedd gwasg Cymru yn agored iddo.
Y mae llawer o ymdrech wedi cael ei wneyd i ddangos fod Ymneillduaeth wedi cynyddu yn Nghymru, rhwng y blynyddoedd 1715 a 1735, sef rhwng cyfrif Dr. John Evans a chyfodiad Methodistiaeth. Gwelsom daflen wedi cael ei thynu allan, yn desgrifio sefyllfa y gwahanol eglwysi yn ystod y cyfnod hwn; ond y mae y daflen mor awyrol, ac mor anmhenodol, fel nas gellir gwneyd dim o honi i bwrpas ymresymiad. Dywedir am ambell eglwys ei bod yn cynyddu." Byddai hyn yn wir pe bai eglwys o ddau yn enill aelod ychwanegol, fel ag i fyned yn dri; nid yw yn profi dim gyda golwg ar ei rhif mewn cyfartaledd i faint poblogaeth y wlad. Tuag at gael rhyw wybodaeth am rifedi yr Ymneillduwyr yn 1735, rhaid cael rhywbeth llawer mwy pendant na geiriau yn llwyddianus," "ar gynydd," &c. Byddai yn dda genym hefyd wybod ar ba seiliau y dywedir fod rhai o'r eglwysi sydd ar y rhestr yn llwyddo o gwbl. Cymerer y gyntaf ar y llechres, sef Penmaen. Ar ba sail y dywedir ei bod yn llwyddianus? Addefa y Parch. Edmund Jones iddi syrthio i gyflwr isel tua dechreuad y ddeunawfed ganrif; elai rhif yr aelodau i lawr yn gyson, gan fod y gweinidog yn anmhoblogaidd. Ond dywed iddi gynyddu yn fawr rhwng 1720 a 1739, ac i o gwmpas cant i ymuno â'r gynulleidfa. Ai nid trwy ymweliadau Howell Harris yn y flwyddyn 1738 y cafwyd y cynydd hwn gan mwyaf? Cyrhaeddai eglwys Penmaen dros y wlad, o Goedduon hyd Gwm Tileri, gan gymeryd i fewn Gwm Ebwy Fawr. Cynyrchodd ymweliad Howell Harris â'r rhan hono o'r wlad, Pasg, 1738, gyffro mawr; ysgydwyd yr holl gymydogaethau, gan eu dwyn dan ddylanwad yr efengyl; ymunodd degau â'r eglwys, ac ychydig o deuluoedd oeddynt trwy yr holl fro na ddeuent i wrando. Cymera y cynydd y cyfeiria Edmund Jones ato i mewn y dychweledigion hyn. Ond yn y flwyddyn 1739, bu terfysg ac ymraniad yn Penmaen; ymadawodd un blaid o'r eglwys dan arweiniad Edmund Jones, gan ymsefydlu yn Mhontypwl, tra y glynai eraill wrth yr hen achos. A bu Ymneillduwyr Cwm Ebwy a Chwm Tileri am flynyddoedd lawer yn rhanedig, ac yn chwerw eu teimladau at eu gilydd. Ceir barn Edmund Jones am eglwys Penmaen yn y flwyddyn 1741, wedi ei chofnodi mewn llythyr at Howell Harris. Meddai: "I wish some of the sound Dissenting ministers separated from the loose and erroneous Dissenters; but perhaps it will come to that. Both the ministers at Penmaen deny that there is any need of discipline among them, and call my attempts of discipline by the approbious names of rigid, punctilious, and novel customs. Thus these men refuse to be reformed, the more is the pity." Dyna ddesgrifiad y Parch. Edmund Jones, yr hwn oedd yn Annibynwr o'r Annibynwyr, o gyflwr yr eglwys y dywedir ei bod yn llwyddo. Ystyriai efe hi yn eglwys ddiddysgyblaeth a chyfeiliornus, a'i gweinidogion ill dau yn gwrthod diwygiad, fel ag i wneyd ymwahanu oddiwrthynt yn beth i'w ddymuno.
Dyna eglwys Maesyronen eto, dywedir ei bod yn cynyddu dan ofal David Price. A ellir profi hyn Yn fuan wedi cyfodiad Methodistiaeth, darfyddodd yr achos yn llwyr yma. Ai nid oedd elfenau marwolaeth yn gweithio yn ei chyfansoddiad er's blynyddoedd? Nid mewn amser byr y mae eglwys lwyddianus yn suddo i ddifodiant.
Cymerer eto eglwys Pwllheli, am yr hon y dywed yr Ysgrifenydd ei bod yn dechreu adfywio trwy ymweliadau Lewis Rees." Faint oedd yr adfywiad? Pa brawf sydd o adfywiad o gwbl? Yn ol Drych yr Amseroedd (tudal. 55), pan aeth Lewis Rees yno, cwynai y cyfeillion fod yr achos yn isel, ac yn ddigalon, neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Anogai yntau hwynt i beidio ymollwng. Y mae y wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir," meddai. "Y mae acw ryw ddyn rhyfedd iawn wedi codi yn ddiweddar, a elwir Mr. Howell Harris; y mae yn myned oddiamgylch i'r trefydd a'r pentrefydd, y prif-ffyrdd a'r caeau; ac fel og fawr, y mae yn rhwygo y ffordd y cerdda." "O!" meddent, "na chaem ni ef yma." Atebodd Mr. Rees, ei fod yn bosibl y deuai. Soniodd wrthynt hefyd am Jenkin Morgan, a gadwai ysgol dan Griffith Jones. Felly, os bu adfywiad yn eglwys Ymneillduol Pwllheli, son am waith Duw trwy Howell Harris a'i hachosodd.
Drachefn, dywedir am Bentretygwyn a Chefnarthen: " Er ychydig o annealltwriaeth, yn llwyddo a chynyddu." Ychydig annealltwriaeth, yn wir! Am saith mlynedd o amser buasai tri o weinidogion ar eglwys Cefnarthen yr un pryd, dau yn Arminiaid ac un yn Galfiniad, a phregethent yn erbyn eu gilydd o'r un pwlpud. Wedi dadleuaeth chwerw, a rhyfeloedd poethion, ymranodd yr eglwys, ac aeth y Calfiniaid allan, yn cael eu harwain gan dad Williams, Pantycelyn, a sefydlasant achos mewn amaethdy o'r enw Clinypentan. Dygwyddodd hyn tua'r amser yr oedd Howell Harris yn dechreu cyffroi. Y rhwyg yma a elwir yn "ychydig annealltwriaeth!" Beth ŵys a fyddai annealltwriaeth mawr? Os yw terfysg, ymddadleu, ac yn y diwedd ymranu, yn brawf o lwyddiant, cyfaddefwn fod eglwys Cefnarthen, adeg cyfodiad Methodistiaeth, mewn sefyllfa nodedig o lwyddianus. Trachefn, cymerer Wrexham. Dywedir ei bod yn cryfhau, yn iachau o'i chlwyfau ar ol ymraniadau, a darfod i J. Kenrick lafurio yma gyda pharch mawr am agos i ddeugain mlynedd. Ond, fel amryw o'r hen weinidogion Presbyteraidd, tueddai J. Kenrick at Ariaeth; aeth ei ddisgynyddion yn Sociniaid rhonc; Ariad hefyd oedd ei olynydd, Mr. Boult; derbyniai ei olynydd yntau, y Parch. William Brown, Undodiaid i gymundeb eglwysig yr un fath a Thrindodiaid. Yr oedd yr eglwys Bresbyteraidd yn Wrexham yn gymysgedd o Undodiaeth, Ariaeth, a Chynulleidfaolwyr efengylaidd hyd nes yr oedd chwarter cyntaf y ganrif bresenol wedi myned heibio. Y pryd hwnw gorchfygodd y blaid efengylaidd, a llwyddasant i gael y Parch. John Pearce yn weinidog. (Gweler A History of the Older Nonconformity of Wrexham and its Neighbourhood, by Alfred Neobard Palmer, F.C.S.). Rhy brin y gellir dynodi cyflwr eglwys a wnelid i fynu o'r fath gymysgedd fel un llwyddianus.
Nid oes genym hamdden i fyned trwy y gweddill o'r daflen. Y mae i raddau mawr yn ddychymygol ac yn ddisail, ac yn wir yn gamarweiniol. Nis gellir rhoddi dim pwys o gwbl arni fel sail ymresymiad. Ac eto, dywedir y rhaid i bob dyn têg gydnabod fod y rhestr hon yn wadiad effeithiol ar y dybiaeth fod crefydd efengylaidd yn marw allan yn Nghymru yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Tueddwn i feddwl mai yr hyn a wnai y "dyn têg," cyn rhoddi barn o gwbl ar y mater, fyddai gofyn am brofion dros y nodiadau a roddir mewn cysylltiad a'r gwahanol eglwysi; byddai yn debyg o ofyn paham y gelwid terfysg hyd at ymraniad mewn eglwys yn "ychydig annealltwriaeth?" A phaham y dynodid eglwys arall, oedd yn amddifad o ddysgyblaeth, ac a feddai weinidogion na chymerent eu diwygio, fel mewn cyflwr llwyddianus? Teimlwn yn sicr y gofynai y "dyn tèg "liaws o gwestiynau mewn perthynas i wahanol items y rhestr hon, y byddai yn anhawdd iawn cael atebiad iddynt.
Nonconformity of WrcxJiam and its NeigJiboiirJiood, by Alfred Neobard Palmer, F.C.S.). Rhy brin y gellir dynodi cyflwr eglwys a wneHd i fynu o'r fath gymysgedd fel un llwyddianus.
Nid oes genym liamdden i fyned trwy y gweddiU o'r daflen. Y mae i raddau mawr yn ddychymygol ac yn ddisail, ac yn wir yn gamarwciniol. Nis geliir rlioddi dim pwys o gwbl arni fel sail ymresymiad. Ac eto, dywedir y rbaid i bob dyn têg gydnabod fod y rhestr bon yn wadiad effcitliiol ar y dybiaeth fod crefydd efengylaidd yn marw allan yn Ngbymru yn nechreu y ganrif ddiweddaf . Tucddwn i feddwl mai yr liyn a wnai y " dyn têg," cyn rhoddi barn o gwbl ar y mater, fyddai gofyn am brofion dros y nodiadau a roddir mewn cysylltiad a'r gwabanol eglwysi ; byddai yn debj-g o ofyn pabam y gelwid terfysg byd at ymraniad mewn cglwys yn " ych- ydig anncalltwriacth ? " A pbaliam y dynodid eglwys arall, oedd yn amddifad o ddysgyblaeth, ac a feddai weinidogion na cbymerent eu diwygio, fel mewn cyflwr llwyddianus ? Teimlwn yn sicr y gofynai y " dyn tèg " liaws o gwestiynau mewn perthynas i wahanol items y rhestr hon, y byddai yn anhawdd iawn cael atebiad iddynt. Ceisir amheu ein gosodiad fod y gogwydd mor gryf at Ariaeth, yn y ganrif ddiweddaf, fel y mae lle i ofni y buasai Cymru oll yn Undodaidd heddyw oni buasai i'r diwygiad Methodistaidd dori allan. Mater o opiniwn ydyw hyn; ond dyna ein barn ni, wedi edrych mor ddiragfarn ag y medrwn ar ffeithiau. Yr oedd Ariaeth yn yr awyr yn y ganrif ddiweddaf; ymledai syniadau anffyddol neu Ariaidd gyda chyflymdra dirfawr, a deuent i mewn i eglwysi Ymneillduol Cymru gyda rhuthr, fel llanw y môr. Nid oedd dim gyda golwg ar athrawiaeth yn trust deeds y capelau. Yr oedd Athrofa Caerfyrddin, lle yr addysgid ymgeiswyr am y weinidogaeth, wedi cael ei tharo yn drwm gan yr haint; anfonai allan flwyddyn ar ol blwyddyn weinidogion i gymeryd gofal eglwysi a goleddent syniadau anefengylaidd, ac yn raddol aeth yr athrofa i raddau mawr yn Undodol. Beth oedd y dylanwad a drodd y llanw hwn yn ol, OS nad y diwygiad gychwynodd yn gyntaf gyda'r Methodistiaid? Rhydd amddiffynwyr Dr. Rees ddau reswm dros amheu hyn; yn
(1) Fod Dr. Rees yn tystio nad oedd ond un eglwys yn proffesu Arminiaeth cyn 1735. Ра eglwys oedd hono, ni ddywedir. Ond y mae yn sicr fod cryn nifer o eglwysi wedi ymlygru yn ddirfawr. Yn eglwys Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, yr oedd yr adran Arminaidd yn ddigon cref yn y flwyddyn 1732 i fynu ordeinio Richard Rees yno yn gydweinidog a'r Parch. James Davies, a bu y ddau yno am bymtheg mlynedd yn pregethu yn erbyn eu gilydd o'r un pwlpud. O'r eglwys hon yr aeth Undodiaid Cefncoedcymmer allan, a chwedi hyny Undodiaid Aberdar. Yn 1750, cawn fab Parch. James Davies yn cael ei ordeinio yn gydweinidog a'i dad yn yr Ynysgau; yr oedd y tad yn Galfin da, ond y mab yn Armin rhonc, ac yno y bu y ddau am amser yn pregethu athrawiaethau croes. Bu eglwys Ynysgau yn llygredig gan yr haint Arminaidd oedd yn ymylu ar Ariaeth hyd yn nghof rhai sydd yn fyw. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at eglwys Cefnarthen fel lle yr oedd yr Arminiaid yn gryfach na'r Calfiniaid ynddo, ac ar adeg yr ymraniad llwyddasant i gadw y capel, a'r Calfiniaid a fu raid ymadael. Mewn llythyr at Howell Harris, dyddiedig Awst 7fed, 1741, dywed Edmund Jones: "There are more of our Dissenting ministers who are friends to the Methodists than you mention. And I cannot but observe that they are our best men who are favourable to you: and that they are for the most part dry and inexperienced, or Arminians, that are against you-at least who are bitter." Prawf y difyniad hwn fod nifer o weinidogion Arminaidd ar eglwysi Ymneillduol yr adeg hono, a'u bod yn chwerw yn erbyn y diwygiad.
(2) Fod amddiffyniad galluog i'r ffydd Galfinaidd wedi cael ei wneyd ar wahan i'r Methodistiaid. Efallai hyny, ond ychydig o allu a fedd dadleuaeth i wrthsefyll cyfeiliornad. Rhaid cael rhywbeth cryfach na rhesymau i droi yn eu holau syniadau anefengylaidd. Er gwaethaf "yr amddiffyniad galluog," ymlygru fwyfwy a wnaeth yr eglwysi Ymneillduol na chyfranogodd o yspryd y diwygiad, ac erbyn heddyw y maent yn gyfangwbl Undodaidd. Nid â rhesymau, ac nid trwy ddadleuaeth, y trowyd yn ol y llanw Arminaidd, ond trwy fod dynion fel Howell Harris, a Daniel Rowland, wedi eu gwisgo â'r Presenoldeb Dwyfol, ac yn ymddangos mor ofnadwy a phe y baent yn genhadau yn dyfod o dragywyddoldeb, yn cyhoeddi llygredd dyn, a'r anmhosiblrwydd i ddynion achub eu hunain, nes cario argyhoeddiad i feddyliau pawb, ac nes peri i bechaduriaid yswatio a gwladeiddio yn eu presenoldeb. Fel y dywedasom, nid ydym am honi yr holl glod am hyn i'r Methodistiaid; ymaflodd y tân nefol hefyd yn yr Ymneillduwyr oedd ar y maes yn barod, ac yr oedd angerddolrwydd y gwres mor ofnadwy fel y gorfu i Arminiaeth anefengylaidd gilio.
Yr unig beth ychwanegol y galwn sylw ato yn yr ysgrif hon yw llythyr y Parch. Edmund Jones, dyddiedig Hydref 26ain, 1742, yn mha un y rhydd gipdrem ar sefyllfa crefydd yn Nghymru. Gwna efe rif eglwysi yr Ymneillduwyr yn y Dywysogaeth yr adeg hono yn gant a saith. Ond nid yw yn ymddangos i ni fod y llythyr hwn yn y gradd lleiaf yn profi honiadau Dr. Rees. Yn
(1) Yr oedd y Methodistiaid wedi bod ar y maes am dros saith mlynedd, yn cyffroi, ac yn cynhyrfu, ac yn chwyddo eglwysi yr Ymneillduwyr â dychweledigion, yn gystal ag yn eu galluogi i blanu eglwysi newyddion, pan ysgrifenwyd y llythyr hwn. Nid teg cymeryd cynyrch llafur y Methodistiaid i ddangos mor grefyddol oedd y wlad cyn i'r Methodistiaid godi. Gellir dadleu nad yw saith mlynedd ond cyfnod cymharol fyr. Ond ar adeg o gyffro fel a fodolai ar y pryd, cyffro na welwyd ei gyffelyb yn Nghymru, pan yr oedd yr holl wlad yn cael ei hysgwyd gan nerthoedd Dwyfol, gwneid gwaith mawr mewn ychydig fisoedd, chwaethach mewn saith mlynedd. Fod llafur y Methodistiaid, a'r llwyddiant a ddilynai eu pregethu, yn cael ei ddwyn i mewn i'r cyfrif sydd eglur oddiwrth y llythyr ei hun. Am Sir Faesyfed dywed: "One of our six congregations there was gathered lately, partly by the labours of the Methodists." Eto am Brycheiniog dywed: "There are eight congregations of our Dissenters, two of whom I had the favour, upon the late reformation, to gather and set up." Y diwygiad a gynyrchwyd trwy Howell Harris oedd y "late reformation," ac am ladrata ei ddychweledigion yn y lleoedd yma, a ffurfio eglwysi Annibynol o honynt y cwynai Howell Harris arno, mewn llythyr tra christionogol a anfonodd ato. Yn ystod y saith mlynedd yma manteisiodd Ymneillduwyr yn fawr ar lafur y Methodistiaid. Yr ychwanegiadau trwy weinidogaeth Howell Harris a alluogodd Edmund Jones i adeiladu capel Annibynol Pontypwl yn y flwyddyn 1739; dychweledigion yr un Diwygiwr nerthol a alluogodd David Williams i adeiladu capel Watford. Meddai David Williams mewn llythyr at Howell Harris, Mehefin 12fed, 1738: "L The two days' service with us has been attended with marvellous success. The churches and meetings are crowded, Sabbath breaking goes down." Eto, llythyr dyddiedig Tachwedd 17eg, 1738; Things have a comfortable aspect here at present. Praying societies go up everywhere. Seventeen have been admitted to communion last time; more have been proposed." Eto, llythyr dyddiedig Chwefror 7fed, 1739: "The society in Cardiff present their love and service. We have received nine to our communion since you were here, and about so many more to propose." Tebyg y cyfeiria y llythyr diweddaf at ail neu drydydd ymweliad o eiddo Howell Harris, a bod y naw a dderbyniwyd i gymundeb yn ychwanegol at y dau-ar-bymtheg y cyfeirid atynt yn y llythyr blaenorol. Yn ngwyneb ffeithiau fel hyn, nid oes rhith o reswm dros wneyd agwedd crefydd yn Nghymru, ddiwedd y flwyddyn 1742, wedi dros saith mlynedd o lafur digyffelyb o lwyddianus gan y Methodistiaid, yn brawf o sefyllfa crefydd yn y wlad cyn i'r Methodistiaid godi.
(2) Nis gall cant a saith o eglwysi roddi syniad cywir am nerth Ymneillduaeth yn Nghymru, oddigerth ein bod yn gwybod rhif yr aelodau, a'r gwrandawyr perthynol iddynt. Pe y gwnaem bob eglwys yn haner cant o aelodau, ni fyddai rhif cyfanswm yr aelodau ond ychydig dros bum mil. Eithr ofer dyfalu; gallai y rhif ar gyfartaledd fod yn fwy; ond y mae yn ymddangos yn llawn mor debyg ei fod yn llai. Dywedir yn y llythyr fod y rhan fwyaf o gynulleidfaoedd Sir Aberteifi yn rhai mawrion. Geiriau cymharol yw mawr a bach; a rhaid i ni beidio tybio fod cynulleidfa fawr Edmund Jones yn gyffelyb mewn rhif i gynulleidfa fawr yn ein dyddiau ni. Adwaenem amryw o hen gapelau yr Ymneillduwyr yn Sir Aberteifi; rhai bychain, culion, diolwg oeddynt, wedi eu gosod mewn cymydogaethau gwledig, gan mwyaf, heb bentref, chwaethach tref, yn gyfagos, a chredwn mai cryn gamp a fuasai gwthio cynulleidfa o gant a haner o ddynion i un o honynt.
Yn wir, i'r Methodistiaid y priodola Edmund Jones efengyleidd—dra y wlad yn y llythyr hwn. Meddai am Sir Aberteifi: "Here were lately two eminent clergymen—Mr. David Jenkins, a young man lately dead, and Mr. Daniel Rowland, who had at his church some time ago above two thousand communicants. Almost all the lower part of the county is become religious since Mr. Howell Harris and the Methodists laboured there." Eto: "Pembrokeshire hath been lately mightily roused up, and abundance of people convinced, reformed, and converted by means of the exhortations of Mr. Howell Harris, and other Methodist exhorters." "The upper part of Pembrokeshire hath been roused and reformed, and that almost universally, to a concern about religion. Certainly, a very great work has been done here." Pe buasai rhyw hanesydd Methodistaidd yn ysgrifenu fel uchod, gan briodoli y cyfnewidiad yn y wlad i ymdrechion y Methodistiaid, a pheidio son o gwbl am lafur yr Ymneillduwyr, buasai yn sicr o gael ei gyhuddo o bleidgarwch a rhagfarn. Ond Annibynwr oedd Edmund Jones, ac ni fu neb erioed mwy zêlog dros ei enwad.
IV. Haerir yn nesaf fod gwaith yr Ymneillduwyr wedi cael ei anwybyddu yn ormodol gan y y diwygwyr G. Jones, Harris, a Rowlands. Cyn ateb hyn, goddefer i ni ddangos fel y mae cyhuddiad Dr. Rees yn erbyn y Tadau Methodistaidd wedi ei leddfu i lawr, ac wedi newid ei ffurf, nes y mae yn anmhosibl ei adwaen. Nid anwybyddu yn ormodol lafur yr Ymneillduwyr oedd y cyhuddiad a ddygai efe i'w herbyn; ond camddarlunio yn fwriadol agwedd foesol ac ysprydol y wlad, dan ddylanwad gwanc am wag-ogoniant. Y mae lled y nefoedd o wahaniaeth rhwng y ddau beth hyn. Am anwybyddu yn ormodol lafur eraill, gallai dynion da fod yn euog o hono yn anymwybodol; gallent wrth sylwi yn ddwys ar un dosparth o ffeithiau anghofio fod ffeithiau cyferbyniol i'w cael; ac. fel y sylwa un, gallai eu hysprydolrwydd a'u brwdfrydedd eithriadol fod yn achlysur o'r cyfryw esgeulusdod. Ond am gyhuddiad Dr. Rees, sef ddarfod iddynt yn fwriadol gamddarlunio sefyllfa Cymru er mwyn hunan-ogoniant, y mae yn hollol anghydweddol â chrefydd o ddim grym; nis gallai y cyfryw deimlad fodoli ond mewn dynion cnawdol, dan lywodraeth teimladau daearol isel a gwael; ac y mae yn anmhosibl peidio dirmygu y personau yn mynwesau pa rai y caiff y cyfryw deimlad lety am foment. Ymddengys i ni fod yr Annibynwyr yn taflu cyhuddiad Dr. Rees dros y bwrdd, ac yn dwyn un arall, llawer tynerach, yn mlaen yn ei le.
Ond pa faint o sail sydd i'r cyhuddiad tynerach? Pa resymau a ddygir yn mlaen i brofi ddarfod i'r Tadau Methodistaidd anwybyddu yn ormodol lafur yr Ymneillduwyr? Un prawf yn unig sydd yn cael ei gynyg, sef prinder cyfeiriadau yn eu hysgrifeniadau at yr Ymneillduwyr. Sail gul iawn, yn sicr, i adeiladu y fath gastell golygus arni. Nid ysgrifenu hanes Cymru a wnelai Harris a Rowland; ni ddaeth i'w meddyliau i holi pa fodd y syrthiasai y wlad i'r cyflwr truenus yn mha un yr oedd yn gorwedd; ac nid eu pwnc hwy oedd ymchwilio pa ymdrechion aneffeithiol a wnelsid yn flaenorol i efengyleiddio y werin. Y cwestiwn a losgai fel tân yn eu hysprydoedd oedd, Sut i achub y rhai a lusgid i angau? Nid ysgrifenu hanesiaeth yr oeddynt hwy, ond gwneyd hanesiaeth. Gwelent gorph y werin, fel y sylwa Dr. John Thomas, Liverpool, yn gorwedd mewn anwybodaeth a thrueni dybryd; gwelent hefyd nad oedd unrhyw ymdrech effeithiol a llwyddianus yn cael ei gwneyd gan neb i geisio eu hachub; fod yr offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig yn ddifater, a'r gweinidogion Ymneillduol yn ymfoddloni i fugeilio yr ychydig ddefaid oedd ganddynt yn eu corlanau, heb fod neb yn eu mysg yn myned i'r anialwch ar ol y colledig. Yn y cyfwng hwn rhuthrodd Harris a Rowland i'r adwy; ymdaflasant gyda brwdfrydedd diderfyn i'r gorchwyl o achub gwerin Cymru, a gyru o'r wlad yr arferion annuwiol a'i gwarthruddent; ac yn hyn llwyddodd yr Arglwydd hwynt tu hwnt i fesur; ac yn raddol cawsant yr hyfrydwch mawr o weled y gweinidogion Ymneillduol yn cael eu meddianu â'r un a'r unrhyw yspryd, gan ddyfod allan yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn. Beirniadaeth fitw a distadl yr ymddengys i ni yw holi a ddarfu iddynt ranu y clod am y gwaith a gyflawnwyd yn deg. Clod yn wir! Ni ddaeth i'w meddwl i gymeryd dim o hono; nid oedd hunan a gwag-ogoniant yn cael lle yn eu mynwesau, ac ni ddarfu iddynt ddychymygu am ranu yr anrhydedd, gan gymeryd rhan eu hunain, a rhoddi rhan i eraill.
Honir fod Dr. Rees yn ei le, wrth briodoli i'r Tadau Methodistaidd gulni dirfawr at yr Ymneillduwyr a'i blaenorai. Dywedir iddynt fod yn angharedig o ddystaw am yr hyn a wnaethant, a rhoddir dau reswm am hyny, sef rhagfarn Eglwysig, ac ysprydolrwydd eithriadol. Ymddengys y ddau reswm hyn yn ddinystriol i'w gilydd. Nis geill rhagfarn ac ysprydolrwydd meddwl gyd-drigo yn yr un galon; y mae y naill yn sicr o ddisodli y Ilall. Os mai ysprydolrwydd fydd yn oruchaf, derfydd am ragfarn o angenrheidrwydd. Y mae dynion ysprydol yn byw mewn agosrwydd mawr at Dduw; o lewyrch ei wyneb Ef y sugnant eu hysprydoliaeth; nis geill ond agosrwydd at y Dwyfol roddi iddynt y cyfryw nodwedd. Ac yn y presenoldeb rhyfedd hwn nis geil rhagfarn enwadol fodoli; y mae y mân wahaniaethau a'r mân ffiniau sydd yn gwahanu y naill sect oddiwrth y llall yn myned yn ddim. Yn sicr, wrth ddarlunio y Tadau Methodistaidd fel dynion o ysprydolrwydd meddwl eithriadol, gwneir y cyhuddiad eu bod yn llawn o ragfarn Eglwysig yn anmhosibl.
Ni fu dynion mwy diragfarn yn rhodio daear na Rowland, a Harris, a'u cydweithwyr. Yr ydym yn cyfaddef eu bod yn Eglwyswyr cydwybodol; dyna y goleuni oedd ganddynt hwy ar y pryd; ond nid yw yn canlyn eu bod yn rhagfarnllyd at enwadau eraill. Nid yw ymlyniad gonest wrth blaid grefyddol yn profi dyn yn gul ac yn llawn rhagfarn at bob cyfundeb crefyddol arall. Y mae aml un, ni a gredwn, yn Annibynwr cryf, ac yn dra ymlyngar wrth ei blaid a'i bobl; ond gallwn ni edrych arno fel dyn diragfarn, eang ei gydymdeimlad, a rhyddfrydig ei olygiadau. Yn y goleu hwn yr hoffem ni ein hunain gael ein barnu. Tra yn credu yn gryf mewn Methodistiaeth, nid ydym yn ddall o gwbl i rinweddau a rhagoriaethau y cyfundebau crefyddol sydd o'n cwmpas. Paham na chaniateir yr un egwyddor gyda golwg ar y Tadau Methodistaidd? Ac nid oeddynt mor ymlyngar wrth yr Eglwys ag y tybir. Nid hoffder ati oedd yr unig, na'r prif reswm dros eu gwaith yn aros o'i mewn, ond y ffaith mai mewn undeb a hi yr oedd yr Arglwydd wedi eu llwyddo, ac yr oedd arnynt ofn symud allan, a bwrw eu coelbren gyda'r Ymneillduwyr, am nad oeddynt yn gweled fod y golofn yn myned i'r cyfeiriad hwn. Y maent drosodd a throsodd yn datgan parodrwydd i adael cymundeb yr Eglwys pe y gwelent yn glir mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd.
Y mae llawer iawn wedi cael ei wneyd o benderfyniad Cymdeithasfa Watford gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys. Fel hyn y ceir y penderfyniad yn nghofnodau Trefecca: "Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys, oblegyd annuwioldeb yr offeiriaid; a chyda'r Ymneillduwyr oblegyd eu claearineb, barhau i dderbyn yn yr Eglwys hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb." Geilw Dr. Rees hyn yn ymlyniad dall wrth yr Eglwys, a chyfeirir ato gan ei amddiffynwyr fel prawf o ragfarn Eglwysyddol. Nid yw yn ymddangos i ni fod y penderfyniad yn haeddu y condemniad diarbed a deflir arno. Gellir dwyn y rhesymau canlynol drosto: Yn (1) Anogaeth ydoedd i'r rhai oeddynt hyd hyny wedi arfer cymuno yn yr Eglwys; profir hyn gan y gair "parhau;" nid oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymnneillduwyr adael cymundeb eu henwad. (2) Yn mryd y Methodistiaid yr oedd yr oerni a feddianasai yr Ymneillduwyr yn gymaint rhwystr ar ffordd crefydd, a buchedd anfoesol yr offeiriaid. Yn eu golwg hwy, nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyddrigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo o gariad at y Gwaredwr, lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac yn aml yr oedd yr oerni yn gynyrch syniadau anefengylaidd am berson Crist, a natur yr Iawn. Yn yr eglwys, pa mor anfucheddol bynag y gallai yr offeiriad fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduwioldeb. (3) "Hyd nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored i adael cymundeb yr Eglwys" yr oedd yr anogaeth. Felly y darllena y penderfyniad. Ac ymddangosasai yr adeg i'w gadael yn ymyl iddynt. Yr oedd yr offeiriaid yn dechreu gwrthod y sacrament i'r Methodistiaid, a thrwy hyn yr oedd eu sefyllfa mewn argyfwng difrifol. Ac os dymunent i'r rhai a argyhoeddwyd ganddynt, eu plant ysprydol, barhau yn nghyd, heb fod rhai yn ymuno â phlaid arall, pwy a fedr eu beio?
Howell Harris oedd y mwyaf ymlyngar wrth yr Eglwys, ond yr oedd yn hollol ddiragfarn at yr Ymneillduwyr. Cyfeiria gyda pharch a thynerwch mawr at amryw o'u gweinidogion yn ei lythyrau, ac yn ei Ddydd-lyfr. "Yr anwyl Edmund Jones," meddai drosodd a throsodd. "Fy mrawd, Lewis Rees," meddai drachefn. Gohebai yn y modd mwyaf cyfeillgar â gweinidogion efengylaidd yr Ymneillduwyr yn Nghymru a Lloegr; gofynai gyfarwyddyd ganddynt mewn gwahanol amgylchiadau, ac adroddai ei helynt, a'i lwyddiant, a'i brofiad ysprydol iddynt yn y modd mwyaf dysyml. Byddai yn anhawdd cael syniadau mwy catholig na'r rhai a draethir ganddo. Meddai mewn llythyr at Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni: "Anhawdd i ni oll ddyfod i gydweled gyda golwg ar y rhanau hyny o'r Beibl a gyfeiriant at ffurflywodraeth eglwysig, adeg, a dull bedydd, a rhyw allanolion felly ydynt yn fuan i ddarfod. Y mae undeb yn anmhosibl hyd nes y cydunwn i beidio gwneyd dim yn amod aelodaeth ond adnabyddiaeth achubol o'r Arglwydd Iesu, a ffydd fywiol yn cynyrchu sancteiddrwydd buchedd. Pe bawn i a gofal cynulleidfa arnaf, ystyriwn ei bod yn ddyledswydd arnaf i dderbyn pawb yn aelodau y gallwn obeithio am danynt eu bod wedi eu geni o Dduw, er na fyddent yn cydweled â mi ar ychydig o bethau allanol." Y dyn hwn, sydd mor ddiragfarn a chatholig ei syniadau, a gyhuddir o gulni at yr Ymneillduwyr. Mor bell o fod yn gul, apeliai Edmund Jones a gweinidogion Ymneillduol eraill ato am iddo gasglu yn ei gynulleidfaoedd mawrion er eu cynorthwyo i adeiladu eu capelau, ac y mae yn fwy na thebyg ei fod yn cydsynio.
Meddai un Ysgrifenydd am Howell Harris: "Credai nad oedd gan neb hawl i weinyddu yr ordinhadau ond a fyddai wedi cael ei urddo gan Esgob." Nid oes rhith o sail i'r haeriad hwn. Y mae yn hollol groes i don gyffredin ei weinidogaeth a'i ddysgeidiaeth. Yr ydym wedi myned yn fanwl trwy ei lythyrau a'i Ddydd-lyfr, ac nid oes tebyg i hyn i'w gael ynddynt. Yr oedd gweinidogion yr Ymneillduwyr a gydymdeimlent a'r diwygiad yn cael croesaw i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Misol y Methodistiaid, caent gymeryd rhan yn yr ymdrafodaeth, a phleidleisio ar wahanol faterion, fel pe byddent yn Fethodistiaid. Yr oedd y Parchn. Henry Davies, Bryngwrach, a Benjamin Thomas, mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd cyntaf, a chroniclir eu henwau yn mysg y Parchedigion oeddynt wedi derbyn urdd esgobol, ac o flaen eiddo Howell Harris, a'r cynghorwyr; yr hyn a brawf yr ystyrid gweinidog Ymneillduol fel yn meddu yr un safle yn hollol ag offeiriad. Ni wnelid gwahaniaeth o gwbl rhwng y ddau. A thrachefn pan yr ymadawai un o'r cynghorwyr, gan gymeryd gofal eglwys Ymneillduol, nid oedd yn llai ei barch yn mysg y Methodistiaid o'r herwydd. Gwedi i Richard Tibbot ymadael, ac ymsefydlu yn Llanbrynmair, deuai i Gymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala yn flynyddol, ac er nad oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn ddysglaer, cai bregethu mewn lle anrhydeddus. Y mae y Parch. John Thomas, o'r Rhaiadr, wedi gadael tystiolaeth ar ei ol am garedigrwydd a thynerwch mawr Daniel Rowland ato, wedi iddo ymuno â'r Annibynwyr, pan yr oedd ar rynu oblegyd yr oerni ysprydol oedd wedi eu meddianu. Pa le y mae y culni a'r rhagfarn dychymygol? Arfer ddieithriad pobl ragfarnllyd yw erlid y rhai fyddo yn encilio oddiwrthynt. Ond ni wnelai y Methodistiaid ddim o'r fath, ond parhaent i'w hystyried fel brodyr.
Yn wir, gallwn droi y byrddau ar ein gwrthwynebwyr, a phrofi mai perthyn i Ymneillduwyr y dyddiau hyny yr oedd y culni a'r rhagfarn, a'u bod yn llawn o'r cyfryw deimlad. Dyna a allesid ddysgwyl oddiwrth ddynion ffurfiol ac oer, pan welent bobl llawn tân a zel yn ymroddi i gyflawni gwaith ag yr oeddynt hwy wedi ei esgeuluso. Dywed Howell Harris ei fod yn boblogaidd iawn yn eu mysg ar y cyntaf, pan yr oedd nerth ei bregethu yn chwyddo eu cynulleidfaoedd ac yn gorlenwi eu capelau; ond pan welsant na ymadawai a'r Eglwys, ai fod yn ffurfio ei ddychweledigion yu seiadau, aethant i deimlo yn ddiflas ato, ac i'w gashau. Fel hyn," meddai, "yr oedd y Methodistiaid yn cael eu cashau gan Eglwyswyr ac Ym- neillduwyr." Aeth cyfeillachu a'r Methodistiaid yn drosedd i'w gospi âg esgymundod yn ngolwg yr Ymneillduwyr. Mewn llythyr o eiddo William Richards, arolygydd y cymdeithasau yn rhan isaf o Sir Aberteifi, dyddiedig Medi 12fed, 1742, ceir a ganlyn: "Y mae y diafol wedi cyffroi y Dissenters yn ein herbyn fel y cyffroa y gwynt y coed. Y maent yn gwyrdroi ein geiriau a'n hymddygiadau, gan dynu y casgliadau mwyaf dychrynllyd oddiwrthynt. Y mae ein hanwyl chwaer Betti Thomas yn cael ei blino yn fawr ganddynt; bygythiant ei hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd hyny yn barod, am ei bod yn derbyn y Methodistiaid i'w thy. Y mae yn dyfod i'r seiat breifat, ac nis gwyddant beth i'w wneyd o honi (y seiat). Dywedant mai drws agored i Babyddiaeth ydyw, a llawer o bethau cableddus ereill." Os yw geiriau yr hen gynghorwyr yn wir, ac nid oes genyn un rheswm dros eu hanghredu, yr oedd yr Ymneillduwyr yn erlid y rhai a gyfeillachent a'r Methodistiaid, ac yn camddarlunio y seiat brofiad, trwy awgrymu weithiau ei bod yn dwyn cyffelybrwydd i gyffesu pechodau yn yr Eglwys Babaidd; ac weithiau, fel yr awgryma y gair "cableddus," trwy honi fod gweithredoedd pechadurus yn cael eu cyflawni ynddi, ac mai dymna y rheswm paham ei dygid yn mlaen yn breifat. Yn nghofnodau Cyfarfod Misol Glanyrafonddu, a gynaliwyd Ebrill 17eg 1744, ceir a ganlyn: "Yn gymaint a bod Thomas David wedi cael ei droi allan gan yr Ymneillduwyr am ymgyfeillachu â ni, ei fod i gael ei uno â seiat Erwd." Yr oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Benjamin Thomas, gweinidog Ymneillduol, yn bresenol pan y pasiwyd y penderfyniad hwn, a sicr yw fod ganddynt ffeithiau diymwad i syrthio yn ol arnynt. Ceir prawf o'r un ragfarn ddall yn nglyn ag ordeiniad Morgan John Lewis yn weinidog ar eglwys y New Inn. Gan na alwyd gweinidogion Ymneillduol i gyfarfod yr ordeiniad, ond i'r neillduad gael ei wneyd gan yr eglwys mewn modd difrifol wedi gweddi ddwys, sorodd yr Ymneillduwyr; ni fynent gydnabod Morgan John Lewis yn weinidog o gwbl; ac ymddygent ato, ac at yr eglwys a'i neillduasai, fel yr ymddygai yr Iuddewon gynt at y gwahanglwyfion. Mewn canlyniad i hyn, cyhoeddodd y gweinidog grynodeb o'r egwyddorion a gredai, ac yn y rhagymadrodd achwynai yn enbyd ar y driniaeth oedd yn gael. Yr oedd yr Ymneillduwyr yn credu mewn olyniaeth Apostolaidd gnawdol mor gryf a'r Eglwyswyr. Yr unig rai a gydnabyddent Morgan John Lewis a'i eglwys oedd y Methodistiaid. Ymwelent hwy ag ef, ac a'r gynulleidfa, gan loni eu hysprydoedd. Ni raid ond darllen Hanes Crefydd yn Nghymru, gan y Parch. D. Peter, er gweled y cyffro a achosodd gwaith y Parch. S. Hughes yn beiddio myned i'r Eglwys Wladol i wrando offeiriad yn pregethu, yr hwn gyffro a derfynodd mewn ymraniad, am na addawai y gŵr parchedig beidio cyflawni peth o'r fath eilwaith. Nid melus genym yw cofnodi y pethau hyn; buasai yn well genym eu claddu mewn hebargofiant; ond pan y gwarthruddir y Tadau Methodistaidd ar gam, angenrhaid a osodwyd arnom.
Cyn terfynu, rhaid i ni wneyd sylw neu ddau o natur fwy personol. Cyhuddir ni yn fynych o ddweyd pethau gwaradwyddus am y marw. Ai tybio yr ydis y dylasai camwri Dr. Rees gael ei adael yn ddisylw am ei fod ef yn ei fedd? I hyn atebwn, (1) Na weithredai Dr. Rees ei hun ar yr egwyddor yma. Yr oedd Williams, Pantycelyn, yn ei fedd er's ugeiniau o flynyddoedd pan y gwaradwyddid ef gan Dr. Rees, ac y dygid i'w erbyn gyhuddiadau nad oedd iddynt rith o sail. Sut na chododd yr Annibynwyr eu llef yn erbyn gwaith y Doctor yn ymosod ar y marw? A ydyw coffadwriaeth Dr. Rees yn fwy cysegredig nag eiddo yr "hen Williams?" (2) Dygwyd y cyhuddiad a wnaethom yn erbyn Dr. Rees yn ystod ei fywyd, a chafodd gyfleustra teg i'w ateb pe buasai ganddo ateb i'w gael. Hyn ni chafodd Williams, Pantycelyn. (3) Y mae ymddygiadau cyhoeddus dynion cyhoeddus yn eiddo cyhoeddus, ac i'w beirniadu pan fydd y rhai a'u cyflawnodd wedi marw, yn hollol ar yr un egwyddorion a phe buasent yn fyw. Oni chaniateir hyn, bydd hanesyddiaeth deg yn anmhosibl ni chaem gyfeirio at droseddau Mari Waedlyd, nac at ffolinebau Charles yr Ail. A'r troseddwr mwyaf yn Nghymru fyddai Dr. Rees, oblegyd yr oedd yr erlidwyr y cyfeiria atynt yn ei lyfr yn eu beddau oll pan yr oedd efe yn ysgrifenu. Yn mhellach, goddefer i ni ddweyd nad oes ynom y gradd lleiaf o deimlad eiddigeddus at yr Annibynwyr. Y mae i ni gyfeillion anwyl yn eu mysg. Yr ydym yn mawr lawenhau yn eu llwyddiant, ac yn dymuno iddynt Dduw yn rhwydd. Da genym weled eu pwlpudau yn cael eu llenwi gan ddynion mor alluog, mor efengylaidd, ac mor ymroddgar. A maddeuer i ni am ddweyd, yr ymddangosant i ni yn cyfranogi yn helaethach o yspryd Daniel Rowland a Howell Harris nag o yspryd y gweinidogion Yneillduol, y dywedai Dr. John Thomas am danynt, nad aent i'r anialwch i chwilio am y colledig. Nid oes i ni gweryl â Dr. Rees ychwaith, ond fel hanesydd. Yr ydym yn parchu ac yn mawrhau llawer o'i nodweddion. Nid ydynt yn ddall o gwbl i'r amryfal rinweddau a harddent ei gymeriad. Bu yn felus genym lawer gwaith ei wrando yn efengylu. Ond yr oedd a fynem ag ef yn Y Tadau Methodistaidd fel hanesydd; ac, yn y cymeriad hwn, rhaid i ni lynu wrth y darnodiad a roddasom o hono, er mor llym ydyw. A phan y pasia y ddadl, ac y caffo ein cyfeillion hamdden i feddwl, credwn y bydd iddynt ymwrthod a'i ddull anheg o ymwneyd a documents hanesyddol pwysig.
DIWEDD CYFROL I.
—————————————
ABERTAWE:
ARGRAFFWYD GAN LEWIS EVANS,
CASTLE STREET.
—————————————