Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Howell Harris (1746)
← Howell Harris (1745) | Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I gan John Morgan Jones a William Morgan, Pant |
Howell Harris (1747–48) → |
PENOD XIII.
HOWELL HARRIS
(1746).
Taith Howell Harris yn Sir Forganwg—Gwrthwynebiad i'w athrawiaeth yn dechreu codi—Thomas Williams, y Groeswen, yn dychwelyd at y Methodistiaid—Cymdeithasfa y Glyn—Llythyr at Mr. Thomas Adams—Cymdeithasfa Glancothi—Y Cyfarfod Chwechwythnosol-Howell Harris yn Llundain-Cymdeithasfa ystormus yn Watford—Ymosodiad y Morafiaid ar Gymru—Howell Harris yn Hwlffordd—Yr anghytundeb rhwng Rowland a Harris yn cychwyn yn Nghymdeithasfa Trefecca—Rowland a Harris yn ail-heddychu— Cymdeithasfa gyffrous yn Castellnedd—Cymdeithasfa ddymunol yn Watford.
FEL y dywedasom, yn Dinas Powis y torodd gwawr y flwyddyn 1746 ar Howell Harris, ac y mae ei sylwadau yn y dydd-lyfr yn haeddu eu difynu: "DINAS POWIS, dydd Calan. Y boreu hwn cefais galenig, yn wir, gan fy anwyl Arglwydd. Dangosodd i mi ei fod uwchlaw fy nghalon, ac uwchlaw fy llygredigaethau, er cymaint eu cryfdwr, a'i fod uwchlaw yr holl ddiaflaid, uwchlaw dynion, ac uwchlaw fy ofnau a'm treialon. Wrth ganfod hyn mewn ffydd darfu i fy enaid ei addoli a'i folianu yn ogoneddus. Aethum i Aberddawen erbyn un. Yno pregethais ar Rhuf. vii., am gorph pechod. Cefais ddirfawr ryddid i egluro y pechod gwreidd iol; fod y plant yn bechaduriaid; a'u bod mewn gwirionedd wedi eu damnio a'u colli yn Adda. Dangosais fel y mae yr Yspryd yn argyhoeddi yr enaid o hyn, ac yn peri iddo i alaru o'i herwydd, fel gwrthryfel yn erbyn Duw. Cefais nerth i gyhoeddi gogoniant a dirgelwch Crist, a'r fraint o gael addoli y dyn Crist; ac am y rhai sydd yn esgeuluso un cyfleustra, na chaent byth gyfle drachefn oni bai am dragywyddol gariad Duw, ac y byddent yn anghredinwyr yn oes oesoedd. Dangosais am y doethion, y dysgyblion, Thomas, a Stephan, yn ei weled ac yn ei addoli, ac fel y mae efe a'r Tad yn un, megys y dywedodd wrth Phylip. Yn sicr, cawsom galenig yma, a bendithiwyd ef hefyd.
"Aethum erbyn chwech i'r Aberthyn. Yma anrhydeddodd yr Arglwydd fi yn fwy nag erioed wrth weddio a phregethu. Er fod Satan wedi arfogi meddyliau yr aelodau yn erbyn dirgelwch Crist, trwy resymeg, eto yr Arglwydd, fel yr addefent eu hunain, a dynodd i lawr eu holl resymeg trwy ei Air a'i Yspryd; ar yr un pryd, dalient yn gryf yn erbyn addoli ei ddyndod ar y cyntaf. Cawsom galenig ardderchog o gariad, yn sicr. Pregethais oddiar y geiriau yn Esaiah: Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni.' Yr oeddwn yn agos at yr Arglwydd; teimlwn fy hun yn farw ify hunan; yn sicr, yr oedd yr Yspryd Glân yn bresenol. Dangosais mai y Duw mawr oedd baban Bethlehem; felly yr addolai y doethion ef; felly hefyd yr addolai Stephan y dyn Iesu, sef oblegyd ei weled ef yn Dduw; felly hefyd y cyfaddefai Petr wrth y dyn (Iesu) ei fod yn Dduw; dyna fel y dywedai wrth yr Iuddewon ddarfod iddynt groeshoelio Arglwydd y gogoniant, sef Duw; dyna y modd y galwai Paul ei waed, yn waed Duw ei hun; felly y galwai Thomas y dyn (Iesu) ei Dduw. Yn sict, y mae yn Dduw, a phwy bynag sydd yn ei weled ef, y mae yn gweled y Tad, megys y dywedodd wrth Phylip. Er fod tri Pherson yn y Drindod, nid oes ond un Duw. Dangosais y modd y rhwygwyd y gorchudd, amryw flynyddoedd yn ol, ar y ffordd i Sir Drefaldwyn, ac y tywynodd Duw arnaf trwy y gair hwnw Mawr yw dirgelwch duwioldeb,' ac mai hyn yn awr yw fy mwyd a'm bywyd. Darostyngwyd fi wrth weled yr anrhydedd a osodid arnaf fy mod yn cael cario y genadwri hon i'r ŵyn."
Yr ydym yn difynu ei eiriau yn helaeth, er dangos mor llwyr oedd ei fyfyrdodau wedi cael eu llyncu gan ddirgelwch undeb y ddwy natur yn mherson Crist. Dyna fater mawr ei weinidogaeth yn bresenol. Prin yr ydym yn tybio fod ei syniadau, ar y cyfan, yn gyfeiliornus, ond y mae ei ddull o eirio yn anhapus; a theimlwn fod gormod o duedd ynddo i fanylu, ac i gario ei gasgliadau yn rhy bell. Hawdd gweled hefyd fod gwrthwynebiad yn dechreu codi i'w olygiadau yn y cymdeithasau, ond fod ei bresenoldeb ef, yn nghyd â grym ei hyawdledd, a'i frwdfrydedd, yn darostwng pob gwrthwynebiad a ddeuai iddynt. Ond i fyned yn mlaen â'r dyddlyfr: "ABERTHYN, dydd Iau. Neithiwr, cawsom seiat hyd gwedi deg. Cefais ryddid i ddatgan fy ofnau am y seiadau, eu bod yn gorphwys ar rywbeth, heb ddyfod at waed Crist i weled eu cwbl oll. Dyma y rheswm am eu cwerylon a'u dadleuon, ac ni chawn byth ein huno heb ddyfod at y gwaed hwn. Dangosais, yn gyhoeddus ac yn breifat, fel yr oeddwn yn gweled yn yr Iesu dosturiaethau, tynerwch, a chydymdeimlad dyn, ac anfeidroldeb y Duwdod wedi ei uno â hyn. Pa fodd, nas gallwn ddweyd, as nas gallai yr angelion. Dangosais y modd y mae rheswm cnawdol yn gwahanu y Duw a'r dyn, am na fedr ddirnad y dirgelwch. Yn y dirgel, drachefn, clywais fel y mae yr Arglwydd yn dwyn y brawd Thomas Williams yn ei ol, ac yn eu rhwystro i gael eu rhanu a'u gwasgar yn Llantrisant. Porthwyd fi wrth weled mai yr Arglwydd sydd Dduw. Cafodd un brawd a fuasai mewn profedigaeth gref, parthed duwdod Crist, ei ollwng yn rhydd henɔ. Dangosais iddynt y modd yr oedd yr Arglwydd wedi eu galw i ddangos ei ogoniant ynddynt. Peidiwch gorphwys ynte mewn ffurfiau, a gwybod aeth, a threfniadau ac allanolion.
"Yna aethum i St. Nicholas, lle y cefais ryddid a nerth mawr i lefaru oddiar eiriau yn llyfr Datguddiad. Gwedi hyn aethum tua Llantrisant. Ar y ffordd, clywais fod rhai yno yn wrthwynebol i mi, yr hyn a brofodd yn fendith i mi, i'm darostwng i'r llwch, a'm gwneyd yn dlawd yn yr yspryd. Plygais i weddio yn ngwydd cynulleidfa fawr, yn y llwch, gan deimlo fy anghymhwysder, eithr yr Arglwydd a'm dyrchafodd, gan roddi i mi yspryd llew, fel yr oeddwn yn cario pob peth o'm blaen. Yr oeddwn yn flaenorol wedi profi dwyfoldeb Crist allan o'r Ysgrythyr, gan ddangos fod y dyn hwn yn Dduw. Ni chefais erioed o'r blaen y fath awdurdod. Cyhoeddais i bawb a allai glywed mai y Duw-ddyn yw fy mywyd, a'm pob peth, i dragywyddoldeb.
Os nad yw ef yn Dduw, nad yw ei waed yn meddu unrhyw rinwedd; ein bod oll yn golledig yn oes oesoedd. Pregethwn am y doethion yn dyfod i addoli y sanctaidd faban, sef Íesu. Rhyfedd fel y mae rheswm cnawdol a natur yn gwingo yn erbyn y gwirionedd hwn; yr wyf yn ei deimlo fy hun. Ond galluogwyd fi i frawychu, i bledio, ac i agor yr Ysgrythyr, fel y cafodd rheswm ei ddystewi, gan ddangos ei dywyllwch, ei anwybodaeth, a'i elyniaeth at Dduw. elyniaeth at Dduw. Dangosais fel yr oedd marwolaeth a chlauarineb wedi ymdaenu tros Eglwys Loegr, a thros yr Ymneillduwyr yn ogystal, er pan beidiwyd pregethu y gwaed hwn. Yn flaenorol, fod yr athrawiaeth yma yn adsain trwy yr holl eglwysydd, a bod nerth a bywyd ynddynt y pryd hwnw. Atebais resymau a ddefnyddir yn ein herbyn (fel Methodistiaid), sef fod ein pregethu yn annysgedig. Profais fod hyn yn ddadl o'n plaid. Oblegyd o ba le y gallwn gael y doniau hyn, os nad oddiwrth Dduw ? Y mae eraill lawn mor ddoniol, ac yn fwy dysgedig, eithr na fedrant bregethu, pe y caent y byd am hyny. Yr wyf fi yn cyhoeddi, nid trwy fy ngwybodaeth, oblegyd ychydig wybodaeth a feddaf, na thrwy fy nysgeidiaeth, eithr yr wyf yn llefaru yr hyn a gaf gan yr Arglwydd; pan fyddwyf yn myned gerbron y bobl nas gwn beth a ddywedaf, ond fy mod yn rhoi fy hun i Dduw. Cefais lawer o awdurdod i gymhwyso y gwirionedd, ac i ddangos, os nad oedd y baban hwn, y dyn hwn, yn Dduw, sut nad oedd y doethion yn pechu wrth ei addoli, at Stephan ddim yn pechu wrth weddïo arno, a Thomas, wrth ei alw, Fy Arglwydd a'm Duw;' a Phetr wrth ei alw yn Arglwydd, ac yn Fab Duw?
Yn y seiat breifat agorodd y brawd Thomas Williams ei holl galon, gan ddangos y modd y daeth y demtasiwn i ymneillduo gyntaf arno, o gwmpas pedair blynedd yn ol; i gychwyn, trwy ddymuniad am gael ordeinio; yna, trwy fwyhau mân bethau, nes eu gweled yn fawr; a phan na ildiem i'w betrusder, iddo fyned i edrych arnom fel rhai rhagfarnllyd, ac i'w galon fyned oddiwrthym. Yn ganlynol, aeth i'n dirmygu, gan ganfod ein gwaeleddau, ac edrych arnom fel rhai ieuainc, dibrofiad, a hunangeisiol. A'i fod o hyd yn tybio mai canlyn ei gydwybod yr ydoedd hyd bron yn awr; pan gwedi iddo ymneillduo yr agorodd yr Arglwydd ei lygaid i weled, mor glir ag sydd bosibl, mai gwaith y diafol oedd y cwbl, a magl, a'i fod yn meddwl hyny am bawb oedd wedi ein gadael. Dywedai yn mhellach ei fod yn rhydd yn awr i gymuno yn yr Eglwys, yr hyn na fedrai o'r blaen. Llewyrchasai yr un goleuni hefyd ar feddwl y brawd a ymneillduasai y Sul o'r blaen, ac y mae yntau yn dyfod yn ei ol. O Arglwydd, dy waith di yw hyn! Darostwng fi! Yr wyt yn ein harddel, am dy fod yn ewyllysio, ac am mai Duw ydwyt. Eglurais inau holl hanes y Diwygiad Protestanaidd, fel yr oedd Duw wedi anrhydeddu Eglwys Loegr, am mai ynddi y tywynasai y goleuni gyntaf trwy Wycliffe; cyfeiriais at Huss, Jerome, o Prague; oddiwrthynt hwy aethum at Luther, Calvin, sefydliad yr Eglwys Brotestanaidd; yna at Harry, Edward, Mary, ac Elizabeth, yn y wlad yma; fel yr oedd yr Eglwys yn wrthglawdd yn erbyn Pabyddiaeth tu hwnt i bawb arall; y modd na chaem y fath oddefiad gan unrhyw eglwys arall o fewn y byd. Dangosais y modd y maent yn rhoddi i lawr bregethu lleygol yn Ysgotland, ac yn awr yn yr America; eu bod yn carcharu y cenhadon Morafaidd yn unig am bregethu gwaed Crist, fel y gwnawn ni. Agorais yr holl gwestiwn gyda golwg ar yr Ymneillduwyr, a'r Parch. Edmund Jones; eu hystad pan yr adnabyddais hwy gyntaf, a'u hystâd yn awr; y modd yr wyf yn gweled y sawl sydd yn ymuno â hwy yn suddo yn raddol i'r un ffurfioldeb a hwythau, ac fel y maent yn ceisio tynu pawb a fedrant oddiwrthym ni; a'r fath wahaniaeth sydd rhyngddynt, parthed yspryd, athrawiaeth, a chynllun, a'r eiddom ni, fel y mae unrhyw gysylltiad agos rhyngom yn anmhosibl."
Y mae amryw bethau yn ein taro wrth ddarllen y difyniadau hyn: (1) Mai prif destun, a braidd unig destun, gweinidogaeth Howell Harris yn awr oedd dirgelwch undeb y ddwy natur yn Mherson yr Arglwydd Iesu; teimlai ei fod wedi cael datguddiad ar y mater o'r nefoedd; ymddangosai holl rinwedd y dyoddefaint a'r gwaed iddo yn dibynu ar fod yr undeb mor agos, fel, mewn ystyr, fod y natur ddynol yn cael ei dwyfoli, ac yn dyfod yn wrthddrych addoliad. Gallwn ni yn bresenol weled fod cryn gymysgedd yn ei syniadau, er, hefyd, fod ganddo gymal pwysig o'r gwirionedd; a'i fod yn gwahanu mewn athrawiaeth yr hyn na fuasai erioed ar wahan mewn ffaith, sef natur ddynol y Gwaredwr oddiwrth ei berson dwyfol.
Wrth ymresymu y pwnc yma, defnyddia ymadroddion an-Ysgrythyrol, ymadroddion nas gallent lai na rhoddi tramgwydd, erbyn eu hystyried yn bwyllog, er fod ei wresawgrwydd ef yn cuddio eu hanmhrydferthwch ar y pryd. Ac yr oedd yn gwthio ei syniadau i eithafion, gan anghofio y gwirioneddau cyferbyniol. (2) Y mae yn dra sicr mai Thomas Williams, y Groeswen, a gawsai ei ordeinio yn. weinidog yno yn ol duli yr Ymneillduwyr, oedd y brawd a gyfaddefai ei edifeirwch oblegyd gadael y Methodistiaid. Efallai na ddylem wasgu ei gyffes yn rhy bell, a thybio ei fod am beidio gweini yr ordinhadau mwy. Ond amlwg yw ei fod wedi cael ei siomi yn yr Ymneillduwyr, ac am wasgu yn glosach at y Methodistiaid; gan gyfaddef fod mwy o'r dylanwadau dwyfol yn cael eu teimlo yn eu mysg; ac mai fel Methodist y dymunai gael edrych arno mwy. (3) Canfyddwn resymau Howell Harris dros lynu wrth Eglwys Loegr, nad oedd yn cael ei lywodraethu gan ragfarn ddall yn y mater. Tybiai, fel y gwnai John Elias ar ol hyny, mai hi oedd yr unig wrthglawdd effeithiol yn erbyn Pabyddiaeth; nad oedd yn gweled y cai pregethu lleygol, yr hyn a gawsai ei fendithio mor amlwg i Gymru, ei oddef mewn unrhyw gyfundeb crefyddol arall; ac yr oedd ffurfioldeb, clauarineb, a chyfeiliornadau athrawiaethol nifer mawr o'r Ymneillduwyr yn dramgwydd iddo.
O Lantrisant, aeth i dŷ William Powell; yna i'r Graigwen, yn mhlwyf Eglwys Ilan, yn egwan o gorph, ond yn gadarn mewn ffydd. Cafodd odfa nerthol yma, er fod llawer o wrthwynebwyr undeb y ddwy natur yn bresenol. Ni chymerodd destun, eithr dangosodd allan o'r Ysgrythyr fawredd y dirgelwch; llawer a doddwyd wrth wrando, ond darfu i rai aros yn sych. Gwedi y bregeth, yn y seiat a ddilynai, agorodd yr holl helynt gyda golwg ar Thomas Williams; dywedodd Thomas Williams ei hun yr un peth ag a gyfaddefasai yn Llantrisant; gofynodd Harris i bawb o honynt, a oeddynt yn argyhoeddedig eu bod yn awr yn ffordd Duw, ac a oeddynt heb unrhyw awyddfryd am ymuno a'r Ymneillduwyr? Dywedasant oll yn un llais eu bod. Ymhelaethodd yntau ar y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr; fod yr Ymneillduwyr yn gorphwys mewn ffurf a chynllun; tra yr ymwthiai y Methodistiaid yn mlaen yn Ilawn yspryd a goleuni; nad yw yr Ymneillduwyr ychwaith yn canfod drygedd lliaws o bechodau, fel yr ymddangosant i'r Methodistiaid. Gwedi hyny, dywedodd rhywun nas gallai gyduno a'r hyn oedd Harris wedi draethu; datganodd cynghorwr perthynol i'r seiat hefyd, os rhaid iddo draethu ei farn, fod y farn hono yn groes i'r hyn oedd wedi cael ei bregethu y noson hono. Y mae yn amlwg mai syniad Howell Harris parthed person Crist oedd yn cael ei wrthwynebu. Cafodd yntau awdurdod i ateb nad oedd ganddo ddim i'w ychwanegu at yr hyn a draethasai allan o'r pwlpud; os oedd y cynghorwr yn gwrthwynebu hyny, mai heretic ydoedd, ac nas gallasai efe, Harris, ddal unrhyw gymundeb ag ef. Yna gofynodd i aelodau y seiat, a oeddynt yn credu yr athrawiaeth a bregethai efe? Atebasant hwythau eu bod. "Troes inau at y cynghorwr," meddai Harris, yn ei ddydd-lyfr, "a dywedais nas gallwn gymdeithasu ag ef (y cynghorwr) hyd nes y byddai iddo ymddarostwng am dywyllu gogoniant Crist, tramgwyddo ei wyn, a gwrthwynebu yr hyn na ddeallai. Dywedais, yn mhellach, mai dyma y genadwri oeddwn wedi dderbyn oddiwrth Dduw; nas gallwn ildio un iota o honi, mai hi oedd fy mywyd; a thrwy ras, fy mod yn foddlawn marw drosti. Os nad yw Crist yn wir Dduw ac yn wir ddyn, ac fel y cyfryw wedi byw a dyoddef; yna, yr wyf fi wedi fy ngholli yn oes oesoedd. Dangosais nad digon dweyd fod Duw yn y dyn hwn; fod Duw yn y credinwyr; mai cyfeiliornad oedd galw y Gwaredwr yn Dduw ac yn ddyn; fod undeb tragywyddol rhyngom ni sydd yn credu â Duw; ond ddarfod i'r Gair gael ei wneuthur yn gnawd. Pa fodd, nis gwn. Os oedd ef, y cynghorwr, yn gwadu ddarfod i Dduw ddyoddef, a bod Crist yn gweddïo ar y Tad, na ddylwn ymresymu ag ef, am mai dirgelwch ydoedd, ac nas gellid ei dderbyn ond trwy. yr Yspryd Glân. Cyfeiriais at Grist yn galw ei hun yn Dduw weithiau, a phryd arall yn ddyn weithiau yn honi fod ganddo awdurdod i roddi ei einioes i lawr, ac i'w chymeryd hi drachefn, a phryd arall yn gweddio ar y Tad, ac yn cyfaddef nas gallai wneyd dim hebddo, mai yr un person a wnelai y ddau beth. Dyma y gwirionedd, ond nis gallwn ei amgyffred. Yn ganlynol, pan y dymunai wrthwynebu, gorchymynais iddo fod yn ddystaw, am ei fod wedi tori ei hun i ffwrdd o fod yn perthyn i ni. Yr oedd yntau yn gyndyn, a gwadai fy awdurdod i'w droi ef allan; mai yn y seiat yr oedd yr awdurdod hono, ac nid ynof fi. Atebais nad oeddwn yn ei ddiarddel ond mewn undeb a'm cydweithwyr; nad oeddwn i na hwythau yn gwneyd hyny onid yw y seiat hon yn ein dewis yn ewyllysgar i'w rheoli ac i wylio drosti; ac os oedd yn gwneyd hyny fy mod yn barnu fod genyf awdurdod i dderbyn i mewn ac i droi allan. Yna mi a genais Salm. Yr oeddwn yn flaenorol, wrth siarad, wedi cael fy nhoddi, ond wrth ganu llanwodd yr Yspryd fi â dymuniad ar i Dduw gymeryd ymaith fy holl ddoniau, a'i wisgo ef, y cynghorwr, à hwy. Llefais, yn dufewnol, ar i mi gael y fraint o'i weled yn llewyrchu yn ddysgleiriach na mi mewn gogoniant. Wrth gydweddïo, daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd anghyffredin, gan ddryllio ein calonau. Yr oedd yma wylo mawr, a'r fath gariad, a gostyngeiddrwydd, ac ysprydoedd drylliedig, na welais y cyffelyb o'r blaen. Gofynais i'r Arglwydd, pa hyd y cawn gnoi a thraflyncu ein gilydd, ac ymranu? Ar y terfyn, dysgwyliwn y deuai efe, y cynghorwr, ataf, gan gyfaddef mai temtasiwn oedd wedi ei orddiwes; ond gan na ddaeth, aethum i ato ef, gan ei alw yn frawd, a syrthio ar ei wddf. Yr oll a ddywedodd ef ydoedd, nad oedd yn cael undeb â ni. Atebais fy mod yn gwneyd y cyfan er mwyn yr Arglwydd, a'i wirionedd, ac o gydwybod; ac er fod ei ddiarddel fel rhwygo fy nghroen oddiam fy esgyrn, fy mod yn rhwym o'i wneyd. Gwrthodais ddadleu yn hwy, gan ei bod yn un-ar-ddeg o'r gloch; felly, cusenais ef, a gweddïais gydag ef a'r brodyr, ac felly aethum i ffwrdd, yn drymach fy nghalon nag erioed."
Y mae yn amlwg fod Howell Harris wedi cael syniadau dyrchafedig am berson. yr Arglwydd Iesu, ac am agosrwydd undeb y ddwy natur ynddo, a hyny y tuhwnt it neb o'i frodyr. Yr oedd gwirionedd gogoneddus wedi gwawrio ar ei feddwl; gwirionedd nad oedd y Diwygwyr eraill, efallai, yn talu sylw digonol iddo. Er hyny, cawn yn brithio ei ddydd-lyfr ymadroddion an-Ysgrythyrol, y rhai a brofant fod ei syniadau i raddau yn gymysglyd, a'i ddull o eirio yn fynych yn anhapus. dyma ef yn awr, am y tro cyntaf, yn diarddel, allan o'r seiat, gynghorwr nad oedd yn gallu syrthio i mewn a'i olygiadau neillduol ef. Hawdd gweled fod defnyddiau ystorm yn dechreu cael eu cynyrchu. Aeth Howell Harris yn ei flaen tua Watford, yn glaf, ac yn barod i lewygu o ran ei gorph. Wrth feddwl am y genadwri neillduol a roddasid iddo, a'r gwrthwynebiad a welai yn dechreu codi, llefai: "O Arglwydd, ti a wyddost, fy unig amcan yw dwyn pawb atat ti, i'th weled di, fel yr wyt wedi datguddio dy hun yn dy Air." "Yna," meddai, "cefais yspryd i alaru am bob gair a ddywedaswn allan o le, ac i ddymuno am iddo ddangos ei ogoniant. Dychrynwn rhag myned i'r Gymdeithasfa, rhag ofn iddynt wrthwynebu y genadwri. Eto, ymddiriedwn yn yr Arglwydd, gan lefain: O Arglwydd, nis gallaf wadu dy wirionedd di, ac nis gallaf anghytuno a'm brodyr.' Yna, aethum tua Gelligaer, lle y cefais dystiolaeth fod Duw wedi fy anfon, ac wedi maddeu fy holl bechodau hyd yn awr. Cefais ryddid i lefaru oddiar: Fy ngeiriau i, yspryd ydynt a bywyd ydynt.' Tybia i'r gynulleidfa gael bendith; yna, aeth i Mynyddislwyn; yr oedd yn glaf, ac yn wan, yn mron llewygu, ond yr hwn a'i danfonasai yno a'i nerthodd, gorph a meddwl. Ei destun oedd: "Mab a roddwyd i ni." Teimlai ei fod wedi cael ei alw yma i lefaru am y dirgelwch, yr hyn na chawsai yn Gelligaer. Galluogwyd fi," meddai, "i lefaru am ardderchawgrwydd gwybodaeth y Mab hwn; y modd y rhaid i bawb ddod i'w adnabod; truenusrwydd y rhai nad ydynt yn ei adnabod; y modd y mae yr Ysgrythyrau yn dwyn tystiolaeth iddo; mai hwy yw y meusydd, ac efe yw y perl sydd wedi ei guddio ynddynt. Dangosais am y datguddiad o Grist sydd yn cael ei roddi yn unig gan yr Yspryd. Cefais ryddid i ddangos am ddirgelwch Crist; fod y dyn hwn yn Dduw; yr oedd yr Yspryd yn cydfyned a'r Gair, yr oedd llawer yn teimlo, a llawer yn wylo."
Cyrhaeddodd le o'r enw Pen-heol-y-badd nos Sadwrn. Aeth filltir yn mhellach, i Tonsawndwr, boreu y Sul, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "A hyn yw y bywyd tragywyddol." Yr oedd yr Arglwydd yn bresenol, ac wylai Ilawer. Dangosai fod dydd gogoneddus ar wawrio, gan fod y ceiliogod, sef gwenidogion Duw, yn canu trwy yr holl wlad. Cyfeiriodd yma hefyd at y dirgelwch. Oddiyno aeth yn ei flaen i'r New Inn. "Mab a roddwyd i ni" oedd y testun yma eto, a dirgelwch Crist oedd y mater. Yr oedd gras mawr ar y bobl, a gobeithiai fod gogoniant y Gwaredwr ar lewyrchu ar yr eglwys. Cyhoeddasid Howell Davies i bregethu yn Tonsawndwr dydd Llun; methodd gyrhaedd yno oblegyd afiechyd, a dychwelodd Howell Harris i gymeryd ei le. Cafodd odfa anghyffredin wrth lefaru am gorph pechod. Eithr cafodd lwybr rywsut i fyned at y pwnc oedd yn awr wedi llyncu ei fryd, sef dirgelwch y ddwy natur yn Nghrist. "Yn sicr," meddai, "bendithiodd yr Arglwydd y bobl a mi, ac ymddangosodd ynof, yn gystal a throsof, tra yr oeddwn yn ei bregethu ef a'i ddirgelwch. Dangosodd y cawn yn fuan, trwy ei wirionedd a'i waed, gyfarfod y bobl eto mewn gogoniant, allan o gyrhaedd pechod." Cychwyna am Lanheiddel yn nesaf. Cafodd odfa ryfedd iawn yma, gan deimlo fod yr addewidion iddo yn fwyd, ac yn ddiod, ac yn nerth. Ni chefais y fath wyliau erioed o'r blaen," meddai; "cadwodd y gwin goreu yn olaf. Dywedais, hyd yn nod pe bawn yn Ymneillduwr (dangoswn nad oeddwn yn eu herbyn, ond o'u plaid, gan fy mod yn eu caru), y deuwn at y Methodistiaid, oblegyd gyda hwy y mae yr Arglwydd." Eithr y mae y chwerw yma yn gymysg a'r melus yn barhaus, a chafodd Harris brofi hyny yn Llanheiddel. Fel hyn yr ysgrifena:—
Boreu dydd Mawrth. Cefais ergyd wrth glywed fod y brodyr yn Watford wedi suddo yn ddyfnach i'w cyfeiliornad o wrthod addoli dynoliaeth Crist, a'u bod wedi tynu atynt Mr. Davies, a'r dyn ieuanc oedd gydag ef; a bod rhyw un o honynt wedi galw corph marw ein Harglwydd yn gelain farw. Gyda y baich hwn cefais ffydd i lefain ar i'r Arglwydd ei sancteiddio i mi, i'm darostwng. Cefais ryddid mawr hefyd i weddio dros y brodyr, y rhai ydynt yn llefaru am yr hyn na wyddant eto; yna, daliwyd gogoniant Crist ger fy mron, ei ogoniant o'r cryd i'r bedd, ac yr oedd Duw yn agos ataf."
Pwy oedd y Mr. Davies a gawsai ei hudo gan y brodyr yn Watford, nis gwyddom. Y mae yn amlwg fod pregethu Howell Harris am ddirgelwch person Crist yn dechreu berwi y seiadau; fod yr ymadroddion eithafol ac anwyliadwrus, efallai, a ddefnyddiai ef, yn cynyrchu yr eithafion cyferbyniol; a bod yn rhai yn tueddu i ddefnyddio ymadroddion carlamus. Ychwanega Harris yn ei ddydd-lyfr: "Y mae genyf i fyned i'r Gymdeithasfa; ac mi a awn dan ofn y brodyr, rhag i'r cyfeiliornad hwn gael ei goledd yn eu mysg, oni bai am ffydd. Yr wyf yn meddu goleuni, tynerwch, gwroldeb, ac awdurdod mewn cysylltiad â rhai o honynt, fel brodyr ieuangach wedi eu hymddiried i'm gofal, at bod yn rhaid i hyn weithio er daioni, fel y mae pob gwrthwynebiad wedi gwneyd hyd yma." Yn y Glyn yr oedd y Gymdeithasfa i'w chynal, Ionawr 9, 1746; y dydd cyn hyny, wrth deithio tua Thaf-Fawr; ceisiai ddyfalu pa wrthwynebiad iddo ef a'i athrawiaeth a gyfodid gan y brodyr. Cafodd olwg newydd ar ogoniant a duwdod Crist, wrth weled fod y llywodraeth ar ei ysgwydd. Yn Taf-Fawr, cafodd gryn nerth wrth bregethu y gwaed. Cyfeiriodd yn llym hefyd at yr Ymneillduwyr cnawdol, y rhai a siaradent yn ddidaw. am drefn, a ffurf-lywodraeth eglwysig, ac a alwent eu hunain yn eglwys, ond oeddynt yn hollol amddifad o fywyd. Oddiyma aeth i'r Glyn, lle y cynhelid y Gymdeithasfa; yr oedd ganddo daith o ddeg awr ar gefn ceffyl, a chyrhaeddodd yno yn hwyr y nos flaenorol i'r cyfarfod.
Y mae yn sicr fod Howell Harris yn dychrynu wrth feddwl am y Gymdeithasfa; dysgwyliai yn sicr y byddai i ymosodiad enbyd gael ei wneyd arno, ac ar yr athrawiaeth neillduol a bregethai, a cheisiai ymgadarnhau ar ei gyfer. "Teimlwn," meddai, "fod arnaf awydd cyfarfod a'r brodyr er cael fy sathru dan draed, fy nghondemnio, a'm gwrthwynebu; ni welwn ddim arall o'm blaen; llawenychwn ynddo, gan ei weled yn foddion i dynu i lawr fy malchder. Ond cefais olwg hefyd ar y dianrhydedd a gaffai ein Harglwydd wrth ein bod yn gwrthwynebu ein gilydd, ac ar yr ŵyn yn cael eu gwasgaru, a'u rhanu; yr oedd hyn yn dra dolurus i mi. Cefais nerth i weddïo ar i Dduw ein cadw yn nghyd." Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn, oddiar Eph. vi. 11; ac ymddengys ei bod yn odfa nodedig o lewyrchus." Daeth awel nerthol i lawr arnom," meddai Harris; "fflamiwyd fy enaid o'm mewn, a darostyngwyd fi i'r llwch; yr oeddwn yn ddiolchgar am y dawn, a'r gras, a'r nerth oedd yn cael ei roddi." Gwedi y bregeth, cydginiawodd y brodyr, a dechreuwyd trin y gwahanol faterion, ar ol gweddi felus gan y brawd Morgan Jones. Yn ystod y weddi, yr oedd yr amenau mor uchel a chyffrous, fel y tramgwyddodd rhai; eithr dadleuodd Harris fod y tân o Dduw. Darllenwyd nifer o lythyrau, ac yr oedd ffydd y frawdoliaeth yn cynyddu fel y cynyddai eu treialon. "Y mae Satan yn ein profi bob cyfeiriad," meddai Harris, "ond yr Arglwydd a ymddangosodd yn rhyfedd yn ein mysg ni heddyw, gan wneyd i fynu y rhwyg erchyll a ofnwn o Sir Forganwg. O dynerwch Duw! Yr hyn a ofnwn a symudwyd, a'n hysprydoedd a unwyd; eithr dengys hyn y fath blant ydym, mor lleied o gydymdeimlad a'n gilydd a feddwn; mor barod ydym i ymranu, ac i osod yr esboniad gwaethaf ar eiriau ein gilydd. Addefodd y brodyr iddynt fy nghamgymeryd, a'u pechod, yn cychwyn cwestiynau cnawdol parthed addoli dynoliaeth. Crist, a'u gwaith yn rhoddi bod i syniadau cnawdol am ddyndod y Gwaredwr, fel pe y byddai ei ddyndod ar wahan oddiwrth ei dduwdod yn ei ddyoddefiadau, ac felly nad yw i'w addoli; a'u gwaith yn honi mai ei ddyndod yw y ffordd, y drws, a'r offrwm, ac felly, nad ydoedd i'w addoli o gwbl. Ar eu gwaith yn cydnabod eu bai, cefais ryddid i lefaru am ddirgelwch Crist, a'r modd y datguddiwyd ef i mi gyntaf. Dywedodd y brawd Rowland fod Ainsworth yn sylwi ddarfod i Dduw farw fel yr oedd yn Dduw-ddyn; ac fel pe bai yr un yn physigwr ac yn gyfreithiwr, y byddai yn briodol dweyd i'r physigwr farw, neu ynte y cyfreithiwr. Ai fod ef ei hun wedi pregethu, dydd Nadolig, am ddirgelwch Crist, oddiar y geiriau: 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd.' O Dad tyner! Dangosais fel yr oedd y duwdod yn nglyn a'r enaid a'r corph (yn Nghrist) pan yr oeddynt wedi eu hysgar oddiwrth eu gilydd; y modd yr oedd hyn yn llewyrchu arnaf; fy mod yn credu nad oeddynt hwy yn eu weled ond yn ngoleu rheswm, ac felly y dylent fod yn ddystaw. Dywedais fy mod yn credu fod y Morafiaid yn iawn yn y mater yma, ac nad oeddwn i wedi newid fy meddwl gyda golwg ar unrhyw wirionedd, ond wedi tyfu ac wedi ymgryfhau yn y goleuni. Yr wyf yn cael fod y gelyn yn ceisio ein gwahanu yn Sir Benfro, a bod yr yspryd Morafaidd yn ymledu yno; ceisiais inau dawelu pethau. Y mae yn dda mai yr Arglwydd sydd Dduw. Dywedais wrth John Belsher fy mod yn tybio fy mod yn gweled ynddo anghymwysder i ddelio ag eneidiau gweiniaid. Cefais ryddid mawr ar weddi ar y terfyn."
Felly y terfynodd y Gymdeithasfa bwysig hon. Nid ydym yn teimlo y rhaid i ni wrth esgusawd am ddifynu ei hanes mor helaeth allan o'r dydd-lyfr, yn nghyd a hanes y daith. Y pryd hwn y rhoddwyd lefain yr ymraniad yn y blawd. Yr oedd yr hyn a eilw yn ddirgelwch Crist wedi llyncu bryd Harris i'r fath raddau fel mai prin y cyfeiriai at un pwnc arall wrth bregethu; yr oedd mor argyhoeddiadol o'i wirionedd, ac o'i bwysigrwydd fel gwirionedd, fel yr oedd yn barod i farw yn hytrach nag ildio modfedd ar y mater. Y mae yn amlwg mai yn mhlith y cynghorwyr y cododd gwrthwynebiad gyntaf i'r athrawiaeth. Diau yr ofnai Harris y buasai Rowland, a Williams, yn y Gymdeithasfa, yn cymeryd eu plaid, ac yn cyduno â hwy i ymosod arno; yn hyny cafodd ei siomi yr ochr oreu; yr hyn a wnaethant hwy oedd darbwyllo y rhai a wrthwynebent i gyfaddef eu bod wedi camddeall ei eiriau, a'u bod wedi cyfodi cwestiynau cnawdol yn nglyn â pherson ein Harglwydd; ac mewn canlyniad i ymostwng wrth ei draed. Os oedd Rowland yn canfod gwrthyni rhai o ymadroddion Harris y pryd hwnw, ni awgrymodd hyny mewn un modd; gosodai hyny i lawr i ddull o eirio, gan gredu eu bod ill dau yr un yn y gwraidd. Nid rhyfedd fod Harris mewn tymher fuddugoliaethus, a'i draed ar yr uchelfanau.
Pa mor orfoleddus y teimlai a ddangosir yn y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd ganddo o Drefecca, dranoeth i'r Gymdeithasfa, at Mr. Thomas Adams, un o gynghorwyr Whitefield, yn y Tabernacl:—
Fy anwyl gyd-weithiwr, a'm hanwylaf frawd,—Yr wyf wedi bod am bythefnos o daith; neithiwr y daethum adref o'r Gymdeithasfa; ac ni fu genyf erioed y fath adroddiad i'w anfon i chwi. Ni ddarfu i'n Harglwydd erioed, yr wyf yn meddwl, ddyrysu cynllwynion y gelyn, a bendithio ei ddrudfawr ŵyn a brynwyd ganddo, ac agor ei gariadlawn fynwes, i'r fath raddau ag yn awr. Er pan ddychwelais, gwnaed fi yn dyst o'i ogoniant a'i fawrhydi. Nis geill tafod fynegu y fath weithredoedd nerthol sydd yn cael eu cyflawni ganddo trwy ddwylaw ei weinidogion yma. mae yr offeiriaid fel seraphiaid fflamllyd; a llawer o'r brodyr lleyg ydynt yn nodedig o lwyddianus. Y mae tair sir-Penfro, Caerfyrddin, ac Aberteifi-yn ymddangos fel preswylfeydd arbenig yr Arglwydd, ac yn ganolbwynt y gwaith, fel pe bae. Mewn amryw fanau yn Siroedd Morganwg, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, y maent yn tyfu yn ardderchog, ac er fod y gelyn yn barhaus yn hau ei efrau, eto y mae cariad brawdol a symlrwydd yn ffynu. Y fath yw yr arddangosiad o ogoniant Duw yn ngras Iesu Grist fel, mewn amryw leoedd, y mae yn llwyr orchfygu natur. Y mae amryw yn cael eu bedyddio ag addawedig dân y Glân Yspryd i'r fath raddau, fel y maent yn methu bod yn ddystaw; eu huchel amenau, a'u haleliwia o fawl i'r hwn a'u prynodd, yn fynych sydd yn boddi llais y pregethwr. Treulir llawer o oriau, ïe, nosweithiau cyfain, mewn canu a gweddïo. O ddyddiau gogoneddus! Y mae y ceiliogod yn canu, ac y mae gwawr boreu clir yn tori. Yn sicr, y mae y Cadben ar y maes; yr Arglwydd a ymwelodd a'i deml. Y deillion (ysprydol) ydynt yn cael eu golwg yn ddyddiol; clustiau y byddariaid sydd yn cael eu hagor; y cloffion sydd yn rhodio, a'r meirw yn cael eu cyfodi. Y mae teyrnas ein Duw a'n Crist wedi dyfod i'n mysg; gwae y rhai a wrthwynebant, yn gyhoedd neu yn ddirgel. Yn ein Cymdeithasfa yr oeddym yn fwy hapus nag erioed. Cawsom adroddiadau ardderchog gan y gwahanol arolygwyr am yr eneidiau oeddynt dan eu gofal. Satan sydd mewn dyryswch. Anwyl frawd, ewch yn mlaen yn hyf, sethrir ef yn gyfangwbl heb fod yn hir. Ein Duw a'n bendithia ac a'n llwydda; bydded i ninau bob amser olchi ei draed. Y fory, yr wyf yn pregethu gartref; dydd Llun, yr wyf yn cychwyn ar daith arall. Yn union gwedi fy nychweliad bwriadaf, os Duw a'i myn, fyned i Lundain. Y mae eich ceffyl yn gryf. Ar y daith hon bwriadaf fenthyca ceffyl i'm hanfon o le i le. Una fy ngwraig mewn cofion serchog atoch chwi a'ch priod. Yr eiddoch, yn ein hanwyl Waredwr, How. HARRIS."
Fel yr arfaethasai, cawn ef yn cychwyn i'w daith dydd Llun, Ionawr 13. Ceir ei brofiad wrth fyned yn ei ddydd-lyfr: "Heddyw, cyn cychwyn i daith i Siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, dyrchafwyd fy enaid uwchlaw pechod, ofn, a Satan, a gwnaed fi yn orchfygwr trwy ffydd. Aethum tua Chwmcamlais, pellder o ddeg neu bymtheg milltir; ar y ffordd, fy enaid a adfywiwyd ynof, wrth weled nad oedd genyf yr un Duw ond y dyn Crist Iesu, a'i fod yn Dduw maddeugar, a chariadlawn, yn fy nghyfiawnhau, yn fy mendithio, ac yn fy arwain. Gwelais fod rhyw gyfoeth dihysbydd yn y dirgelwch—Duw wedi ei wneuthur yn gnawd. Cefais ryddid mawr wrth weddio a phregethu oddiar 1 Ioan v. 7; cyfeiriwyd fi yn fwyaf neillduol at y clauar a'r cnawdol, y cyfryw oeddynt wedi ein gadael, ac ymuno a'r Ymneillduwyr; dangosais eu bod wedi myned allan o ffordd Duw; pa nifer sydd yn feddw beunyddiol ar win newydd Duw, a bod y gwaith yn ddwyfol, fel y profa yr arwyddion." Nid hawdd deall y cyfeiriad at y rhai oeddynt yn feddw ar win newydd Duw; geill olygu yn y cysylltiad, naill ai mai ychydig o'r Ymneillduwyr, neu ynte fod llawer o'r Methodistiaid felly. Pregethodd yma hefyd am y dirgelwch. Aeth yn ei flaen i Landdeusant, lle y pregethodd oddiar Ioan xvii. 3. Cafodd lawer o nerth; llefarai weithiau yn erbyn proffeswyr erbyn proffeswyr cnawdol, bryd arall yn erbyn y rhai oeddynt yn gyhoeddus annuwiol. Gwelai ei fod yn cael ei arwain mewn gwahanol ffyrdd; weithiau i daranu; bryd arall yn fwy i gysuro ac iachau. Yma eto, cyn gorphen, cyhoeddai y dirgelwch sydd yn Nghrist. "Agorais y cyfan gydag awdurdod," meddai, "gan ddangos fod y dyn hwn yn Dduw, ac mai efe oedd yr unig Dduw." Dydd Mercher, aeth tua Thygwyn. Ei destun yma oedd: "A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen." Yr oedd yn agos at yr Arglwydd wrth lefaru, ac yn ddedwydd; ymddangosai y bobl hefyd yn gariadlawn. Ond ni ddaeth y nerth mawr hyd nes y dechreuodd son am fuddugoliaeth y dyn duwiol trwy Grist ar bechod. Dydd Iau, cawn ef yn Gell-y-dorch-leithe, ac fel hyn yr ysgrifena: "Neithiwr, llamai a neidiai yr wyn, ar ol cael eu porthi ar ddirgelwch Crist; yn awr y mae y goleuni yn dechreu tywynu arnynt." Yn Llangadog, llefarodd gyda chryn nerth a goleuni oddiar 1 Ioan v. 7, ac wrth ei fod yn dangos y gwahaniaeth rhwng canlynwyr Crist a phechaduriaid, llewyrchodd goleuni o dragywyddoldeb ar ei enaid, dysgleiriach na dim a welsai o'r blaen; gwelai y byd hwn fel cysgod gwanaidd o'r un i ddod. Efengylu a wnelai yno, a gwahodd pawb at Grist yn felus; ond ni ddaeth y nerth hyd nes y dechreuodd ymdrin â dirgelwch Crist. "Dangoswn," meddai, "fod ofn yn cilio pan fyddo gogoniant Grist yn ymddangos. Agorais y cwbl, fel arfer, am Grist, yn arbenig am dano yn sefyll yn fud gerbon Pilat, a'i waith yn cymeryd ein pechod a'n heuogrwydd ni arno ei hun, trwy yr hyn y mae Duw yn gallu ymddwyn at y rhai sydd yn credu, fel pe byddent heb bechu. Dangosais, os bu Crist farw dros bawb, yna y rhaid i bawb gael eu rhyddhau, nas gellir eu cospi hwy drachefn. Yr oeddwn yn nerthol wrth ymdrin à genedigaeth, bywyd, dyoddefiadau, a marwolaeth yr Iesu, ac wrth egluro cyffes Petr, Paul, a Thomas. Yma hefyd yr ŵyn a borthwyd.”
Cawn ef yn nesaf yn Llansamlet. Tebygol mai rhyw blwyf yn Sir Forganwg oedd y Llangadog blaenorol. Teimlai yn egwan, ac yn barod i lewygu, ar y ffordd; ond pan y dechreuodd bregethu, daeth nerth corphorol iddo yn ddisymwth. Gwybodaeth benarglwyddiaethol Duw yn Nghrist oedd y mater y llefarai arno, a chafodd ei arwain i roddi arbenigrwydd ar ddirgelwch y gwaed, gan ddangos mai dyma sylfaen yr oll oeddynt yn fwynhau, a llefain ei fod yn barod i fentro tragywyddoldeb ar bwys y gwaed hwn. Yr oedd yn odfa nerthol iawn. Ar y diwedd, cadwyd seiat breifat, ac meddai: "Arosasom yn nghyd hyd ddeg; yr oedd y nerth a'r bywyd yn peri ein bod fel fflam; daeth adref ataf mor agored ydym i ddichellion Satan; eithr cefais lonyddwch wrth gyflwyno y cwbl i law Duw." Amlwg yw fod rhyw arwyddion annymunol yn y cynulliad yn nghanol y gwresawgrwydd, y rhai oeddynt yn eglur i lygad y Diwygiwr. Cawn ef yn nesaf yn Mherllan-Robert. Pregethodd yma yn Gymraeg ac yn Saesneg; odfa doddedig ydoedd; ond nid oedd ynddi gymaint o dân, a nerth, a gwaeddi allan, ag a geid dan weinidogaeth yr offeiriaid. "Cefais dynerwch mawr," medd, "wrth gyflwyno fy nghenadwri arferol am ddirgelwch Crist; ymddangosai llawer fel be byddent yn teimlo; ac yr oedd nerth yn cydfyned a'r Gair wrth fy mod yn pregethu am ddirgelwch y Gwaredwr, a dirgelwch y Drindod, ac yn dynoethi rheswm cnawdol." Nos Wener, aeth yn ei flaen i Casilwchwr, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd." Yma clywodd am y boneddwr a gymerasai ei geffyl oddiarno yn agos i Gastellnedd, pan ar ei daith trwy y rhanbarth hwn yn flaenorol, ei fod wedi colli dau o'i geffylau; a'i fod yntau wedi cael ei gymeryd yn sal mewn clefyd, o ba un yr oedd eto heb gael ei adfer. "Llawer ac amrywiol yw y gwersi a ddysgir i mi, gan bob math o bobl wyf yn gyfarfod," meddai Harris; "ond nid wyf yn gweled neb cynddrwg a mi fy hun, na neb yn cael y fath ffafr." Cyfarfyddodd yma hefyd y boneddwr ieuanc, Mr. Dawkins, wrth ei enw, yr hwn a ymddangosai dan gryn deimlad, a chafodd lawer o bleser wrth ymddiddan ag ef am bethau ysprydol. "Y mae gwaith mawr yn cael ei gario yn mlaen," meddai; "ordeiniwyd offeiriad ieuanc yma yn ddiweddar, yr hwn sydd yn Gristion. O Arglwydd, ymwel â dy eglwys!" Rhaid fod cyflwr offeiriaid Eglwys Loegr yn ddifrifol yr adeg hon, pan y mae ordeiniad offeiriad oedd yn Gristion yn ffaith i alw sylw arbenig ati, ac i ddiolch am dani.
Dydd Sadwrn, aeth i Pembre erbyn dau; yr oedd y bobl wedi bod yn dysgwyl am dano am bedair awr; syna yntau fel y mae yn colli ei amser yn barhaus, ond dywed nas gallai help. Cafodd ryddid i lefaru yma, ond nid oedd y dylanwad yn fawr. Bwriadai gyrhaedd Llanddowror nos Sadwrn, ond methodd groesi y culfor yn Llanstephan, nes yr oedd yn rhy hwyr i fyned yn mhellach. Modd bynag, ni threuliodd ei amser yn ofer; clywodd y bobl ei fod yn y lle; daeth torf yn nghyd, a chafodd yntau gyfle i lefaru. Yr oedd ei bregeth ar ffurf ei bregethau cyntaf, sef dynoethi cnawdolrwydd a dallineb offeiriaid yr Eglwys, drygioni y boneddigion, ac arferion isel y bobl gyffredin. Ymddengys ei bod yn odfa iw chofio byth. Yr oedd y dylanwad ar deimlad Harris ei hun yn mron yn llethol. Wrth weled fel yr oedd yr Arglwydd yn cario ei waith yn mlaen, gwaeddai: "Haleliwia! Amen! O felus dragywyddoldeb! Gwelaf yn awr paham y darfu i'r Arglwydd fy nghadw mor hir mewn caethiwed gan ofn angau, sef er mwyn i mi ymgydnabyddu â chelloedd tywyll marwolaeth, ac felly allu cysuro eraill pan fyddont yn croesi." Cyrhaedd odd Landdowror o gwmpas un y Sul; yr oedd yn mhell oddiwrth yr Arglwydd ar y ffordd. Testun y Parch. Griffith Jones ydoedd: "A hon yw y ddamnedigaeth.' Cafodd Howell Harris fendith wrth wrando, ac yn neillduol yn y cymundeb at ddilynai. Eithr pan y soniai yr hen offeiriad am "amodau iachawdwriaeth," teimlai Harris mai Crist oedd ei amod ef, a'i deitl i holl fendithion y cyfamod. Aeth i Merthyr, yn Sir Gaerfyrddin, erbyn y nos, lle y cafodd odfa felus.
Dydd Llun, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Glancothi, a a chyrhaeddodd Howell Harris yno o gwmpas dau. Yr oedd Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn bresenol, yn nghyd a Benjamin. Thomas, y gweinidog Ymneillduol; ond nid yw Harris yn croniclo unrhyw ymdriniaeth ar faterion, na dim a ddywedwyd gan neb ond efe ei hun. Fel hyn yr ysgrifena: "Cefais agosrwydd mawr at yr Arglwydd yn y weddi; gostyngwyd fy nghalon, a daeth yr Arglwydd i lawr pan y dangoswn fel yr oedd llygaid pawb arnom, ac yr anogwn i wyliadwriaeth, a pheidio rhoddi tramgwydd i neb mewn dim. Eglurais fod ymddwyn yn wahanol yn profi diffyg cariad at eneidiau. Yr oeddwn yn rymus wrth ddangos yr angenrheidrwydd am ostyngeiddrwydd, a thra y caem ein cadw yn y llwch y byddai i'r Arglwydd ein hanrydeddu. Disgynodd Duw i'n plith; toddwyd llawer, ac wylent yn hidl. Eisteddasom am o bedair i bum' awr; yr oedd yr Arglwydd yn ein mysg mewn modd neillduol, gan roddi i ni gariad a doethineb i ddyoddef ein gilydd, tra yr ymdriniem a materion o'r pwysigrwydd mwyaf, ac am y rhwyg a geisiai Satan ei wneyd yn ein plith. Yr oeddem oll yma. yn ostyngedig, ac mewn undeb." Yna, cronicla anerchiad a draddodwyd ganddo; dywed iddo gyfeirio at ddirgelwch Crist; fel yr oedd angau Crist wedi dinystrio marwolaeth; fel yr oedd corph ac enaid ein Hiachawdwr mewn undeb a'i dduwdod tra ar wahan oddiwrth eu gilydd; fel y cawsai y dirgelwch hwn ei ddatguddio iddo ef gyntaf, ac fel na bu yntau yn anufudd i'r weledigaeth nefol. Dangosai hefyd fel yr oedd Satan yn ceisio peri i rai gyfeiliorni, trwy wrthwynebu yr ymadrodd, cymhwysiad o'r gwaed," gan ddewis yn hytrach y term, "derbyniad o Grist," a thrwy hyny ddynesu at athrawiaeth yr Antinomiad, sef cyfiawnhad er tragywyddoldeb mewn sylwedd, a chyfiawnhad gweithredol pan fu Crist farw. Cydunai y brodyr a phob gwirionedd a draethai. Yr oedd yn nerthol ac yn agos wrth ddangos fod Duw wedi caru yr etholedigion er tragywyddoldeb, a Christ, fel eu pen, wedi marw dros eu pechodau oll, ac yn eu lle; ac eto eu bod yn farw, ac yn wrthrychau digofaint Duw, hyd nes y caffont eu geni drachefn, ac y credont, ac y caffo Crist ei gymhwyso atynt. Yr oedd pawb yn gweled lygad yn llygad, ac ymadawyd yn hyfryd o gwmpas naw.
Er hwyred ydoedd, aeth Rowland, Williams, Pantycelyn, a Harris, i Glanyrafonddu i letya, ac yr oedd yn ddeuddeg o'r gloch arnynt yn cyrhaedd. Wrth ochr Williams y marchogai Harris, a chafodd fendith hyfryd yn y gymdeithas. Dydd Mawrth, pregethai Rowland yn nghapel Abergorlech. Meddai Harris: " Clywais y bregeth fwyaf ardderchog, gan ŵr mawr Duw, oddiar Salm cv. 14, 15." Ymddengys fod yr Arglwydd yn agos hefyd yn y sacrament. Gwelai Howell Harris dri dirgelwch mawr, Duw, Crist, a'r eglwys; am y diweddaf, canfyddai ei bod yn ogoneddus yn wir. Wrth ei fod yn siarad am y dirgeledigaethau hyn, tramgwyddodd rhai; ceryddodd yntau hwy am yr hyn a welai allan o le ynddynt; ond yr oedd undeb anwyl rhyngddo a'r brawd Rowland. Wedi dychwelyd i Glanyrafonddu, pregethodd Rowland drachefn, oddiar Joel iii. 13; odfa anghyffredin oedd hon eto; yr oedd enaid Harris yn fflam o'i fewn; gwelai yn Rowland yr un yspryd ag oedd ynddo ef ei hun. Ymddengys fod gorfoleddu mawr yn y cyfarfod hwn. Cynghorodd Harris mewn modd brawdol y rhai oeddynt ar dân gan gariad, a theimlad o fuddugoliaeth, ac yr oeddynt hwythau yn ddigon gostyngedig i dderbyn y cynghor. Aeth y cyfeillion yn nghyd dydd Mercher i Lwynyberllan; pregethodd Rowland yma eto ar Jer. xxxiii. 6; cafwyd yma arwyddion amlwg o bresenoldeb yr Arglwydd. Llefarodd Harris yma hefyd, a dywed fod ei dafod fel pin ysgrifenydd buan. Yna, wedi bod yn ddedwydd tu hwnt yn nghymdeithas y brawd Rowland, cyfeiriodd Howell Harris ei wyneb tuag adref. Yr oedd yn Bronydd dydd Iau, yn Nolyfelin dydd Gwener, a chyrhaeddodd Drefecca y noson hono, wedi taith o yn agos i bythefnos. Dengys y cofnodau fod dirgelwch person Crist yn parhau i fod yn brif wrthddrych myfyrdod Harris; mai dyna a bregethai braidd yn mhob lle; ac ar y cyfan, nad oedd fawr gwrthwynebiad i'r athrawiaeth a gyhoeddai yn cael ei ddangos. Yn arbenig, yr oedd Daniel Rowland ag yntau mewn undeb perffaith.
Y peth cyntaf a wnaeth wedi myned adref oedd sefydlu math o gyfarfod chwechwythnosol, agored i bawb oedd yn llefaru. Trefn y cyfarfod oedd pregethu am ddeg; yna, seiat breifat a chariad-wledd i'r holl aelodau allent ddyfod, o bob cyfeiriad; a chwedi hyny, Cymdeithasfa i'r cynghorwyr, nid yn gymaint er trefnu materion, ag er gweled gwynebau eu gilydd yn yr Arglwydd. Y tro hwn pregethodd Harris; ei destun oedd: "Mawr yw dirgelwch duwioldeb;" a llanwodd Duw y lle a'i bresenoldeb. Yn y seiat, drachefn, deuai y dylanwadau nefol i lawr yn ddidor. Amddiffynai Harris y gorfoleddu yn yr odfaeon, gan gyfeirio at Dafydd yn dawnsio o flaen yr arch, a Christ yn marchog mewn buddugoliaeth i Jerusalem, fel profion. Wedi ciniawa, cyfarfyddasant yn y Gymdeithasfa; yr oedd yr Arglwydd yn eu mysg fel fflam dân; nis gallant ddweyd yr un gair am amser, ond llefain, “Gogoniant! Gogoniant! Haleliwia !" Wedi cael seibiant, siaradodd Harris am falchder, diogi, a difaterwch, a'u bod trwy y peth hyn yn gofidio y rhai oedd yn agos at Dduw. "Agorasom ein holl galonau i'n gilydd," meddai; "rhai o faglau Satan a ddrylliwyd, a'r Arglwydd a ymddangosodd drachefn i rwystro y rhwyg oedd Satan wedi arfaethu. Siaradais a'r brawd Beaumont gyda golwg ar rai ymadroddion tywyll a arferai. Daeth yr Arglwydd arnom eto fel fflamau tân; yr oeddem yn llawn cariad, a llawenydd, a chanem fuddugoliaeth. Gwedi swpera, a siarad yn breifat, ymadawsom, yn feddw gan win newydd Duw." Y mae yn sicr fod y cyfarfodydd yn llawn bywyd a hwyl, ac fod y dylanwadau yn dra nerthol.
Ddechreu Chwefror, aeth Howell Harris i Lundain, i gyflawni dyledswyddau ei swydd fel arolygwr cyffredinol yr eglwysi Saesneg. Er fod y cyfrifoldeb yn fawr, nid oedd heb ymdeimlo a'r anrhydedd a rodded arno; pan yn synu at ddaioni Duw tuag ato, cyfeiria drosodd a throsodd at y ffaith ei fod wedi cael ei osod yn ben yr achos yn Lloegr. Nid oedd yn amddifad o uchelgais; ac yr oedd ei safle uchel a phwysig yn foddhad i'r cyfryw deimlad. Bu yn Llundain am dros fis, ac yr oedd llywodraethu y brodyr bron yn ormod o dasg iddo. Nis gallwn fanylu ar yr hanes, er ei fod wedi ei ysgrifenu yn llawn, am nad yw yn perthyn yn hanfodol i Fethodistiaeth Cymru. Ar ei ffordd adref, daeth Harris i Gymdeithasfa Bryste, a gynhelid Mawrth 7fed a'r 8fed. Heblaw helyntion mewnol, yr oedd perthynas y seiadau a'r Morafiaid yn peri trafferth, at phenderfynodd y Gymdeithasfa anfon llythyr at y cyfundeb llythyr at y cyfundeb Morafaidd, fod galwad arni i sefydlu achosion yn Swydd Wilts. Dywed y cofnodau fod cryn lawer o annhrefn a chyffro yn y Gymdeithasfa, oblegyd yr annhueddrwydd a ddangosai Herbert Jenkins i gydweithredu a'i frodyr. Dychwelodd Harris adref, gan bregethu mewn amryw leoedd yn Sir Fynwy ar y ffordd, megys Llanfaches, Goetre, a'r New Inn. Yn y lle diweddaf, cynhaliwyd math o Gymdeithasfa, a chafodd gysur dirfawr o herwydd agwedd ymostyngar, a
LLEOEDD O DDYDDORDEB YN SIR GAERFYRDDIN.
1. CAPEL LLANFYNYDD 2. PENTREF ABERGORLECH.
3. CARTREF MRS. GRIFFITHS, GLANYRAFONDDU-GANOL.4.-CARTREF MRS. LLOYD, PANT-YR-ESGAIR.
Ychydig o orphwys oedd i Howell Harris gwedi dychwelyd adref. Diwedd Mawrth, a dechreu Ebrill, cawn ef ar daith yn Siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, gan ymweled a'r Tyddyn, Bwlchyrhaidd, Mochdref, Llanllugan, a Llansantffraid. Caffai gyfarfodydd nerthol tu hwnt yn mhob man, braidd; y bobl a dorent allan mewn sain cân a moliant; byddai eu hamenau a'u haleliwia yn aml yn boddi ei lais, ac arosent yn nghyd i orfoleddu am oriau gwedi i'r odfa orphen. Ar y dechreu, bu Harris yn wrthwynebol i'r cyfryw dori allan; dylanwad Grffith Jones, Llanddowror, arno a gyfrifai am hyny yn benaf; ond yn awr, y mae yn gefnogol i'r peth, ac yn ei amddiffyn â gorchymynion ac esiamplau allan o'r Beibl. Tua diwedd mis Ebrill, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Watford. Y nos Fawrth cyn y Gymdeithasfa, pregethai Daniel Rowland yn nghapel y Groeswen, ac aeth Harris yno. Mater y bregeth oedd, ymdrech gydag achos yr Arglwydd. Pregethodd Harris hefyd, a dywed i'r Arglwydd lanw y lle a'i bresenoldeb. Y mae yn ymddangos fod y seiat yn y Groeswen erbyn hyn, ar ol ychydig o ymddyeithrwch, lawn mor Fethodistaidd ag unrhyw un o'r seiadau. Pregethodd Harris gyda'r fath yni nes yr oedd ei gorph yn ddolurus. Atebai wrthddadleuon y rhai a ofynent, ai Arminiaid, ynte Antinomiaid ydych? "Nid wyf wedi dod i ymdrin a phethau felly," meddai y pregethwr, "ond i ofyn pwy sydd ar du yr Arglwydd. Y mae Duw wedi myned allan yn erbyn Satan ac yn erbyn pechod; os yw dy galon o blaid yr Arglwydd, rho dy law i mi?
Bu i raddau yn ystormus yn y Gymdeithasfa. Yr oedd y Morafiaid am sefydlu achosion yn Nghymru, ac yn ceisio denu atynt y rhai a gawsent eu hargyhoeddi trwy weinidogaeth y Methodistiaid. Y lle y ceisient osod eu traed i lawr gyntaf arno oedd Hwlffordd, yn Sir Benfro. Efallai fod dylanwad John Gambold, gwedi hyn, yr Esgob Gambold, yn cyfrif am eu dewisiad o Hwlffordd; gan fod amryw o'r Methodistiaid yn y dref, a'i chwmpasoedd, yn berthynasau agos iddo yn ol y cnawd. Naturiol oedd i'r peth ddyfod yn destun ymdriniaeth yn y Gymdeithasfa. Tueddai rhai i gondemnio y Morafiaid yn llym. "Eithr," meddai Harris, "datgenais fy marn fod gormod o gulni a rhagfarn ynom ni a hwythau, ac y rhoddem fantais i'r diafol oni fyddem yn fwy gostyngedig; fy mod gymaint a neb yn erbyn cyfeiliornadau y Morafiaid, ac yn erbyn eu gwaith yn dyfod i Gymru i greu ymraniad; ond nas gallwn gyduno ag ymadroddion y brodyr yn y Gymdeithasfa, a'm bod yn gweled ynddynt ddiffyg ffydd i adael y gwaith yn llaw yr Arglwydd." Yr oedd Howell Harris yn fwy cydnabyddus a'r Morafiaid; arferai fynychu eu cyfeillachau pan yn Llundain; gwyddai mai trwy eu hofferynoliaeth hwy yn benaf y cawsai John Wesley ei arwain at grefydd efengylaidd; a chredai fod gwreiddyn y mater ganddynt, er nad oedd yn cydweled â llawer o'u syniadau; felly, naturiol oedd iddo deimlo yn dynerach atynt. Modd bynag, aeth y ddadleuaeth yn Watford yn boeth; ac wrth fod Harris yn dadleu dros roddi yr eglurhad tyneraf ar olygiadau y Morafiaid, cyhuddodd rhywun ef o fod yn Antinomiad. Teimlodd yntau y sarhad i'r byw. Yr oedd yn dra dolurus ei deimlad wrth ymadael; meddyliai fod y brodyr yn edrych arno fel peth gwael. Felly y teimlai boreu dranoeth. Ond daeth Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, ato yn dra llariaidd a gostyngedig; adroddodd yntau ei helynt a'i dywydd wrthynt, a chawsant gyfeillach nodedig o felus. Y rheswm nad oedd Rowland gyda y ddau offeiriad arall oedd ddarfod iddo gael ei gyhoeddi i bregethu y boreu hwnw. Gwedi yr ymddiddan, brysiasant i glywed Rowland; ond erbyn iddynt gyrhaedd, yr iddynt gyrhaedd, yr oedd yr odfa trosodd. Yn breifat, galarai Harris wrth weled y brodyr o wahanol syniadau mor chwerw yn erbyn eu gilydd, ac wrth weled Daniel Rowland mor ystyfnig yn erbyn y Morafiaid. Yr oedd ei feddwl yn dra chymysglyd. Ail-agorodd y mater yn y Gymdeithasfa, gan ddatgan ei fod yn erbyn pob peth beius yn y Morafiaid, ac yn wrthwynebol i'w gwaith yn dyfod i Gymru, i beri ymraniad; nas gallai eu condemnio, am y credai eu bod yn rhan o gorph Crist; ac er fod eu penau i raddau yn gyfeiliornus, eto, fod llawer o honynt yn eu calonau yn meddu adnabyddiaeth agosach o'r Iesu na rhai o'r Methodistiaid. Dywedai, yn mhellach, nad oedd teyrnas ein Harglwydd yn dibynu ar ragfarn, ac ar zêl boeth dros yr hyn a ystyrir yn wirionedd, ond ar addfwynder, a chariad; nad oedd ef ei hun ond gwas, ac nad oedd ganddo awdurdod i rwystro eraill. Datganai mai nid trwy wrthwynebiad agored y buasent debycaf o rwystro y Morafiaid, ond trwy yspryd cymhedrol a chariadlawn, ac ymresymu â hwy yn arafaidd. Ofnai rhag i'r helynt rwystro y gwaith, at gwneyd i ffwrdd a symlrwydd y weinidogaeth yn eu mysg. Ni ddywed yn bendant pa fodd y terfynodd yr ymdrafodaeth, ond gallwn feddwl mai penderfyniad y brodyr oedd fod Howell Harris i ymweled â Hwlffordd. Cychwynodd yntau ddiwrnod y Gymdeithasfa; cyrhaeddodd Hafod, pellder o bum'-milldir-ar-hugain, nos Iau. Erbyn nos Sadwrn, yr oedd yn Llanddowror; bu y Sul yn ymgynghori â Griffith Jones, ac yn gwrando arno yn pregethu; a daeth nos Sul i dŷ Howell Davies, sef y Parke. Nos Lun, aeth i Hwlffordd, ac yn y seiat breifat cafodd lawer o ryddid i egluro dichellion Satan, ac i gyfeirio at ragfarn, balchder, a hunanymddiried. Boreu dranoeth, gwnaeth ef a John Sparks eu goreu i rwystro ymraniad. Pregethai Harris oddiar Rhuf. vii. 24; ac yn y bregeth llwyddodd i roddi yr ergyd olaf ar ddyfais y diafol, am y pryd, modd bynag. Eglurodd gyfeiliornadau y Morafiaid; yr angenrheidrwydd am bregethu y ddeddf; y pwys o chwilio yr Ysgrythyrau, a gwreiddio y dychweledigion ynddynt. Teimlai ei fod wedi llwyddo yn ei neges, ac aeth ymaith yn hapus at dedwydd tua Wolf's Castle. Oddiyno tramwyodd trwy Laneilw, Tyddewi, Longhouse, Abergwaen, Ty'r Yet, Cerig Ioan, Cwm Cynon, a Llangeitho, lle y treuliodd y Sul. Boreu y Sabbath, cafodd Rowland odfa ryfedd yn Llancwnlle; ei fater oedd, ymdrechu yn erbyn y diafol; yr oedd y dylanwad ar Howell Harris bron yn fwy nag y medrai ymgynal o dano; dywed mai unwaith o'r blaen yn unig y clywsai Rowland yn y fath yspryd. Hawdd darllen rhwng y llinellau y teimlai Harris ddarfod iddo boethi gormod yn Watford; ac nad oedd ei yspryd yn y Gymdeithasfa y peth y dylasai fod; dywed ei fod wedi dyfod i Langeitho mewn yspryd hunanymwadol. Meddai: "Yr oeddwn yn teimlo undeb agos at y brawd Rowland; gwelwn mai fy mraint a'm dedwyddwch oedd cael cadarnhau ei ddwylaw, byw a marw mewn undeb ag ef, a threulio tragywyddoldeb yn ei gymdeithas. Yr oeddwn yn ei garu fel fy enaid fy hun. Gwedi y sacrament, aethom i Langeitho; am chwech, sefais i fynu i bregethu; ac wedi dechreu y cyfarfod, llonwyd fi yn fawr wrth weled y brawd Rowland yn dyfod i mewn." Ymddengys mai odfa galed a gafodd. "Teimlwn gywilydd," meddai, "nad oedd dylanwad yn cydfyned a'm geiriau; ni wylai neb, ac nid oedd neb yn teimlo." Efallai fod rhyw gymaint o blentyneiddiwch yn y teimlad a ddatgana, ond y mae yn dra naturiol. "Eithr," meddai, "gwnaed fi yn ostyngedig; ac yr oeddwn yn foddlon bod yn wael yn eu golwg."
Boreu dydd Llun, cronicla fod ei galon yn llifo drosodd gan serch at Daniel Rowland. Dywedais wrtho," meddai, "y teimlwn yn anrhydedd i gael golchi ei draed, ac i gyflawni erddo y swyddau gwaelaf; fy mod yn llawen ac yn ddiolchgar am y talentau a dderbyniasai, a'r llwyddiant a goronai ei ymdrechion, ac am gael fy rhifo yn mysg ei gyfeillion. Cefais ffydd i weled y byddai i mi a Rowland orchfygu pob rhwystrau." Hyfryd gweled fel yr ymglymai enaid y ddau gyfaill wrth eu gilydd, er fod cymylau yn codi rhyngddynt weithiau. Pregethodd Harris yn Llangeitho dydd Llun drachefn, cyn ymadael, a chafodd odfa nerthol. Yna cyfeiriodd ei gamrau yn ei ol, gan ymweled a Glanyrafonddu, Llandilo Fawr, Gellydorch-leithe, Tref-Feurig, ger Llantrisant, lle y rhoddwyd ceffyl yn rhodd iddo gan y frawdoliaeth; Aberthyn, St. Nicholas, a Dinas Powis. Y Sul, yr oedd yn y Groeswen, ac wrth bregethu ar y geiriau, "A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen," yr oedd yn ofnadwy i annuwiolion, ac yn cario pob peth o'i flaen. Cawn ef yn Watford, y Llun, ac ymddengys fod rhyw ddadleuon poenus yn parhau yma yn mysg y frawdoliaeth. Rhybuddiodd hwy fod Satan wedi ei ollwng yn rhydd yn eu mysg, a'i fod am eu rhanu, fel y rhanasai y brodyr yn Lloegr trwy ei ddichellion. Archodd iddynt hefyd holi eu hunain, a oedd pob gras ganddynt mewn gweithrediad, yn arbenig edifeirwch efengylaidd, hunanymholiad, a thynerwch cydwybod. "Hynod," meddai, "fel y mae yr Arglwydd yn ein cadw rhag cyfeiliornadau, er ein bod fel pe ar y dibyn yn aml. Hyderaf ddarfod i Arminiaeth ac Antinomiaeth gael ergyd effeithiol." Nos Lun, ymwelodd â Mynyddislwyn. Ei destun oedd: "Byddwch lawen yn wastadol;" ond yn lle dyddanu y saint, fel yr arferai wrth lefaru ar y geiriau hyn, arweiniwyd ef yn ddiarwybod iddo ei hun i daranu yn ofnadwy. "Yr oeddwn yn trywanu i'r byw y rhai ydynt yn llawen," ysgrifena, "ond sydd heb eu geni drachefn, ac heb ras Duw yn eu calonau. Yn arbenig, yr oeddwn yn ddychrynllyd i'r arweinwyr mewn rhysedd, ac i'r erlidwyr. Nis gallwn mo'r help. Yr Arglwydd a'm harweiniai; nid oedd genyf feddyliau o'r eiddof fy hun. Condemniwn y rhai oeddynt yn llawen am fod y byd ganddynt, ac am eu bod yn iach, ac yn debyg o fod yn hirhoedlog. Cefais fy arwain i daranu yn ofnadwy iawn yn erbyn yr offeiriaid cnawdol, y rhai ydynt yn rhegu, ac yn meddwi, ac yn anwybodus am Dduw. Dangosais nad rhyfedd fod y cyfryw i'w cael pan nad oes neb yn y plwyf yn gweddïo am gael dyn da yn offeiriad. A diweddais trwy ddangos mai o gariad at eu heneidiau yr oeddwn yn llefaru fel hyn." Pregeth ryfedd yn ddiau, oddiar y fath destun; ond teimlai Harris mai dyna y cyfeiriad y gofynai yr Arglwydd iddo ei gymeryd. Dydd Iau, y mae yn Llanfihangel, yn Sir Fynwy. Oddiyno â yn ei flaen i'r New Inn, eithr ychydig o nerth sydd yn cydfyned a'r llefaru. Yna, tramwya trwy Coedca-mawr, a Llanheiddel, gan ddychwelyd adref dranoeth, gwedi taith faith a phwysig.
Ddechreu Mai, y mae yn cychwyn eto am Lundain. Y mae nodiad yn ei ddyddlyfr sydd yn bwysig: "Aethum i Fair Oak erbyn yr hwyr. Ar y ffordd, cefais olwg ar ogoniant person Crist; eithr hysbyswyd fi fod y brawd Rowland yn benderfynol o wrthwynebu pregethu y gwaed. Daeth y newydd yn drwm ar fy enaid; ond gwnaeth Duw fi yn ostyngedig, a chefais nerth i lefain ar iddo anfon gyda'r hwn yr anfonai. Yr oeddwn yn foddlawn cael fy nyosg o'm holl ddoniau, ond i'r gwirionedd, a'r holl wirionedd, gael ei fynegu." Arosodd yn Llundain hyd gwedi y Gymdeithasfa, yr hon a gynhelid Mehefin 18, ac yna dychwelodd yn ei ol i Drefecca.
Ar y 27ain o Fehefin, cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol yn Nhrefecca, a medd y Gymdeithasfa ddyddordeb a phwysigrwydd pruddglwyfus, oblegyd mai ynddi y dechreuodd yr anghydwelediad rhwng Howell Harris ag arweinwyr eraill y diwygiad yn Nghymru, a derfynodd yn y pen draw mewn ymraniad hollol. Caiff Harris adrodd yr hanes, oddiar ei safbwynt ef. "Teimlwn neithiwr a heddyw," meddai, "lwythi o feichiau ar fy enaid; yr oedd i mi agosrwydd yspryd mawr at y brawd Rowland; ond yr oedd fy nghalon yn ofidus oblegyd fy mhechodau fy hun, a phechodau y brodyr. Pan y gofynodd y brawd Rowland am lyfr i mi, teimlwn barodrwydd i roddi gwaed fy nghalon iddo. Teimlais fy hun dan angenrheidrwydd i siarad ag ef. Wrth ymddiddan ag ef yn breifat, yn lle cael fy maich wedi ei ysgafnhau, trymhawyd ef, fel y gallaf ddweyd fy mod yn dechreu dyoddef gyda Christ. Gwelais ychydig o'r baich y mae Crist yn orfod gario, oddiwrth gyndynrwydd a gwrthnysigrwydd ei blant; a phan yr wyf fi yn teimlo cymaint oblegyd ymosodiad arnaf o un cyfeiriad, pa faint a deimlai ef pan yr oedd holl bechodau ei bobl yn pwyso arno? Pan y cwynai Rowland ar y cynghorwyr, ac y dirmygai eu gweinidogaeth, dywedais nad oedd yn anrhydeddu y rhai oedd yr Arglwydd wedi anfon; a dyrchefais fy llef at Dduw, ar iddo eu gwisgo â gostyngeiddrwydd, ac os oedd rhai o honynt heb gael eu hanfon ganddo ef, ar iddo chwynu y cyfryw allan. Dymunwn hefyd ar iddo ddangos eu hanfoniad i'r anwyl frawd Rowland, yr hwn sydd yn credu eu bod yn dwyn gwaradwydd ar yr efengyl, ac nad ydynt yn gwneyd dim da. Yn fy ymddiddan a'r brawd Rowland, cefais ryddid i bwyntio allan yr oll a welwn yn feius ynddo, sef ysgafnder, a diffyg yspryd tadol, gan ddangos y dylem ni fyned o flaen y brodyr mewn ffydd, gostyngeiddrwydd, cariad, a hirymaros. Cyfaddefai yntau hyn, ond dywedai nad oedd yr Arglwydd wedi ei osod ef yn dad i'r saint, ac na feddai gymhwysder ar gyfer y lle. Atebais fy mod i yn ei anrhydeddu ef fel y cyfryw, ond fy mod yn gofidio wrth ei weled mor ddiofal yn gosod beichiau ar ysgwyddau ei frodyr. Dywedais ddarfod i mi lefaru yn Llundain, yn gyhoeddus ac yn breifat, yn erbyn y Morafiaid; yn erbyn eu balchder, a'u cyfeiliornadau; fy mod yn awr o'r un farn gyda golwg ar bob pwynt o athrawiaeth ag oeddwn ddeng mlynedd yn ol; nad oeddwn wedi cyfnewid o gwbl, na thuag at y brodyr a'm galwent yn gyfnewidiol. Pan y cyhuddai fi o Forafiaeth, am fy mod yn rhoddi arbenigrwydd ar waed Crist, a'm bod yn addoli y Dyn (Crist), ac yn defnyddio y term 'Oen,' dywedais ddarfod i mi gael cipolwg ar ogoniant person Crist cyn i mi wybod fod y fath bobl a Morafiaid; ac mor bell ag y maent yn pregethu y dirgelwch, fy mod yn cyduno â hwynt; ond nad oeddwn wedi derbyn dim oddiwrthynt, ond oddiwrth yr Arglwydd. Pan y defnyddiwn y gair 'Oen,' ei fod yn felus i mi, ond fod genyf ryddid i arfer holl enwau yr Iesu; fod un enw yn cael ei wneyd yn felus i mi yn awr, ac un arall bryd arall, ond nad oeddwn i yn digio oblegyd eu bod hwy yn defnyddio unrhyw un o'r teitlau, ac na ddylem ymyraeth â rhyddid ein gilydd yn hyn. Dywedais, yn mhellach, nad oeddwn yn adwaen un Duw allan o Grist; fy mod yn gweled yr oll o'r Duwdod yn y Dyn hwn, gan fod y Tad a'r Mab yn un; a phan yr edrychaf ar Dduw yn fy rheswm, fy mod yn ei weled yn Dduw mawr, ond yn Nghrist fy mod yn gweled ei anfeidroldeb. Grwgnachai (Rowland) am fy mod yn defnyddio y term dirgelwch, ond atebais fod Paul yn cyfeirio at ddirgelwch Crist yn fynych. Yr oedd yn dra anystwyth pan y datganwn mai am heddwch, a chariad, a thynerwch yr oeddwn i, a'u bod hwy (y Morafiaid) yn blant megys ninau, a'n bod ni yn ffaeledig fel hwythau; a'n bod o'r ddwy ochr yn cael ein hanrheithio gan yr unrhyw falchder, yr hyn yw ein pechod. Dywedodd ddarfod iddo fy nghlywed yn pregethu Antinomiaeth; atebais nas gwyddwn pa ymadroddion anwyliadwrus a allwn fod wedi ddefnyddio, ond os nad oeddwn yn camddeall beth a feddylir wrth Antinomiaeth, nad oeddwn yn dal cymaint a brigyn o'r fath athrawiaeth. Ar yr un pryd, fy mod yn gweled rhyddid gogoneddus yn yr efengyl, a'm bod wedi cael fy arwain i wahaniaethu rhwng goruchwyliaeth y ddeddf a goruchwyliaeth yr efengyl, am fod y cyntaf yn pwyso ar y llythyren, tra yr oedd y diweddaf yn gynyrch Yspryd yr Arglwydd. Hysbysais ef fy mod wedi ei glywed ef yn pregethu y cyfryw athrawiaeth yn llawer mwy nag yn awr, sef am gyfiawnhad, a chyfiawnder Crist, yr hwn sydd wedi ei orphen; a chan mor ychydig a glywn ganddo am y gwirioneddau gogoneddus hyn yn awr, fy mod yn cael. fy nhueddu i feddwl eu bod ganddo yn ei ddeall, ond nid yn ei galon. Dymunais arno gyfeirio at yr ymadroddion an-Ysgrythyrol a ddefnyddiaswn, fel y gallem fyned yn y blaen megys brodyr, heb eiddigeddu wrth ein gilydd; eithr atebodd nad oedd yn eu cofio. Hysbysais ef, yn mhellach, yr awn yn mlaen heb ofni unrhyw frawd, gan mai oddiwrth yr Arglwydd y derbyniaswn fy nghenadwri a'm gweinidogaeth; fy mod yn cychwyn wrthyf fy hun, ac yr awn yn mlaen wrthyf fy hun. Ond mai dolurus fyddai myned yn mlaen fel yn awr, ac yr ymneillduwn i Loegr hyd nes y byddai yr ystorm drosodd. Gofynais iddo, a oedd yn tybio ei fod yn gweled mor ddwfn i ddirgelwch Crist yn awr ag y gwnai yn mhen deng mlynedd eto? Ond gyda golwg ar y dull o gyflwyno y gwirioneddau ysprydol hyn y dylem fod yn dyner, a chyd-ddwyn a'n gilydd, fel na byddom yn peri i'r naill y llall ddweyd yr hyn a ewyllysiwn ni. Ond yr oedd yn dra ystyfnig; er fy mod yn gobeithio y bendithia yr Arglwydd rywbeth iddo. Nid oes ond Duw a all rwystro ymraniad yn awr. Cyfeiriais at falchder y bobl oedd gyda hwy (yr offeiriaid); hefyd at eu hyspryd beirniadol, nad ffrwyth yr Yspryd oedd hwnw. Yna, wedi ymddiddan ag ef, mi a gludais fy maich, ac a'i teflais gerbron yr Arglwydd; yna, ysgrifenais fy nydd-lyfr hyd ddeuddeg o'r gloch."
Y mae cofnodi yr anghydfod hwn rhwng y ddau, ag y gellir edrych arnynt yn allanol fel dwy golofn y diwygiad, yn orchwyl blin. Rhaid cofio mai un tu i'r ddalen yn unig a gawn yma, a phe y byddai yn bosibl cael adroddiad Daniel Rowland o'r helynt, y mae yn sicr y caem hanes tra gwahanol. Gwelwn, hefyd, ddarfod i Howell Harris ysgrifenu yr adroddiad yn nghanol teimladau cyffrous, pan yr oedd digllonedd chwerw yn berwi ei yspryd; ac y buasai ef ei hun yn mhen amser gwedi, ar ol i'r ystorm basio, yn debyg o gymedroli llawer o'i eiriau. Ond i fyned yn mlaen a'r dyddlyfr: "Aethum i lawr i wrando Williams, Pantycelyn, yn pregethu; cawsom bregeth ragorol iawn, ar undeb y credinwyr; a saethodd i fy meddwl mai yr Arglwydd a roddasai y mater iddo. Gwelwn y fath wrthwynebiad i'r undeb hwn, fel nas gallai neb ond yr Arglwydd eu symud. Gwedi hyny pregethodd y brawd Howell Davies yn Saesneg, oddiar Joshua i. 9. Yr oedd yr ymadroddion yn gymhwys i mi; yr oeddwn yn eu credu mewn ffydd; ond yr hyn y teimlwn ei eisiau oedd cymhwysiad uniongyrchol o honynt ataf. . . . Gwedi hyn aethum i'r Gymdeithasfa, yr hon a ofnwn mor fawr, oblegyd y rhagfarnau oeddynt wedi cripio i feddyliau y brodyr yn erbyn eu gilydd. Yr oeddwn yn Ilwythog; a dangosodd yr Arglwydd ragfarn y brawd Rowland yn erbyn y brodyr. Addefai nad oedd yn teimlo yn rhydd at lawer; ei fod yn dirmygu anwybodaeth y brodyr. Pan ofynwyd syniad y frawdoliaeth am danaf fi, dywedodd rhai eu bod yn ofnus am danaf, fy mod yn gwyro at Antinomiaeth a Morafiaeth. Atebais nad oeddwn wedi cyfnewid mewn unrhyw bwnc o ffydd er pan y cawswn fy ngwreiddio yn athrawiaeth etholedigaeth; yn unig ddarfod i mi arfer rhai ymadroddion tywyll gyda golwg ar berffeithrwydd, ryw chwech mlynedd yn ol, ond hyd yn nod y pryd hwnw na olygwn berffeithrwydd dibechod, a phan y deallais fod y brawd Wesley yn golygu hyny, i mi ddatgan yn ei erbyn. Ymdrechodd y brawd Rowland brofi fy mod yn gyfnewidiol, yn gwrthddweyd fy hun, yn dra anwireddus, ac yn Antinomiad. Dywedais fel y synwyd fi pan yr hysbysodd fi gyntaf fod llawer yn edrych arnaf fel un cyfnewidiol, hyd nes y cofiais fy mod wedi gweddïo yn daer am i'r Arglwydd fy narostwng yn marn y brodyr, rhag iddynt feddwl yn rhy uchel am danaf, ac y saethodd i fy meddwl mai dyma y ffordd oedd Duw yn gymeryd i ateb fy ngweddi. Am fy ngweinidogaeth, dywedais fy mod wedi ei derbyn gan yr Arglwydd a'm bod yn sefyll neu yn syrthio i fy Meistr fy hun. Gyda golwg ar y brodyr, fy mod yn eu caru ac yn eu hanrhydeddu yn yr Arglwydd, nas gallwn oddef iddo (Rowland) eu dirmygu; ond am eu ffaeleddau, fy mod yn gobeithio y byddai i'r Arglwydd a'u hanfonodd eu symud, a'u cymhwyso hwythau i'w gwaith fwy fwy. Dywedais wrtho fy mod yn caru ac yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, a'm bod yn ei anrhydeddu yntau yn y pwlpud; ond am dano allan o'r pwlpud, fod yn ddrwg genyf drosto; ac os oedd yr hyn a glywswn am dano yn wir, fod yn anhawdd genyf feddwl fod y fath swm o hunan a balchder yn perthyn iddo. Oni bai fy mod yn credu ddarfod iddo gael ei anfon gan Dduw, nas gallwn aros gydag ef; ond yn awr y caffai wneyd yr hyn a fynai, a dweyd yr hyn a fynai. Gan ei fod yn credu yn y Gair fel rheol, y buasai yn dda genyf pe bai y cyfryw yn cael ei ddwyn adref at ei gydwybod; ac nad oedd yr ymadroddion llymion, ffraeth, a chnawdol a ddefnyddiai yn dyfod oddiwrth yr Ysryd. Cawsom ymddiddan am sancteiddhad, a phan y cyfeiriasant at gyfaddasder i ddyfod at Grist, sef argyhoeddiad, sefais i fynu i wrthdystio, a dywedais fy mod yn dyst yn erbyn; fy mod i, a llawer eraill, wedi cael ein tynu gan gariad; ac nad oes dim yn angenrheidiol er iachawdwriaeth, ond cymhwysiad o gyfiawnder Crist. Darfu iddo ef (Rowland) a llawer o rai eraill ddatgan yn erbyn fy ngwaith yn pregethu y gwaed, am (1) nas gallent dderbyn yr athrawiaeth; (2) am gallasai Duw farw; (3) am na ddylid pregethu dirgelwch nas gellir ei esbonio. Dywedais fy mod wedi derbyn hyn gan Dduw, ac nid oddiwrth ddyn, ac y gwnawn ei bregethu; y gwnai Duw dori ffordd i mi trwy ddiaflaid a dynion; a phe y baent oll yn sefyll yn erbyn, nad oeddwn yn edrych. arnynt yn fwy na gwybed. Nad oeddwn yn gofidio am ddim ond oblegyd eu hanwybodaeth hwy am y dirgelwch, yr hwn yw fy mwyd i. Dangosais na ddarfu i Dduw ddyoddef, ac nas gallasai; ond i'r Duw-ddyn ddyoddef; nid y Dyn na'r Duw ar wahan, ond y ddwy natur yn nghyd; ac na welais i erioed mo hono yn Ddyn, ond yn Dduw yn ogystal. Pe y buaswn wedi ei weled yn y preseb, y gwnaethwn ei addoli; ac yr addolaswn ei gorph marw cysegredig ar waelod y bedd, am fod y corph mewn undeb a'r Duwdod, yn gystal a'i enaid yn mharadwys. Am yr athrawiaeth hon, dywedais fy mod yn foddlon ei selio â fy ngwaed; ac hyd nes y darfu i mi ei chredu, nad oeddwn wedi fy rhyddhau rhag ofn angau. Datgenais fy mod yn caru y Morafiaid, am fy mod yn credu eu bod yn perthyn i'r Arglwydd; ond oddiar fy adnabyddiaeth gyntaf o honynt, nad oeddwn wedi cyduno a'r oll o'u daliadau, a'm bod wedi pregethu yn erbyn eu cyfeiliornadau yn Llundain ac yn Hwlffordd, gan rybuddio y brodyr yn erbyn y cyfryw gyfeiliornadau. Pan y dywedent (yn y Gymdeithasfa) fy mod yn addoli gwaed Crist, dywedais fy mod, fel rhan o Grist, gan nad oedd un rhan o hono ar wahan oddiwrth ei Dduwdod. Pan y dywedasant fy mod wedi cyfnewid yn fy null o bregethu, fy mod ar y cyntaf yn taranu, a chwedi hyny yn cyhoeddi rhad ras, ac yn ganlynol ffrwythau ffydd, atebais fod yr oll trwy yr un Yspryd; fy mod yn cael fy arwain i daranu yn awr weithiau, ond fod yn rhaid i mi bregethu fel ei rhoddir i mi. Addefais nad oeddwn, oblegyd fy nghnawdolrwydd a'm pechod, yn chwilio digon ar yr Ysgrythyrau, ond y gwyddent oll fel yr oeddwn wedi llafurio i osod i fynu gateceisio, a darlleniad cyson o'r Beibl. Pan y llefarodd y brawd Rowland. yn awdurdodol, datgenais fy mod yn gwadu ei awdurdod, fy mod yn edrych ar ei swydd fel dim; fy mod yn barod i'w dderbyn fel brawd, ond nid mewn modd arall. Gwedi darllen yr adroddiadau, gweddïodd un brawd; gweddïais inau, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais ryddid i lefaru yn hyf wrth y brodyr-yr oedd efe (Rowland) a'r offeiriaid wedi myned allan-gan ddangos fod gan yr Arglwydd lais tuag atom yn hyn; cyffröais hwy i fwy o ddiwydrwydd mewn darllen yr Ysgrythyrau, a llyfrau da eraill; am fod yn ddifrifol yn y gwaith, a mynu gweled eu bod yn gwneyd pob peth dros Dduw. Gwedi i ni swpera, ac i'r offeiriaid fyned i'w gwelyau, daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd rhyfedd; teimlwn fy nghalon yn fflam, a'm henaid yn llawn goleuni a ffydd. Arosodd cwmni da ar y llawr trwy y nos hyd bedwar o'r gloch y boreu, yn canu, ac yn gorfoleddu; yr oeddym yn debyg i Dafydd o flaen yr arch. Cynghorais i fwy o wyliadwriaeth, gostyngeiddrwydd, ac ofn duwiol. Ond goddiweddwyd fi gan y gelyn, a syrthiais am ryw gymaint o amser; ond cyfodwyd fi drachefn wrth fy mod yn gofyn yn syml gan yr Arglwydd. Yna, trefnais fy nheithiau."
Felly y terfyna hanes y Gymdeithasfa ofidus hon. Boreu tranoeth, yr oedd Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies yn ymadael am gartref; ond cyn eu myned, mynodd Howell Harris gyfle i ddweyd gair wrth Rowland. "Dywedais wrtho," meddai, "am ofalu pregethu llai allan o lyfrau, a mwy allan o'i galon, yr hyn a dderbyniai oddiwrth Dduw; fy mod yn gofidio wrth weled mor lleied o ffrwyth yr Yspryd yn ei ymddygiad; a'm bod yn falch gweled yr offeiriaid yn unol, er fy mod i yn ddafad ddu yn eu mysg." Cofnoda yn mhellach fod Rowland dyner wrth ymadael. Gwedi iddynt gefnu, pregethodd gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr gyda llawer o hwyl; dywedai nad oedd neb i feddu awdurdod ar y pregethwyr ond Crist, ac anogai y bobl i beidio myned i wrando offeiriaid cnawdol. Y tri offeiriad oedd wedi myned i ffwrdd a olygai, yn ddiau. Y mae teimlad Howell Harris ar derfyn y Gymdeithasfa yn anesboniadwy. "I'r Gymdeithasfa flaenorol," meddai, "mi a aethum yn llawn hyfrydwch, a sirioldeb, ac ymadawais dan feichiau trymion; daethum i'r Gymdeithasfa hon yn llwythog ac yn flin, ac aethum o honi yn llawn gorfoledd." Gorfoledd yn wir, pan yr oedd Methodistiaeth wedi cael dyrnod a barlysodd ei holl symudiadau am amser, ac oddiwrth ba un y teimla hyd y dydd hwn! Ond rhaid i ni gofio mai ysgrifenu hanes dynion anmherffaith yr ydym.
Rhaid i ni adael hyd yn nes yn mlaen unrhyw ymchwiliad i uniongrededd golygiadau duwinyddol Howell Harris, ond y mae yr hanes a rydd yn ei ddydd-lyfr yn awgrymu i'r meddwl amryw bethau. (1) Y mae yn dra sicr ddarfod iddo gamgymeryd geiriau Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall. Rhy brin y gallwn dybio iddynt ddweyd wrtho eu bod yn dirmygu ei weinidogaeth; cawsai ei eiriau eu bendithio er iachawdwriaeth i ddau o'r tri, a naturiol meddwl eu bod yn synio ac yn siarad yn barchus am ei bregethu. Anhawdd meddwl, ychwaith, eu bod yn ei gondemnio am alw Crist yn "Oen;" heblaw fod y term yn Ysgrythyrol, ceir ef yn britho pregethau Rowland, a hymnau Williams, Pantycelyn, a chydnebydd Harris ei hun fod y tri yn ymostwng i awdurdod y Beibl. Rhydd efe yr hyn a ddywedent fel yr ymddangosai iddo ef ar y pryd, pan yr oedd ei dymher wedi ei chyffroi i'r pwynt eithaf, ac felly yn analluog i ddirnad yn glir ystyr ymadroddion ei wrthwynebwyr. (2) Hawdd gweled ei fod yn y Gymdeithasfa yn cario pethau yn mlaen gyda llaw uchel. Ni wnai ymresymu a'r brodyr gyda golwg ar yr hyn a bregethai, am y tybiai ddarfod iddo dderbyn cynwys ei genadwri fel datguddiad oddiwrth Dduw; bygythiai, os gwrthwynebid ef, yru yn mlaen trwy ddynion a diaflaid; a dywedai nad oedd ei wrthwynebwyr ond fel gwybed yn ei olwg. Hawdd gweled hefyd iddo ddefnyddio ymadroddion chwerw a brathog. Cyhudda Rowland o fod yn meddu crefydd y pen, ac nid crefydd y galon; ac o fod yn cael ei lywodraethu gan falchder. Mor bell ag y gallwn gasglu, nid oedd yr offeiriaid agos mor chwerw eu hyspryd; ystyfnigrwydd yw y prif fai a rydd yn eu herbyn. (3) Rhaid cydnabod fod teimlad eiddigus wedi dyfod i mewn i fysg yr arweinwyr. Diau nad oedd y tri offeiriad, yn arbenig Daniel Rowland, yn rhydd oddiwrtho. Gwelent Howell Harris, er heb ei ordeinio, ac heb feddu doniau gweinidogaethol rhai o honynt, o herwydd ei yni, a thanbeidrwydd ei zèl, yn fwy ei ddylanwad na hwy ar y cymdeithasau, ac wedi cael ei ddyrchafu i fod yn ben ar Fethodistiaid Calfinaidd Lloegr. Gan mai dynion anmherffaith oeddynt, a'u bod, efallai, yn berchen uchelgais, naturiol iddynt oedd teimlo yn eiddigus, a thalu sylw gormodol i golliadau yr hwn oedd wedi ei ddyrchafu mor uchel. O'r tu arall, nid annhebyg fod ei ddyrchafiad wedi peri i Harris ymchwyddo, ac i fyned i edrych i lawr ar yr offeiriaid, y rhai a berchid gan yr adran fwyaf Eglwysig o'r Methodistiaid yn fwy nag efe, oblegyd eu hordeiniad. Ofnwn fod yr hen gwestiwn, "Pwy fydd fwyaf?" wedi cael gormod o le yn mynwesau y naill a'r llall. (4) Ymddengys yn bur amlwg fod Howell Harris yn y Gymdeithasfa, os nad yn flaenorol i hyny, yn gwneyd ymgais effeithiol i ffurfio y cynghorwyr yn blaid yn erbyn yr offeiriaid. Cawn efe a hwythau yn aros ar ol mewn ymgynghoriad gwedi i'r tri offeiriad fyned allan. Buont i lawr hefyd hyd wawr y boreu yn canu, ac yn gweddïo, ac yn ymddiddan, pan yr oedd y tri arall wedi myned i orphwys i'w gwelyau. Yn flaenorol, yr ydym yn cael Harris yn pwysleisio ar anwybodaeth y cynghorwyr; yn awr, y mae yn eu dyrchafu fel rhai wedi eu hanfon gan Dduw. Amcan amlwg yr oll yw eu cylymu wrtho ei hun. Hawdd iddo oedd dylanwadu ar y cynghorwyr. Efe oedd tad ysprydol llawer o honynt. Yn ychwanegol, yr oedd efe a hwythau mewn ystyr ar yr un tir, sef heb urddau, ac felly nid anhawdd eu cael i gyduno mewn eiddigedd at y rhai oeddynt wedi derbyn ordeiniad esgobol. (5) Ofnwn mai ei gred ei fod wedi llwyddo i ffurfio plaid gref, trwy gymhorth pa un y gallai ysgwyd ymaith Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall, oedd gwreiddyn y teimlad llawen a lanwai ei fynwes ar derfyn y Gymdeithasfa. Ni ddychymygodd y gallai yr offeiriaid ei drechu. Gwelai ei hun yn y dy. fodol agos yn ben ar Fethodistiaid Cymru, fel yr oedd yn barod ar Fethodistiaid Calfinaidd Lloegr, ac felly heb neb i'w wrthwynebu. Nid ydym am dybio mai balchder calon oedd wrth wraidd yr awyddfryd hwn; yr ydym yn credu gwell pethau am dano; diau y perswadiai ei hun y gallai, yn ei sefyllfa newydd a dyrchafedig, wasanaethu yr Arglwydd Iesu a'r efengyl yn fwy effeithiol. Pe y gwelsai y trychineb a achosid gan yr anghydfod rhyngddo ef a'i frodyr, diau y buasai ei galon yn chwerw ynddo, a'i obenydd yn foddfa o ddagrau.
Dranoeth i'r Gymdeithasfa, cawn deimlad arall yn ei feddianu; teimlad o alar am fod y brodyr wedi gwrthod y genadwri parthed dirgelwch Crist, a gogoniant ei waed; a'u bod yn ei ddirmygu yntau oblegyd ei symlrwydd a'i anwybodaeth. Ddechreu yr wythnos ganlynol cychwynodd ar daith i Sir Fynwy, a diau fod sefydlu ei awdurdod ei hun dros y seiadau yn un o'i amcanion. Cawn ef, i gychwyn, yn Fairmeadow, rhwng Talgarth a Chrughywel; ei destun oedd: "Gwir yw y gair;" ac ymosodai yn enbyd ar falchder. Y noswaith hono yr oedd yn Cilonwy, a dywed iddo gael yma yr hen nerth a nodweddai ei bregethu ar y cyntaf, wrth lefaru oddiar: "Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear." Dydd Mercher, aeth i le yn mhlwyf Grismond, lle y gwelodd lawer o ddrwgdeimlad ar ran yr Ymneillduwyr. Dywed iddo gael cenadwri ar y ffordd oddiwrth yr Arglwydd nad oedd i fyned i Sir Aberteifi, ond y cai awdurdod a nerth wrth bregethu y gwaed, a dirgelwch Crist, yr hon genadwri ni dderbyniai ei wrthwynebwyr. Pasiodd yn ei flaen trwy y Fenni, lle y cafodd odfa dda, ac y deallodd fod y newydd wedi rhedeg fel tân gwyllt trwy y wlad fod Rowland yn erbyn y cynghorwyr; ac ymwelodd a'r Goetre, Llanfihangel, Tonsawndwr, a New Inn, lle yr anerchodd y cynghorwyr gyda nerth. Dychwelodd yn ei ol i Drefecca erbyn y Sul. Er ei holl wroldeb, ceir arwyddion ei fod yn teimlo cryn unigrwydd ar ol colli cyfeillgarwch y brodyr; a chawn ef yn troi at Grist, gan ddweyd: "Ti yw fy mrawd! Fy mrawd oeddyt gerbron Pilat; fy mrawd oeddyt ar y groes; a'm brawd ydwyt yn awr yn y nefoedd; ac ynot ti yr wyf yn ogoneddus ac yn orchfygwr." Dywed ddarfod i'r Arglwydd ei arddel yn rhyfedd yn y daith hon, gan ei anrhydeddu i'r un graddau ag yr oedd y brawd Rowland yn ei ddirmygu. "Y mae y cymeriadau gwaethaf," meddai, "yn dwyn tystiolaeth i mi fy mod yn ddyn gonest."
Ddechreu yr wythnos ganlynol cychwyna am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Trefaldwyn, a Maesyfed. Aeth i Drecastell-yn-Llywel y noson gyntaf, lle y cafodd nerth i ddangos anfeidrol rinwedd gwaed Crist; ac yn y seiat breifat a ddilynai dangosodd glauarineb, rhagfarn, a doethineb pen yr Ymneillduwyr, gan ddweyd ei fod yn eu caru, ond y dymunai eu gweled yn gwasgu yn nes at Dduw. Y mae yn nesaf yn Llanddeusant, ac yn cael odfa rymus. Gofynai iddo ei hun a wnai barhau i dalu dwy bunt yn y flwyddyn. tuag at gael y brawd Rowland i bregethu yn y sir hono yn fisol? Tebyg fod Daniel Rowland yn dyfod yn fisol yn awr i Abergorlech, a bod Harris yn ei gynorthwyo i dalu y person a gymerai ei le yn Llangeitho. A ganlyn yw profiad Howell Harris yn Llanddeusant: "Cefais barodrwydd neithiwr i ddyoddef pob peth, o bob cyfeiriad; oddiwrth y rhai cnawdol a'r rhai ysprydol, ac hyd yn nod oddiwrth y brawd Rowland, yr hwn sydd wedi cael caniatad i fy nirmygu, a'm gwarthruddo, ac i sathru arnaf, gan fy nghyhuddo o gyfeiliorni, ac o Antinomiaeth. Y boreu hwn breuddwydiais fod fy nghalon wedi ymddryllio o gariad (at Rowland); ei fod yntau hefyd felly, ac i ni syrthio ar yddfau ein gilydd." Ymddengys i'w freuddwyd Ymddengys i'w freuddwyd effeithio yn ddwys ar ei feddwl, am y credai mewn breuddwydion fel cenadwriaethau oddiwrth Dduw. Yr oedd Daniel Rowland yn pregethu yn Abergorlech; tebygol fod Cymdeithasfa Fisol yno; ac wedi cryn betrusder, ac ymladd ag ystyfnigrwydd ei yspryd, penderfynodd Harris fyned i'w wrando. Testun Rowland oedd, Dat. ii. 17: "I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cuddiedig," &c. "Agorodd yn ardderchog," meddai Harris, "trwy ddangos fod pob gras yn ras gweithgar; dadlenodd gyfeiliornad yr Antinomiaid, y rhai a briodolant haeddiant i ras, ac a ddywedant eu bod yn caru Crist, tra yn byw mewn pechod." Wrth wrando, y mae Harris yn toddi; cyfid cri yn ei enaid ar iddynt allu caru eu gilydd, a deall eu gilydd yn well; a gofynai i Dduw: "Pa hyd y goddefir i mi ddwyn ffrwythau balchder, cyndynrwydd, a chnawd? Yr wyf yn clywed yr un iaith gan dy holl ffyddlon genhadau, tra y maent yn gwrthwynebu eu gilydd, a'r naill yn credu am y llall ei fod yn elyn i'r gwirionedd." Dymunai ar i'r ystorm chwythu trosodd. "Yr oedd goleuni ac efengyl yn mhregeth y brawd Rowland," meddai; "dangosai fod y rhyfel Cristionogol yn rhyfel sanctaidd; mai y Sanctaidd yw y Cadben; fod y tir ar ba un yr ymleddir, sef yr eglwys, yn sanctaidd; a'i fod i gael ei ddwyn yn mlaen trwy foddion sanctaidd. Pwy all osod allan mewn ysgrifen y bywyd a'r nerth oedd yma ?’ Sicr yw ei bod yn odfa rymus, a chafodd Harris ei orchfygu. Aeth y ddau yn nghyd i Talyllychau. "Ar y ffordd, cyflawnwyd fy mreuddwyd," meddai Harris; agorais iddo fy holl enaid; llawer o waith y gelyn a olchwyd ymaith, a daethom yn nes at ein gilydd. Dywedais wrtho fel yr oeddwn yn cyduno a'i bregeth heddyw. Dywedodd yntau ei fod yn anrhydeddu fy ngweinidogaeth, ac y rhaid i bawb gydnabod ddarfod i'r Arglwydd fy anfon, a'm harddel. Dywedais wrtho fy maich; fy mod yn teimlo nad oedd yn anrhydeddu y Morafiaid yn ddigonol, ac felly ei fod yn pechu yn erbyn yr Arglwydd. Dywedodd yn ol nad oedd yn teimlo yn gas atynt, ac y caent bregethu yn ei eglwys, ond iddynt beidio cyhoeddi eu hopyniynau neillduol. Dywedais inau, os deuent i Gymru, y gwrthwynebwn eu cyfeiliornadau; ond y gwnawn hyny yn nghariad Duw, am y tybiwn y gwyddant fwy am yr Arglwydd na myfi. Achwynai fy mod yn gwasgu yn rhy glos at y brawd Beaumont; addefais inau hyny, ond fy mod yn gwneyd er ei gymedroli, ac fel na byddai iddo gael ei droi allan oddiwrthym." Dyma y ddau Ddiwygiwr wedi ymheddychu i raddau mawr.
Pregethodd Howell Harris yn Nhalyllychau; ond pregethodd Rowland gyda nerth ac angerddoldeb neillduol, ar Dat. xii. 9. Teimlai Harris fod yr Arglwydd yn llawer amlycach yn ngweinidogaeth Rowland nag yn ei eiddo ef. "Hynod y goleuni a'r nerth sydd ganddo," meddai; trwy yr holl amser yr oedd yn llefaru, teimlwn undeb enaid ag ef, a'm bod yn nglyn wrtho. Wedin, aethum gydag ef i Gwmygwlaw. Yr wyf yn gobeithio fod yr ystorm hon trosodd. Ar y ffordd, yr oeddym yn gorfoleddu, yn neidio, ac yn canu, ac yr oeddym yn debyg i bersonau gwedi meddwi." Yr oedd y fath orfoledd yn llenwi eu mynwesau, o herwydd cael eu dwyn yn nghyd, fel nas gwyddent beth i wneyd â hwy eu hunain. Braidd nad ydynt yn ymddangos yn debyg i blant, yn eu cwerylon, ac yn eu cymod drachefn. Dywedai Harris wrth Rowland iddo bregethu yn Llundain yn erbyn y Morafiaid, ac yn Nghymru yn erbyn yr Antinomiaid, a hyny bron yn yr un geiriau ag y pregethai Rowland y dydd cynt. Meddai Harris, yn mhellach: "Cyfaddefai nad dim a glywodd genyf fi oedd wedi peri iddo ymddigio, ond fy ngwaith yn glynu wrth y brawd Beaumont, a thrwy hyny gyfiawnhau yr hyn nad yw yn iawn. Yr wyf yn gobeithio ddarfod ein huno eto yn y gwirionedd. Dywedais wrth Rowland ei fod wedi pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth. Gwadodd hyn, a maentymiai ei fod yn edrych arnaf fel cenad Duw, ond addefai ei fod yn edrych i lawr ar y cynghorwyr. Arglwydd, dinystria y teimlad hwn ynddo. Creda hyd yn nod yn awr fy mod yn rhy dyner at y Morafiaid; ond am heddwch yr wyf fi, a chariad, a thawelwch yn nhŷ yr Arglwydd."
Aeth y ddau i Lwynyberllan. Pregethodd Howell Harris ar ogoniant yr eglwys; yna llefarodd Daniel Rowland oddiar Mat. ix. 49, a chafodd odfa nerthol tu hwnt. Yma ymadawent; aeth Harris i Bronydd, lle yr oedd nerth a dylanwad yn cydfyned a'r genadwri; oddiyno i Merthyr, Erwd, Llanfair-muallt, a Llangamarch. Yr oedd goleuni a nerth anarferol yn cydfyned a'i eiriau yn y lle diweddaf. Boreu y Sul dilynol yr oedd yn Dolyfelin; oddiyno aeth yn ei flaen i Rhaiadr, lle yr oedd mewn cadwyn wrth geisio llefaru, a chyrhaeddodd Tyddyn y noswaith hono. Yr oedd. cynulleidfa anferth wedi dod yn nghyd yma, a chafodd yntau odfa dda. Gwedi y bregeth buwyd mewn seiat breifat hyd ddeuddeg o'r gloch. Am waed Crist, ei Dduwdod, ei ogoniant, a'i ddirgelwch, y llefarai Harris yn y seiat; dywedai mai dyma y sail, a bod Duw a ninau yn un yn y fan yma. Dywedai, yn mhellach, fod pump peth yn cael eu priodoli yn yr Ysgrythyr i waed Crist (1) Anfeidrol rinwedd, (2) Gallu i ddofi anfeidrol lid, (3) Ei fod wedi diddymu angau i'r credadyn, (4) Wedi diffodd y tân tragywyddol iddo, (5) Ac wedi dwyn i mewn fendithion annherfynol. "Nid oes un Duw ond Crist," meddai; "ac os wyt wedi dy uno â Christ, yr wyt wedi dy uno a'r oll sydd Dduw." Er hwyred ydoedd pan y gorphenwyd y seiat, nid aeth Howell Harris i'w wely, eithr arosodd i lawr trwy gydol y nos, yn anerch ac yn rhybuddio y cynghorwyr. Tranoeth, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yma. Nid yw yn ymddangos fod yr un o'r offeiriaid yn bresenol, ond daeth lliaws o'r cynghorwyr yn nghyd; dechreuent hwy edrych ar Harris fel eu cadben. Athrawiaethodd yntau ar y dirgelwch, gan ddangos fel yr oedd ei enaid mewn undeb ag enaid Crist, a'i gorph â chorph Crist am dragywyddoldeb,
Eglurodd yn nesaf y modd yr oedd rhaniadau yn dyfod i'w mysg, sef trwy fod rhai yn rhoddi arbenigrwydd ar un gwirionedd, megys cyfiawnhad, gan alw y rhai sydd yn pwysleisio ar sancteiddhad yn rhai deddfol; tra yr oedd eraill yn rhoddi arbenigrwydd ar sancteiddhad, ac yn galw y rhai a bwysleisient ar gyfiawnhad yn Antinomiaid. Ymdriniwyd yno ag athrawiaeth y Drindod, ac am undod y Duwdod. Cronicla ei fod mor lluddedig gan feithder ei daith, a'r nifer o weithiau yr oedd wedi pregethu, fel nas gallasai fwyta. Ymadawodd o gwmpas pedwar dydd Llun, a chafodd gerydd am rywbeth gan ryw gyfaill anwyl, yr hyn oedd yn dra dolurus i gnawd, ac hyd yn nod i ras.
St. Harmon, ar derfyn Sir Faesyfed, yw y lle y mae yn ymweled ag ef yn nesaf; gwedi hyny y mae yn nhŷ un Hugh Edwards. Yma cafodd ei gymeryd i fynu yn anarferol gan ogoniant corph yr Arglwydd Iesu, a rhed yr ymadrodd, "Bwyta ei gorph, ac yfed ei waed," yn barhaus trwy ei feddwl. Gwedi hyny cawn ef yn cyfeirio ei gamrau tua thŷ William Evans, Nantmel. Ar y ffordd, fel yr oedd dylanwad personol Daniel Rowland yn gwanhau ar ei deimlad, ymddengys fod yr hen gweryl yn cael lle mwy yn ei feddwl. "Gwelais yn glir," meddai, "fel yr oedd Duw wedi fy nghadw yn y canol rhwng pob cyfeiliornadau, ac fel y darfu i'r brawd Rowland, trwy fy ngwrthwynebu, leddfu fy ngwroldeb, a a gwanhau fy mreichiau. Gwelais fod gogoniant Duw wedi cilio allan o'i galon, a hunan wedi cripio i fewn. Gwelais y cyfodai Duw fi i fynu, ac y safai o'm plaid." Y mae yn syn darllen fod y fath deimladau annheilwng yn cael lle yn ei feddwl am ei gyfaill, yr un y dawnsiai mewn gorfoledd ychydig ddyddiau cyn hyny, oblegyd cael heddwch ag ef. Nid yw yr ymdoriad hwn yn un clod i ben na chalon Howell Harris. Ond nid croniclo hanes dynion perffaith yr ydym. Yr oedd yn bur ddolurus ei galon wrth fyned i dy William Evans; ymddengys fod yr hen gynghorwr o Nantmel yn un o bleidwyr Daniel Rowland yn Nhrefecca. Ond cafodd undeb yspryd a'r brawd, ac ymadawsant wedi deall eu gilydd yn well. Yn nesaf, aeth i dŷ y brawd Buffton, lle y pregethodd ar waed Crist, gan, ar yr un pryd, anog y brodyr i gyd-ddwyn a'u gilydd. Yr oedd James Beaumont wedi pregethu yn flaenorol ar ddirgelwch Duw. Eisteddasant yn nghyd yn breifat hyd yr hwyr, gan agor eu calonau i'w gilydd, a symud rhagfarnau. Yr oedd Beaumont yn myned gryn lawer yn mhellach na Harris yn ei ymadroddion; ac amddiffyn Beaumont oedd un o'r cyhuddiadau a roddid yn erbyn Harris. Buy Diwygiwr yma ar ei oreu yn ceisio cymedroli rhai o syniadau Beaumont, yn arbenig ei esboniad ar yr ymadrodd, "Bwyta corph ac yfed gwaed" ein Harglwydd. Dywedai wrtho, hyd yn nod os oedd y gwirionedd ganddo, nad oedd yr amser i'w gyhoeddi wedi dyfod eto. Yna, aeth trwy Dolyberthog, Llansantffraid, Ty'ncwm, a Dolywilod, dychwelodd i Drefecca, ar ol taith o yn agos i dair wythnos. Y mae un nodiad am ei helynt yn Llansantffraid yn haeddu ei gofnodi. "Cefais lawer o ryddid," meddai, "i siarad ag offeiriad y plwyf, Mr. Williams. Ceisiais hefyd ei dyneru at y brawd Beaumont, yr hwn oedd wedi ei dramgwyddo, fel y mae wedi tramgwyddo llawer o rai eraill." Profa y difyniad fod athrawiaeth Beaumont yn dyfod yn gyffredinol anghymeradwy, a da fuasai i Harris beidio gwneyd cymaint cyfaill o hono.
Tranoeth i'w ddychweliad, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca; nid oedd un o'r offeiriaid ynddi, a Howell Harris a lywyddai. Llefarodd yn helaeth am waed Crist, a rhoddodd gyfarwyddiadau i'r cynghorwyr pa fodd i ymddwyn, gan ei fod ef ar fyned i Lundain. Bu priodas y cynghorwr Thomas Jones hefyd dan sylw, a'r hyn y cytunwyd. Derbyniodd Howell Harris Grynwr i'w dŷ, yn Nhrefecca, i letya, fel y gallai fwynhau breintiau y lle. Ai nid dyma flaenffrwyth "teulu" Trefecca? Trefecca? Dywed iddo hefyd gael ei gyfarwyddo gan yr Arglwydd i anfon ei geffyl i'r cynghorwr Thomas James. Tua chanol Awst, y mae yn cychwyn am Lundain, ac ar ei ffordd yno yn tramwyo rhanau helaeth o Siroedd Morganwg a Mynwy, gan bresenoli ei hun yn y Gymdeithasfa Fisol yn y Groeswen. Nid oedd yr un o'r offeiriaid yno; felly, efe a lywyddai. Nid yw yn ymddangos ei bod yn Gymdeithasfa hollol hapus. Yr oedd cryn wrthwynebiad yn Watford a'r Groeswen i arddull ei weinidogaeth; yn wir, oddiyma y cychwynasai y gwrthwynebiad. "Aethum i fysg y brodyr, sef y pregethwyr," meddai; "dywedais wrthynt nad oeddwn yn eu clywed yn cwyno digon am eu hanwybodaeth o Dduw a Christ, a'u tuedd at Antinomiaeth; a'm bod yn ofni am danynt nad oeddynt yn argyhoeddedig o'u hanwybodaeth, neu ynte, eu bod yn rhy hunanol i'w addef. Cyfaddefent ychydig o hyn, ond yr oeddynt yn dramgwyddedig am nad oeddwn yn gwahaniaethu yn ddigon clir (yn fy ngweinidogaeth). Yna, agorais iddynt y geiriau, Bwyta cnawd Mab y Dyn,' fel y gwnaethum yn Aberthyn. Čeisiais hefyd symud ymaith eu maen tramgwydd. Ceryddais eu balchder, ond ni dderbyniwyd ef. Agorais fy nghalon iddynt, fel yr egyr tad ei galon i'w blant, fy mod yn credu yn y Drindod, ond fod fy ffydd yn rhy wan i ymborthi ar yr athrawiaeth, nac i'w phregethu; ond fy mod yn cael fy ngalw i bregethu undeb person Crist, ac mai dyma fy ymborth. Perswadiais hwy nad oeddwn am ymuno a'r Morafiaid. Yna, aethum ymaith tua Watford a'm calon yn drom." Ar y ffordd yno, teimlai bwysigrwydd y lle a lanwai; ei fod wedi cael ei osod yn mysg y tadau yn nhŷ Dduw, ochr yn ochr a'r offeiriaid ordeiniedig.
Gellid meddwl fod y Gymdeithasfa yn cael ei chynal yn rhanol yn Watford, yn gystal a'r Groeswen. A boreu tranoeth, cyfarfyddodd Harris a'r cynghorwyr drachefn yn Watford, gan eu hanerch gyda golwg ar ei berthynas ef â hwy. "Dangosais i'r brodyr ieuainc eu lle," meddai, "a'm lle inau; a'r modd yr oeddwn yn teimlo fod yr Yspryd Glân wedi fy ngosod fel tad dros y cynghorwyr; mai fy nghynorthwywyr i ydynt; ond nad oeddynt yn caniatau i mi awdurdod tad i'w ceryddu; ond fy mod yn cael fy nghateceisio ganddynt, a'm dwylaw yn cael eu gwanhau, a'm gweinidogaeth ei rhwystro, ac yr ymddangosent i mi fel wedi ymgolli mewn balchder. Dywedais fy mod yn argyhoeddedig ddarfod i mi fyned yn rhy bell wrth geisio eu boddloni, ac egluro fy hun, a darostwng fy hun iddynt. Ceryddais hwynt am eu balchder, a'u diffyg gofal am ogoniant Duw. Toddodd un o honynt wrth fy mod yn gweddïo; dywedodd un arall fy mod yn dwyn cyfeiliornadau i'r eglwys. Gofynais gan Dduw faddeu iddo, ac aethum i ffwrdd." Na, nid oedd yn Gymdeithasfa hapus. Ceir awgrymiadau fod Howell Harris yn trin y cynghorwyr gyda llaw uchel, a'i fod yn dysgwyl ymostyngiad personol a gwarogaeth iddo ef oddiwrthynt; a'i fod yn ystyried ei hunan yn ben arnynt, rhagor Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall.
Bu yn Llundain am ddau fis. A'i helynt yno nid oes a fynom, gan nad yw yn dal cysylltiad uniongyrchol à Methodistiaeth Cymru. Daeth yn ei ol tua diwedd mis Medi. Dranoeth i'w ddych. weliad pregethai yn Nhrefecca, ac achwyna ddarfod i'w frawd--ni ddywed pa un ai Joseph ai Thomas-wrthod dyfod i'w wrando, er ei fod yn aros gydag ef ar y pryd. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol i gael ei chynal yn Castellnedd, ac aeth Harris tuag yno. Yn y Glyn, ar ei ffordd tua'r Gymdeithasfa, clywodd ei fod; mewn ystyr, wedi cael ei fwrw i ffwrdd gan y brodyr, a'i fod yn cael ei bortreadu mewn lliwiau duon. Gwnaeth hyn ei yspryd yn chwerw ynddo. Yn Gelly-dorch-leithe, clywodd bregeth ryfedd gan Morgan John Lewis, ar fab yr addewid, y ryfeddaf a glywsai yn ei oes. Diolchai Harris am fod y fath oleuni yn eu mysg, ac nas gallai lai na'i anrhydeddu. Eithr yr oedd gweled fod y brodyr wedi cydymuno yn ei erbyn ef (Harris) yn pwyso yn drwm ar ei feddwl; a gofynai i'r Arglwydd ai cerydd arno am ryw bechod ydoedd hyn, ynte, ai anrhydedd a osodid arno, ac y troai eto i fod yn berl yn ei goron?
Cyfarfyddodd y Gymdeithasfa o gwmpas saith nos Fercher, a bu yn gyfarfod tra chyffrous. Caiff Howell Harris adrodd ei hanes. "Dywedais wrth y brodyr," meddai, "eu bod yn anwyl genyf fi, y gallwn olchi eu traed; a'm bod yn fodd lawn bod heb ddoniau, na llwyddiant, na gallu, er mwyn iddynt hwy gael y cwbl. Yma yr oeddwn yn ddrylliog, a thorais allan i wylo. Cyn hyn, yr oeddwn yn fy yspryd fy hun, am fy mod wedi cael fy nhemtio. Yr oeddwn wedi clywed iddynt gynal Cymdeithasfa, ryw bythefnos yn flaenorol, ac yn hono iddynt drefnu fod y brawd Rowland i gymeryd fy lle, gan roddi hawl iddo i benderfynu pwy oedd i gael ei ddanfon i bregethu, ac i ba le. Am danaf fi, trefnent fy mod i fyned i Sir Gaerfyrddin, ac na chawn fyned i Forganwg, am nad oedd derbyniad i mi yno, ac y tybiai y cymdeithasau fy mod yn pregethu cyfeiliornadau. Yna, mi a eglurais fy syniadau am berson Crist, gan ddangos nad oeddwn yn gwahaniaethu oddiwrthynt hwy, ond fod y gelyn wedi dyfod i'n mysg. Agorais yr holl fater am fy mhenodiad ar y cyntaf, y modd yr oeddynt hwy, mewn undeb â Mr. Whitefield, wedi fy newis, ond yn awr fy mod yn cael fy nhroi allan, ac nas gwn am beth, ond yn sicr fod rhyw bechod yn cael ei ffeindio ynof. Eglurais fy mod yn cael fy ngalw yn ddyn deddfol yn Lloegr, am fy mod yn pregethu yn erbyn yr Antinomiaid, a'r Morafiaid, a darfod i mi droi Mr. Cudworth allan; tra yn Nghymru, y gelwir fi yn Antinomiad, ac yn Forafiad. Pan y dywedent hwy fy mod gynt, os codai rhyw anghydwelediad rhyngof a'r brawd Rowland, yn crio, yn syrthio ar ei wddf, ac yn derbyn ei air, ond yn awr fy mod yn fwy anystwyth, dywedais nad oeddwn yn gwybod i mi ei geryddu am ddim, oddigerth ysgafnder, a'm bod yn gwybod mai myfi oedd y gwaethaf o honynt oll, ond fy mod yn cael fy nyrchafu trwy edifeirwch; ac nad oeddwn yn gwybod fy mod yn ystyfnig gyda golwg ar ddim, oddigerth eu bod am geisio fy yspeilio o'r gwirionedd yma, sef fod y Dyn hwn yn Dduw. Os oeddynt am geisio hyny, y caent fi yn ystyfnig, ond fy mod yn gobeithio nad oeddynt. Efallai ddarfod i mi yn flaenorol fyned yn rhy bell mewn darostwng fy hun (i Rowland); os do, ei bechod ef a chwithau yw eich bod yn duo fy nghymeriad, yn gwanhau fy nwylaw, ac yn pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth, gan fy ngalw yn Antinomiad. Dangosais fel yr oeddwn i yn cyduno â phob gair a bregethent hwy, ond eu bod hwy, heb gael un achos o'r cychwyn, yn troi yn fy erbyn i. Am fy lle, nas gallaf ei roddi i fynu; fod yr Arglwydd wedi gosod o fy mlaen ddrws agored, yr hwn nis dichon neb ei gau; na feiddiwn ei roddi i fynu, am mai Duw a'm gosododd ynddo; a chan mai yr Arglwydd a'm gosododd ynddo, bydded iddynt hwy edrych ati am geisio fy nhroi ymaith. Yr wyf yn gweled yn wyf yn gweled yn awr i Satan gael caniatad i ddallu llygaid, ac i frashau calon y brodyr, gan osod y naill yn erbyn y llall. O'r fath ystorm ydyw ! Agorais drachefn am ddirgelwch Crist, a'i ddyoddefiadau; nad ydym yn gwybod pa fodd i lefaru am danynt. Pan y cyhuddent fi o addoli y gwaed, dywedais nad oeddwn yn gwahanu gwaed Crist oddiwrth ei berson, ond yn edrych arno fel rhan o hono; nas gallaf weled un rhan o hono heb weled yr oll o hono, a bod perffeithiau y naill natur yn aml yn cael eu priodoli i'r llal!. Ddarfod i Dduw farw am i'r Dyn oedd yn Dduw farw. Yna, datgenais yn erbyn John Belsher, ei fod yn ymddangos i mi yn ymchwyddo, ac nas gallwn gydweithio ag ef. Enwais leoedd yn mha rai y cyhuddent fi o Antinomiaeth; cyfeiriais at y modd yr oeddynt wedi cadw Cymdeithasfaoedd yn fy absenoldeb, a'r modd y meddyliwn eu bod wedi pechu yn fy erbyn, er mai fi oedd tad y nifer fwyaf o honynt.
"O gwmpas deg aeth y brodyr i swpera, minau a aethum i ysgrifenu fy nydd-lyfr, pawb yn llawn o honom ein hunain, ac heb ond ychydig o'r Arglwydd yn ein mysg. Yr oedd ganddynt hwy gynygiad i'w osod gerbron y frawdoliaeth parthed gosod y brawd Rowland yn fy lle, i dderbyn ac i fwrw allan y cynghorwyr, ac i drefnu i bob un ei gylchdaith. Datgenais fy mod yn rhydd i roddi fy lle i fynu fel arolygwr cyffredinol, ond nas gallwn osod fy hun dan ei awdurdod ef (Rowland), i gael fy anfon yma a thraw, fel y gwelai efe yn dda. Yr oeddwn wedi derbyn hawl oddiwrth yr Arglwydd i fyned i'r lleoedd at dybiwn yn briodol, ac nas gallwn roddi hyn i fynu heb bechu yn erbyn Duw. Meddyliwn na ddeuai pethau i'w lle hyd nes yr ymddarostyngent gerbron yr Arglwydd am eu pechod yn fy erbyn, ac yn erbyn fy ngweinidogaeth.
"CASTELLNEDD, dydd Iau. Y Gymdeithasfa yn parhau. Neithiwr, cefais ryddid i fyned at yr Arglwydd, ac i bledio ar ran y brodyr, gan lefain: O Arglwydd, ti a wyddost ddarfod i ti fy narostwng gerbron y brawd Rowland, gan wneyd i mi lafurio am heddwch ac undeb; ti a wyddost hefyd eu bod wedi pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth, gan wanhau fy nwylaw. Bydded i ti faddeu iddynt.' Yn y Gymdeithasfa, cyhuddid fi o ohebu a'r Morafiaid; dywedais nad oedd un ohebiaeth rhyngom, ond fy mod yn awyddus. am hyny, gan yr anrhydeddwn hwynt yn fawr, oblegyd eu bod yn adnabod Iesu Grist. Mr. Powell (yr offeiriad) a geryddodd y cynghorwyr a'm gwrthwynebent; brawd arall a siaradodd i'r byw, fod eu geiriau yn fy erbyn i yn ei wanu ef; ac un arall drachefn a ddywedodd mai myfi oedd tad ysprydol y nifer amlaf o honynt, os nad eu tad oll. . . . Dywedais, drachefn, fy mod yn barod i roddi fy lle i fynu i'r brawd Rowland, ond nas gallwn, heb bechu yn erbyn yr Arglwydd, roddi iddo. awdurdod ar fy ngweinidogaeth, i'm trefnu i ba leoedd i fyned, a pha beth i bregethu. Yna, gwedi i mi ddatgan fy mod yn edrych arnaf fy hun fel wedi cael fy symud o fy lle hyd nes yr ail-benodid fi, y brawd Morgan Jones a safodd i fynu, ac a ddywedodd, mi a feddyliwn yn yr Arglwydd, ei fod, gerbron Duw a dynion, yn fy newis i fod yn olygwr drosto yn yr Arglwydd, gan ddarfod i'r Arglwydd fy nghymhwyso tuag at y cyfryw le tuhwnt i neb. Yr oedd y brawd Powell wedi dweyd felly o'r blaen. Dywedai amryw yr un peth yn awr. Gwelais fod yr Arglwydd yn fy ail-sefydlu yn fy lle. Dangosais, gyda golwg ar y brawd John Belsher, ei fod wedi ceisio gwneyd rhwyg, trwy gamddarlunio pethau i'r brawd Rowland, a'i fod wedi ymchwyddo i'r fath raddau, fel nas gallwn gydweithio ag ef, nes iddo ymddarostwng. Am y brawd Benjamin Thomas, yr oedd ef wedi condemnio fy athrawiaeth, ac wedi llefaru yn fy erbyn; dygaswn ei faich er ys amser, gan ddysgwyl i'r Arglwydd ei argyhoeddi, nas gallwn lafurio gydag yntau heb iddo. gael ei ddarostwng. Achosodd hyn gyffro adnewyddol. Eithr glynais wrth fy mhenderfyniad, am ei fod ar fy nghydwybod. Yna, darllenwyd yr adroddiadau, aethum i weddi, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais ryddid i gynghori y brodyr; boddlonais hwy gyda golwg ar bob peth. Y mae yn rhyfedd fel yr oeddynt wedi derbyn camachwyn am danaf. Clywsent fy mod am uno a'r Morafiaid; fy mod yn duo eu cymeriadau wrth bregethu, a bod genyf ryw ddull newydd o bregethu; ond cawsant gymhorth i fy nghredu yn awr. Anerchais hwynt, gan ddangos fod y prawf hwn wedi dyfod arnom am nad oeddym yn treulio digon o amser mewn hunanymholiad, a dywedais nad oeddwn yn clywed digon o swn edifeirwch yn eu gweddïau. Gwedi terfynu, syrthiasant ar fy ngwddf; a'r brodyr tramgwyddus a ddaethant ataf, gan ofyn i mi faddeu iddynt, yr hyn a wnaethum yn hawdd. Dywedais nas gallwn wrthsefyll dynion ymostyngar a drylliog. Yna, ni oll a ollyngwyd yn rhydd; mwynasom lawenydd cyffredinol, a syrthiodd ein beichiau i ffwrdd. Cefais ryddid i addaw cyfarfod yma yn mhen. pythefnos a'r brawd Rowland."
Ysgrifenodd Howell Harris y nodiadau hyn yn ei ddydd-lyfr yn nghanol cyffro yr helynt, pan yr oedd ei yspryd yn ferw o'i fewn; ac i ba raddau y darfu i'w deimladau daflu eu lliw ar yr hyn a ddywed, sydd anhawdd ei benderfynu. Yn anffodus, ei ymadroddion ei hun, yn mron yn gyfangwbl, a gronicla; prin y dengys â pha eiriau ei hatebwyd. Gallwn dybio ddarfod iddo gael ei gynhyrfu yn enbyd ar y ffordd i'r Gymdeithasfa gan y chwedlau a glywodd; iddo, wedi cyrhaedd y cyfarfod, ymosod yn uniongyrchol ar y brodyr cynulledig, gan eu cyhuddo o geisio ei ddisodli yn ei absenoldeb, o bechu yn erbyn ei weinidogaeth, a phardduo ei gymeriad; iddo ddatgan na wnai ymostwng i gymeryd ei lywodraethu gan Daniel Rowland, a'i anfon o le i le i bregethu fel ei trefnid; ac na chymerai ychwaith ei gyfarwyddo gyda golwg ar gynwys ei weinidogaeth gan neb. Yr oedd yn ddyn o deimladau cryfion, a rhaid fod ei ruad ar lawr y Gymdeithasfa yn dra brawychus i'r frawdoliaeth. Yn ol pob tebyg, prin y caent wneyd unrhyw hunan-amddiffyniad ganddo; ac yn sicr, ni chaent gyfeirio at unrhyw fai a welent ynddo, er ei fod ef yn dynoethi eu beiau. hwy yn gwbl ddibetrus. O'r diwedd, llwyddwyd i'w dawelu, wrth fod nifer o'r cynghorwyr yn datgan o'r newydd eu hymddiried ynddo; ac, yn ol pob tebyg, wrth fod Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall, yn ei sicrhau nad oedd y chwedlau a gawsant eu cludo iddo yn wirionedd. Ar yr un pryd, nid annhebyg fod rhyw gymaint o sail i'r ystorïau yma. Gan fod nifer o gynghorwyr Sir Forganwg yn dra gwrthwynebol i syniadau athrawiaethol Harris, a bod yr odfaeon a gynhaliai yno yn aml yn gorphen mewn dadleuon brwd, a theimlad chwerw, nid annaturiol tybio ddarfod i'r Gymdeithasfa farnu mai gwell, dan yr amgylchiadau, fyddai iddo beidio ymweled à Morganwg can amled ag yr arferai, a gwneyd Sir Gaerfyrddin yn fwy o faes ei lafur. Ceir arwyddion annghamsyniol fod eiddigedd wedi dyfod i mewn rhwng Harris a Rowland erbyn hyn; yr oedd y ddau yn ddynion o dymherau cryfion, a'r naill fel y llall, efallai, yn hoffi llywodraeth, ac y mae yn fwy na thebyg fod eu canlynwyr yn chwythu'r tân o'r ddau tu. Nid yw papyrau Rowland, yn anffodus, ar gael; felly, nis gallwn roddi yr hanes fel. yr edrychai ef arno. Ond naturiol ddigon. tybio fod dylanwad mawr Harris ar y cynghorwyr, yn nghyd a'r dyrchafiad a gawsai i fod yn brif olygwr y seiadau Saesnig, wedi cynyrchu rhyw gymaint of eiddigedd yn mynwes y Diwygiwr hyawdl o Langeitho, yn arbenig gan ei fod yn ymwybodol y meddai ar ddoniau gweinidogaethol rhagorach na'i gyfaill. ochr arall, credwn y ceir arwyddion annghamsyniol, hyd yn nod yn ei adroddiad ei hun o Gymdeithasfa Castellnedd, fod Howell Harris yn hawlio arglwyddiaeth ac uchafiaeth yn mysg y Methodistiaidiaid. Cyhudda y brodyr o gynal Cymdeithasfa pan yr oedd ef yn absenol, fel pe byddai ei bresenoldeb yn angenrheidrwydd anhebgor mewn cynulliad o'r fath. Cyfeiria at ei "le" fel arolygwr cyffredinol, fel pe byddai uwchlaw eiddo Rowland, a Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, tra yn y blynyddoedd cyntaf y daliai ei hun mewn darostyngiad iddynt, am eu bod hwy yn offeiriaid urddedig, tra nad oedd ef ond lleygwr. Ymddengys ei fod yn tybio, pan y datganai na wnai gydweithio â gwahanol frodyr, y gallai ysgwyd ymaith o'r frawdoliaeth y neb a ewyllysiai, hyd yn nod Rowland ei hun. Cryfheid ef yn yr ysprydiaeth hon, am y tybiai ei fod mewn cymundeb uniongyrchol a'r nefoedd, ac felly yn rhwym o fod yn iawn mewn pob dim, a'r rhai a'i gwrthwynebant yn gyfeiliornus. Ni wnai ymresymu gyda golwg ar ei syniadau duwinyddol; edrychai arnynt fel datguddiad a gawsai oddiwrth yr Arglwydd. Yn y cnawd yr oedd pawb a feiddiai olygu yn wahanol iddo. Tybiai, yn mhellach, ei fod yn cael llais yr Arglwydd gyda golwg ar luniad ei deithiau, trefniad amgylchiadau ei dŷ, ac amgylchiadau y seiadau, yn nghyd a'r moddion y dylid eu harfer i gario gwaith y diwygiad yn mlaen. O ganlyniad, nid oedd arno eisiau ymgynghori â neb am ddim; credai y dylai pawb ymostwng i'w drefniadau, am eu bod yn ddwyfol. Ond teg dweyd fod ei gydwybodolrwydd yn yr ol yn ddiamheuol; ei fod i raddau mawr yn anhunangar; os yr awyddai am y brif gadair, y gwnai hyny nid er mwyn porthiant i'w wagedd, ond er mantais i gario yn mlaen waith yr Arglwydd yn fwy effeithiol; a'i fod mewn yni, ac ymdrech, a pharodrwydd i dreulio ei hun allan yn ngwaith yr Iesu, yn rhagori ar ei frodyr oll.
Dychwelodd Howell Harris o'r Gymdeithasfa trwy Lansamlet a Blaenllywel, gan bregethu mewn amryw leoedd ar y ffordd. Ceir ei brofiad yn y difyniad canlynol allan o'i ddydd-lyfr: "O Arglwydd," meddai, "bydded i'r brodyr gael eu darostwng ger dy fron di. O anwyl Dad, nis gallaf foddloni rhoddi i fynu y goron a gyflwynaist i mi yn y gwaith hwn. Ond yr wyf yn dwyn y brodyr atat ti; pâr iddynt adnabod eu lle, ac i blygu i'th Yspryd." Wedi bod gartref yn Nhrefecca o gwmpas pythefnos, cawn ef yn cychwyn tua Watford, i'r Gymdeithasfa, er ymgynghoriad pellach à Daniel Rowland. Yn Gelligaer, ar y ffordd yno, ysgrifena: "Yr oeddwn yn caru y brawd Rowland; teimlwn nas gallwn ymadael ag ef, er ei fod ef yn foddlon ymadael â mi; ond am frawd arall-Benjamin Thomas—y mae yn gorwedd yn bwysau arnaf, a gweddïais ar i'r Arglwydd ei ddarostwng." Cyrhaeddodd y Gymdeithasfa yn y prydnhawn. Ar y cyntaf, yr oedd pawb yn dra dystaw, fel pe byddent arnynt ofn eu gilydd; yna, dechreuodd Harris agor ei fynwes, gan ddatgan fod y brodyr wedi pechu yn ei erbyn, trwy goleddu drwgdybiau am dano, ac eiddigedd at yr athrawiaethau a bregethai, a'i wresawgrwydd wrth draddodi. Cyfaddefodd Rowland ei fod ar fai wrth ddarllen gormod ar lythyrau yn achwyn arno, ac y teimlai yn hollol rydd at Harris a'i weinidogaeth, ond iddo wadu pwyntiau neillduol y Morafiaid. Atebodd yntau na fu yn eu coledd erioed; ei fod wedi pregethu yn eu herbyn yn Llundain, ac yn erbyn yr Antinomiaid wrth eu henwau. Yna, agorasant eu calonau i'w gilydd, a chawsant eu bod yn cydweled yn hollol. Yn ganlynol, pregethodd Daniel Rowland, a chafodd odfa nerthol. Teimlai Harris fod yr athrawiaeth wrth ei fodd. "Cefais heddwch yn fy enaid," meddai; "gwelais fod y brawd Rowland wedi cael un ddawn, a minau ddawn arall." Gellir meddwl mai yn y Groeswen y cynhelid y cyfarfod, gan y sonir am danynt yn myned yn nghyd i Watford wedi i'r odfa orphen. Cydgerddai Harris gyda Morgan John Lewis; yr oedd y gymdeithas rhyngddynt yn dra melus; a dywedai ei holl feddwl wrtho. Buont i lawr yn rhydd-ymddiddan hyd bump o'r gloch y boreu. "Yr ydym yn deall ein gilydd," meddai Harris, "ein hundeb diweddaf yw yr egluraf a'r goreu ydym wedi gael." Boreu dranoeth, agorodd Howell Harris ei feddwl drachefn, gan ddangos y modd yr oeddynt oll wedi syrthio i bechod; fel yr oedd yn cashau Antinomiaeth, a'i fod yn un a'i frodyr yn ei olygiadau. Cyfeiriai at yr hyn y beuid ef o'i herwydd, sef ei fod yn llefaru yn barchus am y Morafiaid, a dywedai y rhaid fod hyny yn codi o'i ras, oblegyd ei fod yn wrthwynebol iddynt ar lawer pwynt. Yna, ymadawodd am Rhywderyn, lle y pregethodd am ogoniant Crist. Yn St. Bride, ei destun ydoedd: "Ac efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Cyrhaeddodd dŷ un Robert Evans, yn agos i Gaerlleon-ar-Wysg, nos Sadwrn, a phregethodd gyda gwresawgrwydd a nerth oddiar y geiriau: "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol." Dengys ei fyfyrdodau boreu y Sul canlynol nad oedd wedi llwyr wella oddiwrth y teimlad a gawsai. "Yr wyf yn gweled,' meddai, "fod ein profedigaeth ddiweddar wedi arwain pob un i adnabod ei le yn well, ac i astudio mwy ar ffurf-lywodraeth eglwysig. Yr wyf yn gweled mai fy lle i yw bod yn rhydd, i edrych ar ol y seiadau a gesglais yn nghyd, oni fydd iddynt fy ngwrthod. Gwelaf fod llawer o'r brodyr yn fy nirmygu, ac yn ddolurus o herwydd fy ngwendidau; ond yr wyf yn cael nerth i gyflwyno yr oll i'r Arglwydd, ac i ofyn iddo ar iddo fy nghadw yn fy lle." Yn nesaf, yr ydym yn ei gael yn teithio trwy Lanfaches a'r New Inn. Yn y lle diweddaf, mewn seiat breifat, cymerodd fantais. i ddangos y gwahaniaeth rhwng yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid. "Yr ydym ni," meddai, (1) yn pregethu yn benaf i'r galon a'r yspryd, ac yr ydym yn eu cyrhaedd, gan glwyfo y cnawd, a'i wneyd yn ddolurus. Pwysleisiwn am gael ffydd yn y galon, yn hytrach na goleu yn y pen. mae eu goleuni hwythau (yr Ymneillduwyr) yn dyfod o'r pen, yn gwneyd yr enaid yn esmwyth, ac nid yw yn cryfhau ffydd. (2) Yr ydym ni yn cyffroi yr enaid i'w ddyfnder, gan gario yr argyhoeddiad i'r gwaelodion, gan roddi gwybodaeth helaethach trwy yr Yspryd o Grist; y maent hwythau yn gadael yr enaid yn dawel a digyffro. (3) Nid ydynt yn chwilio y galon, ac yn dangos eu ffydd mewn ymarferiad, fel y mae ganddynt mewn athrawiaeth. (4) Nid ydynt yn rhydd o duedd i dynu eneidiau atynt (oddiwrth y Methodistiaid). Dywedodd un fod y seiadau yn honi hawl i ofyn i'r sawl a fynent ddod i bregethu i'w mysg. Atebais inau fy mod yn erbyn eu gorfodi i dderbyn unrhyw un yn groes i'w hewyllys; ond os oeddynt yn edrych arnaf fel un a fu yn offeryn i'w casglu yn nghyd ar y cyntaf, ac os oeddynt wedi syrthio i mewn a'r drefn a sefydlwyd gan Mr. Whitefield, mewn cydymgynghoriad a'r brodyr, y rhaid i mi fel tad wylio drostynt, ac y rhaid i mi hefyd wybod, a rhoddi fy nghydsyniad parthed pwy fydd yn cydlafurio â mi. Gyda golwg ar y cynghorwyr hefyd, fy mod am wylio trostynt, eu galw yn nghyd i'w cynghori a'u cadarnhau, eu ceryddu, ac hefyd am eu cael i bregethu ar brawf." Gwelir na wnai ganiatau penrhyddid i'r seiadau.
Dranoeth, yn y Goetre, drachefn, y mae ffurf briodol ar lywodraeth eglwysig y Methodistiaid yn Nghymru, a'i le ei hun yn eu mysg, yn dyfod yn destun ei fyfyrdod. Fel hyn yr ysgrifena: "Y mae arnaf eisiau gwybod natur a helaethrwydd y lle yn mha un y cefais fy ngosod gan yr Arglwydd, fel na phechwyf rhagllaw, trwy ofn fy hun, na'r gwrthwyneb, ond ei lanw fel y dymunai y Gwaredwr i mi, er adeiladaeth i'r wyn. Gwelaf ein bod yn cael ein harwain i fod i raddau yn gyffelyb i Esgobiaeth a Henaduriaeth, gyda y brawd Whitefield fel archesgob; myfi, er fy mod heb ordeiniad, fel y bu Paul am beth amser, wedi cael fy addysgu i fod yn arolygwr cyffredinol dros y gweithwyr a'r praidd; a'r offeiriaid ordeiniedig fel efengylwyr, i bregethu yn mhob man. Ond y mae un peth yn aneglur i mi; efallai ei fod yn aros yn dywyll am na wyddom yn mha le y terfyna y symudiad; ac o bosibl y cawn ein himpio i mewn i'r Eglwys, ac y daw goleuni ar y mater fel y byddo amgylchiadau yn cyfnewid. Yr hyn sydd yn aneglur i mi yw, a ydyw yr offeiriaid a minau i fod yn unol yn ein gofal am y seiadau, ac yn y pregethu? neu ynte, a ydyw y gwaith preifat yn perthyn i mi yn briodol, a hwythau yn cynorthwyo? neu ynte, a ddylai adran o wlad gael ei rhoddi i bob un? neu ynte, drachefn, a ydym i fyned yn y blaen fel hyn hyd nes y gwthir ni allan, neu y cawn ein derbyn i mewn i'r Eglwys? Modd bynag, yr wyf yn teimlo gofal y seiadau y bum yn foddion i'w foddion i'w casglu yn nghyd, a'r rhai sydd wedi fy newis i fod yn olygwr arnynt, yn gwasgu arnaf yn y fath fodd fel nas gallaf eu rhoddi i fynu. Arglwydd, nid wyf yn gwybod dim; dangos i mi yr hyn sydd yn angenrheidiol dros yr amser presenol, fel na chyfeiliornaf ar y naill law na'r llall. Hyd yn hyn, y mae y gwaith yn Nghymru wedi bod trwyddo draw i bawb; ond amlwg fod eisiau dod i ryw ffurf; da fod y llywodraeth ar dy ysgwydd di, Arglwydd. Eisiau gwybod ewyllys fy Arglwydd sydd arnaf, fel na phechwyf. Gallwn feddwl ein bod yn cael ein harwain i ryw fath o ddysgyblaeth. Arglwydd, dos di o'n blaen. Gallwn feddwl mai gwaith yr offeiriaid. fyddai myned o gwmpas i bregethu, ac i weinyddu y sacramentau, bod yn bresenol yn y Cymdeithasfaoedd, a gweini y cymundeb ynddynt; fy ngwaith inau, myned i'r Cymdeithasfaoedd, a siarad yno, pregethu pan fedraf, ymweled a'r holl seiadau. preifat ac a'r Cymdeithasfaoedd Misol hyd byth ag y medraf, yn Nghymru ac yn Lloegr, er fod gofal Llundain wedi ei osod arnaf hefyd. Beth hefyd (a berthyn i mi) nis gwn eto. Gyda golwg ar berthynas y naill o honom a'r llall, Arglwydd, arwain a goleua fi." Gwelir fod cynllun o ffurflywodraeth eglwysig yn dechreu cael ei ffurfio yn meddwl Howell Harris. Yn y cynllun hwn, ymddengys yn bur glir ei fod am gau yr offeiriaid allan o bob llywodraeth uniongyrchol ar y seiadau a'r cynghorwyr; yr ystyriai hyny yn hawlfraint yn perthyn iddo ei hun; a'i fod am eu cyfyngu hwy, o leiaf yn benaf, i weinidogaeth y Gair, a gweinyddiad o'r sacramentau. Y Goetre oedd y lle diweddaf y bu ynddo ar y daith hon cyn dychwelyd adref.
Y peth cyntaf a glywodd wedi cyrhaedd Trefecca oedd, fod Rowland yn parhau i'w gyhuddo o gyfeiliorni oddiwrth y wir athrawiaeth. Un o'r cynghorwyr a gludodd y chwedl iddo. Nid annhebyg ei fod yn rhy barod i dderbyn chwedlau disail. Penderfynodd oddef, modd bynag, fel na chymerai ymraniad le. Ar y dydd cyntaf o Dachwedd, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, eithr nid oedd un o'r offeiriaid yno. Cafwyd anerchiad gan y brawd Beaumont, yn mha un y datganai nad oedd y ddeddf i gael ei phregethu fel moddion i argyhoeddi a deffro pechadur, mai yr hyn a ddylid bregethu oedd ffydd; nad oedd y ddeddf yn rheol bywyd i gredinwyr; a gwadai hefyd dragywyddol genhedliad Crist. Ymddengys fod Beaumont erbyn hyn wedi myned yn Antinomiad rhonc. Buont i lawr am y rhan fwyaf o'r nos yn ceisio ymresymu ag ef, ond yn ofer. Gwedi iddo ef ymadael, bu Harris, a thua haner cant o gynghorwyr, ar lawr hyd y boreu yn gweddïo, yn canu, ac yn molianu, a theimlent fod yr Arglwydd yn wir yn eu mysg. Tua chanol Tachwedd, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Tyddyn, ac aeth Harris yno, gan bregethu mewn amryw leoedd yn Siroedd Brycheiniog a Maesyfed ar y ffordd. Yr oedd Williams, Pantycelyn, yn bresenol, a phregethodd gyda nerth mawr. Daethai dyn o'r Bala yno i ofyn cynghor, am fod y brawd Lewis Evan wedi cael ei fwrw i garchar Dolgellau. Cafodd gyfarwyddyd pa fodd i weithredu, a gwnaed casgliad o bedwar gini yn y man i'w gynorthwyo, er mai deg-ar-hugain oedd rhif y rhai oeddynt yn bresenol. Teimlent yn ddiolchgar am ei garchariad, oblegyd ei fod yn gyfleustra iddynt ddangos iddo ryw arwydd o'u serch. Dywedai Harris y rhaid iddynt oll wneyd ymdrech yn erbyn y diafol yn Ngogledd Cymru. Cyfeiriodd at ei safle ei hun; nad oedd yn ddyledus i unrhyw ddyn o fewn y byd, ond yn unig i'r Arglwydd; ei fod yn aml yn gwrthod arian fel cydnabyddiaeth am ei waith, oblegyd nad oedd yn rhydd i'w derbyn, oddigerth eu bod yn cael eu roddi mewn ffydd, gan ei theimlo yn anrhydedd i gael rhoddi i'r Arglwydd. Ymddiddanwyd hefyd a brawd a wrthodai athrawiaeth y gwaed. Dywedai Harris ei fod yn derbyn ac yn teimlo yr athrawiaeth; a'i bod i'w chael yn y Beibl, ac nid yn ffugrol, ond yn sylweddol ac ysprydol.
Yn ystod mis Rhagfyr, bu Howell Harris ar daith ddwy waith drwy ranau o Siroedd Morganwg a Chaerfyrddin. Y dydd. olaf o'r flwyddyn yr ydym yn ei gael yn Llanddowror, mewn ymgynghoriad a'r Parch. Griffith Jones. Llonwyd ef yn fawr wrth ddeall fod bwriad i osod i fynu ysgolion cateceisio yn mhob rhan o'r wlad, os byddai yr Archesgob, yn nghyd a'r esgobion a'r clerigwyr, yn foddlawn. Dywedai fod y Methodistiaid yn barod i gynorthwyo gyda hyn, ac i ymostwng i'r Esgob; eu bod yn benderfynol i beidio gadael Eglwys Loegr; a dangosai y graddau yr oedd cateceisio wedi cael ei ddwyn i mewn i'r seiadau preifat. Taer ddymunai ar Griffith Jones i ymuno â hwy, fel na fyddai dynion ystrywgar yn gallu eu rhanu, trwy gario chwedlau anwireddus am y naill i'r llall. Yr oedd y gymdeithas ag offeiriad duwiol Llanddowror yn falm i'w enaid.
Nodiadau
golygu