Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/William Williams, Pantycelyn

Howell Davies Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad

PENOD VII

——————:o:———————

WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN

Sylwadau arweiniol—Cofiant Mr. Charles iddo—Sefyllfa barchus ei rieni—Ymchwiliad i hanes ei ieuenctyd—Sefyllfa foesol a chrefyddol yr ardal y magwyd ef—Desgrifiad Ficer Pritchard ohoni—Eglwysi Ymneilldnol yr ardal—Eu dadleuon a'u hymrysonau—Desgrifiad tebygol o'r eglwysi hyn yn "Theomemphus"—Ei fymdiad i Athrofa Llwynllwyd—Ei droedigaeth ar ei ddychweliad adref, dan weinidogaeth Howell Harriis—Yn ymuno a'r Eglwys Wladol, ac yn ymadael a hi yn fuan—Ei apwyntiad yn gynorthwywr i Daniel Roitdand—Ei lafur fel efengylydd, a'i safle fel pregethwr—Ar gymhelliad ei frodyr yn dechreu cyfansoddi hymnau—Hymnau ei ieuenctyd—Yn cyhoeddi ei Aleluia"—Yn ymgymeryd a llafur llenyddol o bob math - Rhagoroldeb ei brif gyfansoddiadau barddonol—Ei "Olwg ar Deyrnas Crist " a'i "Theomemphus"—Poblogrwydd anarferol ei gyfansoddiadau—Barn llenorion Cymru am ei safle fel llenor, emynydd, a bardd.

WILLIAMS, o Bantycelyn, ydyw llenor cyntaf y Cyfundeb Methodistaidd yn Nghymru, ac hwyrach mai efe ydyw ei addurn penaf. Gwnaeth yn ei ddydd fwy er cyfoethogi llenyddiaeth ei wlad a'i genedl, na neb o'i gydoeswyr. Ac mewn un ganghen bwysig o lenyddiaeth, sef barddoniaeth gysegredig ac emynawl, cydnebydd pawb ei fod yn sefyll yn hollol ar ei ben ei hun. Y mae yn anhawdd synied am anrhydedd uwch ar ddyn, na chael bod yn brif gyfrwng mawl y Goruchaf i genedl gyfan. Y mae Williams heddyw yn dâl yr anrhydedd hon, ac y mae yn debyg o'i chadw tra y bydd y genedl Gymreig yn addoli yn iaith eu tadau. Yr oedd Williams yn gymeriad hynod, ac yn meddu cymhwysderau arbenig at gyflawni ei waith ei hun. Cymerodd ran fawr yn ngwaith cyffredinol y diwygiad, a llafuriodd mor galed a chyson i ddwyn y cyffroad yn mlaen a'r un. Gwir nad oedd efe yn un o'r ychydig nifer a gododd ar y fore wawr. Daniel Rowland a Howell Harris ddarfu wneyd hyny. Ond cododd yntau gyda chodiad haul, yr oedd yn gweithio yn y winllan yn gynar yn y dydd, a pharhaodd hyd yr hwyr, gan ddal pwys y dydd a'r gwres. Bu fyw i weled y tri chedyrn cyntaf wedi croesi yr Iorddonen. Goroesodd hwy, a gwnaeth hyny mewn mwy nag un ystyr. Yr ydym yn gorfod cyfaddef, yr edrychir gan yr oes bresenol hyd yn nod ar gewri fel Daniel Rowland, Howell Harris, a Howell Davies, yn hytrach fel nerthoedd a fu—spent forces. Cydnabyddir, bid sicr, eu bod yn parhau i fyw hyd y dydd hwn, yn y sefydìiad crefyddol a adeiladwyd ganddynt, yn eu hanes, ac yn eu hesiampl. Ond y mae Williams yn parhau i fod yn ddylanwad presenol ac arhosol yn ein mysg, ac fel pe wedi dianc heb i law oer angau erioed gyffwrdd ag ef. Y bardd sydd yn byw hwyaf o bawb; y mae efe yn anfarwol.

Hyd y mae ynom gwnawn geisio gosod y cymeriad aml-ochrog hwn ger bron ein darllenwyr. Ceisiwn ei ddangos fel diwygiwr, llenor, a bardd, ond rhaid i ni yn gyntaf gael bras-olwg ar brif ffeithiau ei fywyd.

Er cymaint a ysgifenodd Williams yn ei ddydd, gadawodd ei gydwladwyr mewn tywyllwch hollol yn nghylch ei helyntion personol ef ei hun. Tybir, ac y mae hyny yn ddigon tebygol, fod amryw gyfeiriadau at amgylchiadau ei fywyd yn ei weithiau llenyddol, yn enwedig yn Theomemphus a'r Marwnadau; ond nid ydynt yn ddigon eglur a phendant i fod o nemawr gwerth hanesyddol. Ceir ynddynt ychydig gyfeiriadau amlwg, ac y mae y rhai hyny yn bwysig. Hyd y gwyddom, yr unig linellau a ysgrifenodd Williams ar lun hanes am dano ei hun, sydd wedi disgyn i lawr at yr oes hon, ydyw y paragraph byr hwn a osododd efe yn nghanol llythyr maith at y Parch. Thomas Charles o'r Bala, o fewn tair blynedd i'w farwolaeth. Ysgrifenwyd ef yn yr iaith Saesnig, ac y mae yn darllen fel hyn: "My days are drawing to an end, my course is nearly run: I have had a long life. I am now 73 years old. My strength would yet be pretty good, were it not for the affliction my Heavenly Father has laid upon me. I have been preaching for the last forty-three years, and have travelled on an average between forty and fifty miles every week during that time. I had four or five long journeys last spring through the counties of South Wales. Each was about a fortnight's space, and I travelled each time about two hundred miles. I intended going through North Wales, but these long journeys have, together with my complaint, so weakened me, that I have no hope of mending.'' Hyn yw hyd a lled " Hunan-gofiant Williams," ac y mae yn nodweddiadol iawn. Gwelir ei fod yn cyfeirio yn unig at ei lafur fel efengylydd, heb wneyd yr awgrym lleiaf at ei orchestion llenyddol

—————————————

LLWYNLLWYD, GER Y GELLI, SIR FRYCHEINIOG

Preswylfod y Parch. David Price, Gweinidog Maesyronen, lle y lletyai Williams, tra yn yr Athrofa

—————————————

Ac nid hyn yn unig. Ychydig iawn a ysgrifenwyd yn ei gylch gan y rhai oedd yn cydoesi ag ef. Dichon fod y sefyllfa ail-raddol a lanwai yn cyfrif i fesur am hyn. Cynorthwywr Daniel Rowland ydoedd. I hyn yma yr apwyntiwyd ef yn Sasiwn Watford, a sicr yw na chafodd neb erioed well cynorthwywr nag a gafodd Daniel Rowland ynddo ef. Dywediad awgrymiadol iawn oedd hwnw o eiddo y Parch. D. Griffith, Nevern, onide? "Gallai Rowland lywodraethu yr holl fyd, ond iddo gael Williams o Bantycelyn wrth ei benelin." Diau mai Rowland a Harris oedd arwyr yr oes hono, am danynt hwy y byddai pawb yn siarad ac yn ysgrifenu, ac yr oedd Williams o Bantycelyn, fel pawb eraill, yn cael ei gysgodi ganddynt, yn enwedig yn nghychwyniad y diwygiad.

Yn mhen dwy-flynedd-ar-hugain wedi ei farwolaeth y gwnaed yr ymgais cyntaf i ysgrifenu hanes ei fywyd, ac nid neb llai na'r Parch. T. Charles o'r Bala a ymgymerodd a'r gorchwyl Meddai Mr. Charles bob cymhwysder at y gwaith, o herwydd yr oedd yn bersonol gydnabyddus ag ef, yn hysbys o'i lafur dirfawr fel efengylydd, ac yn edmygwr mawr o'i weithiau llenyddol. Ymddangosodd y cofiant hwn nid mewn cyfrol ar ei phen ei hun, ond yn y cylchgrawn a olygid ganddo ar y pryd, sef yr Hen Drysorfa. Cyhoeddwyd ef yn Ionawr, 1813. Nid oes neb, hyd y gwyddom, yn nodi y ffaith mai ar gymhelliad y Parch. John Williams, mab y bardd, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Mhantycelyn, yr ysgrifenwyd y cofiant hwn. Ond dyna'r gwirionedd.[1] Mewn llythyr o eiddo y Parch. John Williams, at ei frawd, y Parch. William Williams, cuwrad Truro, Cornwall, gwna gyfeiriad at farwolaeth Mr. Charles o'r Bala, gan ddweyd: "Mawr y golled a gafodd Cymru oll, yn enwedig corff y Methodistiaid. Yr oedd efe yn hynod o ddefnyddiol mewn llawer ffordd. Cyhoeddodd lawer o lyfrau rhagorol, Efe a gyhoeddodd, ar fy nymuniad i, hanes bywyd ein tad; myfi a roddais yr ysgerbwd iddo, ac yntau a'i gwisgodd a chroen; myfi a ddanfonais y defnyddiau, ac yntau a gododd yr adeilad." Y mae hyn yn dangos fod Mr. Charles mewn pob mantais i gyflawni yr hyn yr ymgymerodd ag ef. Ysgrif fer ydyw cofiant y Drysorfa, dim ond tua dwsin o dudalennau. Eto, cynwysa mewn ffordd fer a chryno, yr oll a dybiai gŵr defosiynol fel efe, yn weddus i'w groniclo yn nghylch Williams. Gadawodd allan o'i ysgrif yr holl ysträeon difyr am dano. Ö leiaf, gadawodd allan yr oll ond un, a chafodd hono le, nid am ei doniolrwydd, debygid, ond am ei bod yn dangos tynerwch cydwybod y bardd. Diau fod Mr. Charles yn gwybod degau o honynt; ond gan nad oeddynt yn fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, ac i hyfforddi mewn cyfiawnder, gosododd hwy o'r neilldu, gan ymgadw at yr hyn sydd sylweddol a gweddus. Y mae haneswyr diweddarach wedi bod ar eu heithaf yn casglu y difyr-hanesion hyn at eu gilydd, a chan fod ystori dda yn byw yn hir, yr ydys wedi dyfod o hyd i lawer o honynt, pa rhai erbyn hyn a ystyrir yn rhanau hanfodol o hanes Williams. Y maent yn flasus fwyd, y fath a gâr yr oes nwyfus yr ydym ni yn byw ynddi.

Ganwyd Williams yn y flwyddyn 1717, mewn amaethdy, o'r enw Cefncoed, yn mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, yn agos i dref Llanymddyfri. Yn yr amaethdy hwn y bu yn preswylio hyd iddo briodi. Enw ei dad oedd John Williams, amaethwr gonest a chyfrifol, a diacon yn eglwys Annibynol Cefnarthen, oedd gerllaw. Efe oedd perchenog yr amaethdy y trigai ynddo. Dorothy Lewis ydoedd enw morwynig mam Williams, a'i thad hithau oedd perchenog amaethdy Pantycelyn. Y mae y ddau dŷ o fewn milldir i'w gilydd; ac fe ddaeth Williams i feddiant o'r cyntaf trwy ei dad, ac i'r olaf drwy ei fam. Yr oedd ei serch at ei fam yn ddiarebol. Dywedir iddo ysgrifenu ar ffenestr anedd-dy, lle yr arhosai ar un o'i deithiau, benill o glod i eneth fechan yno oedd yr un enw a hi:"

Dorothea yw dy enw,
Ystyr hyn yw ' Rhodd dy Dduw,'
Ac yn ol yr enw hyfryd
Yn y bywyd b'o it' fyw;
Rhodd yw'th ddysg, a rhodd yw'th ddoniau,
A rhodd yw'th fod yn ferch fach lân;
Rhodd y rhoddion ydyw hyny
I'th gadw di rhag uffern dân."

Yr oedd gwahaniaeth oedran anarferol rhwng tad a mam Williams, gymaint a 33 o flynyddau. Adroddir y chwedl ganlynol am ddechreuad eu carwriaeth.[2] "Dywedir fod John Williaras yn cyfeillachu a dynes oedd yn byw yn mhell o'i gartref, i ymweled a pha un y byddai yn rhaid iddo fyned heibio i Bantycelyn. Pan ar ei daith i dalu un o'r ymweliadau hapus hyny, ac yn myned drwy gyntedd Pantycelyn, cyfarfu yno a merch y tŷ, sef Dorothy Lewis. Meddyliodd y ferch ieuanc fod hwn yn gyfle rhagorol iddi gael tipyn o ddifyrwch ar draul yr ' hen fab.' 'Yr ydych yn myned yn mhell iawn i ymofyn gwraig, F'ewythr Sion,' ebe hi; ' y mae yn ymddangos i mi y gallech gael un yn nês gartref.' 'Fe allai mai fel hyny y bydd hi yn y diwedd,' oedd yr ateb; ac yn sicr ddigon, fel hyny y trodd pethau allan." Dywedir yn aml ddarfod i John Williams farw pan yr oedd y mab yn bur ieuanc, ac o ganlyniad ddarfod i'r gofal o'i ddygiad i fynu ddisgyn ar y fam. Y mae hwn yn gamgymeriad dybryd; ac y mae yn anhawdd cyfrif sut y darfu i neb syrthio iddo. Ar y 1af o Ebrill, 1742, y bu John Williams farw, ac yr oedd Williams y pryd hwnw yn 25 mlwydd oed. Bu y tad fyw bedair blynedd wedi argyhoeddiad ei fab athrylithgar dan weinidogaeth Howell Harris, yr oedd yn fyw am y ddwy flynedd y bu yn parotoi ar gyfer yr Eglwys Wladol; ac am ddwy flynedd arall o'r amser y bu efe yn guwrad ar eglwysydd Llanwrtyd ac Abergwesyn. Os mai ymgais yw hyn i egluro sut yr aeth mab i ddiacon blaenllaw gyda'r Annibynwyr yn offeiriad, y mae yn gwbl annigonol, ac yn groes i'r gwirionedd. Gwir fod y tad mewn gwth o oedran, o herwydd yr oedd yn 86 mlwydd oed pan y bu farw. Yr oedd hefyd wedi colli ei olygon, canys yr oedd yn ddall hollol am y chwe' blynedd olaf o'i oes; ond yr oedd mewn cyflawn feddiant o'i alluoedd hyd y diwedd, ac yn ŵr o gyneddfau cryfion, Fel prawf o'i nerth a'i yni, digon yw dweyd ddarfod iddo ddwy flynedd cyn ei farw, arwain y blaid Galfinaidd allan o gapel Cefnarthen, a chymeryd lle arall i addoli ar wahan i'r blaid Arminaidd, oedd ar y pryd yn y mwyafrif yn yr eglwys hono. Diau i Williams gael y fantais o gyfarwyddyd ei dad yn gystal a'i fam, pan y penderfynodd fyned i'r Eglwys Wladol, ac nas gwnaeth newid ei enwad crefyddol yn groes i'w teimladau hwy. Pan briododd Williams, yr hyn a wnaed ganddo pan yn 32 mlwydd oed, symudodd o Gefncoed i Bantycelyn, ac aeth a'i fam, yr hon oedd erbyn hyny yn weddw, gydag ef. Bu hi fyw nes ydoedd yn 95 mlwydd oed, ac ni bu farw ond saith mlynedd o flaen ei mab. Yr oedd Williams a'i wraig yn aelodau yn nghapel y Methodistiaid yn Nghilycwm, ond ymddengys i'w fam barhau yn aelod gyda'r Annibynwyr hyd ei bedd. Cadarnheir hyn gan hen lyfr seiat Cilycwm, yr hwn oedd yn cofrestru yr aelodau yn deuluoedd. Ceid ynddo yr enwau: "William Williams, Pantycelyn; Mary, the Wife; Mary, the Maid;" ond nid oedd ,"Dorothy, the Mothcr," ynddo. Cynrychiohd y tri enwad yn Mhantycelyn y blynyddoedd hyny, sef y Methodistiaid, yr Annibynwyr, a'r Eglwys Wladol.

Y darn mwyaf tywyll yn mywyd Williams ydyw hanes ei ieuenctyd. Yr unig wybodaeth sicr sydd genym am dano yn y cyfnod hwn, ydyw iddo dyfu i fynu heb dderbyn argraffìadau crefyddol dyfnion. Y mae genym ei dystiolaeth ef ei hun ar hyn, fel y cawn weled, eto; ond y mae y cwestiwn pa un ai mewn difaterwch a difrawder y treuliodd y blynyddoedd hyny, neu ynte, a ddarfu iddo eu treulio mewn llygredigaeth ac annuwioldeb, yn fater nas gellir ei benderfynu. Cafodd y fantais fawr o'i ddwyn i fynu ar aelwyd grefyddol.[3] Dywedir am ei dad, heblaw bod yn " henadur llywodraethol " yn eglwys Cefnarthen, sef y ffurf uchaf, meddir, ar y swydd ddiaconaidd, "ei fod yn Gristion addfwyn, gonest, a chywir, ac iddo gael ei fynediad trwy anialwch y byd hwn i'r wlad well yn lled rydd oddiwrth ofidiau." Dyma gymeriad ei dad, fel ei rhoddir i ni gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Ac y mae yn sicr fod ei fam o ymarweddiad cyffelyb. Eithr er fod yr awyrgylch y magwyd ef ynddi yn un grefyddol, a bod dylanwad yr aelwyd gartref yn iachus a dymunol, y mae yn sicr mai tyfu i fynu yn anystyriol a dioruchwyliaeth a wnaeth efe.

Hwyrach nad anfuddiol fyddai ymholi beth ydoedd ystad foesol a chrefyddol y gymydogaeth yr oedd efe yn byw ynddi ar y pryd? Y mae y cwestiwn hwn yn un pur hawdd i'w ateb. Yr oedd ardal Llanymddyfri mor ddyfned mewn llygredigaeth a phechod a'r un yn Nghymru. Hynodid hi gan ei hannuwioldeb a'i drygioni. Uwchben y dref halogedig hon y cyhoeddasai Ficer Pritchard ei felldithion, gan' mlynedd cyn amser y diwygiad; ac y mae genym ddigon o brofion wrth law i ddangos nad ydoedd ronyn yn well yn yr amser hwn. Dyma fel y cyhoeddai yr hen Ficer ei felldithion ar dref Llanymddyfri:

Mene Tecel, tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw hi yn dy frynti;
Ni chadd ynnot ond y sorod,
Gochel weithian rhag ei ddyrnod.

Cefaist rhybudd lawer pryd,
Nid yw cynghor 'mheuthyn id';
Nid oes lun it' wneuthur esgus,
O! gwae di, y dref anhapus!

Bore codais gyda'r ceiliog,
Hir ddilynais yn dy annog
Droi at Dduw oddi wrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.

Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,
Ni chawn gennyt ond y gwatwar

Cawn fod plwyfydd Llanfair-ar-y-bryn, Llandingad, a Chilycwm, mewn tywyllwch dudew, ac nad oedd yr offeiriaid, yn nechreuad y diwygiad Methodistaidd, ond gwyliedyddion deillion. Ond beth am yr eglwysi Presbyteraidd oedd yn y gymydogaeth, ai nid oeddynt hwy yn dal yn gryf yn erbyn y llifeiriant oedd yn gordoi y wlad? Diau eu bod i ryw fesur, ond nid i'r graddau y gwnaethent mewn adeg foreuach. Y pryd hwn, yn arbenig, yr oedd cylch eu dylanwad er daioni yn bur gyfyng, gan eu bod yn cael eu rhwygo gan derfysgoedd ac ymrysonau, yn benaf yn nghylch athrawiaethau crefydd. Yr oedd dwy o eglwysi Ymneillduol yn nghymydogaeth Llanymddyfri, sef eglwys y Bedyddwyr yn Nghilycwm, ac eglwys Annibynol Cefnarthen. Eglwys fechan a chymharol ddinod ydoedd yn Nghilycwm, ond yr oedd un Cefnarthen yn un lliosog ac o enwogrwydd. Yn hon yr oedd tad a mam Williams yn aelodau, ac i'r capel hwn y byddai Williams yn myned yn ystod ei ieuenctyd. Rhaid i'r darllenydd gael brasolwg ar hanes yr eglwys yma, er mwyn iddo weled pa fagwraeth i grefydd allasai gael ganddi. Yr oedd yn un o eglwysi hynaf Cymru, ac wedi gwneyd gwasanaeth anrhaethol i grefydd ardaloedd Llanymddyfri tuag adeg y weriniaeth, ac yn ystod yr erledigaeth wedi adferiad Siarl yr Ail. Ceir hanes llawn, a dyddorol dros ben am dani yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf. iii., tudal. 582; ond rhaid i ni dalfyru llawer arno yma.

Planwyd eglwys Cefnarthen gan Mr. Jenkin Jones, Llanddetty, hwyrach mor foreu a'r flwyddyn 1642; ond gwasgarwyd hi gan erledigaethau, a charcharwyd y gweinidog a lliaws o'r aelodau. Ailgasglwyd hi tua'r flwyddyn 1688, gan Mr. Rees Prytherch, gŵr a fu yn ffyddlon weinidog ynddi hyd ei farwolaeth, yn 1699. Ei ganlynydd ef ydoedd Mr. Roger Williams. Calfiniaid, o ran athrawiaeth, ydoedd y ddau weinidog cyntaf; a Chalfiniad ydoedd Roger Williams ar y cychwyn; ond cyn diwedd ei oes yr oedd yn pregethu Arminiaeth, a llwyddodd i ledaenu yr athrawiaeth hono yn mysg ei aelodau a'i wrandawyr. Bu farw yn 1730, wedi bod yn pregethu, yma ac yn eglwys Cwmyglo, Merthyr Tydfil, am 32 o flynyddau. Yr oedd yr eglwys yn ddwy blaid pan y bu efe farw, ac ymddengys mai yr Arminiaid erbyn hyn oedd y blaid gryfaf ynddi. Ar ei farwolaeth ef, cafodd dau weinidog o ddaliadau Arminaidd eu dewis gan un blaid, ac un arall o olygiadau Calfinaidd gan y llall. Yr oedd y tri gweinidog hyn, cofier, yn weinidogion ar yr eglwys ar yr un amser; nid am fod rhifedi yr aelodau yn galw am hyny, ond yn unig er cyfarfod a'i sefyllfa ranedig hi ar y pryd. Buont yn pregethu athrawiaethau croes i'w gilydd, yn yr un capel, ac o'r un pwlpud, am saith mlynedd. O'r diwedd ymranodd yr eglwys; cadwodd yr Arminiaid feddiant o'r addoldy, ac aeth y Calfiniaid i addoli i amaethdy o'r enw Clinypentan, yr hwn sydd yn sefyll rhwng Cefncoed a Phantycelyn. Yr oedd tad Williams yn arwain y blaid Galfinaidd allan o'r hen gapel. Wedi yr ymraniad cynyddodd y Calfiniaid, a lleihaodd yr Arminiaid. Adeiladwyd capel newydd i'r Calfiniaid ar ddarn o dir a roddwyd i'r pwrpas gan fam Williams, Pantycelyn, ac yntau, yr hwn a elwir yn Pentretygwyn. Yn nghwrs blynyddoedd unwyd yr eglwysi gan Mr. Morgan Jones, a charthwyd yr athrawiaeth Arminaidd allan o honynt yn llwyr.

Dyna yn fyr, hanes eglwys Cefnarthen. Gwelir i Williams gael ei ddwyn i fynu yn un o eglwysi mwyaf terfysglyd Cymru; eglwys ag yr oedd llawer mwy o ddadleuon ynddi nag o grefydd. Nid pobl yn cytuno i anghytuno oeddynt, ond pobl anhyblyg dros eu gwahanol opiniynau, ac yn medru cario rhyfel poeth yn mlaen am flynyddau lawer. Nis gwyddom a oedd Williams yn aelod proffesedig o'r eglwys, ond yno y cyrchai i'r addoliad cyhoeddus hyd yr ymadawodd i fyned i'r coleg, yn llanc ieuanc, dwy-ar-bymtheg neu ddeunaw mlwydd oed. Y mae yn bur debyg fod Roger Williams wedi troi yn Arminiad cyn iddo ef gael ei eni. Am y blynyddoedd cyntaf, nid oedd o fawr pwys i Williams ieuanc pa athrawiaethau a bregethid yn ei glyw. Eithr cyn terfyn gweinidogaeth Roger Williams, hwyrach fod gan y bachgen llygadlas ryw syniad aneglur am yr hyn a wrandawai; y deallai fod rhyw wahaniaeth nas gallai efe ei amgyffred, rhwng yr hyn a lefarai y gweinidog, a'r hyn a gredai ei dad; ac nid anhebyg iddo glywed aml i ddadl frwd rhwng y ddau. Yr oedd yn dair-ar-ddeg oed pan fu y gweinidog hwnw farw. Yr oedd yn llawer pwysicach pa athrawiaethau a gyhoeddid yn ei glywedigaeth yn ystod y pum' mlynedd nesaf; dyma y cyfnod yr ymagorai ei ddeall, ac y rhoddai heibio bethau bachgenaidd, am y teimlai ei fod yn dyfod yn ŵr. Gresyn na fuasai gweinidogaeth pwlpud Cefnarthen, a dysgeidiaeth yr aelwyd yn Cefncoed, yn cyfnerthu eu gilydd yn yr adeg bwysig hon. ond y mae genym ofn fod yr hyn a adeiledid y pryd hwnw ar yr aelwyd, yn cael ei dynu i lawr yn y capel. Gwyddom, er ein gofid, nad oes dim ag a duedda yn gryfach i ddyeithrio meddwl yr ieuanc oddiwrth grefydd, na dadleuon ac ymrysonau yn yr eglwys, o unrhyw natur. Ond yn y tymhor hwn yr aeth rhyfel yr athrawiaethau yn ddifrifol o boeth yn Nghefnarthen; yr oedd yr Arminiaid wedi dyfod yn allu llywodraethol yn yr eglwys, a blin fu y frwydr rhyngddynt a'r Calfiniaid. Ai nid gweli a fuasai iddynt ymwahanu yn gynt , gan fod pob undeb gwirioneddol rhwng y pleidiau wedi llwyr ddiflanu? O bosibl hyny; ond hwyrach fod eu hymlyniad wrth yr hen addoldy yn gwneyd y peth yn anhawdd iddynt. Fel y dywedwyd, bu y pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd, o'r un pwlpud, am saith mlynedd; ac yr oedd Williams yn mynychu y capel am bump allan o'r saith hyn. Gresyn na fuasai ef wedi rhoddi i ni hanes Cefnarthen yn y tymhor hwn, gan ddesgrifio yr hyn a welodd ac a glywodd; gallasai daflu goleu ar lu o gwestiynau sydd yn ddyrus i ni erbyn hyn, megys: A fyddai y pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd yn yr un odfa, neu ynte ar wahanol amserau? Os mai ar wahanol amserau, a fyddai y naill blaid yn mynychu cyfarfodydd y llall? A ydoedd Williams yn cymeryd rhan yn y dadleuon hyn, neu ynte a oedd yn eu hangymeradwyo hwynt, ac yn eu gochel? Rhaid i ofyniadau fel yma aros bellach heb eu hateb, ond yr ydym yn sicr o un peth, sef na ddarfu y dadleuon a'r ymrysonau hyn grefyddoli ei yspryd. Prin y gellir disgwyl y buasent yn foddion gras iddo. Os darfu iddo ef ymdaflu i'r dadleuon, hwyrach iddynt eangu cylch ei wybodaeth, a blaen-llymu ei alluoedd meddyliol.

Tybed nad oedd hanes eglwys Cefnarthen yn bresenol yn meddwl Williams pan yr oedd yn cyfansoddi Theomemphus? Credwn ei fod; ac mai trethu ei gof, yn hytrach na thynu ar ei ddychymyg, yr oedd pan yn darlunio y pregethwyr hyny, ag oeddynt yn ceisio dileu dylanwad Boanerges ac Evangelius oddiar feddwl ei arwr. Darllener y llinellau hyn yn ngoleu yr hanes yr ydym newydd ei osod gerbron y darllenydd am Gefnarthen, a chredwn y gwel ynddynt gyfatebiaeth mawr. Dyma fel y mae un, a alwai y bardd yn Arbitrius Liber, yn pregethu cyfiawnhad trwy weithredoedd:—

"Gwrandewch, hiliogaeth Adda " ebe'r areithiwr mawr,
"Nid dim erioed ond cariad, wnaeth i chwi droedio'r llawr;
Meddyliau da tuag atoch sydd er creadigaeth byd,
A thraw yn nhragwyddoldeb, cyn rhoi'r elfenau 'nghyd.

Eich Crëwr yw eich priod, eich priod oll o'r bron,
Ewyllysiwr da'n ddiameu, i bawb sydd ar y dòn;
Ni fyn e' i neb i farw, ond am i bawb gael byw,
Os gwir llyth'renau'r Beibl, wel hyn, gwirionedd yw.

Pa gynifer gwersi sy' yno, pob un yn haeru 'nghyd,
Nad ydyw Duw am ddamnio, yn unig safio'r byd?
Gwae rhai sy'n cloi trugaredd wrth rai o ddynol ryw,
Yn haeru rhagordeiniad, nad rhagwelediad yw.

P'odd gall un perchen rheswm i haeru maes yn lan,
I Dduw bwrpasu dynion, ryw rai i uffern dan?
Mae hyn yn gam anorphen a hanfod mawr yr Iôr,
Sydd a'i ddaioni cymaint a dyfroedd mawr y môr.

Nid ydyw dyn heb allu, er iddo fyn'd ar ŵyr,
Mae ei 'wyllys a'i resymau, heb eto'i llygru'n llwyr;
Ei ddeall yw ei reswm, fe gadwodd hwn ei le,
Pan collodd ei frenhiniaeth o fewn i deyrnas ne'.

A dyma'm neges inau, cyhoeddi i chwi'r gwir,
A gwneuthur pob dyledswydd, y t'wylla'n oleu clir;
Wel, pwyswch yn eich meddwl y geiriau yma'n llawn,
A gwnewch eich dyledswyddau o foreu hyd bryd nawn.

Ymdrowch yn eich rhinweddau, ac ynddynt byddwch fyw,
Cyflawni pob gorchymyn i gyd yw meddwl Duw;
Am dori'r ddeddf mae damnio, fe dd'wedodd hyn ar g'oedd,
I'n dori oll os torwn orchymyn fyth o'n bodd.

At ddyledswyddau bellach, y perlau mwyaf drud
Yw dyledswyddau nefol, o'r cwbl sy'n y byd;
Gweddïau ac elusen, 'does mo'u cyffelyb hwy,
Hwy ro'nt i angau creulon ei hunan farwol glwy'.

Rho'wch ymaith bob rhyw bechod, o'weithred ac o fryd,
Pob malais a chenfigen, a gormod garu'r byd;
Ein dyled ni yw caru, wrth geisio fe gair gras,
Nid yw e'n waith mor anhawdd i goncro pechod cas

A dim ond gwneyd ein goreu, yw'r cwbl sydd gan ddyn,
A Duw sydd siwr o'i ateb, fe dystia'r gair ei hun;
Mae gras i'w gael ond ceisio, a'r ceisio sy' arnom ni,
A'r fynyd gyntaf ceisiom fe rodda Daw yn ffri."

Fel hyn eilwaith y dywed Orthocephalus, yr hwn sydd bregethwr uniongred, ond ei fod yn hunanol, ymffrostgar, a sych:—

"Mae gau-athrawon lawer," 'be fe, "yn myn'd ar led,
Heb 'nabod ac heb ddeall mo egwyddorion cred;
Heb ganddynt ffurf na rheswm, ond rhyw gymysgedd cas,
athrawiaethau anial maent yn eu taflu maes.

Mae'r Coptics a'r Armeniaid, ar hyd yr Aiphtaidd dir, .
Yn ddigon pell, ysywaith, oddi wrth derfynau'r gwir;
Mae yma opiniynau o fewn ein gwlad ein hun,
Sydd ddiau yn ddinystriol i iachawdwriaeth dyn.

Mae'r Antinomian trwsgl, yn dweyd i maes ar g'oedd,
Os pechu wna neu beidio, y bydd ef wrth ei fodd;
Cyn iddo'n caru gyntaf, fe wyddai Duw ein bai,
'Rys wedi maddeu ein pechod, cyn i ni 'difarhau.

Mae amryw Galfinistiaid yn myn'd i maes o'u lle,
Rhy galed maent yn gwasgu'r pwnc ar yr ochr dde';
Y maent yn dala'r ethol, a'r gwrthod cas yn un,
Heb gofio llw'r drugaredd a dyngodd Duw ei hun.

'Chytuna'i ddim a Baxter, sy'n rhanu'r cyfiawnhad,
Na Chrisp, sy'n dodi'r gyfraith yn hollol tan ei draed,
Na Zinderdorf a'i drefn, 'dwy'n llyncu un o'r tri,
Ac ni bydd Athanasius yn feistr ffydd i mi.

Ni chaiff articlau Lloegr eu credu geny'n lân,
Na rhai wnawd yn Genefa, ryw flwyddau maith o'r blaen;
Er pured Eglwys Scotland, nid purdeb yw hi gyd,
Ni phiniaf ddim o'm crefydd, ar lawes neb o'r byd.

—————————————

ATHROFA LLWYNLLWYD FEL Y MAE YN BRESENNOL

—————————————

Drwg enbyd yw yr amser, rhyw athrawiaethau blin
Mae gau a gwag-athrawon, er's dyddiau yn eu trin;
Da iawn fod gan weinidog ryw lawer iawn o ddysg,
I gyfarwyddo'r bobol y rhodder e'n eu mysg.

Mi safais, ac mi safaf, ac nid wy'n ofni dim,
Yn erbyn llif o ddyfroedd, er cymaint yw eu grym;
Mewn llawer brwydr buais, ond am fod geny'r gwir,
Cyn i mi lan goncwerio, ni chawn fod yno'n hir.

'Rwy'n gosod ffydd yn flaenaf, 'rwy'n gosod gwaith yn ail,
Os anog i sancteiddrwydd, 'rwy'n gosod Crist yn sail;
Pa ddyledswyddau enwir o foreu hyd brydnawn,
Mae'r cwbl geny'n gryno mewn iachawdwriaeth lawn.

'Dwy'n gadael unrhyw ganghen grefydd o un man,
Ag y mae rhai yn ddamsang, nad wy'n ei chodi i'r lan;
'Dwy'n gadael un gofyniad yn y cyfamod gras,
Nad wyf fi ar ryw amser yn ei gyhoeddi maes.

'Rwyf yn dyrchafu'r Arglwydd, ac yn darostwng dyn,

Yn tori lawr ei haeddiant a'i allu yn gytun;
'Rwyn curo cyfeiliornad ar aswy ac ar ddê,
'Rwyf yn cymhwyso 'mhobl i mewn i deyrnas ne'."

A dyma fel y mae Schematicus yn traethu ei lith yntau, pregethwr uniongred arall, ond sydd yn condemnio egwyddorion ac athrawiaethau pawb, ond yr eiddo ei hun:—

"Schematicus, un arall, un gwresog iawn ei ddawn,.
Un pwnc oedd swm ei bregeth o foreu hyd brydnawn;
Er fod rhyw bynciau eraill wrth eu bregethau nglyn
Ni 'nynai ei zêl ef ronyn, nes d'ai at ei bwnc ei hun.

Yr arfaeth oedd ei eilun, ac yna'r arfaeth rad,
Oedd sylfaen ffydd, sancteiddrwydd, 'difeirwch, cyfiawnhad;
Olrheiniai ef ei natur, bob cangen yn gytun,
Oddi wrth un wers o'r Beibl, dros driugain Sul ag un.

Efe 'sgrifenodd lyfrau, rai meithion iawn eu hyd,
'Run pwnc oedd ei athrawiaeth, trwy rheiny oll i gyd;
Pwy bynag ŵr na chredai, anrasol oedd y dyn,
Fel credai ef heb amheu, Schematicus ei hun.

A'i athrawiaethau haerllug o'r diwedd 'nynodd dan,
Am farn ac opiniynau, dyeithr o'ent o'r blaen;
Daeth enw'n erbyn enw, fe gai un enw'n awr,
Ei godi cuwch a'r cwmwl, a'rllall ei dynu i lawr.

Terfysgwyd penau'r bobl, fe ranwyd yma a thraw,
Dau 'biniwn mewn un eglwys, ac weithiau wyth neu naw;
Zêl at y pethau lleiaf, yn gweithio yn y dall,
Un pwlpud yn fflangellu athrawiaethau'r llall.

Didolwyd, gwnawd partïon, o'r bobl oedd gytun,
Tri'n erbyn pump rai prydiau, neu ddeg yn erbyn un;
Cyhoeddwyd cymanfaoedd o'r De i'r Dwyrain dir,
I chwilio gwraidd opiniwn, a gwneyd y pwnc yn glir.

Fe lidiwyd, anfoddlonwyd, fe dduwd ar bob llaw,
Fe chwiliwyd am athrawon, rai newydd yma a thraw;
Pregethwyd, fe 'sgrifenwyd, pawb am ei bwnc ei hun,
Yn gant o ddarnau rhanwyd y Beibl oedd yn un.

Myfyriwyd Groeg a Hcbrew, gopiau'r 'Sgrythyr Lan,
Un copi fe'i goreurid, fe roid y llall i'r tan;
Darllenwj'd heu 'sgrifenwyr, rhai eu galw'n gywir cas,
Rhai'n hercticiaid deillion, ga'dd eu cyhoeddi maes.

Nes myn'd a llu o bobl fu'n ochr Sinai fryn,
Yn gwrando Boanerges yn brysur iawn cyn hyn;
Ar ol rhyw bynciau gweigion, a cholli'r yspryd trist,
Drylliedig, oedd yn gwaeddi am 'nabod Iesu Grist.

I 'mofyn dŵr a bedydd, 'nol gwneuthur proffes lan,
Anghofio bedydd yspryd, a bedydd nefol dân,
I bledio'n erbyn gwenwisg, a darllen gweddi maes,
Anghofìo taernu calon, a dirgel ruddfan gras.

Gwallt llaes sydd bwnc arbenig, rhaid cael y pen yn grwn,
Gwell rhwygo mil o eglwysi, na cholli'r pwncyn hwn;
Mae'n rhaid i hwn gael Esgob, ond Presbyter i'r llall,
Wêl Quaker Independiad ddim gwell na mab y fall"

Braidd nad yw y desgrfiad uchod yn llythyrenol gywir o sefyllfa eglwys Cefnarthen yn nyddiau ieuenctyd Williams, sef tra y bu ef o fewn cylch ei dylanwad hi.

Ymddengys na fu raid i Williams adael cartref tra yn derbyn ei addysg, hyd iddo fyned i Athrofa Llwynllwyd. Diau mai mewn ysgolion cymydogaethol, yn nhref Llanymddyfri, hwyrach, y treuliodd y blynyddoedd hyny. Yr oedd yn llawn dwy-ar-bymtheg neu ddeunaw mlwydd oed pan yn myned i'r athrofa, o herwydd cawn ei fod wedi gorphen y cwrs arferol yno, sef tair neu bedair blynedd, erbyn ei fod yn un-ar-hugain oed. Y mae yr enw Athrofa Llwynllwyd yn disgyn yn ddyeithr ar ein clustiau. Nid oes enw o'r fath yn mhlith ein hysgolion. Byddai yn ddigon cywir, ac yn fwy dealladwy, dweyd mai i Athrofa Caerfyrddin yr aeth; lle y cafodd y fath nifer o enwogion Cymru eu haddysg. Yn y sefydliad hwnw y gorphenodd Williams ei addysg, er fod yr athrofa ar y pryd wedi ei symud o dref Caerfyrddin, ac yn cael ei chynal yn Llwynllwyd, yn agos i'r Gelli, yn Sir Frycheiniog. Yr achos o newidiad lle yr athrofa ydoedd hyn. Ar farwolaeth Mr. Thomas Perrot, athraw Athrofa Caerfyrddin, yn 1733, penodwyd Mr. Vavasor Griffiths, gweinidog Maesgwyn, Sir Faesyfed, i gymeryd ei le. Gwrthododd Mr. Griffiths fyned i Gaerfyrddin, am y barnai y buasai yn well i'r athrofa gael ei chadw yn y wlad, fel na fyddai y myfyrwyr yn agored i brofedigaethau tref. A hyn cydsyniodd awdurdodau yr athrofa; ac felly fe symudwyd y sefydliad at yr athraw. Yn ystod y saith mlynedd y bu dan ofal y dysgedig a'r duwiol Mr. Vavasor Griffiths, cynhaliwyd hi mewn tri neu bedwar o fanau, am nad oedd yr un adeilad wedi ei ddarpar ar ei chyfer. Y lle y cynhelid hi y pryd yr oedd Williams ynddi ydoedd yn amaethdy Llwynllwyd, preswylfod Mr. David Price, gweinidog eglwys Annibynol Maesyronen. Dywed Mr. Charles mai Mr. Price ydoedd athraw yr athrofa, ond y mae hyn yn gamgymeriad. Ac y mae y Parch. J. Kilsby Jones yr un mor gamsyniol, pan yn tybied mai yn Llwynllwyd y preswyllai Mr. Vavasor Griffiths.

Yr oedd Mr. Vavasor Griffiths yn un o'r ysgolheigion goreu, ac yn un o'r dynion mwyaf duwiol yn ei oes. Dywedir ei fod yn arfer mwy o lymder nag a wnelsai, oni buasai fod tynerwch eithafol Mr. Perrot, wedi bod yn achlysur i lawer o'r myfyrwyr i ymollwng i gyfeiliornadau blin mewn barn a buchedd. Bu farw yn mhen tair blynedd wedi i Williams adael y sefydliad, sef yn 1741. Nid oes gair o hanes Williams tra y bu yn yr athrofa genym; ond gellir casglu ddarfod iddo wneyd defnydd da o'i gyfleusderau. Yr oedd yn lletya, debygid, gyda Mr. Price yn Llwynllwyd, ac yn mynychu capel Annibynol Maesyronen ar y Sabbathau. Tebygol fod ei holl fryd yn y tymhor hwn ar gasglu gwybodaeth, yn enwedig yn y cangenau hyny sydd yn dal perthynas a'r alwedigaeth feddygol, oblegyd dyma y cyfeiriad a fwriadai gymeryd. Sefydliad at barotoi pobl ieuainc ar gyfer y weinidogaeth oedd yr athrofa; ond cafodd ef fynediad iddi fel lay stndent. Nid oes hysbysrwydd pa hyd o amser y bu yn yr athrofa hon, ond gwyddis ddarfod iddo orphen ei efrydiaeth ynddi yn y flwyddyn 1738. Gan yr arferai pobl ieuainc aros mewn athrofeydd, yr amser hwnw fel yn bresenol, am dair neu bedair blynedd, aeth yno naill ai yn y flwyddyn 1734 neu 1735. Yr oedd mynediad Williams i Llwynllwyd felly agos yn gyfamserol a throedigaeth Howell Harris, a ffaith ryfedd, nas gellir yn hawdd gyfrif am dani ydyw, na ddaeth i gyffyrddiad personol a'r Diwygiwr o Drefecca yn ystod yr amser yr arhosodd yn yr athrofa. Rhaid iddo glywed llawer o son am dano. Gwedi ei argyhoeddiad daeth Harris i enwogrwydd buan, dechreuodd bregethu i'w gymydogion yn Nhalgarth, a chynyrfu y wlad o gwmpas yn ddiymaros. Cyn diwedd y flwyddyn 1737 yr oedd wedi ymweled a phob ardal yn Sir Frycheiniog, gan sefydlu seiadau, ac yr oedd wedi sefydlu amrai o'r cymdeithasau hyn yn Siroedd Maesyfed a Henffordd. Ond nid yw yn ymddangos iddo bregethu yn Glasbury, y pentref agosaf at Llwynllwyd, yn ystod yr adeg hon. Efallai, gan fod yr athrofa mor agos, y tybiai y gallai adael y lle i'r gweinidog duwiol a dysgedig oedd yn athraw arni, ynghyd a'r Parch. David Price, gweinidog parchus Maesyronen. Gwedi hyn, pa fodd bynag, sef yn y flwyddyn 1738, ysgrifenodd y Parch. Vavasor Griffiths at Harris, yn ei wahodd yno, a diau iddo yntau gydsynio a'r gwahoddiad, o herwydd gwelwn oddiwrth gofnodau Cymdeithasfa gyntaf Watford, fod eglwys Fethodistaidd yn Glasbury yn 1743. Ond dichon fod hyn wedi i Williams adael Llwynllwyd. Nis gall nad oedd gweithredoedd nerthol y Diwygiwr, a hynodrwydd neillduol ei weinidogaeth, yn destun siarad mawr yn yr athrofa, yn enwedig pan gofiom mai rhai a'u bryd ar y pwlpud oedd y rhan fwyaf o'r efrydwyr. Y mae yn fwy na thebyg i amryw o honynt fyned yn unswydd i Dalgarth, pellder o tua chwech milltir, er mwyn ei wrando. Pa fodd nad aeth Williams gyda hwynt, nid oes genym ond dyfalu. Efallai ei fod, fel llawer o'r Ymneullduwyr ar y pryd, yn dirmygu yn ei galon ŵr diurddau yn myned o gwmpas i gynghori. Neu efallai fod ei wanc am wybodaeth yn gryf, tra nad oedd ei dueddiadau crefyddol ond gwan ac eiddil. Hyn sydd sicr, tra yr oedd Howell Harris yn cyffroi y wlad, ac yn rhybuddio yr annuwiol i ffoi rhag y llid a fydd, yr oedd y llanc o Bantycelyn yn ymgolli yn ei efrydiau, ac yn ddifater am gyflwr ei enaid.

Ond daeth adeg ymadael a'r athrofa, ac yn y flwyddyn 1738 yr ydym yn ei gael yn dychwelyd adref i dŷ ei dad. Yr oedd ganddo daith faith, dros ddeg-ar-hugain o filldiroedd; arweiniai y ffordd ef drwy dref Talgarth, ac heibio i fynwent yr eglwys. Yr oedd Harris yn pregethu ar y fynwent, pan yr oedd efe yn pasio. Aeth i mewn i'r fynwent i weled a chlywed am y tro cyntaf y dyn y clywsai gymaint son am dano; a chafodd ei argyhoeddi mor sydyn ac mor effeithiol ag yr argyhoeddwyd Paul ar y ffordd i Damascus. Damwain hollol o du Williams ydoedd hyn, ond

"Yr hyn sy'n ddamwain ddall i ddyn,
Sy'n oleu arfaeth Iôr."

Ac yr oedd cyfarfyddiad digwyddiadol Williams a Howell Harris y boreu hwn o ganlyniadau pwysig iddo ef ei hun, ac i eglwys Crist yn Nghymru, o leiaf tra y bydd hi yn parhau i. addoli yn yr iaith Gymraeg.

Y mae yn anhawdd peidio benthyca desgrifiad y diweddar "Hiraethog " (Dr. William Rees) o droedigaeth Williams, er ei fod yn mhell o fod yn hanesyddol gywir, fel y cawn sylwi eto: "Ar ryw fore (Sabboth, y mae'n debygol) yn y flwyddyn 1738, dyna sain cloch llan blwyfol, mewn pentref neillduedig yn Sir Frycheiniog, yn gwahodd yr ardalwyr i ymgynull ynghyd i'r gwasanaeth crefyddol. Ymgynulla lliaws at eu gilydd. Yn eu mysg, dacw ŵr ieuanc, oddeutu un-ar-hugain oed, o gorff lluniaidd, a thaldra canolig, ac ymddygiad mwy boneddigaidd na'r cyffredin, yn myned i mewn i le yr addoliad. Telir sylw mwy na chyffredin iddo. Y mae naill ai yn ddyeithr yn y lle, neu y mae newydd ddychwelyd i blith cydnabyddion wedi cryn absenoldeb. Craffwch arno! y mae rhywbeth yn ei wynebpryd a dynodiant ei lygaid a bar i chwi deimlo rhyw fwy o ddyddordeb ynddo nag mewn unrhyw ŵr ieuanc arall drwy yr holl gynulleidfa; ond ni wyddoch yn iawn pa beth ydyw chwaith; rhywbeth ydyw na ellwch roddi cyfrif am dano, ac na ellwch chwaith help i chwi eich hunain wrtho. Par i chwi yn awr ac yn y man, drachefn a thrachefn, daflu eich llygaid arno, bron yn ddiarwybod i chwi eich hun. Dyma y gweinidog yn dyfod i mewn, a'r gwasanaeth yn myned i ddechreu. Ar hyn, wele ŵr canol oed, lled fyr o gorffolaeth, o agwedd difrif-ddwys anghyffredinol, yn dyfod i'r lle. Y mae pob llygad yn y synagog yn canolbwyntio arno. Cynhyrfa yr olwg arno wahanol deimladau yn y gynulleidfa, y rhai a ddadguddiant eu hunain drwy lygaid a delweddau wynebpryd y naill a'r llall. Ei ymddangosiad a dery fath o syndod ac arswyd drwy y lle. Y sylw a'r teimladau rhyfeddol a gynhyrfid fel hyn drwy ei ymddangosiad a enyn gywreinrwydd y gŵr ieuanc y buom yn edrych arno, a gofyna yn wylaidd a dystaw i'r agosaf ato: 'Pwy yw y gŵr rhyfedd hwn sydd yn enill y fath sylw cyffredinol ato?' Yr ateb yw: 'Dyna Howell Harris! ' Y mae meddwl a llygaid y gŵr ieuanc yn y fan yn cael eu hoelio wrtho. Clywsai bethau rhyfedd am dano, ond ni welsai ef o'r blaen. Dyma y dyn hynod oedd yn aflonyddu y byd, ac fel yn gyru dynion a chythreuliaid i gynddeiriogrwydd, yn awr o flaen ei lygaid! Edrycha arno gyda gradd o ofn a chryndod.

"Dyma y gwasanaeth ar ben; rhedasid drwyddo mewn dull sychlyd a marwaidd. Arweinir y gynulleidfa allan gan y gweinidog; a efe yn mlaen, gydag un neu ddau o'i blwyfolion tua'r persondy; ond erys y gynulleidfa ar y fynwent, ac ymgasgla eraill o'r pentref a'r wlad oddiamgylch atynt. Erys y gŵr ieuanc hefyd ar ol. Yn mhen ychydig, dyma y gŵr a welsom gynau yn dyfod i'r llan, yn esgyn ar gareg fedd, a phob llygad wedi ei adsefydlu arno. Y mae bywiogrwydd anghyffredin yn gerfiedig ar lygad ac wynebpryd y gŵr ieuanc yn awr. Dyna genad y nef yn agoryd ei enau. Y mae ei lais fel swn taranau cryfion, neu adsain dyfroedd lawer; disgyna ei eiriau fel tan poeth ar y bobl. Newidia IIiw eu hwynebpryd gyda phob ymadrodd. Ai yr un bobl a welwn yn awr yn y fynwent ag a welsom ychydig fynydau o'r blaen o fewn y muriau yna? lë, yr un bobl gan mwyaf ydynt; ond nid yr un yw y pregethwr. ' Y mae hwn yn llefaru fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.' Gafaela rhywbeth yn meddyliau a chydwybodau y bobl yn awr, a bar i'r cryfaf ei galon frawychu, ac i'r gliniau cadarnaf guro yn erbyn eu gilydd. Y mae fel pe bai y nefoedd yn gwlawio tan a brwmstan am eu penau. Llenwir rhai o gynddaredd yn erbyn y pregethwr a'i athrawiaeth; eraill a lesmeiriant dan bangfeydd o argyhoeddiad cydwybod; eraill a lefant allan: ' Pa beth a wnawn ni?' Y mae yn gyffro cyffredinol; ond pa le mae y gŵr ieuanc dyddorgar hwnw? Dacw efe, a'i wyneb wedi gwynlasu, a'i holl gorff yn ysgwyd gan gryndod a braw. Y mae yn wir ddelw o ddychryn. Dysgwylia bob moment weled Mab y Dyn yn dyfod ar gymylau y nefoedd. Aeth rhyw saeth loyw-lem oddiar fwa athrawiaeth y gŵr sydd ar y gareg fedd acw i'w galon. Y mae cleddyf dau-finiog wedi ei drywanu hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd. Y mae ganddo olwg wahanol arno ei hun yn awr i'r hyn fu ganddo erioed o'r blaen. Mewn gair, y mae yn ddyn newydd. Daeth allan o'r fynwent y boreu hwnw wedi ei greu o newydd."

Y mae yn hysbys bellach nad yw y desgrifiad campus uchod yn cydgordio yn hollol a ffeithiau hanes. Y mae mor fyw a phrydferth, fel y mae perygl yr anghofir mai desgrifiad barddonol ydyw, ac mai un felly y bwriadwyd iddo fod. Heb hyny, gall fod i fesur yn gamarweiniol. Cymerodd "Hiraethog" drwydded y bardd pan yn ei ysgrifenu, ac y mae y darlun, er cystal ydyw, yn wallus mewn amryw o fanylion. Gwir fod gan hanesydd, yn enwedig bardd hanesydd, drwydded i lanw i fynu ddiffygion hanesiaeth a'i ddychymygion ei hun, ond iddynt fod yn naturiol a phriodol. Ond y mae i hyn ei derfynau. Rhaid i'r bardd barchu ffeithiau, a chadw mewn perffaith gydgordiad a hanesiaeth awdurdodedig. Fel yr oedd yn ofynol i brophwydi yr oes apostolaidd, pan brophwydent, brophwydo yn ol cysondeb y ffydd; felly, rhaid i feirdd ein hoes ninau, pan farddonant, farddoni yn ol cysondeb hanes. Tebygol, os nad sicr ydyw, na ddarfu Williams fwriadu yn mlaen llaw gwrando Howell Harris yn pregethu'yn Nhalgarth; y mae yn anhebygol hefyd ei fod yn bresenol yn ngwasanaeth yr eglwys y boreu hwnw; ac y mae yn sicr na ddarfu iddo weled Howell Harris yn ystod y gwasanaeth, os oedd yn bresenol. Nid oddiar gareg fedd ychwaith yr oedd Harris yn pregethu ar y fynwent, ac y mae y desgrifiad o oedran y pregethwr yn wallus; desgrifir ef yn " ŵr canol oed," tra nad oedd ar y pryd ond 24 oed. Nid yw yn debygol ychwaith mai Sabbath ydoedd, gan fod Williams ar ei ffordd adref, a bod yr hen Bresbyteriaid yn fanwl iawn mewn cadw y dydd yn gysegredig. Ac os mai yr hen Price Davies a weinyddai, ni redwyd trwy y gwasanaeth mewn dull sychlyd a marwaidd. Ond y mae yn ddarlun swynol er y diffygion hyn. Fel hyn y dywed Williams ei hun am ei argyhoeddiad yn marwnad Howell Harris:

"Dyna'r fan trwy'n fyw mi gofiaf,
Gwelais i di gynta' erioed,
O flaen porth yr eglwys eang,
Heb un twmpath dan dy droed;
Mewn rhyw yspryd dwys nefolaidd,
Fel yn ngolwg byd a ddaw,
Yn cynghori dy blwyfolion
A dweyd fod y farn gerllaw."

—————————————

CAPEL ANNIBYNOL. MAESYRONEN.

(Sef yr Addoldy y byddai Williams yn ei fynychu, tra yn Athrofa Llwynllwyd.

—————————————

Gwelir fod y penill hwn yn gwrthddywedyd y desgrifiad uchod mewn dau bwynt o leiaf. Y mae yn amlwg mai "o flaen porth yr eglwys eang" y gwelodd y bardd Harris "gynta' erioed," felly nis gwelsai ef cyn hyny yn ystod y gwasanaeth yn yr eglwys. Ac nid ar gareg fedd yr oedd yn pregethu ychwaith, ond " heb un twmpath dan ei droed," yr hyn yn ddiau sydd yn golygu ei fod yn sefyll ar y llawr gwastad. Y mae tri phenill yn y gan,[4] " Golwg ar Deyrnas Crist," a ymddengys i ni yn cau allan y golygiad fod Williams yn awyddus am wrando ar Howell Harris ar ei ffordd adref yn Nhalgarth. Y mae y bardd yn y gan hono yn cyfarch ei enaid ei hun fel yma:—


"Fy eanid, d'wed pwy ddyben, pwy feddwl, pwy barto'd,
Oedd ynot yn yr amser y'th alwyd gynta' erioed?
Trwy foddion anhebygol, y denwyd fi oedd ffol,
Mewn amser anhebygol i alw ar dy ol.

Yr arfaeth oedd i esgor, fe ddaeth dy drefn lan,
Yn ddiarwybod imi a'r moddion yn y blaen;
Pob peth yn ffìtio'r dyben, gylch ogylch dan y nen,
Mab Cis yn lle asynod, gas goron ar ei ben.

Zachëus, bach y meddyliodd, ac yntau'n dringo fry,
D'ai iachawdwriaeth rasol, pryd hyny idd ei dŷ;
Ac felly Paul a Phetr, a Magdalen, a mwy,
A minau'n ddibarotoad, gâs fywyd gyda hwy."

Y mae yn dra sicr genym mai amcan y bardd yn y llinellau uchod ydyw dangos pa cyn leied o law fu ganddo ef ei hun yn amgylchiadau ei argyhoeddiad, a pha mor llwyr yr oedd dan arweiniad Rhagluniaeth fawr y nef. Gwnaed hyn heb ddyben, heb feddwl, heb barotoad o'i du ef; trwy foddion annhebygol, ac mewn amser annhebygol. Cyflawniad ydoedd, debygid, o'r brophwydoliaeth: " Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant am danaf, cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant."

Pa un ai ei glwyfo yn unig a gafodd Williams ar fynwent Talgarth y boreu hwnnw, neu ynte a dywalltwyd olew yn ei glwyfau ar yr un adeg? Hwyrach nas gellir rhoddi atebiad pendant i'r cwestiwn hwn. Dywed ef ei fod wedi ei ddal gan wŷs oddi uchod, ond nid yw yn dweyd hefyd ei fod wedi derbyn rhyddhad yr efengyl. Fel hyn y mae efe yn mynegu:-

"Dyma'r boreu byth mi gofiaf,
Clywais inau lais y nef;
Daliwyd fi wrth wŷs oddi uchod
Gan ei sŵn dychrynllyd ef;
Ac er crwydro dyrys anial
O! a gwrthol dilesâd,
Tra bo anadl yn fy ffroenau
Mi a'i galwaf ef fy Nhad."

Swn taranau Sinai a glywir yn y pennill hwn, a gweinidogaeth gyffelyb a geir yn mhregeth Boanerges, lle y tybir fod y bardd yn desgrifio ei dröedigaeth ei hun:-

"Ac yna Boanerges,
Agora'i enw pur
Rhwng awyr dudew, dywyll,

A nefoedd oleu glir;
Mil oedd o glustiau'n gwraado
A Theomemph yn un,
Ac ofn yn ei galon,
A chryndod yn ei lin.

Uwch corryn mynydd Sina,
Yn uchel, uchel fry,
Ar aden cwmwl gwibiog
Mewn awyr dywyll, ddu,
Lle clywai gwlad o ddynion,
Lle y dadseiniai'r nef,
Mewn eitha' godidawgrwydd
'Roedd ei sefyllfa ef.

Ei lais oedd fel taranau
Amrywiol iawn ynghyd,
Neu fel yr udgorn olaf
A eilw'r meirw ynghyd;
Yn creu rhyw arswyd rhyfedd,
Trwy'r ddaear faith a'r nef,
A miloedd yn llewygu
Wrth sŵn ei eiriau ef."

Ond os nad esgynodd Harris i fynydd Seion y pryd hwnw, diau i Williams ei weled wedi hyny yn esgyn yno, ac mai trwy ei weinidogaeth ef y cafodd efe ei ryddhad; pe fel arall, prin y buasem yn dysgwyl iddo arddel Howell Harris yn dad ysprydol iddo. Y mae Williams yn gosod allan Harris fel cenad hedd fel yma:

"Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Ddyfnder iachawdwriaeth gras!
Gosod allan y Messiah
Yn y lliw hyfryda' maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym,
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."

Argyhoeddiad rhyfeddol o rymus a gafodd Williams. Diau ddarfod i'r saeth gyrhaedd i ddyfnder ei enaid, ac iddo deimlo ingoedd angau. Ond pan gymhwyswyd i'w archoll y balm sydd yn iachau, fe'i meddyginiaethwyd yn llwyr. Yr oedd bellach yn ddyn newydd - hollol newydd, a daeth yn fyw i ystyriaethau ag yr oedd hyd yma yn farw iddynt. Dyma'r pryd y daeth gyntaf i gyffyrddiad ffyddiog a gwirioneddau mawrion yr efengyl. Cafodd yn awr ddatguddiad o'r ysprydol a'r tragywyddol. Difrifolwyd ei feddwl, sancteiddiwyd ei yspryd, dyrchafwyd ac unionwyd ei amcanion; a daeth i gysylltiad a phobl oedd yn llosgi mewn awydd am achub eneidiau. Cyflwynodd ei galon ei hun i'r Gwaredwr, ac ymddiriedodd ynddo am ei gadwedigaeth; a meddiannwyd ef gan awydd angerddol am ddwyn eraill at Grist. Daeth i ofyn cwestiwn Saul, " Arglwydd, beth a fyni di i mi ei wneuthur," a chafodd dystiolaeth yn ei fynwes fod yr Iesu yn gofyn am holl wasanaeth ei fywyd. Penderfynodd ufuddhau i'r alwad nefol, a chefnu am byth ar yr alwedigaeth ddaearol yr oedd wedi cymhwyso ei hun iddi, a chysegru ei holl fywyd i weinidogaeth y gair. Ei gymdeithion newydd oeddynt Howell Harris, Daniel Rowland, a'r cynghorwyr oedd yn eu canlyn; ac fe yfodd yn helaeth o yspryd y diwygiad Methodistaidd. Hyd yma yr oedd wedi troi yn hollol o fewn cylchoedd Ymneullduol a gwrth Eglwysig; ac y mae yn debygol ei fod yn cyfranogi o egwyddorion a rhagfarnau ei bobl. Gwir nad oedd yn meddu argyhoeddiadau cryfion ar bethau crefyddol, ond prin y gellir tybied nad oedd gwrthwynebiad i'r Eglwys Wladol yn deimlad dwfn yn ei fynwes. Cadarnheir hyn i fesur gan un gair a ddefnyddir gan Williams am Howell Harris, offeryn ei droedigaeth, a'i dad yn Nghrist. Yn y pennill a ddifynwyd gennym o'r blaen i amcan arall, dywed Williams:-

"Trwy ' foddion annhebygol '
Y denwyd fi, oedd ffol;
Mewn amser anhebygol
I alw ar dy ol."

Nis gwyddom beth a wnâi Harris yn "foddion annhebygol" yn meddwl Williams, os nad ei fod yn Eglwyswr zêlog, tra yr oedd yntau yn Ymneullduwr o ddygiad i fynnu, os nad o argyhoeddiad hefyd. Hyn yn bennaf, feddyliem, yn nghyd a ieuenctid y pregethwr, a gyfansoddent yr annhebygrwydd hwn. Ond fe ddaeth yr annhebygol i ben, a thrwy hynny daeth Williams yn sydyn o fewn cylch dylanwad gwyr Eglwysig, ac fe'i dygwyd ymaith o'i gysylltiadau cyntefig, megys gan lifeiriant. Beuir Williams am fyned i'r Eglwys Wladol, ac nis gellir edrych ar yr hyn a wnaeth yn amgen na chamgymeriad; ond fe gywirodd y camgymeriad a wnaeth mewn byr amser. Wedi iddo ddyfod i gyfathrach Howell Harris a Daniel Rowland, yr oedd ei fynediad i'r Eglwys Sefydledig yn hollol naturiol, a braidd yn anocheladwy. Credent hwy mai angen mawr yr oes honno oedd cael dynion o ddysg a doniau i'r offeiriadaeth, pobl fyddai yn llosgi o gariad at y Gwaredwr, ac o dosturi at gyflwr y wlad. Gwelent hwy yn Williams lestr etholedig Duw, a'i le priodol ef, yn eu tyb hwy, oedd yn yr offeiriadaeth. A thra yr oedd ei gymdeithion newydd yn ei wasgu i'r Eglwys, nid ymddengys fod yr un dylanwad cyferbyniol yn gweithredu arno. Nid oedd dim yn atyniadol yn yr eglwys y magwyd ef ynddi, i beri iddo ymgeisio am y weinidogaeth o'i mewn hi. Yr oedd yno dri o weinidogion yn barod, a dau o'r tri yn pregethu athrawiaethau a ystyriai efe yn heresi ofnadwy. Yn anffodus, nis gwelodd Williams Ymneillduaeth erioed ond yn y ffurf fwyaf anhawddgar. Yn rhyfela a'u gilydd y gadawsai efe eglwys Cefnarthen, dair neu bedair blynedd yn ol, ar ei fynediad i'r athrofa, ac yr oedd y rhyfel yn parhau, a'r frwydr yn boethach, pan y dychwelodd. Dan yr amgylchiadau, pa ryfedd iddo fyned i'r Eglwys Sefydledig? Y tu fewn i'w muriau hi yn bennaf yr oedd arweinyddion y Methodistiaid, pobl ag yr oedd ef yn awr yn barod i'w canlyn i'r lle bynnag yr elent. Iddo ef, yr oedd y deffroad Methodistaidd yn ymddangos yn ardderchog a gogoneddus. Yn mhen blynyddoedd, y mae Williams yn desgrifio cychwyniad Methodistiaeth yn yr ymadroddion cyffrous canlynol: [5] "Ond O, hyfryd foreu! dysgleiriodd yr Haul ar Gymru fe gododd Duw offerynnau yma o'r llwch, ac a'u gosododd i eistedd gyda phendefigion ei bobl; fe daflwyd y rhwyd i'r môr, ac fe ddaeth allan bob rhyw o bysgod - mawr a bach. Chwe' sir yn y Deheu a gofleidiodd y gair yn foreu; fe glywyd y ceiliog yn canu; fe ddihunodd hen wylwyr ag oedd wedi bod yn cysgu; pregethwyd bob Sul yn yr eglwysi; deffrodd yr Ymneillduwyr; fe ganwyd iddynt alarnad, a rhai o honynt a alarodd; fe ganwyd iddynt bibell, a rhai a ddawnsiodd."

Yn mha le y bu efe yn darpar ar gyfer arholiad yr esgob nis gwyddom. Yr oedd yn ysgolhaig da yn barod; a thebygol ddarfod iddo gael pob cymorth ag ydoedd yn eisiau arno gan ryw ŵr Eglwysig a drigau gerllaw. Fel hyn y dywed Mr. Charles am ei urddiad: " Urddwyd ef yn ddiacon yn yr Eglwys Sefydledig a.d. 1740, gan Nicholas Claget, Esgob Tyddewi, i guwradiaeth Llanwrtyd, a Llanddewi Abergwesyn. Gwasanaethodd ei guwradiaeth am dair blynedd, a phregethodd, gydag ond ychydig lwyddiant, i bobl dywyll ac anfoesol iawn. Dywedai, gyda llawer o ddifyrrwch, iddo gael ei roddi yn Llys yr Esgob am bedwar-ar-bymtheg o bechodau y bu yn euog o honynt: sef, am beidio rhoddi arwydd y groes wrth fedyddio, a pheidio darllen rhai rhannau o'r gwasanaeth, a'r cyffelyb bethau bychain, dibwys." Dywed yn mhellach: " Mai y Parch. G. Whitefield, yn bennaf, a'i hanogodd i adael yr Eglwys, a myned allan i'r priffyrdd a'r caeau. Yr oedd yn gwasanaethu ei eglwysi o Gefncoed, deuddeg milldir o leiaf o Landdewi-Abergwesyn. Yn y dyddiau hynny yr oedd yn cadw gweddi deuluaidd dair gwaith yn y dydd, ac yr oedd ei holl ymarweddiad yn syml, ac yn dduwiol yn gyfatebol i hynny. Ni chafodd erioed ei gyflawn urddau, fel y dywedant; pallodd yr esgob ei urddo, o herwydd ei afreolaeth yn pregethu yn mhob man, heblaw yn yr eglwysi, yn y plwyfau yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt. [6]Gwedi gadael, neu gael ei droi allan, nis gwn yn iawn pa un, o'r Eglwys Sefydledig, daeth yn gydnabyddus a'r Parch. Daniel Rowland, yr hwn a fyddai yn dyfod yn achlysurol i bregethu i gapel Ystrad-ffin, yr hwn oedd yn sefyll yn y plwyf yr oedd yn byw ynddo." Y mae amryw bethau yn y paragraph hwn nad ydynt yn fanwl gywir. Sicr ydyw fod Williams yn gydnabyddus a Daniel Rowland yn mhell cyn iddo adael yr Eglwys, a chyn iddo ymuno a hi. Yr oedd Daniel Rowland yn pregethu yn Ystrad-ffin yn dra chynarol. Daethai Rowland a Harris i gydnabyddiaeth a'u gilydd flwyddyn cyn tröedigaeth Williams, ac y mae yn rhesymol meddwl pan ddarfu i Williams ddyfod i gydnabyddiaeth a'r naill, na fu yn hir cyn dyfod yn gydnabyddus a'r llall. Y cyfeiriadau cyntaf a gawsom at Williams yn llythyrau y Diwygwyr Cymreig ydynt y rhai canlynol, pa rai a argraffwyd yn y Weekly History. Mewn llythyr dyddiedig Hydref 20, 1742, cawn Daniel Rowland yn ysgrifennu at Howell Harris fel hyn: " Yr wyf yn clywed fod y brawd Williams wedi ei roddi yn Nghwrt yr Esgob, am nad yw yn byw yn ei blwyf."

A chawn gyfeiriad arall ato yn niwedd yr un flwyddyn, mewn llythyr oddiwrth Howell Harris at y brawd H——t.

" Ymadewais y boreu hyn a'r brawd W——ms, cuwrad Ll——d. Gyda yntau hefyd y mae gallu rhyfeddol. Y mae yn llosgi o gariad a zêl."

Mewn llythyr oddiwrth Evan Williams, cynghorwr, dyddiedig Awst 29, 1743, dywedir:

"Yr wyf newydd ddychwelyd ar ol bod yn gwrando ar y nodedig ŵr Duw, Mr. Rowland, pellder o ugain milldir. Rhyfeddol oedd gallu Mr. Rowland ar y Sabbath, a Mr. Williams ar y Sadwrn cyn hyny, ac yn y seiat. . . . Dymuna Mr. Williams ar i mi hysbysu y brawd Harris fod yr esgob wedi gwrthod iddo ei gyflawn urddau, am ei fod yn Fethodist, er fod ganddo lythyrau cymeradwyol oddiwrth amryw o offeiriaid, ac oddiwrth ei blwyfolion ei hun. Fe anghymeradwyd fod y plwyfolion yn datgan eu cymeradwyaeth o hono."

Yn olaf, ysgrifenna y brawd Thomas Jones at Howell Harris, Awst 30, 1743:

"Am un o'r gloch yr oeddwn yn Llangamarch, lle yr oedd seiat newydd gael ei sefydlu. Erbyn chwech yn yr hwyr, daethum i Bronydd, pan y cyfarfyddais a'r anwyl frawd Williams. Gwrthododd bregethu. Wedi yr odfa, cawsom seiat felus o ugain o rifedi."

Dengys y dyfyniadau uchod fod Williams yn gwbl hysbys i weinidogion a chynghorwyr cyntaf y diwygiad, a'i fod yn cael ei gydnabod yn gydweithiwr a hwy tra yr oedd yn yr Eglwys Sefydledig. Nid ymddengys i'w gysylltiad ef a'r Eglwys fod o nemawr gwasanaeth i'r diwygiad, nac o ddim mantais personol iddo ef ei hun. Pe buasai wedi llwyddo i gael llawn urddau Eglwysig, tra yn y sefydliad hwnnw, diau y buasai ei barch a'i gyfleusderau i wneyd daioni yn helaethach. Rhoddid bri mawr ar urddau yr Eglwys Wladol yn yr oes honno gan y Methodistiaid, ac yr oeddynt yn bethau a fawr chwenychid. Pobl yn meddu urddau yn unig a bregethaiit yn yr eglwysi, ac oddiar y tir cysegredig. Ganddynt hwy yn unig yr oedd hawl i weinyddu y sacramentau. Ystyrid offeiriad yn ŵr o anrhydedd digyffelyb, perchid ef, telid gwarogaeth iddo, ac yr oedd ei awdurdod yn mron yn ddiderfyn. Methodd Williams gyrhaedd yr anrhydedd hon, a methodd yn unig o ddiffyg arafwch a phwyll. Yn lle ymgadw o fewn y terfynau gosodedig, ymdaflodd i weithgarwch, gan ddilyn esiampl Howell Harris, ac enynnodd ddigofaint yr offeiriaid tuag ato, a chauwyd ei lwybr ef i ddyrchafiad ac anrhydedd Eglwysig a drain. Cyhuddid ef, meddai ef ei hun, o dori cynifer phedwar-ar-bymtheg o ddeddfau yr Eglwys yn ystod tair blynedd o amser. Pechodau bychain, dibwys, y galwai Mr. Charles hwynt, ond pechodau ysgeler a rhyfygus iawn yr ystyriai yr awdurdodau Eglwysig hwynt. Cafodd ddwyn ei benyd, a chanlyniad ei weithredoedd; a gorfu iddo fod yn ŵr syml, heb lawn urddau am ei holl fywyd. Ymddengys fod Williams ei hun yn gosod llawn bris ar urddau Eglwysig, ac iddo gael ei siomi yn fawr pan y nacawyd hwynt iddo. Fel yma y dywed Mr. Charles: " Nid oedd (Williams) yn cymeradwyo yr afreolaeth hwn, yn ei feddwl, dros ei holl fywyd. Gweithred fyrbwyll ynddo yr oedd yn ei barnu, ac y gallasai fod yn fwy defnyddiol pe buasai yn fwy araf a phwyllog; ond geill Duw ddwyn ei amcanion i ben trwy ffolineb dynion; a hwyrach mai fel yr oedd, yr oedd yn fwyaf addas i gyflawni ei amcanion doeth ef." Yn ein tyb ni, y mae brawddeg Mr. Charles wedi ei cham-ddeall a'i cham-esbonio gan ysgrifenwyr diweddar. Addefwn ei bod yn amwys, ond nid yw yn anhawdd iawn i'w deongli. Beth oedd yr afreolaeth ag yr oedd Williams yn ei anghymeradwyo ynddo ei hun? Nid ei fynediad i'r Eglwys Wladol, fel y tybia rhai, na'i ymadawiad o honni, fel y barna eraill. Y mae Mr. Charles yn deffinio yr "afreolaeth" yn ddigon clir, sef " pregethu yn mhob

PHOTOGRAPH LAWYSGRIF WILLIAMS YN EI IEUENCTYD

(Allan o ysgriflyfr y Bardd yn meddiant ei orwyres, Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah Jones, Machynlleth.)

man heblaw yn yr eglwysi, yn y plwyfau yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt."

A ydym ynte yn barod i gydnabod ddarfod i Williams ddatgan ei edifeirwch am fyned i bregethu i'r prif-ffyrdd a'r caeau? Nac ydym, yn bendant. Ond yr ydym ar dystiolaeth Charles yn barod i gredu ddarfod iddo ddangos ei edifeirwch am beidio cyfyngu ei hun dros amser ei guwradiaeth o fewn ei blwyf. Collodd, drwy wneyd fel y gwnaeth, sefyllfa o anrhydedd yn mhlith ei frodyr am ei holl fywyd, a chollodd yr eglwysi ei wasanaeth yn ngweinyddiad yr ordinhadau hefyd. Bu hyn yn fwy o anfantais iddo, hwyrach, nag ydym yn ei feddwl. Yr ydym ni yn ystyried William Williams yn gydystâd a Daniel Rowland, Howell Davies, William Davies, Castellnedd, ac eraill, ond nid ydoedd felly. Pregethwr yn unig oedd efe, tra yr oeddynt hwy yn weinidogion ordeiniedig, ac yn meddu rhagorfreintiau eu swydd. Medrai yr holl offeiriaid Methodistaidd gymeryd lle Daniel Rowland ar Sul y cymundeb yn Llangeitho, pan y byddai galwad am hynny; ond nis meiddiai Williams wneyd felly, er ei fod yn bresennol fynychaf. Yr oedd yn cynorthwyo ar y cymundeb, ond nid yn gweinyddu. Bu yn llanw lle ail-raddol felly yn Llangeitho, yn agos i hanner cant o flynyddoedd. Bu yn pregethu hefyd am bymtheg-mlynedd-arhugain, unwaith y mis, yn nghapel Llanlluan, lle ag y gweinyddid yr ordinhadau ynddo. Ar Sul y cymundeb yr oedd yn rhaid iddo ef i rhoddi lle i ryw ŵr ordeiniedig ag a fyddai o bosibl yn fyrrach ei ddawn, ac yn llai ei gymhwysderau nag ef ei hun. Y mae yn naturiol i feddwl fod Williams yn aml yn teimlo y diraddiad hwn; ac y mae yn hollol gredadwy ddarfod iddo yn mhrydnawn ei ddydd gydnabod wrth Mr. Charles ei fod wedi gweithredu yn annoeth a byrbwyll, pan yn guwrad yn Llanwrtyd. Ond y mae ddarfod iddo ddatgan edifeirwch am bregethu mewn lleoedd anghysegredig, ond dan yr amgylchiadau yr oedd efe ynddynt yn ystod ei guwradiaeth, yn hollol anhygoel. Y mae ei eiriau a'i weithredoedd dros ei holl fywyd yn dangos yn amgen.

Blwyddyn nodedig iawn yn hanes Williams ydyw 1743, blwyddyn cynhaliad Cymdeithasfa gyntaf y Cyfundeb. Yn y Gymdeithasfa hono, a gynhaliwyd yn Watford, ar y 5ed a'r 6ed o Ionawr, y cyfarfyddodd efe gyntaf a'r enwog George Whitefield. Hwyrach mai yn hon y bu efe yn annog Williams i adael yr Eglwys Wladol, a myned i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Os felly bu, rhaid mai mewn ymddiddan cyfrinachol y gwnaed hynny, o herwydd nid oes yn yr adroddiad grybwylliad am hyn, hyd yr ail Gymdeithasfa, a gynhaliwyd yn yr un lle ar y 6ed a'r 7fed o Ebrill. Yno pasiwyd penderfyniad "Fod y Parchedig Mr. Williams i adael ei guwradiaeth, a bod yn gynorthwywr i'r Parchedig Mr. Daniel Rowland." Yn ychwanegol at hyn, penodwyd ef yn Gymedrolwr ar un o'r pump dosbarth y rhannwyd y wlad iddynt, sef Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn; a gosodwyd yr enwog Richard Tibbot yn arolygwr dano. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd rhwng y ddwy Sasiwn yn Watford, sef ar y 3ydd o Chwefror, yn nhŷ Jeffrey Dafydd, o'r Rhiwiau, yn mhlwyf Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, gosodwyd gorchwyl pwysig arall ar ei ysgwyddau ef . Yr oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwn, Howell Harris, Daniel Rowland, William Williams, a dau neu dri o gynghorwyr; a dywed Mr. Charles, "er nad oedd ond cyfarfod bychan o rhan nifer, ei fod wedi ei anrhydeddu yn fawr a phresenoldeb yr Arglwydd. Ar yr ail ddydd, darfu i Howell Harris annog pawb ag oedd yno i gyfansoddi ychydig benillion o brydyddiaeth erbyn y cyfarfod nesaf, i edrych a oedd yr Arglwydd wedi rhoddi dawn prydyddiaeth i un o honynt, a phwy oedd hwnnw. Felly y gwnaethant; ac wedi iddynt i gyd ddarllen eu cyfansoddiadau, penderfynwyd yn gydun mai Mr. William Williams a gafodd y ddawn odidog hon, ac anogodd Mr. Harris, a phawb eraill, iddo ei harferyd er gogoniant Duw, a lles ei eglwys." Gwelir felly iddo gael ei apwyntio i wasanaeth fel efengylydd ac fel bardd, yn agos iawn i'r un amser. Sut y cyflawnodd efe y dyledswyddau hyn? Cawn weled yn y man. Edrychwn arno yn gyntaf fel efengylydd. Gwnaed ef yn brif swyddog ar eglwysi Maesyfed a Threfaldwyn, a thrwy ei fod yn gynorthwywr i Daniel Rowland, ar yr hwn yr oedd gofal rhan uchaf Sir Aberteifì a Sir Gaerfyrddin, yr oedd rhan o ofal y siroedd hynny hefyd yn gorphwys arno ef. Cyflawnodd ddyledswyddau ei swydd gyda'r fath ymroddiad a zêl ag yr oedd yn bosibl i neb wneyd, ac eithrio Howell Harris ei hun. Gwnai, nid yn unig gadw golwg gyffredinol ar eglwysi ei ofal, ond gwnâi i fynnu ddiffygion y cynghorwyr oedd dano, gan ymweled a'r eglwysi ei hun, a danfon adroddiadau o'i sefyllfa i'r Cymdeithasfaoedd. Cawn enghraifft o hyn yn hanes eglwysi Llangwyryfon, Lledrod, Rhydfendigaid, &c., yn Sir Aberteifi. Yr oedd arholygiad yr eglwysi hyn yn gorphwys ar Morgan Hughes. Yn rhyw sut, methodd gyflawni ei ymddiriedaeth, ac ymwelodd Williams a'r eglwysi, ac y mae dau adroddiad a ddanfonodd Williams am danynt yn awr ar gael a chadw, yn llawysgrifau Williams ei hun, yn Nhrefecca.[7] Y mae y cyntaf o honynt yn rhy faith i'w osod i fewn yma. Rhydd adroddiad manwl am y pump eglwys ar wahân, a diwedda trwy ddweyd: " Yr wyf fi fy hun yn ymweled a hwy unwaith yn y chwech wythnos, ac yn cadw cwrdd eglwysig gyda hwy, fel y gwypwyf eu syniadau a'u sefyllfa. Teimlwyf gariad ac ymlyniad atynt, ac felly hwythau tuag ataf finnau. Y mae derbyniad caredig i'w cynghorwr anghyoedd yn gyffredinol yn eu mysg, a da ganddynt gael eu holi ganddo ef, a chennyf finnau. Yr wyf yn sylwi mai y fath a fydd y cynghorwr, pa un ai zêlog, siriol, a ffyddlawn, ai ynte claiar, &c., y cyfryw hefyd a fydd y bobl o dan ei ofal." Ceir adroddiad byr arall ganddo am yr un eglwysi, dyddiedig Mehefin 2gain, 1745, yn yr hwn y dywed: " Nid oes gyda mi fawr o hanes neillduol am danynt, oddiwrth yr hyn a gawsoch o'r blaen. Y maent yn para i ddyfal lynu wrth yr Arglwydd. Y rhan fwyaf o honynt sydd yn cynyddu mewn adnabyddiaeth o honno. Mae arnaf fi a hwythau ryw faint o flinder, am ein bod mewn eisiau o gynghorwyr preifat i edrych atynt yn wythnosol. Y rhai a fynnant hwy eu cael, nis gallant ddyfod; a rhai a all ddyfod, nis derbyniant. Ond yr wyf yn gobeithio y caiff hyn ei gyflawni." Dengys hyn ei fod yn barod at bob gorchwyl, ac nad ystyriai yr un ddyledswydd yn rhy ddistadl iddo ef ei hun ei chyflawni.

Y mae olrhain teithiau a llafur Williams am hanner cant o flynyddoedd yn anmhosibl. Nid ysgrifennwyd hwynt ond yn Llyfr bywyd yr Oen. Fel hyn y dywed awdwr i Methodistiaeth Cymru am dano: "Mae yr hen ganiedydd peraidd, Williams, Pantycelyn, yn ei hen ddyddiau, pan yr oedd yn 73 mlwydd oed, ac yn tynnu yn agos i derfyn ei oes, yn dweyd:—[8] 'Mae fy nyddiau yn tynnu tua'r terfyn; y mae fy ngyrfa ymron wedi ei rhedeg. Cefais oes faith; yr wyf yn awr yn 73 mlwydd oed. Yr wyf wedi bod yn pregethu am y 43 mlynedd diweddaf,[9] ac wedi teithio bob wythnos at eu gilydd, rhwng deugain a deg-a-deugain o filldiroedd, dros yr holl amser hynny. Y gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair neu bum' waith drwy Ddeheudir Cymru; pob taith yn para pythefnos o amser, ac yn 200 milldir o hyd.'

"Gellir ffurfio rhyw ddrychfeddwl am ei deithiau, pan y dywedir iddo deithio digon o filldiroedd i gyrhaedd bedair gwaith o amgylch y ddaear,—nid llawer llai na chan' mil o filldiroedd! O ba faint o ddefnydd y gellir meddwl y bu y gŵr hwn yn ei oes i Gymru dywel? Pa sawl pregeth a draddododd? Pa sawl cyfarfod eglwysig a gadwodd? Ac yn mha nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y bu? A phan y galwn i gof fywiogrwydd ei yspryd, tanbeidrwydd seraphaidd ei feddyliau, a'i ddibyniad cyson ar Dduw am ei fendith, pa swm o ddaioni, gan ei faint, ni chwblhaodd? Sicr yw ddarfod i'r cwmwl hwn, mewn ysbaid 43 o flynyddoedd, ddefynu llawer o gawodydd bendithiol ar diroedd cras y Dywysogaeth; ie, y mae efe wedi marw yn llefaru eto yn ei emynau bywiog, a'i gyfansoddiadau barddonol; a thrwyddynt hwy, y mae yn parhau hyd heddyw i adeiladu a chysuro plant Duw, yn filoedd ar filoedd ar hyd Cymru oll, ac yn llawer o drefydd Lloegr, ie, yn nhir y Gorllewin bell; a diau gennyf y pery ei waith barddonol yn ei flas a'i ddefnyddioldeb am oesoedd eto i ddyfod."

Awgrymir weithiau, gan rai pobl, nad oedd Williams ond pregethwr cyffredin, a bod ei nerth yn gorwedd mewn cyfeiriadau eraill. Nid hyn oedd syniad y bobl oeddynt yn cydoesi ag ef. Dyrchafent hwy ei alluoedd pregethwrol ef, a rhoddent iddo y lle mwyaf parchus yn nghyfarfodydd pregethu y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd yn aml yn pregethu o flaen Daniel Rowland. Nid oedd i'w gystadlu ag efe fel pregethwr, ac y mae yn bosibl nad oedd mor boblogaidd a Howell Harris; ond yn sicr nid oedd neb arall yn rhagori arno yn hyn. Dywedai Howell Harris fod ganddo "allu rhyfeddol," ac am ei allu pregethwrol yr oedd yn siarad. Dyma fel y dywed Mr. Charles am dano fel pregethwr:- " Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn helaeth, ei bregethau yn efengylaidd, yn brofiadol, ac yn felus; yn chwilio i mewn i au athrawiaethau a gau brofiadau, ac yn gwahaniaethu yn fanwl rhwng gau a gwir yspryd. Yr oedd ei ddychymyg yn gryf, ei lygad yn graff a threiddgar, a llawer o ddylanwadau nefol ar ei yspryd wrth weinidogaethu yn gyhoeddus, ac yn ei ymddiddanion a dynion am fater eu heneidiau yn y cymdeithasau neillduol." Yr oedd yn bur ymddibynol ar y gwynt nefol a gaffai wrth bregethu, ac fe ddywedir ddarfod iddo ddweyd wrth ei gyfaill, y Parch. Peter Williams: " Ti elli di, Peter, bregethu pe byddai yr Yspryd Glan yn Ffrainc; ond ni allaf fi wneyd dim o honni heb iddo fod wrth fy mhenelin i." Y mae y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, yn ei ddyrchafu fel duwinydd a phregethwr. Ar ôl canmol Daniel Rowland, ysgrifenna:— [10]

"Ond ai rhaid i Williams hefyd,
Ar ei ol yn fuan ddiengyd?
Oedd un ddyrnod ddim yn ddigon,
I geryddu plant afradlon?
Dau arweinydd eon mawrddysg
Yn ein gado yn y terfysg!

Llon eu gwedd, y'nt mewn hedd,
tudraw i'r bedd llychllyd;
Gweiniaìd yn yr helbul dybryd,
Ar ei hol yn ngwlad yr adfyd.

Doniau ar ei ben ei hunan
Oedd gan Williams, fywiog, wiwlan;
Medrus, manwl mewn athrawiaeth,
Egwyddorion a dysgyblaeth;
Ca'dd ei ddysgu i drin yn gymhwys
Bob rhyw gyflwr yn yr eglwys;
Cryf a gwan, yn mhob man,
a wyddan', lle teithiai,
Llwybrau ceimion a ddangosai,
Cysur, maeth i'r gwan a roddai.

Cadarn ydoedd fel Duwinydd;
Nid anfuddiol fel Hanesydd;
I'r serchiadau ac i'r deall,
Taflai ffrwythau'r Ganaan ddi-ball;
At y galon, Balm o Gilead,
Clwyfau'r Oen, a'r cyfiawn bryniad,
Llawn iachâd, rhydd a rhad,
i'r anfad a'r dinerth,
Yn yr unig ddwyfol Aberth,
A wnaeth Iawn am feiau anferth.

O! 'r mawr golled fydd am dano,
Athraw doeth, wyliedydd effro!
Gras a deall, a hir brofiad,
Oeddynt ynddo mewn cysylltiad;
Amryw ffyrdd yr oedd ei ddefnydd
Yn dra amlwg ar hyd y gwledydd;
Eto grym, angau llym, oedd hylym, ddiarbed,
Yn ei awr o'u mysg cai fyned;
Aeth o'r byd yn d'wysen addfed! "

Cyffelyb hefyd yw desgrifiad Jacob Jones, o'r Hendre, o honno:— <ref>ibid'</ref'>

"Nid oedd lle i ddysgwyl iddo
Aros yma ddim yn hir;
'Roedd e' beunydd yn addfedu
Tua'r nefol sanctaidd dir;
Wedi rhoddi fyny'n hollol
Chwilio naturiaethau'r llawr,
Dyna swm ei holl bregethau,
Oedd dyrchafu'r enw mawr!

Dewch i'w wrando yn pregethu
Yn ei ddyddiau ola' i gyd,
'I lygaid yn ffynonau dagrau
Wrth ganmol y Gwaredwr drud!
Nid am system Isaac Newton,
Pliny hen, na Ptolemy,
Mae e'n son uwchben y werin,
Ond am fynydd Calfari.

Pan ddoi Williams i'r soseiet,
Hynod yno oedd ei ddawn;
Fe olrheiniai droion calon,
A'i dichellion oll yn llawn;
Nid oedd rhaid ond agor genau,
Chwiliai fe'r cflyrau ma's;
Gwahaniaethai rhwng y rhagrith
Ac effeithiau dwyfol ras.

'Roedd e'n berchen goleu cyflym,
Ac fe lefai at y nôd,
Y llygad de a'r fraich anwyla',
Ac ni fethodd byth mo'i dro'd;
Ond i'r golwg doi a'r eilun,
Fe ddynoethai'r gwraidd yn llwyr,
Nes bai hen galonnau celyd
'N toddi'n union fel y cwyr."

Amlwg yw na chyfrifai y Parchedigion Thomas Charles, Thomas Jones, na Sion Lleyn a'u cyffelyb,—dynion o archwaeth uchel,—mo Williams yn bregethwr cyffredin. Ymddengys mai tybiaeth ddiweddar ydyw hon, ac nad oes iddi sail hanesyddol. Sut ynte y cododd syniad o'r fath? Y mae yr ateb i'w gael mewn sylw o eiddo y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala. Pan yn traethu ar Williams fel duwinydd, dywed, "fod yn anhawdd ein cael i weled mwy nag un rhagoriaeth yn yr un person, felly yn ei achos ef, y mae dysgleirdeb ei

PHOTOGRAPH O LAWYSGRIF WILLIAMS YN EI IEUENCTYD

(Yn dangos yr Hymnau wedi eu rhannu yn benilllon, a'u hatalnodi. Allano ysgriflyfr Mrs. Jones, Machynlleth.)

farddoniaeth yn tueddu i guddio o'r golwg ei fawredd fel duwinydd." Y mae y bardd yn cysgodi y duwinydd, ac yn cysgodi y pregethwr hefyd. Eto cawn ei fod yn meddu ar gymhwysderau pregethwr o'r dosbarth blaenaf. Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn helaeth, ei ddysg a'i wybodaeth yn eang, ei ddychymyg yn gryf, ei yspryd yn wresog, a'i barodrwydd dawn yn anarferol o gyflawn. Nis gallasai gŵr yn meddu y rhagoriaethau hyn fod yn bregethwr cyffredin. Meddai Williams hefyd gyflawnder o ffraethineb ac arabedd, ond nid ymddengys ei fod yn arfer y ddawn beryglus hono yn ei weinidogaeth. Rhoddai efe raff go hir iddi yn aml mewn ymddiddanion personol, ac weithiau yn y seiadau, ond nid un amser yn y pwlpud.

Ond er ein bod yn credu fod i Williams yn ei ddydd le uchel fel pregethwr, eto y mae yn hysbysol mai yn nghynulliadau y saint -yn y societies y byddai ei ddoniau amrywiol yn dyfod i'r golwg fwyaf. Yma yr oedd ei allu ymddiddanol i'w weled mewn llawn weithrediad. Nid oedd ei fath am gadw seiat. Y mae yn anmhosibl i orbrisio ei wasanaeth hirfaith i'r Cyfundeb yn y cyfeiriad pwysig hwn. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu mewn modd arbennig a neiliduol iawn a'r ddawn i wahaniaethu ysprydoedd. Adnabyddai ddynion megys wrth reddf, ac yr oedd yn unplyg a gonest yn ei ymwneyd a phawb. Yr oedd hefyd yn hynod am ei allu i orchfygu terfysgoedd, a heddychu pleidiau, a godent weithiau yn erbyn eu gilydd yn yr eglwysi. Danfonid am dano yn aml mewn amgylchiadau o'r fath, ac yr oedd yn rhyfeddol o lwyddiannus i adfer heddwch ar ôl ei golli. Y mae llawer o enghreifftiau o'i wasanaeth yn y cyfeiriadau hyn, wedi eu croniclo yn hanes ein heglwysi. Yr oedd hefyd yn nodedig o wasanaethgar yn nghynadleddau y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymdeithasfaoedd, yn enwedig pan fyddai pwnc o athrawiaeth, neu rai o'r heresïau oedd yn blino yr eglwysi gerbron. Yr oedd ei graff"der naturiol, a'i wybodaeth eang o athrawiaethau crefydd yn ei hynodi yn mhlith ei frodyr, a gwnaeth ddefnydd mawr o'r doniau arbennig yr oedd Pen mawr yr Eglwys wedi ei ymddiried iddo.

Rhaid i ni bellach droi at ei ysgrifeniadau. Ar yr hyn a ysgrifennodd y mae enwogrwydd Williams yn bennaf yn syllaenedig; yma y gorwedd ar waelod llydan a chadarn. Cafodd ei annog gan ei frodyr, fel y dywedwyd gennym, i arfer ei ddoniau prydyddol yn 1743; ond y mae yn amlwg ei fod ef yn cyfansoddi hymnau yn mhell cyn hynny, hwyrach yn fuan ar ôl ei argyhoeddiad yn 1738. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf yr ydys wedi dyfod o hyd i hen ysgrif-lyfr o eiddo Williams, yr hwn sydd yn awr yn meddiant Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, yr hon sydd orwyres i'r bardd. Hwn yn ddiau ydyw ei ysgriflyfr cyntaf ef. Y mae yn Llyfr golygus, mewn cadwraeth dda, gyda chloriau lledr, a clasp pres. Ar y clawr, yn ei ddiwedd, y mae yr unig ddyddiad ag sydd arno, a hwnnw yn llawysgrifen yr awdwr, sef March 25th, 1745. Mae ynddo o chwech i wyth cant o benillion, wedi eu hysgrifenu yn ddiau yn moreuddydd ei oes. Diau fod y dyddiad sydd ar ddiwedd y Llyfr wedi ei ysgrifennu ar ol iddo gael ei orphen, ac nid oedd y bardd y pryd hwnnw ond 28ain oed. Cynwysa lafur blynyddoedd, a diau fod y rhan gyntaf o honno wedi ei ysgrifennu yn foreu iawn. Hwyrach fod yr hymnau cyntaf wedi eu cyfansoddi yn agos i'w argyhoeddiad, a'i bod yn ddangoseg o ystâd ei feddwl ef ei hun yn y blynyddoedd cyntaf o'i fywyd crefyddol. Dangosant fod ei deimladau yn bur amrywiol. Y mae yn dechreu gan rodio yn y tywyllwch, yn gweddïo am ymwared, yn gweled gwawr, yn dyfod yn hyderus, ac hyd yn nod yn cyrhaedd sicrwydd, ac yn ofyn am barhad mewn gras. Y mae eilwaith mewn tywyllwch, yn achwyn ar erledigaethau, yn cael golwg ar y Cyfryngwr, yn cael sail eilwaith i hyderu, ac yn gweddïo am sicrwydd gobaith. Nis medrwn gael lle i ychwaneg nag un o'r hymnau dyddorol hyn, a dewisiwn y gyntaf, heb un rheswm arall heblaw mai hi yw y gyntaf yn y Llyfr: [11]

"Pe gwelswn i cyn myn'd i'm taith,
Mor ddyfned yw ffordd Duw a'i waith,
Anobeithiaswn yn y man
Gyfodi o ddystryw byth i'r lan.

Ond pan y'm galwyd fel Abraham,
Gwnes ufuddhau heb wybod p'am;
Gan geisio gwel'd dyeithr Dduw,
Ond ffaelu ei ffeindio yn fy myw.

Pe gwelswn ddyn - mi carwn ef
A ddysgai'r ffordd im' fyn'd i'r nef;
Rhyw guide i'r nef, ei wel'd pe cawn,
Fy enaid fyddai lawen iawn.

Ond och! sa' draw, ddymuniad gwiw,
A drusto i ddyn melldigaid yw;
Rhaid i ti aros amser Crist,
Er maint dy hast, fy enaid trist.


A gymerwyd gan John Williams, Llanddwrog Sir Gaerfyrddin o gylch y flwyddyn 1779 — A Gyhoeddwyd gan William Mackenzie, Glasgow yn y flwyddyn 1867

Darluniau William Williams pantycelyn

'Rwy'n ffiaidd iawn, 'does fan yn lân,
'Rwy'n gymhwys iawn i fyn'd i'r tân!

Po' fwyaf geisiaf fyn'd i'r lan,
Iselach am fy enaid gwan;
Och! brysio raid,— gwel angau glas,
A mi prin gam o'r Aipht i maes!

Cymuno, darllen, gweddïo'r wyf;
'Chwanegu mae rhai'n at fy ngblwyf;
Cyfiawnder, angau, euogrwydd du,
Cytuno maent i'm damnio i!

Yn dra diobaith 'rwyf yn byw,
Heb allu rhoi fy mhwys ar Dduw;
Ac, fel y graig, mae'n nghalon gas,
Och fi! gwae fi! beth wnaf am ras?

'Rwy'n farw fel yr esgyrn sych,
A welsai 'Zeciel gynt trwy ddrych;
Llabyddiwyd fi a'r ddeddfol saeth,
'Does fawr o le im' fyn'd yn waeth.

Chwi, lan eneidiau, peraidd gainc,
Sy'n rhodio oddeutu'r orseddfainc,
P'odd daethoch yma,—traethwch im',
Bydd hyny'n well gen i na dim.

Moses, Esau - mawr yw'ch bri
A Daniel, Job,—p'odd daethoch chwi?
Dros flin flynyddoedd buoch, fìl,
P'odd darf u i'ch gadw ffordd mor gul?

Chwi sy'n mwynhau'r goleuni glan,
Dewr filwyr Duw, mewn dwr a than;
P'odd darfu i chwi goncro'r byd,
Pan ddaethoch trwy'r anialwch drud?

Yn awr, caf ateb gan y rhai'n,
Mewn geiriau amlwg, eglur, plaen;
Medd Pedr, lago, Jude, ac Io'n—
'Daethom trwy ludded mawr a phoen.'

'Yn crynu'n flin y buom ni,'
Medd Moses, 'ar y mynydd du;'
'Minau,' medd Dafydd, 'lawer pryd
Wlychais a'm dagrau'm gwely clyd.'

A! dyma'r fiordd, medd pawb ynghyd,
Sy'n arwain tua'r nefol fyd;
Ffordd gul i'r cnawd, ffordd gyfyng yw,
Sy'n arwain tua thŷ ein Duw.

Unwaith cynygia'i eto i'r nef,
A Duw wrandawo ar fy llef;
Arglwydd, clyw, a chlyw heb ball,
Daer lefain dy greadur dall.

Rho i mi nerth i fyn'd ymla'n,
Trwy ganol dyfroedd mawr a than;
Ni thawaf ddim nes caffwyf le
Gyda fy Nuw, o fewn i'r ne'.


Gwerthfawrogir yr hymnau bachgenaidd hyn, yn benaf, am eu bod yn dangos ystad meddwl Williams yn ystod cyfnod ar ei fywyd ag sydd i fesur yn gyfnod tywyll. Cawn yma hefyd olwg ar ei awen yn ei blagur.

Y mae y ffaith ddarfod i Williams gyhoeddi y rhan gyntaf ox Alelina o fewn blwyddyn i'r amser y cafodd anogaeth ei frodyr i arfer ei ddawn prydyddol, yn dangos ei fod yn bur barod at y gwaith, ac yn awgrymu nad oedd cyfansoddi hymnau yn ddyeithrwaith iddo. Dyma lyfr argraffedig cyntaf Williams. Argraffwyd ef gan Felix Farley, yn Mryste. Daeth allan mewn chwech o ranau: Rhan i. tua dechreu 1744; ail argraffìad o'r unrhyw tua diwedd yr un flwyddyn; Rhan ii. yn 1745; Rhan iii. yn yr un flwyddyn; Rhan iv. yn 1746; Rhan V. yn 1747; a Rhan vi. tua diwedd yr un flwyddyn. Tybid, hyd yn ddiweddar, na chyhoeddwyd y rhanau uchod yn un Ìlyfr hyd y flwyddyn 1758. Gelwid yr argraffìad hwnw yn " Drydydd Argraffiad," [12] ond y mae yn sicr, bellach, fod argraffiad o hono wedi ei gyhoeddi gan Felix Farley yn y flwyddyn 1749. Gelwid hwn yn "Ail Argraffiad." Teitl yr argraffiad ydyw 'Aleluia, neu Gasgliad o Hymnau (gan mwyaf) o waith y Parchedig Mr. William Williams." Cymer y "gan mwyaf" i ystyriaeth, mae'n debyg, yr hymnau sydd yn Rhan vi., ag enwau eraill wrthynt.

Ymddengys ddarfod i Williams roddi ei bin ysgrifenu o'r neilldu, am un pedair blynedd, ar ol cyhoeddi y Chweched Ran o'r Aleluia, yn niwedd 1747, am fod ganddo fater pur bwysig mewn golwg, sef priodi. Dywed Mr. Charles am ei briodas fel hyn: "Pan oedd yn nghylch deuddeg-ar-hugain, priododd Mary Francis, brodor o Lanfynydd, ac wedi hyny a drigodd yn Llansawel. Bu Miss Francis yn aros gyda y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; yr oedd yn ferch synwyrol dduwiol. Yr oedd gofal yr Arglwydd am dano yn ymddangos yn fawr, yn y fath rodd iddo a gwraig gall, brydferth, ddoeth, dduwiol, mwynaidd, a serchog." Gallwn ychwanegu fod Mrs. Williams yn gantores ragorol, ac felly yn medru profi llithrigrwydd yr emynau a gyfansoddid ganddo, cyn eu cyhoeddi. Gan ei bod yn unig ferch ac etifeddes ei thad yr oedd ganddi ran lew o fendithion y bywyd hwn. Enw ei thad ydoedd Mr. Thomas Francis, o Benlan. Daeth Williams yn bur gyfoethog drwy ei etifeddiaeth ei hun, a'r hyn y daeth iddo drwy ei briodas. Bu iddynt ddau o feibion, a phump o ferched. Cododd ei ddau fab i'r offeiriadaeth. Gwnaeth yr ieuangaf, John, adael yr Eglwys, ac ymuno a'r Methodistiaid; ond cadwodd yr hynaf, William, yn yr Eglwys Wladol i'r diwedd. Bellach, rhaid i ni ddychwelyd at weithiau llenyddol Williams. Mae yn llwyr anmhosibl, o fewn ein terfynau ni, i fanylu ar amseriad llyfrau Williams. Rhaid i ni foddloni ar gyfeirio y darllenydd am bob manylion at Weithiau Williams, Pantycelyn, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., llyfr ag a bery yn gofgolofn oesol i'r bardd, ac yn anrhydedd arosol ar y golygydd llafurus a galluog. Rhoddwn yn y fan hon restr o'i lyfrau emynawl ef. Dilynwyd yr Aleluia gan Ganiadau y rhai sydd ar y mor o wydr, i Frenin y Saint; Ffarwel Weledig; Gloria in Excelsis; Rhai Hymnau Newyddion, ynghyd a dau lyfr o emynau Seisonig dan yr enwau, Gloria in Excelsis, a Hosannah to the Son of David. Cyfansoddiadau barddonol eraill Williams ydynt y rhai canlynol: Golwg ar Deyrnas Crist; Caniadau Duwiol; Theomemphis; Tair-ar-ddeg-ar-hugain o Farwnadau; Myfyrdodau ar Angau; Llyfr Amrywioldeb; Cerdd Newydd ar Briodas; a Gweddillion Awenyddol.

Wele eto restr o'r gweithiau rhyddiaethol a gyhoeddwyd ganddo: Sicrwydd Ffydd (cyfieithiad o bregeth Erskine); Pantheologia, neu Hanes Holl Grefyddau y Byd: Llythyr Martha Philopur; Ateb Philo Evangelius; Hanes Llwyddiant yr Efengyl (cyfieithiad); Crocodil Afon yr Aipht; Y Tri Wyr o Sodom; Aurora Borealis; Antinomiaeth; Drws Society Profiad; Cyfarwyddwr Priodas; Hanes Troedigaeth y Parch. Thomas Goodwin, D.D.; Imanuel; Ymddiddan rhwng Philalethes ac Eusebes, mewn perthynas i wir Gristionogrwydd.

Pan ystyriom fod Williams yn teithio o gwmpas pump-a-deugain o filldiroedd bob wythnos trwy gydol ei oes, ac yn pregethu ac yn cadw seiadau yn ddi-dor, ymddengys y gwaith llenyddol a gyflawnodd yn nemawr llai na gwyrth. Cyrhaedda ei emynau y nifer o 916, a'r penillion dros bedair mil. Y mae ei ddwy brif gân, Golwg ar Deyrnas Crist, a'i Theomemphis, yn cynnwys bob un dros bum mil o linellau, ac y mae amryw o'i ganiadau eraill yn gyfansoddiadau meithion. Ei brif waith rhyddiaethol ydyw ei Pantheologia, sef Hanes Holl Grefyddau y Byd. Rhed athrylith Williams drwy ei holl weithiau, ac y mae ei ysgrifeniadau rhyddieithol yn dwyn yr un nodweddau a'i gyfansoddiadau barddonol. Yr oedd meddwl Williams yn rhyfeddol o gynhyrchiol. Medrai ei awen ef aros yn hir ar ei hedyn. Esgynai yn uchel, a medrai aros yn hir heb ddisgyn. Dichon fod rhai o feirdd ac emynwyr ein gwlad wedi esgyn yn agos i'r un uchelderau ag yntau, ond ehediadau byrion oeddynt; gan nas gallent aros yn hir heb ddisgyn yn ôl i'r ddaear. Yr oedd awen Williams fel eryr cryf yn esgyn yn gyflym ac yn aros yn hamddenol ar ei hedyn, ac yn disgyn yn ddiludded wrth ei hewyllys. Neu, a newid y gymhariaeth, yn nghyfansoddiadau llawer o feirdd ein gwlad, yr ydym yn gweled afonydd llydain a llynnoedd prydferth; ond yn ngweithiau Williams cawn olwg ar y môr. Bardd di-urddau oedd, y mae'n wir, fel mai pregethwr di-urddau oedd Howell Harris. Gellid cymhwyso pennill Williams i Howell Harris fel pregethwr, ato ef ei hun fel bardd:

"Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cennad gan un esgob
Ag sydd llawer llai na Duw."

Ond cawsant ill dau eu hurddiad yn ddigyfrwng gan Dad y Goleuni. Cydnabyddwyd ef yn foreu yn fardd o uchel fri, gan y genedl Gymreig; a daeth yn fuan yn anghymharol fwy cymeradwy a phoblog na'r un bardd a fu o'i flaen. Darllenid a chenid ei weithiau yn awchus, a chafodd ei lyfrau gylchrediad digymar. Bu y frawdoliaeth farddonol yn hir cyn ei gydnabod. Nid oedd efe o'u hurdd hwy, ac am hynny anwybyddent a diystyrent ef. Ond os nad enillodd gymeradwyaeth y beirdd a gydoesent ag ef, gwnaeth fwy trwy ennill meddwl a theimlad y bobl. Dichon mai Sion Lleyn a Thomas Jones, o Ddinbych, oeddynt y cyntaf o "Feirdd Braint a Defawd" i ganiatáu iddo eistedd gyda'r beirdd. Yn yr hen Oleuad ceir cywydd o waith Sion Lleyn, dan y teitl, "Paradwys Gerdd yn cael ei holrhain, sef y farddoniaeth a gariodd y grawnsypiau i Israel Duw yn yr anialwch," ac ar ôl ymholi

"P'le ceir awen ysplenydd!
Mirain hoff wawd; morwyn ffydd?"

y mae yn ateb yn nacaol, na cheir hi gan Homer, Horas, Vyrsil, Ofid, nac ychwaith gan feirdd Cymreig ei oes ef:

"Nid [13] Efan, mwy na [14] Dafydd,
Nid [15] Hywel, er hel a'i rhydd;
Nid [16] Walter rydd geinber gân,
Gywreiniawg o'i gwir anian:
[17] y Bardd Glas, [18] Thomas, nid da
A gwrdd ddim a'r gerdd yma;
[19] Goronwy hen, gywreinia'i hawl,
Ni feddodd y gan fuddiawl."

Ond ar ôl chwilio llawer, y mae yn cael o hyd i'r " Baradwys Gerdd " yn meddiant Williams, o Bantycelyn:—

"Ond Williams——
Yn rhodd a gafodd y gân,
Yn fedrus i weddus wau,
A siarad y mesurau;
Fel gwin, ei ddyfal ganiad;
Fel y mêl oedd ei fawl mad;
Dysgleiriach na dysgl arian,
Na phelydr gwydr ei gân;
Diau wych flodeuog wawd
A dyfodd ar ei dafawd;
Cantor craff, Asaph oedd,
Iach y molai uwch miloedd,
O ffraethder—effro wychiant,
Nid hyn ei gerdd—hymnau gant;
Tanau, gwrydau, Gwridog,
Wedi cael o waed y cawg;
Yn Nghymru ni bu neb iach,
Yn nyddu cerdd fwyneiddiach;
Dewiswyd gan ei D'wysog,
Yn Gerddor, goleu-ŵr glog;
Dwysfardd y Briodasferch,
Mwyn ei sain, emynau serch.
Perlau ei emynau mawl,
A thlysau o'r iach lesawl;
Cymwys i'r wir Eglwys Rydd
(Llais di-feth) yn llys Dafydd."


Mae nodiad ar ddiwedd y cywydd gan Sion Lleyn ei hun fel yma: "Y rhai hyn (y beirdd a enwir yn y rhan gyntaf) a fuant foddlawn ar wisg farddonol, heb yr enaid, ac am mai ei henaid yw gwir foliant i Naf, a dedwydd yw ei pherchennog, yr hyn beth a feddiannodd y Parch. W. Williams, yn anad neb y' Nghymru, gan nad beth oedd ei gwisg hi ganddo ef; fy marn dlawd i yw, mai iddo ef y rhoddwyd enaid y gerdd o neb o'i gydoeswyr y' Nghymru. Os bydd lleferydd iaith ar gael ar ol yr adgyfodiad, nid amheuaf na bydd rhai o'r odlau melusber a ganodd Williams yn cael eu canu gan y gwaredigol hil y pryd hynny." Dengys yr hen gywydd hwn fod rhai o "Feirdd Braint a Defawd" ei oes ef yn cydnabod uwchafiaeth Williams. Yr un modd y mae Thomas Jones, o Ddinbych, yn ei ddyrchafu, gan ei alw, hwyrach am y tro cyntaf, yn "Bêr Ganiedydd Cymru." Arferai Dewi Wyn o Eifion, hefyd, un o feirdd galluocaf Cymru, ddywedyd, "y gallasai efe eistedd drwy gydol y nos, ar y noswaith oeraf yn y gauaf, heb dewyn o dan yn agos ato, i ddarllen gweithiau Williams, ac y buasai yn cael ei dwymno hyd at chwysu yn ddyferol wrth eu darllen."

Yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf, y mae clodfori a dyrchafu Williams wedi dyfod yn ffasiynol. Telir gwarogaeth iddo gan bawb. Efe yw " Peraidd Ganiedydd Cymru," ac efe yw "Prif-fardd y genedl." Plygir iddo mewn parchedigaeth gan y doeth a'r deallus, ac y mae pob gradd yn teimlo swyn ei farddoniaeth. Ac y mae i sylwi arno, mai po fwyaf a ddarllenir ar ei gynhyrchion ef, mwyaf oll y daw ei ragoriaethau i'r golwg. Hyd y flwyddyn 1867, Yr oedd gweithiau Williams yn aros yn wasgaredig, yn gyfrolau a phamphledi prinion fel y cyhoeddwyd hwy gan yr awdwr ei hun, ac felly tu allan i gyrhaedd y bobl. Yn 1811, casglwyd ei holl emynau ynghyd, a chyhoeddwyd hwy gan ei fab, sef y Parch. John Williams, Pantycelyn; ond cafodd y wlad aros am dros hanner cant o flynyddau wedi hyn (1867), cyn i'w holl weithiau gael eu casglu at eu gilydd. Gwnaed hyn gan y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones, gŵr a lanwodd le mawr yn llenyddiaeth ein gwlad, a gŵr oedd yn edmygu y Bardd o Bantycelyn tu hwnt i fesur. Cafodd yr argraffiad cyflawn hwn gylchrediad helaeth, a daeth ei weithiau, am y tro cyntaf, yn hysbysol i'r oes hon. Yn ddiweddar, bendithiwyd y wlad ag argraffiad rhatach, cywirach, a llawer gwell yn mhob ystyr, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., fel y mae y werin Gymreig, bellach, yn alluog i ffurfio barn drostynt eu hunain am wir werth a theilyngdod ei gynhyrchion llenyddol ef. Ni raid i Williams yn awr wrth lythyr canmoliaeth. Cyn i'w weithiau ddyfod o fewn cyrhaedd pawb, gwnaeth Hiraethog, Mills, Brutus, Caledfryn, Eben Fardd, a'r Dr. Lewis Edwards, wasanaeth da drwy eu hysgrifeniadau am dano. Ysgrifenasant yn helaeth, gan ddifynu darnau neillduol yn esiamplau o'i waith, a dangos eu prydferthwch; ond y mae hyny, bellach, yn gwbl afreidiol. Y mae pob beirniadaeth wedi dystewi, a chymeradwyaeth y genedl wedi ei sicrhau.

Nid oes gennym ofod i fanylu ar y cyfnewidiad mawr a effeithiodd Williams yn emynyddiaeth ein gwlad. Nid ydoedd yn ddim llai na chwyldroad. Teimlasai yr arweinwyr Methodistaidd yn Nghymru, yn gystal ag yn Lloegr, fod mawr anghen am well emynau yn y gwasanaeth crefyddol nag oedd mewn arferiad yn y cyfnod hwnnw, ac yr oeddent yn awyddus am i ryw rai cymwys ymgymeryd a'r gorchwyl. Disgynodd yr yspryd ar Charles Wesley a Toplady yn Lloegr, ac ar Williams, Morgan Rhys, ac eraill, yn Nghymru. Yn briodol iawn y dywed Mr. Charles, o'r Bala, am Williams fel emynydd: "Yr oedd ei ddoniau prydyddol wedi ei rhoddi iddo yn naturiol ac yn helaeth gan yr Arglwydd. Eheda yn aml ar adenydd cryfion iawn, sydd yn ei gario yn odidog ac yn uchel. Aberth mawr y groes yw sylwedd a phwnc pennaf ei holl ysgrifeniadau; a thra byddo cariad at y Gwrthddrych mawr hwnnw yn nghalonnau y Cymry, bydd ei waith yn gymeradwy yn eu plith, yn enwedig ei hymnau. Ehedai ar awel nefol, a chymerai y geiriau nesaf at law, a chwbl ddeallus i'r werin gyffredin, y rhai a hoffent ei ganiadau yn ddirfawr. Effeithiodd ei hymnau gyfnewidiad neillduol ar agwedd crefydd yn mhlith y Cymry, a'r addoliad cyhoeddus yn eu cyfarfodydd. Y mae rhai penillion yn ei hymnau fel marwor tanllyd yn poethi ac yn tanio yr holl nwydau wrth eu canu, ac yn peri eu dyblu yn aml gan y bobl, nes y byddant yn gwaedu ac yn llamu o orfoledd. Y mae yr effeithiau cryfion hyn yn brawf neillduol o rym yr achos sydd yn eu peri." Nid oes gwell prawf i'w gael o lwyredd y cyfnewidiad a ddygwyd i mewn i emynyddiaeth ein gwlad gan y Diwygiad Methodistaidd, na'r ffaith nad oes yn bresennol ond ychydig iawn o hymnau mewn ymarferiad cyffredin, a gyfansoddwyd cyn yr amser hwnnw. Teimlir ynddynt wres angerddol y diwygiad, a chlywir ynddynt sŵn gorfoledd a chan.

Nid oes dim yn amlycach na bod ysgrifennu a chyfansoddi barddoniaeth mor hawdd iddo ag anadlu. Y mae yn dweyd hyny ei hun ar rai achlysuron. Yn ei ragymadrodd i Theomemphis - cyfansoddiad yn cynwys tua phum mil o linellau dywed: "Fe redodd y llyfr hwn allan o'm hyspryd fel dwfr o ffynnon, neu we’r prif gopyn o'i fol ei hun. Y mae yn ddarn o waith newydd, nad oes un platform iddo yn Saesonig, Cymraeg, nac yn Lladin, am wn i. Fe redodd i fy neall fel y gwelwch, ac wrth feddwl y gall fod yn fuddiol, mi a'i printiais." Y mae y pennill olaf yn "Marwnad Grace Price," yn cofnodi y ffaith ddarfod i'r alargan odidog honno gael ei chyfansoddi ganddo mewn ychydig oriau, cyfansoddiad a gynhwysa 42 o benillion, ac un a gafodd y fath dderbyniad, fel y clywsom hen bobl yn dweyd i'r bardd wneyd ugeiniau o bunnoedd o elw o honni. Y mae sicrwydd fod llawer o'i emynau yn fyrfyfyr. Dywedir ei fod yn pregethu yn Meidrym, Sir Gaerfyrddin, ar foreu Sabbath, ac yn darllen ar ddechreu y gwasanaeth, y 4edd bennod o Efengyl Ioan. Darllenodd yn mlaen yn ddi-dor hyd adnod y 35ain, yr hon sydd fel yma: "Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw y cynhauaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meusydd, canys gwynion ydynt eisioes i'r cynhauaf." Wedi darllen yr adnod drosti, "Arhoswch chwi," meddai, yn synfyfyriol, "nid yw syniad yr adnod hon erioed wedi ei droi ar gan." "Arhoswch chwi," meddai eilwaith (yn fwy wrtho ei hun nag wrth y gynuileidfa), "Fel hyn, onide:"—

"Onid ydych chwi'n dywedyd fod eto bedwar mis,
Ac yna daw'r cynhauaf toreithiog gyda brys?
Dyrchefwch chwi eich llygaid, medd Iesu, brenin nef,
Can's gwynion ydyw'r meusydd lle mai ei wenith ef."


A darllenodd yn ei flaen i orphen y bennod. Y mae llawer o'i emynau mwyaf poblogaidd yn gynyrchion byrfyfyr; ac y mae i amryw o honynt liwiad lleol pur amlwg. Y mae bron yn sicr mai golygfa ramantus ar yr afon Tywi, lle y mae y ffordd yn arwain dros greigiau serth rhwng y Fannog a Chapel Soar, ddarfu awgrymu i Williams syniad y pennill cyfarwydd hwnw:

"Cul yw'r llwybr i mi gerdded,
Is fy llaw mae dyfnder mawr,
Ofn sydd arnaf yn fy nghalon
Rhag i'm traed i lithro i lawr;
Yn dy law y gallaf sefyll,
Yn dy law y dof i'r lan,
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
Er nad ydwyf fi ond gwan."


Ac y mae lliwiad lleol dyfnach fyth ar un arall o'i emynau. Y mae yr afon Cothi, heb fod yn mhell o Pumpsaint - lle a dramwyai Williams yn aml - yn ymollwng i bwll anferth, ac a elwir yn "Bwll Uffern Gothi," ac yr oedd ffordd newydd yn cael ei gwneyd heibio i'r fan yn nyddiau y bardd. Yma, meddir, y canodd efe am y

"Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
I basio heibio uffern drist;
Wedi ei phalmantu ganddo ef
O ganol byd i ganol nef."


Ond er fod y penillion hyn a'u cyffelyb wedi eu hawgrymu iddo gan olygfeydd natur, ac wedi eu cyfansoddi yn hollol ddiorchest, eto, y mae Williams ei hun yn dangos mai nid heb barotoad a llafur mawr y cyfansoddodd ei brif weithiau. Fel hyn y dywed am ei brif gyfansoddiad barddonol, Golwg ar Deyrnas Crist: "Mi wnes fy ngoreu wrth gyfansoddi hyn o lyfr am ddarllen llyfrau addas at yr achos, fel yr oeddwn yn myned drwyddo, a'r rheiny, os gallwn, yn uniongred a iachus. A phan y gwelwn rywbeth at fy mhwrpas, cymerwn swm hynny i fy meddwl, ac yna rhown rywfaint o'i sylwedd i lawr, wedi ei wisgo a fy ngeiriau fy hun, ond megys yn gyntaf ymborthi arno fel yr eiddo fy hun, a'i gymysgu a'r hyn oeddwn wedi ei wau o fy meddyliau eisioes, yr hyn sydd bell o fod yn feius. Ond y llyfr hwnnw oeddwn yn glynu fwyaf wrtho, sef Llyfr Duw. . . . Yn awr yr wyf yn gadael i hyn o waith i fyned allan i'r byd, a Duw a safo o'i blaid! Y mae arnaf gywilydd o'i blegyd, am fod ei wisgoedd mor dlawd, ac yntef yn cymeryd arno i ganmol Un mor ardderchog. . . . Yr wyf yn gobeithio y bydd i'm Duw ei guddio oddi wrth ddynion cyfrwys, critic, ag sydd yn cymeryd pob gwirionedd i ymresymu yn ei gylch, yn hytrach nag i adeiladu. . . . Pwy bynnag elo i graffu ar y farddoniaeth, mi wn nad oes yma yr un wers heb ei bai. A hyn a'm digalonnodd lawer pryd i'w roi mewn print. A pha hwya' y bo yn fy llaw, mwya' i gyd wy'n ddiwygio arno. Ond y mae arnaf ofn ei gadw yn hwy, rhag tynnu ymaith ei awch. Am hynny, aed fel y mae. Pwy effaith a gaiff, nis gwn i; ond hyn a wn, iddo beri llawer o boen ac o amser i mi esgor arno." Dywed ei fywgraffydd iddo astudio cymaint wrth gyfansoddi y bryddest odidog hon, fel yr effeithiodd yn niweidiol ar ei iechyd am y gweddill o'i oes.

Nid gorchwyl hawdd ydyw elfennu athrylith Williams, a dweyd yn bendant pa le y mae cuddiad ei nerth. Eto, y mae llawer o sylwadau perthynasol iawn wedi eu gwneyd gan feirniaid o enwogrwydd yn y cyfeiriad hwn. Ar ôl bod yn cymharu Coll Gwynfa Miltwn, a Golwg ar Deyrnas Crist Williams, a chyfaddef yr anhawsdra i benderfynu pa un yw y rhagoraf, dywed "Hiraethog" (Dr. William Rees), fel yma: - [20]" Prawf diymwad o wir fonedd cyneddfau awenydd ydy w ei gallu i swyno pob gradd a dosbarth o gymdeithas fel eu gilydd - bod y dealltwriaethau cryfaf, y meddyliau mwyaf caboledig, ynghyd a'r werindorf ddisyml yn gyffredinol yn gallu cyd-fwynhau a chyd-wledda ar ei chynhyrchion. Tery athrylith emynau Williams y galon ddynol fel y cyfryw, nes y cyd-ddychlama teimlad yr athronydd uchelgoeth, a theimlad y bugail gwledig o dan ddylanwad ei gwefriad. Tywysogion mewn dysg a doniau, a phob gradd oddi yno i waered, hyd at y weddw ddinod yn ei bwthyn neillduedig, a gydaddefant eu rhin. Clust dyner-foneddigaidd yr ysgolhaig, a chlust anysgybledig y gwerinwr isel, a'u cyd-fendithia hi, 'pan glywant ei geiriau, canys melus ydynt.' Pair sain ei haceniad i'r llygaid a belydra gan ddealltwriaeth ac hyawdledd, ac i'r llygad mwyaf hwyrdrwm ac amddifad o ddynodiant meddyliol i gyd-ollwng y deigryn dros eu hamrantau. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng natur y mwynhad a brofir gan feddwl coeth a diwylliedig, a'r mwynhad a deimla y meddwl anghyfarwydd, er i ffynonell y mwynhad fod yr unrhyw. Cenir a mwynheir emynau Williams er budd ysprydol gan gannoedd o Gristionogion yn Nghymru, y rhai nad oes ganddynt nemawr i ddim dirnadaeth yn eu dealltwriaeth a'u barn am eu rhagoriaeth cynhenid. Un rheswm am ryfeddol effeithioldeb emynau Williams ydyw eu bod yn llefaru iaith natur gyda'r fath symledd pur a diaddurn. Y maent yn hudo cydymdeimlad ein natur gyda hwynt yn ddiarwybod i ni. Bydd y galon yn toddi, a'r llygad yn gollwng ei ddeigryn heb yn wybod iddynt eu hunain yn nghymdeithas ei ganiadau. Pa un bynag ai hiraeth, ai amheuaeth, ai ofn, ai hyder, ai llawenydd a osodir allan, rhaid i ni gydgyfranogi yn y teimlad, gan mor gywir y mae delweddau wynebpryd pob un o'r teimladau hyn yn cael eu portreadu megys o flaen y meddwl. Nid yw byth yn llefaru mewn tafodiaith galed, neu iaith ddyfnach nag a ddealla y llafurwr anghyfarwydd, ac ni allai yr athraw uchelddysg ychwaith wneuthur cyfnewidiad er gwell yn iaith a dullwedd llaweroedd o'i emynau." Gwneir y sylwadau canlynol gan y Dr. Lewis Edwards arno fel bardd:[21] "Yr elfen gyntaf sydd yn anhebgorol mewn barddoniaeth yw bywyd. Dyma sydd yn gwneyd caniadau Homer mor swynol; nid oes ynddynt ond ychydig o'r hyn a feddylir yn y dyddiau hyn wrth y gair 'arddunawl;' ond y maent oll yn llawn bywyd. Yn yr ystyr y deallid y gair gan Longinus, y maent yn dra arddunawl, oblegyd y maent yn cynhyrfu ac yn tanio y meddwl wrth eu darllen. Ni fu neb yn meddu mwy o'r elfen hon na Williams, o Bantycelyn. Hyn a barodd i hen bererin ddywedyd unwaith yn ein clywedigaeth,

PHOTOGRAPH O WYNEB-DDALEN LLYFR HYMNAU CYNTAF WILLIAMS

Y mae gwall argraff yn y ddwy linell olaf. Enw yr Argraffydd oedd Felix Farley a'r blwyddiad oedd M.DCC.XLV


'fod emynau Williams fel y marbles, pan yr oedd llawer o emynau eraill mwy rheolaidd yn disgyn fel tameidiau o glai.' Nis gwyddom pa gyfrif i'w roddi am y bywyd hwn yn enaid y bardd, yn mhellach na'i fod yn deimlad cryfach na chyffredin - teimlad o brydferthwch anian, teimlad sydd yn myned i mewn i helynt dynoliaeth, yn ei mawredd a'i thrueni, ei llawenydd a'i galar, ei chariad a'i chas, ei daioni a'i drygioni." Byddai yn hawdd ychwanegu. Y neb a gar weled pa mor uchel y safai Williams fel bardd, yn meddwl y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala, darllened ei ysgrif alluog a dawnus ar "Gyfnewidwyr Hymnau," yn Nhraethodydd 1850. Teimlwn ei fod yn fwy pwysig yn awr i gael barn y parchedig ddoctor ar Williams fel duwinydd. Ymddangosodd ysgrif o dan ei law ef, yn Yr Arweinydd am 1878, cyhoeddiad a olygid gan ei fab, y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., ar "Dduwinyddiaeth Williams, Pantycelyn," ac er ei bod yn faith, teimlwn nas meiddiwn ei chwtogi. Dechreua gyda'r frawddeg a ddyfynnwyd gennym yn barod i bwrpas arall:-

"Cydnabyddir yn gyffredin gan y rhai sydd yn gallu myned trwy y geiriau at y meddyliau fod Williams yn fardd o radd uchel, ac yn neillduol ei fod fel emynwr yn rhagori yn yr angerddolrwydd teimlad sydd yn hanfodol mewn gwir farddoniaeth. Ond fel y mae yn anhawdd ein cael i weled mwy nag un rhagoriaeth yn yr un person, felly yn ei achos ef y mae dysgleirdeb ei farddoniaeth yn tueddu i guddio o'r golwg ei fawredd fel duwinydd: ac am hynny cymeraf y cyfle hwn i alw sylw at eangder ei olygiadau duwinyddol.

"Yn y lle cyntaf, byddai yn fuddiol i ni oll gymeryd ein dysgu yn fanwl gan Williams yn yr athrawiaeth am Berson y Cyfryngwr. Yn y gwrthdarawiad a gododd yn erbyn Howell Harris mae yn ddiau mai emynau Williams fu y moddion pennaf i gadw y Methodistiaid rhag myned i eithafoedd yr ochr arall: ac er yr holl barch a deimlid iddo, yr oedd llawer y pryd hwnnw, ac y mae llawer hyd heddyw, yn methu rhoddi derbyniad calonnog i'r cyfryw eiriau a 'dwyfol waed,' 'dwyfol loes,' 'dwyfol glwy',' y rhai ydynt mor gyffredin yn ei ganiadau. Weithiau newidid hwynt, neu gadewid hwynt allan: a phan arferid hwynt, yr oedd hynny yn fynych ar y dealltwriaeth eu bod i'w cymeryd fel gormodiaeth farddonol, ac nid fel duwinyddiaeth gywir. Yn awr, yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw, nid gwneyd esgusawd dros y geiriau hyn a'u cyffelyb, ond dangos nad ydynt yn sefyll mewn angen am esgusawd. Yn eu hystyr fanylaf y maent yn berffaith gyson a'r athrawiaeth a ddysgir yn y Testament Newydd am Berson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist. Dywedir yno fod dynion wedi lladd Tywysog y bywyd, wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant. Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Yr Hwn oedd yn ffurf Duw, a'i dibrisiodd ei hun, ac a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes. Y mae o bwys i ni beidio cymysgu y ddwy natur; ond y mae mor bwysig a hynny i ni ofalu rhag mewn un modd i ni rannu y Person. Efe a'i hoffrymodd ei hun, nid rhan o honno ei hun; ac am hynny efe, yn anfeidroldeb ei Berson, ac nid rhan o honno, yw yr Iawn, O ganlyniad, y mae ei waed, yn yr ystyr helaethaf a all fod, yn ddwyfol waed, yn briod waed Mab Duw ei hun.

"Arferir priodoli angau pob dyn i'w holl berson, drwy ddweyd fod y dyn wedi marw, ac nid rhan o hono. Y mae y gyffelybiaeth hon, er mor anmherffaith, yn dangos rhesymoldeb y dywediad fod gwaed Crist yn ddwyfol waed. Ond yr oedd undeb agosach rhwng Person y Mab a'i natur ddynol ef nag sydd rhwng enaid dynol a chorff dynol. Heblaw hynny, yr oedd ei Berson dwyfol ef yn weithredol yn ei farwolaeth. Er mwyn cael cyffelybiaeth gyflawn y mae yn rhaid i ni feddwl am ddyn yn marw o'i fodd, yn taflu ei hun yn ysglyfaeth i angau mewn trefn i achub bywydau rhai o'i gyd-ddynion. Yn y cyfryw amgylchiad y mae yn marw, nid yn oddefol yn unig, ond yn weithredol; ac y mae ei holl enaid yn y weithred. Felly y gellir dweyd am yr Arglwydd Iesu Grist, fod ei holl Berson wedi ei wneuthur yn gnawd, fod ei holl Berson wedi darostwng ei hun, fod ei holl Berson yn y weithred o farw, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes.

"Y mae gan Williams mewn rhai mannau ymadroddion cryfach eto, ac nid wyf yn myned i wneuthur esgusawd dros y rhai hynny ychwaith. Dyma un pennill cyflawn, a darn o un arall, wedi eu cymeryd o ddwy hymn sydd yn dilyn eu gilydd yn ei waith:

"Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
O'r ddae'r i entrych ne',
Er pan y daeth fy Nuw
I ddyoddef yn fy lle;
Mae'r nef, mae'r nef, o led y pen,
Can's hi ddyoddefodd ar y pren.

Boed bryn y groes, boed Calfari
Yn uwch na'r bryniau mwya' eu bri,
Am mai yma collwyd gwaed fy Nuw.'


"Goreu po gyntaf y dysg y darllenydd beidio dychrynu a thramgwyddo wrth eiriau cryfion o'r fath yma am farwolaeth ein Harglwydd. Yn lle hynny gwell fyddai iddo gynefino ei hun yn raddol i fyw ar fwyd cryf. Ac nid ydynt gryfach na'r rhai a ddyfynnwyd eisioes o'r Testament Newydd; a dyma iaith gyffredin y brif eglwys.

"Gan fod y bardd o Bantycelyn yn meddu golygiadau mor eang am Berson y Gwaredwr, ac am ddwyfoldeb y gwaed, nid yw yn rhyfedd ei fod yn credu fod gwiwdeb a gwerth anfeidrol yn yr Iawn. Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw fod neb wedi bod erioed yn amheu gwirionedd mor amlwg. Nid yw yn gweddu i ni geisio bychanu pechod; oblegyd er nad yw dyn mewn cymhariaeth ond bychan fel creadur, y mae mwy o ddrwg mewn un pechod nag y gall neb amgyffred. Er hynny, pan feddyliom fod Un oedd mor fawr fel nas gallasai fod neb mwy wedi ymostwng yn y fath fodd fel nas gallasai fod ymostyngiad mwy, y mae pob cyfartaledd yn diflannu o'r golwg; ac yr ydym yn barod i ddywedyd gyda Williams:—

"Pechod yma, cariad acw,
Fu yno yn y glorian fawr;
Ac er trymed oedd y pechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr.
Y gair Gorphenwyd
Wnaeth i'r glorian bwysig droi.'


Ymddengys mai felly y cyfansoddwyd y penill, ac y cyhoeddwyd ef ar y cyntaf. Nid oedd y sawl a'i newidiodd yn euog o gyfeiliornad dirfawr. Ond pan y mae rhai mor fanwl a cheisio gwella gwaith eraill, y mae yn naturiol i ninau fod yn fanwl wrth farnu y gwelliant; ac y mae yn sicr mai prin y buasai Williams yn foddlawn i ddweyd fod cariad wedi ei bwyso, oblegyd nis gellir pwyso anfeidroldeb. Rhoddwyd y cariad yn y glorian, nid i'w bwyso, ond i orbwyso y pechod, yr hyn a wnaeth hyd y llawr. Yn yr un hymn dangosir y meddwl yn gryfach eto, os yw bosibl, yn y penill canlynol:—

"Haeddiant Duwdod, o'i gymharu
'N erbyn uffern fawr o'r bron;
Dafn gwaed sy'n ganmil rhagor
Nag aflendid dudew hon:
Gw'radwyddiadau
Duw rydd iawn am feiau'r byd.'


Mewn man arall, rhif 427 o'r llyfr hynmau diweddaf, ceir y ddau bennill ardderchog a ganlyn:-

"Pe buasai fil o fydoedd
Yn cael eu prynu 'nghyd,
A'r cyfryw bris fuasent
Yn llawer iawn rhy ddrud:
'Does angel fyth, na seraph,
Na cherub o un rhyw,
I'r filfed ran all ddywedyd
Mor werthfawr gwaed fy Nuw.

O na allwn innau’r awrhon
Ehedeg fyny fry,
A dysgu rhyw ganiadau
Sydd gan y nefol lu;
Fel byddai cydsain hyfryd
Rhwng dae'r a nef yn un,
Caniadau anfeidroldeb
Marwolaeth Duw yn ddyn.'


Gallesid rhoddi llaweroedd o benillion eraill yn cynnwys yr un athrawiaeth; ond y mae hynny yn afreidiol, gan eu bod eisioes yn nwylaw y Cyffredin o ddarllenwyr Cymru; ac felly ni chaf ond ychwanegu un penill allan o'r Golwg ar Deyrnas Crist, yr hwn y cyfeiriwyd fy sylw ato yn ddiweddar gan ddiacon darllengar a deallus yn Sir Feirionydd.

"Dystawa, fy nghydwybod
Anesmwyth, rowd ddim llai
Nag y mae Duw yn ei ofyn
O daliad am fy mai;
Boddlondeb, a myn'd trosodd,
Rowd i anfeidrol lid;
A heddwch, a myn'd trosodd,
I edifeiriol fyd.'


"Yr eangder a geir yn nghaniadau Williams pan yn son am Berson a gwaith y Cyfryngwr, a welir hefyd yn ei olygiadau am y drefn drwy ei haeddiant ef i gadw pechaduriaid. Afreidiol yw cymeryd amser i brofi ei fod yn dal cyfiawnhad drwy ffydd yn ei holl helaethrwydd; oblegyd y mae Protestaniaid efengylaidd yn gyffredinol yn credu yr athrawiaeth hono, Ond nid oes unrhyw gydwelediad gyda golwg ar y drefn i aileni; ac y mae yn werth i ni chwilio beth oedd barn Williams, a oedd efe yn dal ailenedigaeth drwy ffydd, yr un modd a chyfiawnhad drwy ffydd. Mewn geiriau eraill, a ydyw aileni yn dyfod drwy ffydd, yn ôl ei farn ef, ai ynte ffydd yn dyfod drwy aileni? Saif y mater hwn mewn cysylltiad agos ag amryw faterion eraill. Er enghraifft, os yw ffydd yn dyfod drwy aileni, y mae yn rhaid fod ailenedigaeth yn rhagflaenu cyfiawnhad; ac hefyd y mae yn rhaid i ni gredu fod yr Yspryd Glan yn aileni dyn yn ddigyfrwng, ac nid drwy y gair. A'r hyn sydd yn fwy pwysig na'r cwbl, y mae y golygiad yma yn cynnwys fod bywyd ysprydol yn dyfod i'r enaid cyn ei uno a Christ drwy ffydd. Cyn myned i chwilio pa olygiad sydd yn gywir, byddai yn fuddiol cael ychydig o hanes yr athrawiaeth hon, fel y gweler i ba raddau y mae Williams yn cytuno a duwinyddion eraill; a gellir cyfyngu yr ymchwiliad bron yn gwbl i'r testun cyntaf, sef aileni drwy ffydd, neu ffydd drwy aileni, gan fod yr ateb a roddir i hwn yn effeithio ar y lleill.

"Y nesaf o'r holl dadau at yr Apostol Paul, er fod pellder anfesurol rhyngddynt, oedd Awstin o Hippo. Lled dywyll yw efe am ystyr y gair aileni, gan ei fod yn ei gysylltu yn ormodol a bedydd; er nad yw dweyd fod yr aileni hwn yn cynnwys mwy na rhyddhad oddiwrth bechod gwreiddiol. Yr hyn a elwir gan Brotestaniaid efengylaidd yn aileni ydyw yr hyn a eilw efe yn gyfiawnhau. Gwnaeth gamsyniad pwysig am ystyr y gair; ond y mae yn eithaf goleu yn gosod allan fod y cyfnewidiad hwn, pa beth bynnag y gelwir ef, yn dyfod drwy ffydd. Efallai nad oes neb wedi deall Awstin yn well na Neander; ac fel hyn y mae efe yn symio i fyny ei farn ef ar y pwnc: 'Ond er fod y Pelagiaid yn gosod allan yn eglur y cysylltiad allanol rhwng Crist a'r credinwyr, yn seiliedig ar yr hyn a wnaeth efe unwaith, ac a enillodd dros ddynolryw, ac a sicrhaodd iddynt am yr amser dyfodol, er hyny gosodent y cysylltiad tufewnol rhwng y ddau yn mhell o'r golwg, yr hyn nis gallasai lai na bod, yn ol egwyddorion sylfaenol eu cyfundraeth. Y mae Awstin yn dwyn yn mlaen yn barhaus yn erbyn eu cynllun yr wrthddadl, eu bod yn gwneuthur gras Crist i gynnwys dim mwy na chyfraniad o faddeuant: eu bod yn gadael dyn, wedi iddo gael hyn, i ryddid ei ewyllys ei hun, ac na chydnabyddent fod hyd yn nod yn awr ei holl gyfiawnder tufewnol neu ei sancteiddhad yn waith Crist yn unig; fod yr egwyddor newydd o fywyd dwyfol, yr hon yw ffynonell pob daioni yn y credinwyr, yn tarddu o'r undeb ag ef trwy ffydd. Yr undeb tufewnol rhwng Crist a chredinwyr, y cyfiawnhad neu sancteiddhad yn deilliaw o hyny a'i sylfaen yn Nghrist, dyma yr hyn a ddaliai Awstin yn eglur mewn gwrthwynebiad i'r Pelagiaid.' - (History of the Church, vol. iv., p. 363, Bohn's edition).

"Y mae yn amheus a oedd Calfin yn fwy dyn nag Awstin; ond y mae yn ysgrifennwr sydd yn medru dwyn ei feddyliau allan yn fwy eglur; ac nis gall dim fod yn fwy diamwys na'i farn fod aileni yn dyfod drwy ffydd. Yn y drydedd bennod o'r trydydd llyfr o'i Gorff Diwinyddiaeth, yr hon sydd yn traethu, fel y dywedir yn nechreu y bennod, am 'ailenedigaeth drwy ffydd,' yn y nawfed adran cawn y geiriau a ganlyn: 'Y mae y ddau hyn (sef marweiddiad y cnawd a bywhad yr Yspryd), yn dyfod i ni drwy undeb a Christ. Oblegyd os cawn wir gymdeithas yn ei angau ef, y mae ein hen ddyn yn cael ei groeshoelio drwy ei allu ef, a chorff pechod yn marw.' Yna dywed, ' Mewn un gair, wrth edifeirwch yr wyf yn deall ailenedigaeth.' Ac mewn mannau eraill dadleua fod edifeirwch yn dyfod yn unig drwy ffydd. Nid oes achos ymofyn yma pa un a ydyw yn barnu yn gywir mai yr un peth yw edifeirwch ac ailenedigaeth; ond y mae yn amlwg mai ei olygiad ef oedd fod ailenedigaeth yn dyfod drwy undeb a Christ, a'r undeb hwnnw yn dyfod drwy ffydd.

"Ar ol dyddiau Calfin aeth amryw o'r Protestaniaid i gredu ac amddiffyn y farn Arminaidd, yr hyn a barodd wrthdarawiad yn y lleill, fel yr aeth llawer o honynt yn fwy Calfinaidd na Chalfin. Ni fynnent i neb feddwl am gredu yn Nghrist cyn ei aileni, ac yn yr aileni nid oedd lle i'r Gair; ac y mae lle i gasglu, yn ol barn rhai o honynt, nad oedd lle yn yr aileni i Grist ei hun. Ond rhag gwneyd cam a neb, dylid ychwanegu eu bod yn cydnabod fod yr aileni yn dwyn y meddwl at y gair ac at Grist. Fel hyn y dywed Ridgley yn ei Gorff Duwinyddiaeth, 'Nis gall y gair lesâu os na fydd wedi ei gyd-dymheru a ffydd; ac nis gall ffydd weithredu os na fydd yn tarddu o egwyddor o ras wedi ei phlannu oddimewn; gan hyny nid yw yr egwyddor hon o ras yn cael ei chynhyrchu ganddo. Yr un peth fyddai tybied fod dal darlun prydferth o flaen dyn dall yn ei alluogi i weled.' Dilynwyd Ridgley gan Dr. Williams, o Rotherham, Dr. George Lewis, a lliaws o ysgrifenwyr eraill yn mysg yr Anghydffurfwyr. Hyn hefyd yw barn Dr, Hodge, o America, yr hwn yn ddiau ydyw un o dduwinyddion galluocaf yr oes hon; ac nis gallaf fyned heibio i'w enw heb dalu iddo deyrnged o warogaeth, ac annog pawb i ddarllen ei ysgrifeniadau.

"Ond y mae yn bryd i ni edrych pa beth oedd barn Williams a'r hen Fethodistiaid yn Nghymru ar y mater hwn. Fel hyn y dywed Williams yn ei Theomemphus am natur ffydd, ac am y drefn i aileni drwy ffydd:—

"R efengyl wy'n bregethu,
Nid yw hi ddim ond hyn,
Mynegu'r weithred ryfedd
Wnawd ar Galfaria fryn;
Cyhoeddi'r addewidion,
Cyhoeddi'r marwol glwy',
A diwedd llygredigaeth
I'r sawl a gredo mwy.

O cred, O cred, cai gymorth
I dynu'th lygad de;
O cred, O cred, cai allu
I dori'th fraich o'i lle:
Cred yn yr Oen fu farw
Fry ar Galfaria fryn,
Y fynyd gynta' y credost
Cai lawer mwy na hyn.

Nac edrych ar amodau
Fyth fyth o'th fewn dy hun;
Trwy gredu daw amodau,
Mae gras wrth gredu 'nghlŷn;
Y fynyd gynta' y credost
Yw'r fynyd byddi byw,
Wrth gredu yn Nghrist yn unig
Cai wel'd gogoniant Duw.

Nid credu Yw bod gennyt
Ryw drugain nôd ac un,
Amrywiol o rasusau
Rhagorol ynot d' hun;
Ond credu yw dy weled
Yn eisieu oll i gyd,
A'th eisieu yn peri it' bwyso
Ar Brynwr mawr y byd.'


"Nid yw y penillion hyn ond pigion o lawer a allesid roddi; ond y mae hyn yn ddigon i ddangos beth oedd barn Williams am ffydd, fel y mae yn derbyn Crist heb fod unrhyw anian dduwiol na chalon newydd yn gymhwysder blaenorol yn y dyn ei hun. Yna yn y rhan olaf o bregeth Efangelius rhydd oleu pellach ar y drefn fel y canlyn:—

"'Crynhowch eich holl achwynion
Y mwyaf sydd i'w gael,
Cewch yma ddigon digon
I'ch ateb chwi yn hael;
'Does dim ond edrych yma,
Mae edrych yn iachau,
Mae edrych yn sancteiddio,
Mae edrych yn mwynhau.

Mae'r ffynnon yn agored,
Dewch edifeiriol rai;
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu edifarhau;
Dewch gafodd galon newydd,
Dewch chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.'


Dyma oedd barn Williams; a gellir cymeryd yn ganiataol ei fod yn rhoddi barn gyffredin y Methodistiaid yn y cyfnod hwnnw. Ar ôl ei ddyddiau ef, y mae yn debyg na fu neb yn cynrychioli y Methodistiaid yn well na Mr. Charles o'r Bala: ac os dewisiwn gael ei olygiadau ef, nid oes raid i ni ond troi at yr Hyfforddwr. Yn yr wythfed bennod, ar ol son am aileni, gofynnir, ' Pa fodd y mae yr Yspryd yn gweithredu y cyfnewidiad hwn? ' A'r ateb ydyw, ' Trwy uno yr enaid a Christ, canys trwy undeb a Christ y mae pob gras a rhagorfraint yn deillio i ni." Y mae yma radd o anhawsder, drwy fod yr Hyfforddwr yn y bennod nesaf, ar ôl dweyd fod yr Yspryd Glan yn dwyn pechadur at Grist, drwy amlygu Crist, yn myned yn mlaen i sylwi mai y rhai sydd yn derbyn y datguddiad hwn o Grist yw y rhai a wir gyfnewidiwyd gan Yspryd Duw. Byddai yn waith buddiol i blant yr Ysgol Sabbothol, pe chwilient y ddwy bennod, nes cael golwg ar gysondeb y ddau ddywediad. Ond er mwyn cael golygiadau Mr. Charles yn helaethach ac yn eglurach, darllener y Geiriadur, dan y gair adenedigaeth.

"Wedi dangos fod golygiadau Williams am ailenedigaeth drwy ffydd yn cyd—fyned a'r hyn a geir yn ysgrifeniadau rhai o'r prif dduwinyddion, er yn wahaniaethu oddiwrth y cyffredin o'r hen Anghydffurfwyr, y mae yn aros i chwilio i ba raddau y maent yn cytuno a thystiolaeth yr Ysgrythyr. Yn y bennod gyntaf o Efengyl Ioan ceir ymadrodd fel hyn: 'Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef.' Pa un ai aileni drwy ffydd sydd yma, neu ynte ffydd drwy aileni? Mae yn sicr mai at aileni, ac nid at fabwysiad, y mae Ioan yn cyfeirio; oblegyd y tufewnol yw ei bwnc ef yn barhaus, tra y mae Paul yn son mwy am gyflwr dyn yn ei berthynas a deddf. Ond pe byddai rhyw amheuaeth, y mae hynny yn cael ei symud yn yr adnod nesaf— 'Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.' Felly, y drefn i ddyn gael ei aileni ydyw drwy dderbyn Crist; a'r rhai a dderbyniant Grist yw y sawl a gredant yn ei enw ef. Gwneir hyn yn eglurach eto gan Grist ei hun yn y drydedd bennod, lle y dengys i Nicodemus fod ei deyrnas ei o natur ysprydol, ac am hyny yn gofyn cyfnewidiad ysprydol, sef geni drachefn, cyn y gellir ei gweled a myned i mewn iddi. Yr oedd hwn yn ddechreuad angenrheidiol i'r ymddiddan, gan fod yr Iddewon mwyaf goleuedig yn coledd syniadau mor ddaearol am deyrnas y Mesiah. I'r cwbl nid oedd gan Nicodemus ond gofyn, Pa fodd? A diau ei fod yn gofyn o ddifrif; ac os felly, a ellir tybied fod yr Arglwydd Iesu yn gadael y gofyniad heb ei ateb? Na ellir yn ddiau. Ond, yn gyntaf, y mae yn hysbysu fod yn rhaid dwyn i'r golwg y pethau nefol am gariad Duw yn anfon ei unig—anedig Fab, y rhai ydynt yn fwy anhawdd eu credu na'r angenrheidrwydd am y cyfnewidiad tufewnol. Ond er mwyn ennill Nicodemus i'w credu, y mae yn dywedyd ei fod ef wedi disgyn o'r nef, a'i fod hefyd yn y nef. Yna y mae yn myned rhagddo i ateb y gofyniad drwy amlygu y drefn i aileni: ' Ac megys y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn; fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael o honno fywyd tragywyddol.' Y bywyd tragywyddol hwn yw y bywyd a dderbynnir yn yr ailenedigaeth; a gwelir ei fod yn dyfod drwy gredu. Dyma yr holl drefn ger ein bron; ac y mae yn dra thebyg fod y geiriau hyn yn meddwl Williams pan yn cyffelybu credu i edrych:—

"Does dim ond edrych yma,
Mae edrych yn iachau,
Mae edrych yn sancteiddio,
Mae edrych yn fwynhau.'


PWLPUD Y CAPEL COFFADWRIAETHOL YN LLANYMDDYFRI

"Yn llythyrau Paul daw yr un athrawiaeth i'r golwg, nid mewn ymadroddion achlysurol yn unig, ond fel swm a sylwedd ei ymresymiad, yn enwedig yn ei Epistol at y Rhufeiniaid. Fel sylfaen i'r holl ymdriniaeth am drefn yr efengyl, y mae yn traethu yn gyntaf am ein derbyniad gyda Duw drwy ffydd heb weithredoedd y ddeddf, ac yna yn myned yn mlaen i sylwi ar y cyfnewidiad tufewnol fel y canlyniad angenrheidiol i gyfiawnhad drwy ffydd. Dechreua draethu ar y mater olaf yn pen. vi. i, drwy ofyn, 'Beth wrth hyny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? ' Mae yn amlwg na fuasai lle i'r gofyniad hwn pe buasai cyfiawnhad yn rhagdybied ailenedigaeth. Ar y dybiaeth fod gras wedi amlhau tuag at ddyn y n y cyfiawnhad, cyn fod gras ynddo, y gellir gofyn, ' A drigwn ni yn wastad mewn pechod fel yr amlhao gras? ' Yr ateb i'r gofyniad hwn ydyw, ' A ninau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? ' Y mae yr ateb hwn yn cynnwys ein bod wedi meirw i bechod yn y cyfiawnhad; hyny ydyw, wedi meirw iddo yn gyfreithiol, fel nad oes gan bechod awdurdod arnom mwyach, megys nad oes gan y meistr awdurdod ar y caethwas pan fyddo y caethwas wedi marw. Ond pa fodd y mae y caethwas yn marw yn yr amgylchiad hwn? Dengys yr apostol yn yr un bennod ei fod yn marw i bechod drwy ddyfod i undeb ffydd a marwolaeth Crist. Y mae hyn oll yn perthyn i gyfiawnhad; ac felly mae cyfiawnhad yn ngolwg yr apostol yn cynwys, nid rhyddhad oddiwrth gondemniad yn unig, ond rhyddhad oddiwrth arglwyddiaeth pechod, yr hyn sydd yn cynwys hefyd nas gall neb fod yn was cyfreithlawn i bechod wedi ei gyfiawnhau. Ond i ddangos yn fwy eglur eto y cysylltiad anwahanol rhwng cyfiawnhad a sancteiddhad, dygir yn mlaen ein perthynas a'r ddeddf, yr hon oedd yn ein rhwymo yn nghaethiwed pechod. Nid oedd modd i ni farw i arglwyddiaeth pechod heb i'r ddeddf gael ei newid, neu i ni farw i'r ddeddf; ac nid oedd modd i ni farw i'r ddeddf oddieithr drwy undeb ffydd a marwolaeth Crist. Y mae hyn eto yn perthyn i'r cyfiawnhad. Ond o'r ochr arall, ' Yr ydym yn marw i'r ddeddf (yn y cyfiawnhad) drwy gorff Crist; fel y byddem eiddo un arall, sef eiddo yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.' A dyma wreiddyn ein hailenedigaeth, a dechreuad ein sancteiddhad. Gwelir fod y cwbl yn dyfod o undeb a Christ, a'r cwbl gan hyny yn dyfod drwy ffydd. Ceir yr un athrawiaeth yn y bedwaredd bennod o'r Epistol at y Galatiaid, lle y dywedir ein bod wrth natur yn gaethion dan wyddorion y byd. Yr oedd yr etifeddiaeth yn barod; ond yr etifedd yn gaeth, ac yn rhaid ei brynu. Y canlyniad o'r prynu ydyw mabwysiad; a chanlyniad y mabwysiad ydyw anfon Yspryd y Mab i'n calonnau ni, yn llefain Abba, Dad.

"Addysgiadol yw sylwi fel y mae Paul yn cyffelybu credu i farw, ac felly yn ei osod allan fel rhywbeth hollol groes i weithio, er mai o'r marw hwn y mae bywyd a gwaith yn tarddu. I'r un perwyl y dywed Williams, mai nid credu yw fod gennym rinweddau ynom ein hunain, ond gweled ein hunain yn eisieu oll i gyd, a'r eisieu hwnnw yn peri i ni bwyso ar y digonolrwydd sydd yn Nghrist. Y mae hyn yn wahanol iawn i'r gred sydd yn rhy gyffredin fod yn rhaid cael bywyd newydd yn yr enaid cyn y gall neb gredu. Mae yn sicr na ddylid priodoli i eraill ganlyniadau y farn a goleddir ganddynt, os byddant hwy eu hunain yn ymwrthod a'r canlyniadau hyny. Er hyny, am y rhai sydd yn dal y farn hon, byddai yn dda iddynt ystyried mor agos ydynt, ac mor hawdd yw iddynt lithro i'r golygiad Pabaidd am ffydd a chyfiawnhad. Addefa y Pabyddion fod cyfiawnhad drwy ffydd; ond dywedant yr un pryd fod ffydd wirioneddol yn cynwys cariad, ac felly gwnânt gyfiawnhad drwy ffydd yn gyfiawnhad drwy weithredoedd. Yr unig ffordd i wrthwynebu y golygiad Pabaidd ydyw drwy ddal, yn ôl tystiolaeth amlwg yr Ysgrythyr, fod aileni yn dyfod drwy ffydd, ac nid ffydd yn dyfod drwy aileni. Yr wrthddadl fawr yn erbyn hyn yw, nas gall dyn gredu heb fod ynddo fywyd yn gyntaf. Ond ni feddylir fod neb yn credu yn gadwedigol heb yr Yspryd Glan, mwy nag y mae yn marw yn naturiol heb i Dduw beri hyny. Ac os caniateir fod yr Yspryd yn argyhoeddi dyn cyn ei aileni, paham na ellir caniatáu ei fod yn ei ddwyn i gredu cyn ei aileni, er nad yw yr Yspryd yn preswylio ynddo nes y daw drwy gredu i undeb a Christ? Ond nid ei wella y mae yr Yspryd cyn iddo ddyfod at Grist, ond ei ddwyn at Grist er mwyn iddo gael ei wella. Gan hyny, nid oes achos i neb oedi nes cael tro cyn dyfod at y Ceidwad. Pe rhoddid derbyniad dwfn i'r athrawiaeth hon gan holl bregethwyr yr efengyl, byddent yn sicr o deimlo mwy o gryfder i alw ar bawb i ddyfod at Grist yn ddiymaros; ac i ddywedyd gyda Williams, yn y pennill a ddyfynnwyd eisioes:—

"Mae'r ffynon yn agored,
Dewch edifeiriol rai;
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu edifarhau;
Dewch gafodd galon newydd,
Dewch chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.'"


Dichon ein bod wedi aros yn rhy hir ar deilyngdod llenyddol, a chysondeb athrawiaethol emynau a chyfansoddiadau eraill Williams, ond nid ydym yn anghofio fod eu prif ragoriaeth yn gorwedd mewn cyfeiriad arall. I lawer pererin blinedig y maent wedi bod fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Buont yn gyfnerth i'r llesg, ac yn olew a gwin i lawer enaid drylliedig. Cafodd llawer olwg ar y wlad well a'r Brenin yn ei degwch drwy ei emynau ef. Profasant yn foddion gras i filoedd yn Nghymru, ac yr ydym yn hyderu y parhânt yn eu rhinwedd am oesoedd lawer i ddyfod.

Nis medrwn adael Williams heb goffhau y difyr hanesion sydd am dano, a'r ffraeth benillion a wnaeth ar wahanol achlysuron. Nid ydynt o nemawr gwerth ar wahân oddiwrth eu hawduraeth. Taflant oleuni ar ei barodrwydd, ei ffraethineb, a sirioldeb ei yspryd. Nid oes iddynt drefn amseryddol, nac ychwaith unrhyw sicrwydd am eu lleoliad, ac nis gellir dwyn nemawr o honynt o dan unrhyw ddosbarthiad. Gosodir hwy i fewn yma am fod gan y wlad barchedigaeth i fanbethau y bardd o Bantycelyn, a gwneir hyny mor fyr ag a fydd yn ddichonadwy. Danfonodd y pennill canlynol at ei wraig pan yr oedd ar daith trwy'r Gogledd:—

"Hêd, y gwcw, hed yn fuan,
Hêd y deryn glas ei liw,
Hêd oddi yma i Bantycelyn,
D'wed wrth Mali mod i'n fyw;
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw ei le,
Os na chaf ei weled yma,
Caf ei weled yn y ne'."


Cawn yn Methodistiaeth Cymru, cyf. iii., tudal. 345, nodiad fel yma: "Daeth hanes arall i law am y bardd pan yr ydoedd ar daith yn Môn, ac yn yr hanes y mae ffurf wahanol ar y pennill, 'Hêd y Gwcw,' ac ar yr amgylchiad a barodd ei gyfansoddi. Cymerwyd y bardd yn afiach, medd yr hanes, yn y Garnedd—ddu, a bu yn gorwedd ddyddiau rai. Yn ei salwch aeth yn isel iawn ei feddwl, a theimlai hiraeth angerddol am ei gartref, ac am ei deulu." Wylai a chanai fel hyn:—

"'Rwy'n awr yn eitha' Môn yn aros,
Ac y mae yn fy yspryd glwy',
Am gael gweled Pantycelyn,
'Chaf ei weled mo'no mwy!
Hêd, y gwcw, dros y bryniau,
Hêd, aderyn glas ei liw,
Dwg i'm newydd, dwg yn fuan,
A yw yno bawb yn fyw?
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw'i le,
Os na chai weled ar y ddaear,
Y caf ei weled yn y ne';
Hêd oddi yno, dos at Mali,
Dywed wrthi'n ddistaw bach,
Os ca'i gennad gan yr Arglwydd,
Y dof fi adre' eto'n iach."


Dywedir ddarfod i Williams, pan yn hen ŵr mewn tipyn o anghofrwydd meddwl, roddi "Hêd y Gwcw" allan i'w ganu, wrth ddechreu odfa mewn capel ag oedd wedi ei adeiladu yn bur agos i'r môr. Ymaflodd ei gyfaill yn nghwr ei gôt, a dywedodd yn ddistaw: " W. Williams, nid yw y penill yma yn weddus mewn addoliad." "Gwir a wedi di," ebe yntau; ac ar yr un anadl rhoddes y penill canlynol allan, a ddaeth i'w feddwl yn y fan, wrth glywed sŵn y môr:—

"Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
Yn chwyddo byth i'r lan;
Mae ynddi ddigon, digon byth,
I'r truan ac i'r gwan."


Gwnaeth y penill canlynol i dalu diolch i Enos, tad Owen Enos, o'r Twrgwyn, Sir Aberteifi. Yr oedd y bardd yn lletya ar dywydd ystormus yno, ac er mwyn iddo fyned i'w gyhoeddiad, rhoddodd Enos iddo fenthyg ei gaseg, a thaflodd ei wraig, "Pal," ei chlog drosto, gan estyn iddo botel yn cynwys rhyw wlybwr ag y tybiai hi a'i cadwai ef yn gynnes:—

"Deg bendith fo ar y clogyn.
Ac ugain fo ar 'Pal,'
A phymtheg fo ar y gaseg
A'm cariodd i mor dal,
A naw fo ar y botel,
Ddiddefnydd wrth fy nghlun,
A'r rhest ar gopa Enos,
I'w gwneyd yn gant ag un."


Yr oedd unwaith yn pregethu yn Môn, ac yr oedd y wraig yn cyd—drafaelio ag ef, fel y digwyddai yn aml. Daethant i Langefni. Ar ol y bregeth aeth y ddau i dafarndy, o'r enw Penybont, i letya. Yr oedd cynllwyn yn ngwersyll yr erlidwyr yn erbyn y pregethwr, ac wedi deall pa le yr ydoedd, ymgasglodd haid o honynt wrth ddrws y gwesty. Yr oedd gyda hwy grythwr (fiddler). Ar y pryd yr oedd Williams a'i wraig yn aros yn y parlwr, clywent drwst traed llawer o bobl yn y fynedfa, a gwelent ddrws y parlwr yn agor, a'r crythwr yn sefyll o'u blaen, tra yr oedd llu o ddyhiriaid wrth ei gefn. Pan welodd Williams ef, galwodd arno: "Tyr'd i mewn, fachgen." Y crythwr a ofynnodd, gyda llawer o goeg—foesgarwch, a garent hwy gael tinc? "Carem," atebai Williams, " gad dy glywed yn chwareu." "Pa dune? gofynnai y crythwr. "Rhyw dune a leici di, fachgen—Nancy Jig, neu rywbeth arall"—oedd yr ateb. Ar hyn dechreuodd rygnu y crwth, a gwaeddodd Williams ar y wraig, "Nawr, Mali,

"Gwaed dy groes sy'n codi fyny
'R eiddil yn gongcwerwr mawr;
Gwaed dy groes sydd yn darostwng
Cewri cedyrn fyrdd i lawr:
Gad i'm deimlo
Awel o Galfaria fryn."


A chanu a wnaethant nes gostegu ynfydrwydd y bobl, y rhai a lithrasant ymaith heb aflonyddu arnynt yn mhellach. Arferai Williams adrodd am erledigaeth arall a gafodd yn y Gogledd. Pregethai mewn tafarndy. Pan o gylch dechreu y gwasanaeth, daeth yswain y gymydogaeth a llu o bobl gydag ef, i'r amcan o'i niweidio. Ciliodd yntau o'r golwg, a darfu i'r tafarnwr ei berswadio i newid ei ddillad, ac ymddyeithrio. Daeth allan wedi newid ei wisg, ac ni ddarfu i'r erlidwyr ddeall mai efe ydoedd y pregethwr. Ond yn fuan cododd ystorm enbyd yn nghydwybod Williams yn nghylch priodoldeb ei ymddygiad, a daeth geiriau y Gwaredwr gyda nerth anorchfygol i'w feddwl: "Pwy bynnag a'm gwado i yn ngwydd dynion, minnau a'i gwadaf yntau yn ngwydd fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd." Gorfu iddo ddychwelyd, a gwisgo ei ddillad ei hun, a gwynebu y perygl. Adnabuwyd ef yn y man, a dechreuasant ymosod arno, ond gan i'r tafarnwr gymeryd ei blaid, ni dderbyniodd niwed. Efe oedd y cyntaf a geisiodd bregethu yn nhref Caernarfon. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Sir Fôn. Yr oedd ei wraig gydag ef ar y daith hon. Wrth groesi y culfor o borth Talyfoel, dyrysodd Mrs. Williams yn rhyw fodd yn ngodreu yr hwyl, a thaflwyd hi dros ymyl y cwch i'r môr. Yr oedd tybiaeth gref i hyn gael ei wneyd o fwriad! Pa fodd bynnag, gwaredwyd hi rhag boddi, a thiriasant yn ddiogel yn Nghaernarfon. Deallodd Williams yn fuan nad allai anturio pregethu yno, gan eu bod yn penderfynu ei rwystro neu ei ladd. Ymguddiodd, ac aeth ymaith mor ddirgel ag y medrai drannoeth. Nis medrai efe wrthsefyll erledigaeth fel y gwnâi y gwrol Howell Harris.

Medrai roddi sen yn bur ddeheuig. Yr oedd tyddynwr o Landdewi, yr hwn oedd yn berchen gwaith neu gloddfa, yn achwyn wrtho fod ei amgylchiadau yn isel, a bod ei dad yn byw ar driugain punt yn y flwyddyn yn well nag yr oedd efe ar gant. Dywedodd Williams wrtho:—

"Rho heibio waith Llaaddewi,
A chadw caseg fawr,
A bildio teiau nowydd,
A thynnu’r hen i lawr;
A phaid a rhenti'r tiroedd
I'r deiliaid yn rhy ddrud,
Gwna'r triugain fwy o lawer
Na wna y cant i gyd."


Cafodd un Evan Moses sen drymach ganddo. Teiliwr ac argraffydd oedd y gŵr hwn. Yr oedd wedi bod yn ddigon hyf i feirniadu marwnad Williams i Howell Harris, ac wedi gadael rhai penillion allan wrth ei argraffu hi:—

"Wel, gwrando, Evan Moses,
Y teiliwr gwaetha'i ryw,
O'r dorf ddi-rif deilwriaid
Erioed a greodd Duw;
'Dwy'n amheu nad yr Arglwydd,
A'th wnaeth di'n deiliwr glas;
Ond Satan a dy alwodd
At waith efengyl gras."


Cyfansoddodd Williams lawer yn nyfnder y nos, pan y byddai pawb eraill yn gorphwys. Dywedir y byddai yn aml, ar ol myned i orphwys ei hun, yn deffro ei gymar, gan waedu yn sydyn: "Mali, Mali; cannwyll, cannwyll, y mae yn rhaid i mi fyned i ysgrifennu." Goleuai Mali y gannwyll yn ddiymaros a dirwgnach, ond nid oedd efe bob amser pan ar ei deithiau yn cael yr un parodrwydd i weini arno. Un tro, yn y Collenau, yn ymyl Tonyrefail, medd rhai, yn Maescefnffordd, ger Llangamarch, medd eraill, methodd y bardd yn lan a dihuno y forwyn, a dyma fel y canodd iddi boreu drannoeth:—

"'R'wy' 'nawr yn gwel'd yn eglur,
'Tai clychau mawr y Llan,
A rhod y felin bapyr,
A gyrdd y felin ban;
A'r badell fawr a'r crochan
Yn twmblo oddeutu'r tŷ,
A'r gwely'n tori dani,
Mae cysgu wnelai hi."


Un tro yr oedd Williams ar daith trwy Fro Morganwg, ac yn pregethu yn Llysyfronydd. Yr oedd pobl y wlad o gwmpas wedi dyfod i'w wrando, ac yr oedd ganddo gopïau o Theomemphus i'w gwerthu ar ol yr odfa. Gwnaeth farchnad go dda o honynt; ond yr oedd un o'r enw Ned Lewis, un o wrandawyr Llangan, yn gomedd prynu, ac yn dweyd fod y llyfr yn rhy ddrud; dywedodd Williams wrtho:—

"Ned Lewis, er ei wrando,
Yn selog yn mhob man,
Sy'n hoffi ceiniog tincer,
Yn fwy na ffydd Llangan;
Ni phryn e' ddim o Theo',
Mae e' geiniog yn rhy ddrud,
Nes delo'r wiber danllyd
I frathu ei fynwes glyd."


Yr oedd dynes yn byw yn ymyl Castellnedd, yn Sir Forganwg, o'r enw Sali Stringol, ag y byddai Williams yn arfer masnachu a hi mewn llyfrau. Yr arfer oedd talu am yr hen wrth gael y newydd. Un tro, pan yr oedd Williams ar gylch, ni ddaeth Sali i'w gyfarfod fel y byddai yn arferol o wneyd, ac fe aeth y bardd i ofni y byddai iddo golli yr arian. Ysgrifenodd ati i achwyn, gan ddweyd y byddai ar amser penodedig yn Fforchonllwyn, Ystradgynlais, ac y carai iddi ei gyfarfod yno, a dwyn yr arian gyda hi. Digiodd Sali yn enbyd, a phan ddaeth yr amser, aeth yno yn ddrwg ei hwyl, er fod ganddi ffordd faith i'w cherdded. Yr oedd Williams yn lletya gyda Mr. Jones, yr offeiriad. Pan ddaeth Sali i'r tŷ, arweiniwyd hi i mewn i'r parlwr lle yr oedd y bardd, gŵr y tŷ, ac un neu ddau eraill yn eistedd. Cyfarchodd y bardd hi yn garedig, gan holl ei helynt; ond yr oedd hi yn rhy glwyfedig ei hyspryd i siarad, a thaflodd yr arian ar y bwrdd yn swta, a gofynnodd am receipt. Gwelodd Williams fod y wraig dda wedi tramgwyddo, a dywedodd, "Cewch, cewch, cewch, cewch," yn hollol hunanfeddiannol "Rhowch i mi dipyn o bapyr, Mr. Jones," meddai, ac wedi ei gael, eisteddodd i lawr i ysgrifenu. Ar ol gorphen, estynnodd y papyr i'r offeiriad, yr hwn a dorrodd allan i chwerthin; a phan ddarllenodd hwnw ef allan i glywedigaeth y cwmni, yr oedd Sali yn chwerthin mor iach a neb o honynt. Dyma y receipt:—

"Rwy'n rhyddhau Sali Stringol,
Y wraig a'r natur fawr,
O bob rhyw ddyled imi
O Noah hyd yn awr;
Dymunaf dda i Sali,
A'i chrefydd gyda hi,
A gwnaed hi hedd a'r nefoedd,
Fel gwnaeth hi hedd a mi."


Ryw bryd yn y flwyddyn 1788, yr oedd y bardd yn pregethu yn nghapel y Dyffryn (Dyftryn Clwyd), ac yn ol yr arfer gyffredin, yn y tymor hwnw, yn cadw cyfarfod eglwysig ar ol yr odfa. Yr oedd yno ddau wedi aros i ymofyn am aelodaeth o newydd, sef gŵr o saer yn y gymydogaeth, a merch ieuanc. Ymddiddanodd Williams a hwy, yn ol ei arfer, ac ar ol darfod, ebe fe, gan gyfarch yr eglwys: "Gadewch i'r eneth yma aros gyda chwi, ac ymgeleddwch hi; ond am y gŵr yma, nid oes ganddo fwy o grefydd nag sydd gan fy ffon i," gan daro ei ffon ar y llawr. Felly y troes pethau allan.

Yr oedd gŵr, o'r enw William Powell, aelod o eglwys Llansamlet, Morganwg, wedi gwyro at Sandemaniaeth, gan ddilyn Mr. Popkins, yr hwn oedd wedi gwyro o'i flaen ef. Pan yr oedd efe ar ei wely angau ymwelodd y bardd o Bantycelyn ag ef, ac yn y gair a goffheir iddo ei ddweyd wrth y claf, y gallwn weled fod gan y bardd feddwl da am ei grefydd, er iddo lithro ychydig oddi ar y ffordd: "Wil, Wil," eb efe, " ti fuost ti yn whil'o Llawer am ddyn'on perffaith yn dy dymor, mi.'dy wela di yn nes atyn' nhw' yn awr nag erioed." At y Mr. Popkins uchod y cyfeiriai Williams pan y dywedai, mai "pedwar peth a'i gwnaethai yn bregethwr mawr - perwig Samson Thomas, ceffyl Howell Davies, cyfoeth Popkins, a doniau Rowlands."

EGLWYS LLANFAIR-AR-Y-BRYN.
Yn dangos y Meini Coffadwriaethol cyntaf a osodwyd ar y beddau

Daeth gwraig fonheddig ato unwaith i'w wahodd i ddyfod i bregethu i'w thŷ hi yn Llandeilo Fân, yn Sir Frycheiniog. Ymddengys mai Mrs. Lloyd, Aberllech, ger Beiludu, ydoedd hi, boneddiges a fu yn dra chymwynasgar i grefydd yr ardal honno yn ei dydd. Dyma atebiad boneddigaidd y bardd iddi:—

"Ti, bendefiges hawddgar,
Mi gadwaf yn fy ngho',
I'th babell do'i bregethu
Pan ddelwyf gynta' ith fro;
Ac hefyd ti gai wobr,
Pan elo'r byd ar dân,
Am wa'dd efengyl Iesu
I blwy' Llandeilo Fân."


Ymddengys ei fod yn ŵr pur ddifater am ei ymddangosiad personol. Nid oedd un gwasanaeth yn rhy isel iddo ef ei gyflawni. Elai o gwmpas y wlad fynychaf ar gefn ei geffyl, gyda sachaid o'i lyfrau ar y cyfrwy; ac os digwyddai i'r tywydd droi allan yn anffafriol, ac yntau yn ddiddarpariaeth, benthycai gôt rhyw gyfaill, neu glog ei wraig, heb ymholi dim a fyddai dilladau felly yn gweddu gŵr parchus a chyfrifol fel efe. Cawn ei fod yn pregethu un tro yn mharlwr gŵr boneddig yn Margam, Sir Forganwg. Ei bwlpud yno oedd bwrdd derw caboledig, ac i'r amcan dyblyg, o beidio niweidio y bwrdd, ac o beidio niweidio ei hun drwy syrthio oddiar y bwrdd llithrig, tynodd ymaith ei esgydiau, a phregethodd yn hwylus yn nhraed ei hosanau, ar y wledd o basgedigion breision, yn Mhrophwydoliaeth Esaiah.

Dro arall, cawn ei fod yn pregethu ar dalcen pont Castellnewydd-Emlyn. Y gauaf oedd hi, ac yr oedd ar amser yr odfa, meddir, yn " dywydd embeidus, ac yn lluwcho eira." Gwisgodd Williams ei gôt fawr, a rhwymodd ddau napcyn ar ei ben, a gosododd het walciog ar hyny. Yr oedd carthen rawn, o'r fath a ddefnyddid i nithio yd ar faes agored, wedi ei rhwymo dros y cyfan gyda ffiled gaws. Pregethodd yn hwylus allan o'r pentwr dillad hyn. Diau fod yr amgylchiad hwn yn un eithafol iawn, er y gwyddis ei fod yn cael ei flino yn dost gan yr "hyp," neu y pruddglwyf, yn ei henaint, sef y cyfnod ar ei fywyd y dywedir i'r peth gymeryd lle.

Yr oedd Morgan Rhys, yr emynydd enwog, yn enedigol o'r un ardal a Williams, sef ardal Llanymddyfri; a buont yn gydaelodau o eglwys Cilycwm, ar un tymhor o'u bywyd. Ffaith hynod ydyw fod dau emynydd mor nodedig a William Williams a Morgan Rhys yn enedigol o'r un ardal, ac yn aelodau o'r un eglwys. Cytunir i osod Williams yn mlaenaf yn mhlith yr emynwyr Cymreig, ac y mae pobl o farn, a "Hiraethog" yn eu mysg, yn gosod Morgan Rhys yn nesaf ato. Arferent adrodd eu hymnau wrth eu gilydd. Byddai Morgan Rhys weithiau hytrach yn amleiriog, ac ambell bryd yn arfer gormodiaeth anochelgar. Un tro, pan yr adroddodd hymn newydd o brofiad pur uchel, dywedodd y prif emynydd wrtho: "Wel, y mae genyt ti yn hona, beth bynag, brofiad Cristion a haner da." Y meddwl oedd ei fod gryn lawer uwchlaw cyrhaeddiad y cyffredin o gredinwyr.

Bellach, rhaid terfynu. Ymddengys ei fod wedi ei fendithio a chyfansoddiad corphorol cryf, a mwynhaodd iechyd da, er ei fod yn hynod esgeulus o hono. Eisteddai i fyny yn aml i ysgrifenu hyd y boreu, ac anfynych yr elai i'w wely hyd ddau o'r gloch. Dygodd hyn y graianwst (gravel) arno, a chafodd ei flino yn fawr yn y blynyddoedd olaf gan y pruddglwyf. Yr oedd mor ofnus ar derfyn ei oes, fel nad elai allan y nos wrtho ei hun. Bu farw Ionawr 11, 1791, yn 74 mlwydd oed, yn y gadair freichiau, lle y gosodasid ef i eistedd tra y taenid ei wely; ehedodd ei enaid i'r orphwysfa dragywyddol y canodd mor odidog am dani, tra yr oeddynt wrth y gorchwyl hwnw. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Llanfair-ar-y-bryn, a phregethwyd yn Mhantycelyn ar yr achlysur gan Mr. Llwyd, Henllan, Cayo, i gynulliad llliosog ag oedd wedi dyfod i weini y gymwynas olaf iddo.

—————————————

OLNODIAD.

—————————————

Ar ol gorphen ysgrifenu y benod hon, tra yn chwilio cofnodau Trefecca, daethom o hyd i ffaith sydd i fesur yn cyfnerthu golygiad a amddiffynir genym ar dudalenau 154-6, ynglyn a'r cyfaddefiad o edifeirwch am afreolaeth, a wnaed gan Williams wrth Mr. Charles o'r Bala. Yr ydym yno yn dal mai edifarhau am iddo beidio oedi ei fynediad allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau a wnaeth efe, hyd nes y caffai ei lawn urddiad gan yr esgob. Cawn yn y cofnodau crybwylledig hanes Cymdeithasfa Fisol Longhollse, pan yr oedd yn bresenol Daniel Rowland, Howell Davies, a Howell Harris. Yn mysg pethau eraill, penderfynwyd: "Fod y brawd John Jones i fod yn ddystaw, mewn trefn i gael ei ordeinio, hyd nes y byddo yr ordeiniad trosodd." Y dyddiad ydyw Mehefin 8fed, 1743, sef dau fis wedi pasio penderfyniad fod Williams, Pantycelyn, i adael ei guwradiaeth. Dengys hyn fod yr arweinwyr eisioes wedi gweled mai gwell oedd i guwradiaid o dueddiadau Methodistaidd ymfoddloni ar fod dros amser yn ddysgyblion ananilwg, nes iddynt gael eu hordeinio; a'u bod yn cyfrif llafur presenol y cuwradiaid yn llai pwysig na'r gwasanaeth cyflawnach a fyddent yn alluog i'w roddi i'r diwygiad yn y dyfodol Hwyrach mai gwrthodiad yr esgob i urddo Williams a roddodd iddynt agoriad llygaid. Gwelwn yn y penderfyniad uchod eu bod yn trefnu na fyddai i John Jones syrthio

i'r un amryfusedd a'r Bardd o Bantycelyn.

DARLUNIAU O LEOEDD YN DAL PERTHYNAS A BYWYD A CHOFFADWRIAETH Y BARDD O BANTYCELYN

Y DARLUNIAU

Nid oes un darlun o Williams ar gael a wnaed tra yr oedd ef yn fyw, ac y mae yn dra thebyg na thynnwyd yr un. Hyn yw hanes y darluniau o honno a gyhoeddir gennym: Yr oedd gŵr, o'r enw John Williams, Wernogydd, Llanddarog, Sir Gaerfyrddin, pan yn ieuanc, yn arfer gwrando ar Williams, Pantycelyn, pan fyddai yn pregethu yn nghapel Llanlluan, yr hyn a wnâi unwaith yn y mis. Bu y bardd farw pan yr oedd awdwr y darlun tua 19 oed. Yn mhen blynyddau ar ôl ei farwolaeth, pan yr oedd y gan, Golwg ar Deyrnas Crist allan o brint, darfu i'r gŵr ieuanc hwn ysgrifennu copi o'r gan mewn copy-book, a gwnaeth ddarlun o'r bardd o'i gof ar y ddalen gyntaf gyda'r pin ysgrifennu. Ysgrifenodd dano y geiriau hyn: "A resemblance of the poet, William Williams, from recollection many years after his death." Ac o dan hynny eilwaith ysgrifennodd ddifyniad yn Lladin o waith Virgil, a chyfieithiad Saesoneg o dan hynny eilwaith. Rhed y cyfieithiad fel yma: "He shall partake of the life of gods, shall see heroes mingled in society with gods, himself be seen by them, and rule the peaceful world with his father's virtues." Ar dudalen arall o'r llyfr hwn y mae yn ysgrifenedig: "I attended Capel Llanlluan, where William Williams preached monthly, from my youthful days till he died. J. Williams, living in Bristol from 1819 till this day, December 16th, 1851. I was born February 2nd, 1772; 79 years old now. -J. W. This book was out of print when I lived at Carmarthen from my youth till 1802, and the whole of it copied out of a printed copy, and finished August 19th, 1779, at Wernogydd, in the Parish of Llanddarog, near Middleton Hall."Cafodd y diweddar Barch. R. Jones, Rotherhithe, afael ar y llyfr hwn gyda llyfrwerthwr yn Broadmead, Bristol, a phan fu Mr. Jones farw, fe brynwyd ei lyfrgell ef gan Gynghor Trefol Abertawe, ac y mae llyfr John Williams yn awr mewn cadwraeth ofalus yn Free Library y dref honno.

Y mae barn pobl yn amrywio am werth y darlun. Rhaid cyfaddef nas gellir rhoddi llawer o ymddiried i ddarlun wedi ei wneyd allan o gof dyn ieuanc, yn mhen blynyddoedd wedi i'r gwrthddrych farw. Y mae y llyfr mewn cadwraeth dda, ac ystyriwn ei fod wedi ei wneyd gan ŵr medrus ar ei bin ysgrifenu. Y mae y wyneb-ddalen yn ddynwarediad o waith yr argraffwasg. Teimlwn nad gwaith dyn anghelfydd ydyw. Nid yw ond amlinelliad, ond ceir yn aml fras-ddarluniau yn y cyfnodolion Saesoneg nad ydynt yn amgenach na hwn. Credwn fod John Williams yn ddigon galluog i gyflawni ei amcan, os oedd delweddau y bardd yn ddigon clir ar ei feddwl. Gellir casglu oddi wrth y nodiadau sydd ar y llyfr i'r darlun gael ei wneyd o fewn wyth mlynedd i farwolaeth Williams.

Yr ydym wedi bod yn holi hanes awdwr y darlun, ac yn cael mai enw ei dad oedd John William Arthur Williams, neu yn ôl yr hen enw gwledig, Siôn William Arthur, ac mai Mari oedd enw ei fam. Yr oedd iddo frawd o'r enw David Williams. Yr oedd y bechgyn yn enwog mewn dysgeidiaeth, ac yn gwybod ieithoedd. Y mae dyddiad hedydd John Williams i'w gael ar gôf-lyfr Eglwys Llanddarog, yr hwn sydd yn cyfateb i'r hyn a ddywed efe am ei oedran. Dywedir i Dafydd fyned at fonheddwr yn agos i Gaerdydd i ddysgu ei blant, ac iddo fyned i'r offeiriadaeth wedi hyny, a gadael Cymru. Excise Officer oedd John Williams, ond yr ydym wedi methu cael dim o'i hanes yn Bryste. Yr oedd y rhieni yn Fethodistiaid zêlog. Pan yr oedd y cyhoeddwr, William Mackenzie, o Glasgow, yn dwyn allan yr argraffiad o Holl Weithiau Williams, dan olygiad y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones, yn 1867, daeth Mr. Kilsby Jones i wybod am ddarlun John Williams, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn meddiant y Parch. R. Jones, Rotherhithe, a chafodd ganiatâd i wneyd defnydd o hono i addurno y gwaith. Ymddengys na thybiai y cyhoeddwr a'r golygydd fod darlun John Williams yn ddigon celfyddgar a gorphenol i ateb eu pwrpas bwy, ac felly gosodasant y gwreiddiol yn llaw cerfiedydd i wneyd darlun gweddusach a mwy gorphenol o'r bardd. Gwel y darllenydd fod copi Mackenzie yn bur annhebyg i'r gwreiddiol. Rhydd y cyntaf olwg ar Williams yn hynafgwr, tra y mae yr olaf yn ei ddangos yn ŵr ieuanc. Diau mai gwell fuasai iddynt adael y darlun fel y cawsant ef, ac ymfodloni ar roddi i'w darllenwyr gopi teg o ddarlun John Williams, a dweyd yn onest mai darlun a wnaed wedi marw y bardd ydoedd hwnw. Ond nid felly y gwnaethant hwy; ond yn hytrach cyhoeddasant ddarlun wedi ei seilio ar yr un gwreiddiol, ond yn gwahaniaethu yn fawr oddi wrtho, a hyny heb air o eglurhad, nac o ymesgusodiad. Nid ydym yn amheu nad oedd eu hamcan yn gywir a chanmoladwy, ond ymgymerasant a gorchwyl ag oedd yn ôl natur pethau yn anmhosibl. Bellach, y mae y wlad wedi cynefino a'r darluniau hyn, yn enwedig a'r eiddo Mackenzie; ac felly yr ydym dan fath o angenrheidrwydd i'w gosod yn y gwaith hwn, er nas gellir ymddiried llawer yn eu cywirdeb. Yn ngwyneb y diffyg hyn y mae y desgrifiad sydd gennym o'i ymddangosiad personol yn dra gwerthfawr, er mor ychydig ydyw. Dywed Mr. Charles "ei fod yn ei ieuenctyd yn ŵr hardd, bywiog, ac o'r maintioli cyffredin, a bod ei dymherau yn o boethlyd, ond yn gyffredinol ei fod yn dirion ac yn hawddgar tuag at bawb." Y mae hyn i fesur yn cydgordio a desgrifiad yr hynafgwr Price, Penybont, gŵr oedd yn byw yn ymyl cartref y bardd, ac yn ei adwaen yn dda. Desgrifiai efe ef i Mr. Daniel Davies, Ton, yn 1859, fel dyn bychan gorffolaeth, cyflym ei gerddediad, a siriol ei wedd. Yr oedd ei bryd yn oleu (light complcxion), y gwallt yn felyn, a'r llygaid yn leision; siaradai yn gyflym, a thorrai ei eiriau yn fyrion a chrwn. Yr oedd yn hynod o fywiog ei yspryd, ac dymer ysgafn a llawen.

LLWYNLLWYD. Dengys y darlun yr hen amaethdy a'r un newydd. Y mae boneddiges ieuanc yn sefyll yn ymyl drws yr hen amaethdy, yr hwn sydd yn gwasanaethu fel cegyn i'r tŷ presennol. Y mae y tŷ newydd, yr hwn sydd bellach yn agos i gan mlwydd oed, yn un helaeth a chyfleus. Adeilad hynafol yw yr ysgubor a welir ar ganol y darlun.

YR ATHROFA. Ysgubor yw yr adeilad yn bresennol, ac ymddengys ei fod wedi ei adeiladu ar y cyntaf i'r pwrpas hwnw. Yr oedd dwy ysgubor ar y tir, a diau i'r Parch. David Price waghau un o honynt, a'i gosod at wasanaeth yr athrofa. Saif ychydig bellder oddi wrth amaethdy Llwynllwyd, dau neu dri chant lathenni.

CAPEL MAESYRONEN. Mae y capel hwn yn sefyll ar fryn gyferbyn a Llwynllwyd, ac mewn pellder o tua dwy filldir. Y mae yn un o'r capelau Annibynol hynaf yn Nghymru.

CEFNCOED. Y mae yr amaethdy hwn heb nemawr o gyfnewidiadau ynddo er y dyddiau gynt.

EGLWYS LLANWRTYD. Nid oes gyfnewidiad o bwys yn yr eglwys hon er dyddiau Williams, er ei bod wedi myned dan adgyweiriadau.

AMAETHDY PANTYCELYN. Rhoddir yma ddau ddarlun o gartref y bardd. Dengys y cyntaf y tŷ fel yr ydoedd yn ei amser ef, a'r llall fel y mae yn bresennol. Yr ydym yn ddyledus i Mr. William Mackenzie am ganiatâd i gyhoeddi darlun o'r adeilad cyntefig.

LLANFAIR-AR-Y-BRYN, A'R HEN ADEILADAU AR Y BEDDAU. Yr ydym yn ddyledus i Mr. W. Mackenzie am hwn hefyd.

Y GOFADAIL. Y Parch. T. Levi, Aberystwyth, ddarfu gychwyn y mudiad o osod y gofadail bresennol ar fedd Williams. Dechreuodd ar y gwaith yn fuan ar ôl gorphen gyda chofadail y Parch. Daniel Rowland, Llangeitho. Gwasanaethai efe fel ysgrifennydd i'r mudiad, a D. Roberts, Ysw., Liverpool, fel trysorydd. Casglwyd at y pwrpas £300, ond ni wariwyd ar y gofgolofn ond oddeutu £150. Gwnaed hi oddi wrth gynllun o eiddo Richard Owen, Ysw., Architect, Westminster Chambers, Liverpool. Y mae yn un-ar-bymtheg a hanner o droedfeddi o uchder, ac o gwmpas chwe' tunnell o bwysau. Ei defnydd ydyw ithfaen coch (red granite). Y mae yn gerfiedig arni y geiriau canlynol:

Sacred to the memory of
the
REV. WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN,
in this Parish,
Author of several works in prose and verse
He waits here, the coming of the
morning star, which shall usher in
the glories of the first resurrection,
when at the sound of the Archangel's trumpet
the sleeping dust shall be reanimated,
and death for ever
shall be swallowed up in victory.
Born 1717; Died Jan. 11th, 1791;
Aged 71 years.

"Heb saeth, heb fraw, heb ofn, ac heb boen,
Mae'n canu o flaen yr orsedd ogoniant Duw a'r Oen;
Yn nghanol myrdd myrddiynau, yn canu oll heb drai,
Yr anthem ydyw cariad, a chariad i barhau."
Ar yr ochr arall i'r gofgolofn y mae yn gerfiedig fel yma:


ALSO, MARY,
the beloved wife of the above
William Williams,
who died 11th June, 1799;
Aged 76 years.

ALSO, THE REV WILLIAM WILLIAMS,
St. Clement's, Truro, Cornwall, Clerk,
eldest son of the above Rev. William Williams,
who died .30th Nov., 1818;
Aged 74 years.
ALSO OF THE REV JOHN WILLIAMS,
OF PANTYCELYN,
youngest son of the above Rev. William Williams,
who died 5th June, 1828;
Aged 74 years.
A sinner saved.

Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Tua'r un amser ag yr oeddid yn apelio at y wlad am arian i godi cofgolofn ar fedd y bardd, penderfynodd Cyfarfod Misol Sir Gaerfyrddin godi Capel Coffadwriaethol iddo yn nhref Llanymddyfri. Cyflawnwyd y ddau amcan. Y mae y capel yn un destlus a hardd. Cynlluniwyd ef gan Mr. J. H. Phillips, Architect, Caerdydd, ac adeiladwyd ef gan Mr. David Morgan, Adeiladydd, Abertawe. Mai ffenestri y ffrynt yn rhai lliwiedig, ac yn goffadwriaethol - un am y diweddar Dr. Thomas Phillips, goruchwyliwr y Feibl Gymdeithas, yr ail am y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), a'r drydedd am Ann Griffith, yr emmyddes enwog o Ddolwar Fechan. Costiodd y ffenestri lliwiedig hyn tua £160. Yr ydys yn dra dyledus am orpheniad y capel i ymroddiad a llafur y Parch. T. E. Thomas, Llanymddyfri, ynghyd a Mr. J. James, Draper, a brodyr eraill o dref Llanymddyfri. Costiodd £3,100. Agorwyd y capel ar ddyddiau Mawrth a Mercher, Awst 7fed a'r 8fed, 1888. Pregethwyd ar yr achlysur yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. W. Powell, Penfro, Edward Matthews, Dr. Saunders, T. Levi, Dr. Dickens Lewis, Dr. Cynddylan Jones, D. Lloyd Jones, M.A., H. Barrow Williams, a J. Williams, Brynsiencyn.

PWLPUD Y CAPEL COFFADWRIAETHOL. Gwnaed ef gan Mr. Joseph Rogerson, London Road, Liverpool. Maen yw ei ddefnydd-Caen stone, feddyliem-ac y mae wedi ei gerfio yn dra ardderchog. Y mae pump panel cerfiedig yn cylchynu y pwlpud, a phob panel, ond un, yn arddangos rhyw hanes ysgrythyrol. Yn y canol ceir cerflun o Williams. Darlunir ef megys yn eistedd yn ei lyfrgell yn ysgrifennu barddoniaeth. Y cerfluniau eraill ydynt: "Dychweliad y Mab Afradlon," "Crist a'r Wraig o Samaria," "Yr Ystorm ar Fôr Tiberias," a'r "Samaritan Trugarog." Costiodd £150, a thalwyd am dano a rhan o'r arian a gasglwyd ar gyfer y gofgolofn gan y Parch, T. Levi, Aberystwyth.

LLAWYSGRIFAU WILLIAMS. Yr ydym yn ddyledus i Bwyllgor y Llyfrau am y copïau hyn.

YR ALELUIA. Cymerwyd y darlun hwn oddi wrth y copi o'r argraffiad cyntaf, sydd yn meddiant y Parch. Owen Jones, M.A., Llansantffraid.

Nodiadau golygu

  1. Cofiant y Parch. J. Williams, Pantycelyn, gan y Parch. Maurice Davies, Llanfair-yn-Muallt, tudal. 24.
  2. Y Parch. W. Williams, Abertawe, yn Nhrysorfa 1865 tudal. 123.
  3. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf. iii., tudal. 583.
  4. Gweithiau William Williams Bantycelyn, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, cyf. i., tudal. 163.
  5. Ateb Philo Evangelius
  6. Gadael yr Eglwys Wladol o'i wirfodd a wnaeth efe, ar gais ei frodyr yn Sasiwn Watford; ac efe oedd y cyntaf o'r Tadau a'i gadawodd hi.
  7. Gwel Methodistiaeth Cymru, cyf. ii., tudal. 27.
  8. Methodistiaeth Cymru Cyf. i., tudal. 206.
  9. Mae yma gamargraff. Pan yr oedd Williams yn 73 oed, yr oedd wedi bod yn pregethu am 50 mlynedd, ac nid am 43. Y mae y dyfyniad Seisonig, a geir yn nechreu yr ysgrif hon, yr un mor wallus. Felly y ceir y cyfrif gan y Parchn. .J. Hughes a N. Gynhafal Jones. Ceir y cyfrif yn gywir yn y copi o lythyr Williams at y Parch. T. Charles, fel y mae yn Yr Arweinydd, cyf. v., tudal. 180. Dyddiad y llythyr yw Ionawr 1af, 1791. Dywed yno fel yma:— "Deallwch, er fy mod wedi gwella rhyw faint o'r poen dirfawr fu arnaf, nid wy' ond gwan a llesg eto, ac yn analluog iawn, ac nid oes geni fawr gobaith gallu dyfod allan fawr neu ddim byth mwy, am fy mod yn 73 oed; ond meddyliwch fath siomedigaeth i ddyn ag oedd yn trafaelio agos i dair mil o filldiroedd bob blwyddyn tros 50 o flynyddau, fod yn awr heb drafeilio dim rhagor na 4 o droedfeddi yn y dydd, sef o'r tân i'r gwely."
  10. Hen Farwnadau, gan y Parch. T. Levi.
  11. Gweithiau Williams, gan y Parch. N. Gynhafal — Jones, D.D., cyf. ii, tudal.
  12. Llythyr oddiwrth y Parch. Owen Jones, M.A., Llansantffraid.
  13. Ieuan o Leyn
  14. Dafydd Ddu
  15. Howell Ieuanc o Lanllyfni
  16. Gwallter Mechain
  17. Y Bardd Glas o'r Gadair
  18. Twm o'r Nant
  19. Goronwy Owen
  20. Traethodydd, cyf. iii., tudal. 160
  21. Traethodau Llenyddol, tudal. 157