Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II/Ebenezer Richard, Tregaron

John Elias (parhad) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant

PENOD XLIII.

EBENEZER RICHARD, TREGARON.

Henry Richard, Trefin─Genedigaeth a dygiad i fynu Ebenezer Richard─Ei ymuniad a'r eglwys─Y mae yn symud i Frynhenllan i gadw ysgol─Bron cael ei lethu gan argyhoeddiad─Yn ddyn newydd mewn canlyniad─Yn dechreu pregethu─Jones, Llangan, yn ei holi ef a'i frawd yn Nghyfarfod Misol Sir Benfro─Y mae yn symud i Aberteifi i fod yn athraw i feibion Cadben Bowen─Ei lafur mawr, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol─Ei daith gyntaf i'r Gogledd─Odfa effeithiol yn Nghymdeithasfa y Bala─Ei briodas—Yn symud i Dregaron─Ei ymosodiad ar lygredigaeth y wlad─Ei neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth─Diwygiad 1811─Ei benodi yn Ysgrifenydd y Gymdeithasfa─Mr. Richard yn bregethwr o'r dosparth blaenaf─Yn meddu holl gymhwysderau arweinydd─Ei ddawn gyda'r Ysgol Sabbothol─Ei yspryd cenhadol─Yn nodedig am ei fedr i ysgrifenu llythyrau─Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.

I fendithiwyd Cyfundeb y Methodistiaid yn y Deheudir â gweinidog mwy ffyddlon, a mwy defnyddiol gyda holl ranau gwaith yr Arglwydd, na'r Parch. Ebenezer Richard. Yr oedd yn bregethwr nodedig, yn ddihafal o ran medr gyda'r Ysgol Sabbothol ac fel holwr pwnc, ac yn drefnydd gwych, y goreu a gafwyd yn y Dê oddiar dyddiau Howell Harris. Yn y peth olaf hwn nis gwyddom am neb yn y Cyfundeb yn cystadlu âg ef, oddigerth Howell Harris ei hun, a Mr. Charles. Meddai lygad craff, ewyllys benderfynol, medr arbenig, ac yni diderfyn. Trwy ei ragofal, a'i ymdrech ef tuhwnt i neb arall, meddianwyd rhan uchaf Sir Aberteifi gan Fethodistiaeth, ac yn ei meddiant y mae hyd y dydd heddyw. Drwg genym nas meddwn lawer o hanes y gweinidog enwog hwn. Cyhoeddwyd Bywgraffiad iddo gan ei feibion, yn bur fuan gwedi iddo farw; ond gwneir y llyfr i fynu yn benaf o lythyrau a ysgrifenwyd ganddo, ac a anfonwyd ato, fel y mae hanes ei oes lafurus, i raddau mawr, wedi myned ar goll. Rhaid i ni bellach wneyd y goreu o'r defnyddiau a feddwn.

Mab ydoedd i Henry Richard, yr hynaf iddo o Hannah, ei ail wraig. Cawsai Mr. Richard ddau fab o'i wraig gyntaf, sef John a William, y rhai a dreuliasant eu hoes yn Sir Benfro. Bu hefyd iddo, o'i wraig Hannah, ar ol geni Ebenezer, ddau o blant, sef Thomas, a ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru fel y Parch. Thomas Richard, Abergwaun, a merch o'r enw Mary. Tipyn o gynghorwr, ac ysgolfeistr gyda hyny, oedd Henry Richard. Bu yn cadw ysgol Madam Bevan mewn amryw fanau yn y Gogledd ac yn y Dê. Nid oedd iddo ddinas barhaus yn un man, a hyny yn un peth am mai symudol oedd yr ysgol, ac na oddefid iddi aros yn hir mewn unrhyw ardal; a pheth arall, yr oedd yntau yn ormod o Fethodist i foddhau y y clerigwyr. A Methodist y cyfenwid pawb y pryd hwnw os byddai yn efengylaidd ei syniadau, yn arwain buchedd sanctaidd, ac yn ymgais at achub eneidiau ei gyd-ddynion. Ymddengys mai byr oedd ei ddawn pregethu, ond ei fod yn hynod fel gweddiwr. Yr ydym yn ei gael, tua'r flwyddyn 1767, yn cadw ysgol yn mhlwyf Llanaber, nid yn nepell o'r Abermaw. Dywed Methodistiaeth Cymru nad oedd yn pregethu y pryd hwn, ond y byddai yn gweddio yn hynod yn mysg y plant, yn rhybuddio yn hallt yn erbyn pob anfoes ac afreolaeth, ac yn ceisio arwain meddwl y bobl at eu mater tragywyddol. Nis gellid goddef i ŵr fel hyn aros yn hir yn yr ardal, a buan y cafodd ei yru ymaith, rhag iddo lygru y gymydogaeth, a dwyn pawb i feddwl am grefydd fel yntau. Ond yr ydoedd yn rhy ddiweddar; cawsai y surdoes ei osod yn y blawd eisioes. Cynghorion yr ysgolfeistr, fel hâd yn cael ei daflu i'r ddaear, oeddent yn barod wedi gafaelu yn nheulu un Robert Griffith, o'r Abermaw. Ymwelodd yr Arglwydd yn gyntaf a Mrs. Griffith, wedi hyny â'i mab Hugh, ac yn ddiweddaf â Robert Griffith ei hun, a dyma gychwyniad Methodistiaeth yn Abermaw. Ar ol bod yn symud o fan. i fan mewn cysylltiad â'r ysgol, yr ydym yn cael Henry Richard o'r diwedd yn ymsefydlu yn Nhrefin, Sir Benfro. Treuliodd weddill ei oes yn dra defnyddiol, gan gynorthwyo Howell Davies, John Harries, Evan Harries ei fab, Jones, Llangan, ac eraill, gyda gwaith yr Arglwydd yn Mhenfro, a gadael argraff ar feddwl pawb, os nad oedd yn bregethwr mawr, ei fod yn hynod o dduwiol, ac yn enwog am ei ddawn gweddi. Cafodd fyw i weled oedran teg; ond yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1812, syrthiodd y ceffyl dano wrth ei fod yn dychwelyd adref o'i gyhoeddiad, a thorodd yntau ei glun; yr hyn a derfynodd yn ei angau, Rhagfyr 7, 1812.

Ganwyd Ebenezer Richard yn Nhrefin, Rhagfyr 5, 1781. Felly, yr oedd ddeuddeg mlynedd yn ieuangach nag Ebenezer Morris, a David Evans, Aberaeron. Nid annhebyg iddo gael cyfleustra i wrando Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, oblegyd yr oedd agos yn naw mlwydd oed pan fu y cyntaf farw, ac yn myned ar ei ddeg adeg marwolaeth yr ail; ond yr oedd Howell Davies, Apostol Sir Benfro, wedi cael ei osod i orwedd yn y priddellau un-mlynedd-ar-ddeg cyn iddo ef gael ei eni. Dywed ei frawd mai plentyn ofnus a gwylaidd oedd Ebenezer; ni welid mo hono yn ymdaflu i chwareuaeth gyda phlant y gymydogaeth, ond yn hytrach hoffai gymdeithas ei fam, a'i lyfr. Ymddengys ei fod er yn blentyn o duedd grefyddol; cymerai ei fam, yr hon oedd. yn enwog am ei duwioldeb, drafferth i'w hyfforddi yn ngwirioneddau yr efengyl, a dygai ef gyda hi i'r gymdeithas eglwysig yn Nhrefin.

Adroddir am dano ddarfod iddo pan yn chwech mlwydd oed, Sul y cymundeb, estyn ei law a chymeryd y bara; canfu ei fam ef, a rhwystrodd ef i dderbyn y cwpan. Gwedi myned allan, hi a'i ceryddodd ef, gan ddweyd: "Fy anwyl blentyn, paham y gwnaethost ti hyn?" Yntau yn doddedig a ofynodd yn ol: "Paham y gwnaethoch chwi hyn ?" "Cofio yr oeddwn i," ebai hi, “am angau Mâb Duw." "Hyny oeddwn inau yn wneuthur," meddai yntau; a'i fam a aeth yn fud.

Ychydig a wyddom am ddyddiau ei ieuenctyd, nac am yr addysg a dderbyniodd. Gan fod ei dad yn hen ysgolfeistr, nid annhebyg iddo gyfranu rhyw gymaint o elfenau dysgeidiaeth i'w feibion, ac i Ebenezer fanteisio yn helaeth ar hyny. Cafodd hefyd yn ddiau ei anfon i'r ysgolion goreu oedd yn y rhan hono o'r wlad. Efallai iddo fod dros ryw gymaint o amser yn Ysgol Ramadegol Hwlffordd. Yr hyn sydd yn peri i ni dybio hyny yw, mai hynod o wael oedd yr addysg a gyfrenid y pryd hwnw yn yr ysgolion gwledig, a bod Ebenezer Richard yn ysgolhaig rhagorol, yn medru ysgrifenu Cymraeg a Saesneg yn gywir a gramadegol; a thebyg hefyd ei fod i raddau yn gydnabyddus â'r ieithoedd clasurol, onide nis gallai fyned yn athraw i feibion boneddwr o safle. Yr oedd yn ddysgwr cyflym, ac yn dra hoff o lyfrau. Gwedi dyfod yn llanc, teimlodd bleser dirfawr mewn gwrando yr efengyl; yr adeg hono yr oedd pregethu teithiol yn ei ogoniant, a phan yr ymwelai pregethwyr enwog a phoblogaidd â Sir Benfro, canlynai hwynt an ddyddiau o ardal i ardal. Pan oedd tua phymtheg mlwydd oed cafodd ei orddiwes gan afiechyd peryglus; bu yn agos i angau yr adeg hon, ond Duw a drugarhaodd wrtho, ac wrth eglwysi Cymru. Effeithiodd yr afiechyd arno er ei wneyd yn fwy difrifol, ac yn fuan cymerodd ei le fel cyflawn aelod yn eglwys Dduw. Y flwyddyn ganlynol y glaniodd y Ffrancod yn Mhencaer, ger Abergwaun. Y mae yr hanes. mor gyffredinol hysbys fel nad rhaid i ni ei adrodd; ond gallwn nodi fod Trefin o fewn ychydig filldiroedd i'r man y tiriasant, a darfod i'r amgylchiad effeithio yn ddwys ar feddwl Ebenezer ieuanc. Cyfansoddodd gân ar yr amgylchiad, yr hon a gafodd ei hargraffu y flwyddyn hono. Difynwn un penill o honi, nid am y cynwysa lawer o wir farddoniaeth, ond er dangos difrifwch yspryd y cyfansoddydd:

"Cawsom waredigaeth hynod,
Gwaredigaeth loyw, lân;
Gwaredigaeth nad oedd ynddi
Swn bwledau, na thwrf tân!
Ein cadernid oll fu'n sefyll
'N unig ar ei ysgwydd gref,
Yn y man lle mae yn pwyso
Daear gron ac uchder nef."

Yn mhen yspaid o amser ar ol hyn symudodd o dŷ ei rieni i gadw ysgol yn Mrynhenllan, lle rhwng Trefdraeth ac Abergwaun. Yma y daeth yn argyfwng yn ei hanes ysprydol. Yr ydoedd o'i febyd, fel y darfu i ni sylwi, o duedd grefyddol, ac er ys peth amser bellach wedi cymeryd ei le yn yr eglwys fel cyflawn aelod. Yr ydoedd yn bur ei foes, yn cael dirfawr hyfrydwch wrth wrando y Gair, yn fanwl yn nghyflawniad ei ddyledswyddau crefyddol, ac yn dra chymeradwy yn mysg pobl yr Arglwydd. Ónd ni phrofasai argyhoeddiadau cryfion; nid oedd, yn ol iaith yr hen bobl, wedi cael ei arwain at Sinai, i weled y mynydd yn mygu drosto, y melt yn llewyrchu yn ofnadwy, a tharanau y gyfraith yn rhuo, ac yntau yn cael ei ddal yn euog gerbron Duw, nes yr oedd yn myned yn golli bywyd arno. Mawr ddymunai gael rhywbeth tebyg i hyn; gweddïai am dano gerbron yr Arglwydd. A'i ddymuniad a gafodd. Pa foddion a ddefnyddiwyd i gynyrchu cyffro yn ei enaid, nis gwyddom; ond aeth yn ystorm fawr arno. Bu am ryw gymaint o amser yn crwydro ar ymylon anobaith; teimlai fod uffern wedi agor ei safn i'w dderbyn, ac ni chanfyddai un drws o waredigaeth yn agor. Am ryw yspaid ceisiai ddod i fynu ar dir y ddeddf, gan ymroddi i ymprydiau, gweddïau, a phenydiau poenus, ddydd a nos. I'r pwrpas hwn ymneillduai o gymdeithas ei gyfeillion, gan dreulio y rhan fwyaf o'i amser ar ei ben ei hun. Ond nid oedd y pethau hyn yn tawelu rhuadau ei gydwybod, ac nis beiddiai eu cynyg i'r Arglwydd fel defnydd cyfiawnder. Mor galed ydoedd ar ei yspryd, fel y bu raid iddo roddi i fynu ei alwedigaeth, a dychwelyd i dŷ ei rieni. Ond ar ol cael ei guro yn nhrigfa dreigiau, cafodd olwg ar y ddihangfa. Fel hyn yr ysgrifena, am Orphenaf 1af, 1801: "Y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd, ond yr wyf yn gobeithio mai ynddi y dechreuodd dydd na bydd terfyn iddo byth." Y gair a fendithiwyd i chwalu y tywyllwch oddiar ei feddwl oedd Heb. vii. 25: "Am hyny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Ystyriai ef, gwedi hyn, ei fod wedi rhyfygu pan yn gweddio am gael argyhoeddiad llym, a rhybuddiai eraill rhag dilyn ei esiampl. "Gwnaethum i felly," meddai, "a chefais fy neisyfiad; ond dyoddefais tano loesion ac arteithiau na ewyllysiwn weled na chi na sarph yn dyoddef eu bath."

Dychwelodd Mr. Richard i Frynhenllan yn ddyn newydd. Nid ydym am benderfynu nad oedd yn dduwiol yn flaenorol, ond yr oedd yn awr wedi pasio trwy argyfwng difrifol, argyfwng a'i gwnaeth yn

ddyn gwahanol am byth. Bellach, yr oedd yn fawr ei awydd am wasanaethu ei Brynwr, a cheisiai y brodyr ganddo gymeryd rhan yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Hyny a wnelai yntau, ac yr oedd y fath hynodrwydd yn ei ddawn, y fath briodoldeb yn ei eiriau, a'r fath ddwysder angherddol yn ei yspryd, nes synu pawb. Gorfodid ef yn aml i ddechreu yr odfaeon o flaen pregethwyr dyeithr, ac nid anfynych byddai mwy o son am y weddi ddechreuol nag am y pregethau a ganlynai. Trwy hyn, daeth ei gymhwysderau arbenig ar gyfer gwaith y weinidogaeth yn amlwg, a chymhellwyd ef gan henuriaid yr eglwys i lefaru. Petruso a wnaeth am beth amser; ofnai ruthro yn rhyfygus, ac heb gael ei alw, at y gwaith goruchel; ac y mae yn ymddangos mai gwrthsefyll pob cymhelliad a wnelai, oni bai ofn digio yr Arglwydd. Pregethodd gyntaf yn y Dinas, oddiar Rhuf. viii. 34: "Crist yw yr hwn a fu farw." Y mae rhaniadau, ac is-raniadau, y bregeth ar gael; nid oes dim neillduol ynddynt, ond eu bod yn hynod o Buritanaidd o ran arddull, ac yn dra Ysgrythyrol o ran cynwys. Dywedir, modd bynag, fod llewyrch mawr ar yr odfa; i rywbeth hynod ddisgyn ar yspryd y pregethwr ei hun, ac hefyd ar ysprydoedd y gwrandawyr.

Bu yn pregethu am ryw yspaid heb gael ei awdurdodi gan unrhyw lys crefyddol, oddigerth eglwys y Dinas. Yn mhen tua blwyddyn dechreuodd ei frawd Thomas bregethu, ac yn fuan aed âg achos y ddau i'r Cyfarfod Misol. Yr oedd Mr. Jones, Llangan, erbyn hyn wedi symud i fyw i Sir Benfro, ac efe a gymerai y rhan fwyaf blaenllaw yn yr arholiad. Holai yn galed, ac yr oedd ei wedd yn llym a difrifol; ond cafodd ei lwyr foddloni yn yr atebion, ac y mae yn debyg ei fod wedi cael cyfleustra yn flaenorol i'w gwrando, oblegyd wrth ddyfod allan o'r cyfarfod dywedai wrth ŵr dyeithr oedd yn bresenol: "Y mae y ddau fachgen hyn yn pregethu fel dau angel." Ymdaflodd Mr. Ebenezer Richard i waith yr efengyl gydag yni a phenderfyniad. Nid oes genym unrhyw fanylion am ei lafur, na hanes odfaeon hynod a gafodd; ond y mae yn sicr iddo, oblegyd arbenigrwydd ei ddawn a'i addfedrwydd, gael ei hun yn fuan yn y ffrynt yn mysg pregethwyr Sir Benfro. Cadwai ddydd-lyfr; ond ceir ynddo yn benaf nodiadau ar ystad ei yspryd, a'i brofiad yn y gwaith, yn hytrach na hanes gwahanol ddygwyddiadau cysylltiedig a'r achos crefyddol



PARCH EBENEZER RICHARD, TREGARON, SIR ABERTEIFI.

yddol. Modd bynag, ni a ddifynwn ychydig o hono, er amlygu yn benaf dymher ei feddwl:

"Medi 24, 1805. Yr wyf yn hyderu y gallaf, oddiar brofiad, alw yr Arglwydd yn Jehofah-Jireh, canys efe a ddarparodd yn rhyfedd i'w was gwael heddyw, ar ol ofni ei fod wedi fy rhoddi i fynu. Eangodd arnaf o'i ras. Gwelais bethau rhyfedd allan o'i air yn Luc xiv. 23. O! am gymhorth i beidio tristhau ei Yspryd anwyl, ac i rodio yn isel ger ei fron.

"Tachwedd 12. Bu Cyfarfod Misol y sir yn nghyd heddyw yma. Pregethodd y brawd Evan Harries ar Heb. i. 3. Ac yma y cefais y newydd syn, annysgwyliadwy, am farwolaeth Gwelaf mai yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau, a tharawyd fi a'r gair yn Matt. xxiv. 44. Ymdrechais lefaru ychydig oddiwrtho y dydd canlynol yn ei hangladd. Y nos hon, sef y 13eg, a fu yn werthfawr; i'r Arglwydd y bo'r clod. Llyncwyd fy myfyrdod i'w gyfraith ef; teimlais ei achos yn nes ataf na dim arall, a hiraethais na allaswn wneuthur mwy gydag ef yn y byd. I'r dyben hwn adnabum orsedd gras yn werthfawr.

"24. Oedd Sabbath yn wir i'm henaid. O! am enaid i fendithio yr Arglwydd am ei diriondeb y dydd hwn i mi waeledd, yn mysg fy mhobl fy hun; y boreu, ar Job xi. 20; yr hwyr, ar 1 Cor. x. 4. Byth ni anghofiaf yn llwyr y Sabbath hwn, canys efe a gwblhaodd ei air daionus a'i was gwael; ond deallais nad ydwyf un amser mewn mwy o berygl na phan y byddo yr Arglwydd yn gweled yn dda egluro ei hun i'm henaid. O! gwna i mi wylio.

"Rhagfyr 11. Cyfarfu Cymdeithas Fisol y sir heddyw yn Nhyddewi. Pregethodd Mr. Evan Harris, a Mr. Jones, Llangan; y cyntaf oddiar Dat. vi. 2, a'r ail oddiar Phil. iii. 10. Cafwyd achos o newydd i hyderu fod yr Arglwydd heb ein gadael, a bod ei wyneb ar y gwaith dirgel a chyhoedd.

"Ionawr 1, 1806. Dechreuais flwyddyn newydd heddyw. Cyfarfum â'r Loyal Briton Society heddyw. Llawer fu tywydd fy meddwl wedi fy ngalw at y gorchwyl presenol, ac ar ol llawer o wibio yma a thraw, sefydlodd fy meddwl ar y rhan hyny o Air Duw, Luc ii. 14: 'Ac ar y ddaear tangnefedd.' Yr ydwyf yn hyderu i'r Arglwydd fy nghynorthwyo. Gwelais ei fod yn arwain y deillion ar hyd ffordd nid adnabuant. Yr ydwyf yn cofio llawero dywydd fy meddwl o herwydd addaw yn rhy fyrbwyll myned i S., heb osod yr achos gerbron yr Arglwydd. O! na byddai hyn yn rhybudd i mi rhag law. Llawer a gynhyrfodd balchder fy nghalon ar yr achos hyn, ond gwelodd yr Arglwydd yn dda fy narostwng, maddeu i mi, a llewyrchu ei wyneb i ryw raddau ar fy meddwl. Dyma Dduw rhyfedd! Aethum i S. a A.; yma y mae hi eto yn hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd fi.' Clod iddo!

"Mawrth 19. Dyma ddiwrnod ein cyfarfod gweddi. Och! mor ammbarod ac anaddas ydwyf i'r gwaith mawr o geisio dynesu at Dduw. Ceisiais feddwl heno, cyn dechreu ein cyfarfod, mai yn moddion gras y mae yr Arglwydd yn adferu ac yn adnewyddu ei bobl. Crynhodd yn nghyd lawer o bobl, tuhwnt i a welais er ys dyddiau lawer. Diolch i Dduw am hyn. Cynorthwywyd y brodyr yn y gwaith yn gyhoeddus i fyned trwyddo yn hardd. Yn ddirgel, fe ymddiddanodd amryw o honom rywbeth am ein tywydd. Cafwyd gradd o gymhorth i ymddiddan â dwy chwaer, ac ar ddiwedd y cyfarfod canwyd yr emyn. hono:

'Dechreu canu, dechreu canmol.'

Yn y rhan hon o'r gwaith gwawriodd arnom mewn modd anarferol; aeth rhwymau llawer yn rhyddion, ac ymadawsom, er ei bod yn awr ddiweddar o'r nos, mewn tangnefedd ac yn siriol. Diolch i'n Duw."

Nis gallwn ddifynu ychwaneg, ond gwasanaetha hyn i brofi fod Mr. Richard, hyd yn nod pan yn ddyn ieuanc pedair-ar-hugain oed, yn ŵr o sylw manwl, barn. addfed, yn llwyr gysygredig i'r efengyl, ac yn cadw gwyliadwriaeth feunyddiol ar ei yspryd. Byddai yn dda genym pe buasai wedi cofnodi mwy o ffeithiau; byddai hanes Cyfarfod Misol Sir Benfro, yn adeg dechreu gweinidogaeth y ddau Richard, pan oedd Mr. Jones, Llangan, ac Evan Harries, yn brif golofnau, yn werthfawrusach na'r aur colladwy. Ond rhaid i ni ymfoddloni ar ydym wedi gael. Rhwng y linellau gallwn ddarllen ei bod yn adeg lwyddianus ar grefydd; fod arddeliad amlwg ar y Cyfarfod Misol, y ceid gwedd wyneb yr Arglwydd gyda'r pregethu, yn y cyfarfod gweddi, ac yn y seiat breifat. Dywedir wrthym y byddai rhwymau llawer yn myned yn rhyddion weithiau, ac awgrymir y byddai y saint yn tori allan mewn gorfoledd ac mewn cân, nes methu ymwahanu hyd awr ddiweddar o'r nos.

Yn y flwyddyn 1806 symudodd Mr. Richard i fyw i dref Aberteifi. Ymddengys ei fod ar y pryd yn bur wael ei iechyd; barnai pawb a'i gwelai ei fod yn ddwfn yn y darfodedigaeth, ac yn prysuro i'r bedd. Aeth yntau i Aberteifi i ymgynghori â meddyg. Dywedai hwnw wrtho os arosai am dymhor yn y dref, a chymeryd ei gyfferi ef yn gyson, y byddai yn lled sicr of gael adferiad. Gwnaeth ei feddwl i fynu i aros, a throdd rhagfynegiad y meddyg allan yn wirionedd. Yr adeg yma preswyliai Cadben James Bowen, yn ganlynol o Lwyngwair, yn nhref Aberteifi, yr hwn oedd yn nodedig o dduwiol, ac yn perthyn i'r Methodistiaid. Gwahoddodd Cadben Bowen ef i ddyfod i'w dŷ, i fod yn athraw i'w feibion. Cydsyniodd yntau, ac yma y bu yn fawr ei barch am dair blynedd. Yr oedd awyrgylch grefyddol y teulu rhagorol hwn yn dygymod yn dda a'i anian. Yn yr addoliad teuluaidd byddai Mr. Richard yn gweddio yn Gymraeg, a Cadben Bowen ar ei ol yn Saesneg, ac yn fynych byddai y gwlith nefol yn disgyn yn drwm arnynt o gwmpas yr allor. Coffeir am un nos Sabbath yn arbenig, pan yr oedd Mr. Richard wedi dychwelyd ar ol bod yn llefaru dros ei Feistr, ac wedi plygu ei liniau gerbron gorsedd gras, i'r Arglwydd dywallt arno ef ac eraill oedd yn bresenol y gwlaw grasol i'r fath raddau, nes peri iddynt folianu Duw am oriau meithion o'r nos. Dyblent a threblent y darn emyn:-

"Caf godi 'mhen o dan eu traed,
A gwaeddi concwest yn y gwaed,
A myn'd i mewn i dy fy Nhad,
Ac aros yno byth."

Yn sicr, dyma olygfa na cheid ei bath yn fynych yn nhai boneddwyr Cymru.

Bu ei ddyfodiad i Aberteifi o les annhraethol i'r achos yn y dref, ac i'r holl eglwysi cymydogaethol. Fel hyn yr ysgrifenai y Parch. William Morris, Cilgeran: "Y mae llawer yma nad anghofiant byth yr amser pan oedd efe yn byw yn Aberteifi. Bendithiodd yr Arglwydd ei lafur mewn modd nodedig, er galw llawer o bechaduriaid o'r tywyllwch i ryfeddol. oleuni yr efengyl. Ychwanegwyd llawer iawn at yr eglwys yma (Cilgeran) a'r eglwysi cymydogaethol trwy ei weinidog aeth ef, ac nid ychydig o honynt sydd wedi myned i ogoniant. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol yma, ac yn yr holl wlad, yn mwynhau llawer o'i lafur. O mor ddedwydd y byddai wrth ymweled â'r ysgolion, a holi y plant. Gwelais ef a'r plant yn fynych yn wylo gyda eu gilydd, nes y byddai y mwyaf calongaled yn y lle yn gorfod wylo hefyd, a chyfaddef yn wir fod Duw yn eu mysg. Llwyddodd mewn modd rhyfeddiddwyn yr achosion perthynol i'r Ysgol Sabbothol i'r drefn ag y maent ynddi yn bresenol."

Y mae cyfeiriad at yr Ysgol Sabbothol yn ein harwain at un o brif elfenau bywyd Mr. Richard. Braidd na ellir dweyd mai efe oedd tad yr Ysgol Sabbothol yn y Deheudir. Meddienid ef â zêl anniffoddadwy o'i phlaid, zêl a barhaodd trwy ei holl oes. Ymffrostiai ddarfod iddo gael ei eni yr un flwyddyn a sefydliad yr Ysgol Sul gan Mr. Raikes. Nid annhebyg fod Ysgol Sabbothol wedi cael ei sefydlu mewn rhai lleoedd yn Ngheredigion cyn ei ddyfodiad ef i'r sir, ond nid oedd fawr bywyd ynddi, na nemawr drefn ar ei dygiad yn mlaen; ac yr oedd llawer o'r hen grefyddwyr yn cadw draw oddiwrthi, gan ystyried ei gwaith yn annheilwng o'r Sabbath. Efe a berffeithiodd ei threfn, ac a anadlodd anadl einioes yn ei chyfansoddiad. Yn y cysylltiad hwn, yr hyn a fu Mr. Charles i'r Gogledd, a fu Mr. Richard i'r Dê. Ac yr ydym yn ei gael, yn ystod ei arosiad yn Aberteifi, wedi cychwyn ar y llafur yma gydag ymroddiad, ac egni, a dyfal bara, na ragorwyd arno gan neb. Er dangos y dyddordeb a deimlai mewn plant a dynion ieuainc, difynwn dudalen o'i ddyddiadur am Chwefror 28, 1808:

"Yn Nghapel Drindod, adroddodd Eliza Griffiths, plentyn pedair blwydd oed, y ddwy Salm gyntaf yn gywir i mi. Yn Nghlosygraig, prydnhawn yr un dydd, dymunodd lodes ieuanc bymtheg oed, yr hon oedd yn glaf iawn, ac yn ymddangos mewn darfodedigaeth dwfn, fy ngweled, i'r dyben iddi gael adrodd ei phenod a ddysgasai yn ei gwely, ac adroddodd, er yn dyoddef diffyg anad mawr, y 25 o Matthew yn o gywir. Yn Nghastellnewydd, hwyr yr un dydd, ar ol i'r odfa fyned trosodd, dilynodd lliaws o'r plant perthynol i'r ysgol fi i dŷ cyfaill, ac wedi canu ychydig â'u lleisiau bach, hyfryd, gofynodd dau neu dri o'r bechgyn bach y cwestiynau pwysig canlynol i mi: (1) Pa fodd y mae yr Yspryd Glân yn cymhwyso atom ni yr iachawdwriaeth, yr hon a bwrcasodd Crist? (2) Pa beth ydyw effeithiau cyfiawnhad a sancteiddhad? (3) Pa un ai cyfiawnhad ai sancteiddhad sydd gyntaf?

Gyda golwg ar ei lafur yr adeg hon yn nglyn â'r Ysgol Sabbothol, ysgrifenai y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin, at feibion Mr. Richard yn y modd a ganlyn: "Yr wyf yn meddwl mai yn New Inn y gwelais eich tad gyntaf. Byddai yn dyfod atom bob mis o Aberteifi. Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom am anog, cyfarwyddo, a holi Ysgolion Sabbothol. Dangosai serchawgrwydd diffuant tuag atom, a chyd-ddygai â ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth (oblegyd nid oedd yr Ysgol Sul yr amser hwnw ond braidd ddechreu yn y wlad) gyda llawer o diriondeb, fel plant yr Ysgol Sabbothol, a ninau a'i carem ef agos fel ni ein hunain. Yr wyf yn cofio yn berffaith mai prif bynciau ei weinidogaeth, a'r hyn a lanwai ei feddwl sanctaidd wrth holi yr ysgolion, oedd Person, Aberth, ac Iawn Crist. Dyrchafai ei lais peraidd a nerthol ar y pethau mawrion hyn, nes y byddem ni ag yntau yn wlyb gan ddagrau. Llawer gwaith y dywedodd, flynyddau lawer ar ol hyny, pan fyddem mewn cyfeillach, a'r ymddiddan yn troi ar yr amser uchod: Dyma fe, mi a'i holais ef lawer gwaith nes oedd yn chwysu.' A gwir ddywedai, mi a chwysais lawer gwaith wrth geisio ei ateb."

Yn ei ymdrechion gyda'r Ysgol Sabbothol caffai bob cymhorth gan y Parch. Ebenezer Morris. Cydweithiai y ddau yn ardderchog, gan gyffroi yr ardaloedd, planu ysgolion, trefnu cymanfaoedd i adrodd y pwnc ac i holi y plant, ac athrawiaethu ar y pwysigrwydd o hyfforddi yr ieuainc yn Ngair Duw. Fel engrhaifft o'r dyddordeb a deimlent yn yr Ysgol Sul, gosodwn i mewn yma lythyr o eiddo y Parch. Ebenezer Morris, pan ar daith yn Sir Frycheiniog, at Mr. Richard:

"Aberhonddu, Mai 30, 1808. Anwyl Frawd, Mae rhagluniaeth yn agoryd i mi ddyfod adref nos Sadwrn Sulgwyn, ac yn gyfleus i ni ddydd Llun i ddyfod i'r cyfarfod y mae rhyw siarad am dano i fod yn Blaenanerch, Llun y Sulgwyn, a phlant yr ysgolion i gyfarfod. Dymunaf arnoch hysbysu y manau a feddylioch yn addas. cyn y Sabbath. Mae yn sicr y byddai da i ddeg neu ragor o ysgolion gydgyfarfod. Os gellwch hysbysu Twrgwyn, a Phenmorfa, cyn y deuaf adref, fe fydd yn dda genyf. Nid rhaid enwi wrthych y manau eraill. Y mae Owen a minau yn golygu i'r cyfarfod ddechreu am naw neu ddeg y boreu, ni setlwn y canlyniad pan gyfarfyddom. Eich gwir gyfaill, EB. MORRIS.

O.Y.-Byddai yn llesiol i ddau bregethu ar ol yr holiad; mae yn debygol mai chwi a minau fyddant. Os cewch dueddu eich meddwl i draethu am y lles o gateceisio, minau soniaf am y gwerth o dduwioldeb boreuol. Cystal fyddai ei gyhoeddi yn Gymanfa y Plant."

Diau mai Owen Enos oedd yr "Owen " y cyfeiria Mr. Morris ato, efe a fyddai yn fynych yn gydymaith iddo ar ei deithiau. Y mae yn hawdd deall oddiwrth y llythyr nad oedd trefniant yr Ysgol Sul wedi cael ei berffeithio eto yn y Dê; nad oedd y cyfarfodydd dau-fisol, a'r cymanfaoedd blynyddol, wedi cael eu sefydlu, ond eu bod yn awr o gwmpas cael eu dwyn i fod. Y mae yr un mor amlwg mai y ddau allu mawr, a yrent y peiriant yn ei flaen, oedd Mr. Morris a Mr. Richard. Y ddau force ysprydol mwyaf aruthrol a fu yr un pryd yn Sir Aberteifi, ac, yn wir, yn y Dê, oedd y ddau hyn, a chyflawnai y naill ddiffyg y llall. Ebenezer Morris oedd y mwyaf llewaidd, y mwyaf penderfynol, a'r mwyaf beiddgar yn y cyhoedd; o'i flaen ef nid oedd gelyn a safai; ond Ebenezer Richard oedd y trefniedydd goreu, y doethaf ei gynlluniau, a'r mwyaf hirben i ganfod i'r dyfodol. Rhyngddynt ill dau gosodwyd yr Ysgol Sabbothol yn y rhan hon o'r wlad ar sylfeini cedyrn ac ansigladwy.

Yn y flwyddyn 1807 yr ymwelodd Mr. Richard gyntaf a'r Gogledd. Cymaint oedd parch Cadben Bowen iddo fel yr aeth gydag ef yr holl ffordd, gan ei gludo yn ei gerbyd ei hun. Ychydig o hanes y daith sydd genym, ond gwnaeth Mr. Richard yn enwog trwy holl Wynedd, ac o hyn allan ystyrid ef fel un o brif gewri y Deheudir. Dywedir iddi fyned yn lle rhyfedd yn ngwesty Pont-ar-fynach, pan yr oedd y ddau yn cadw addoliad teuluaidd. Y fath oedd y dylanwad ar ŵr y tŷ nes y gorfu iddo redeg allan o'r ystafell a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau, gan floeddio dros lle: "O! Beth a wnaf, beth a wnaf!" Buont mewn dwy Gymdeithasfa, sef Cymdeithasfa Llanidloes, a Chymdeithasfa y Bala. Cafodd Mr. Richard odfa hynod yn y Bala. Am ddeg y llefarai, a'i destun, 2 Cor. x. 4: "Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol." Pan yn son am werth yr arfau, ac yn anog y dorf i'w defnyddio, ffrydiau y dagrau o'i lygaid; ond nid ei dagu na'i rwystro a wnelai y dagrau, ond rywsut gweithredent fel olew ar ei beirianau llafar, gan rwyddhau ei ymadrodd, tyneru ei lais, a melysu ei ddawn. Ac os oedd y pregethwr yn wylo, unai yr holl gynulleidfa yn galonog, fel na chafodd Green y Bala ei gwlychu yn ddwysach gan ddagrau saint Duw erioed. Gorchfygodd y dyrfa yn llwyr, yn gystal a'r pregethwyr a'r offeiriaid ar y stage, a choffheid am y bregeth yn yr holl odfaeon dilynol. Hyd ddydd ei farwolaeth bu Mr. Richard yn un o etholedigion Cymdeithasfa y Bala, ac anaml y byddai yn absenol o honi.

Y dydd cyntaf o Dachwedd, 1809, priododd Mr. Richard â Miss Mary Williams, Tregaron. Yr oedd Mrs. Richard yn wyres o du ei mam i David Evan Jenkins, o Gyswch, un o gynghorwyr boreuaf y Methodistiaid, a gŵr nodedig am ei dduwioldeb a'i zêl o blaid yr athrawiaeth. Yr oedd hithau yn dwyn arni yn amlwg ddelw ei theulu, gan fod wedi ymroddi i wasanaethu crefydd. Oblegyd fod rhieni ei briod yn hen ac yn fethedig, fel nad oedd yn bosibl iddi eu gadael, daeth Mr. Richard i'r penderfyniad i symud i fyw i Dregaron. Cynyrchodd y penderfyniad yma o'i eiddo deimlad dwfn yn rhan isaf y sir; ni fynent ar un cyfrif ollwng eu gafael arno; buont yn dadleu ac yn ymhwedd âg ef yn bersonol, a chwedi methu ei ddarbwyllo, aed â'r achos i'r Cyfarfod Misol. Aeth Cadben Bowen, ac un o flaenoriaid eglwys Aberteifi, i fynu yr holl ffordd i Gyfarfod Misol Aberystwyth; buont yn dadleu y mater yn frwd, ond trodd y fantol yn y cyfarfod o blaid Tregaron. Yr oedd Colonel Lloyd, o'r Bronwydd, hefyd yn y Cyfarfod Misol, ac yn dadleu yn gryf, ond mewn Cymraeg doredig, dros rwystro Mr. Richard i adael Aberteifi. Rywsut, yn ei anfedrusrwydd, gwnaeth ddefnydd o'r geiriau: "Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glyn wrth ei wraig." Cymerodd Mr. Williams, Lledrod, y geiriau oddiarno, gan eu defnyddio yn ddadl yn ei erbyn; a gwelodd yr hen foneddwr ei fod wedi defnyddio adnod nad oedd yn perthyn iddo. Wedi methu yn y Cyfarfod Misol, ceisiodd Cadben Bowen gan Mr. Charles, o'r Bala, ysgrifenu at Mr. Richard; ond yr oedd Mr. Charles yn meddu gormod o ddoethineb i ymyraeth, yn enwedig gan na wyddai yr holl amgylchiadau; eithr ysgrifenodd lythyr hynod o synwyrol a chrefyddol, yr hwn sydd eto ar gael, at Cadben Bowen, gan awgrymu iddo y gallai fod gan Ragluniaeth amcanion pwysig i'w cyflawni yn y symudiad. Mor ddiollwng a phenderfynol oedd cyfeillion Aberteifi, fel y gwnaeth Cadben Bowen a'r blaenor crybwylledig un cynyg arall; aethant i fynu i Dregaron i geisio dylanwadu ar Mrs. Richard; ond wedi cyrhaedd yno, a gweled sefyllfa pethau, yn neillduol methiant ei rhieni, daethant yn foddlawn i'r trefniant, ac ymadawsant yn hollol dangnefeddus.

Yn Nhregaron y treuliodd y Parch. Ebenezer Richard weddill ei oes. Ac yn ddiau rhodd Duw i ran uchaf Sir Aberteifi ydoedd. Cymerodd ei le ar unwaith fel arweinydd, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond yn yr holl eglwysi o gwmpas; edrychai pawb i fynu ato fel tywysog Duw, ac yr oedd ei air yn gyfraith, i'r hon y telid ufudd-dod diamodol. Yn mysg y pregethwyr a drigianent y rhan yma o'r wlad yr oedd fel brenhin mewn llu, heb neb yn cenfigenu wrtho, nac yn amheu ei awdurdod. Enillodd y safle hon trwy odidowgrwydd ei ddawn, synwyr a doethineb uwchraddol, medr anarferol i drin amgylchiadau dyryslyd, ac yn arbenig llwyr ymroddiad i wasanaeth yr Arglwydd Iesu. Ymdaflodd i'r gwaith yn ei holl ranau ar unwaith. Mewn canlyniad, daeth bywyd newydd i'r seiadau ac i'r cynulleidfaoedd; adfywiodd yr Ysgolion Sabbothol trwy y broydd, a phlanwyd Ysgolion newyddion yn y conglau lle nad oeddent. Yn y man, daeth y canghenau ysgolion yn achosion crefyddol; magai yntau hwynt pan oeddent yn weiniaid fel mamaeth dyner, a chaent bob cefnogaeth ganddo pan y dymunent gael capel. Trwy hyn cymerodd feddiant o'r wlad i Grist ac i Fethodistiaeth; yn wir, nid ydym yn tybio fod un rhan o Gymru mor drwyadl Fethodistaidd a phen uchaf Sir Aberteifi. Y flwyddyn y symudodd i Dregaron penodwyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir, yr hon swydd a lanwodd hyd ddydd ei farwolaeth.

Nid hir y bu yn ei gartref newydd cyn ymosod ar anfoesoldeb y wlad. Un ffurf ffrwythlawn ar lygredigaeth oedd y priodasau gwawdd. I'r priodasau hyn byddai yr holl gymydogaeth yn ymgasglu; gwerthid ynddynt ddiod gadarn er budd y pâr ieuainc oeddynt yn dechreu eu byd; a'r rhai a yfent fwyaf byd sicr a ystyrid y cyfeillion goreu iddynt. Nid yn unig yr oedd yr arferiad yn groes i'r gyfraith, yr oedd hefyd yn arwain i anfoesoldeb gwarthus. Byddai y bobl ar yr achlysuron hyn yn ymroddi, heb fesur na rheol, i gyfeddach, maswedd, a meddwdod; ac nid anfynych dygwyddai ynddynt ymladdfeydd gwaedlyd. Gan ei bod yn ddefod Gan ei bod yn ddefod gwlad, a hyny er cyn côf, byddai dynion crefyddol yn myned i'r priodasau hyn; ac er na fyddent hwy, fel rheol, yn cael eu llithio i feddwdod, nac yn cyfranogi yn yr ymladd a'r maswedd, rhoddent eu cefnogaeth i'r arferiad. Tynasai yr ysgelerder hwn sylw y Cyfarfod Misol, a gwnaed amryw ymdrechion difrifol i osod terfyn arno, o leiaf yn mysg aelodau y Methodistiaid. Ond mor ddwfn a gafaelgar yr oedd wedi gwreiddio yn y wlad, fel y profasai pob ymdrech yn aflwyddianus. O'r diwedd, wrth weled y ffieidd-dra annghyfaneddol yn beiddio sefyll yn y lle sanctaidd, ac yn derbyn cymeradwyaeth gyhoeddus rhai o'r swyddogion, enynodd tân yn enaid Mr. Richard, fel y penderfynodd ddyrchafu ei lais yn enw yr Arglwydd yn erbyn y drwg. Cymerodd y cyfle cyntaf i roddi ei fwriad mewn grym yn nghyfarfod yr eglwys yn Nhregaron. Safodd i fynu yn wrol, gan ofyn pwy oedd o du yr Arglwydd, ac er na chafodd ond un blaenor i'w gefnogi, aeth yn mlaen gyda hwnw i lanhau y tŷ. Cafwyd deuddeg o'r aelodau yn euog, a diarddelwyd hwynt oll yr un cyfarfod. Dranoeth, yr oedd ei gyhoeddiad yn Llangeitho, ac yno yr aeth, yn ddiegwan o ffydd, a'i enaid yn llosgi ynddo gan eiddigedd dros ogoniant ei Feistr. Cymerasai dwy briodas, o'r nodwedd a nodwyd, le yno yn ddiweddar, a'r eglwys yn byw yn dawel yn nghanol y llygredigaeth; ond gwnaeth ef ymosodiad gorchestol ar yr anwiredd, a'r canlyniad oedd diarddel pawb a gymerasai ran yn yr afreolaeth. O hyn allan gwaherddid holl aelodau y Methodistiaid, dan boen diarddeliad, rhag rhoddi eu presenoldeb mewn priodasau o'r fath; yn raddol, trwy eu condemniad hwy yn benaf, gwywodd yr arferiad, ac yn y man diflanodd yn gyfangwbl. Yn sicr, yr oedd yr ymddygiad hwn o eiddo Mr. Richard, pan nad oedd ond dyn ieuanc deg-ar-hugain oed, yn brawf o ddewrder yspryd, ac o zêl dros burdeb cysegr Duw, na cheir yn aml ei gyffelyb.

Yr ydym yn flaenorol wedi adrodd hanes dadl y Neillduad, a'r cyffro a achoswyd ganddi. Fel y darfu i ni sylwi, y prif ddadleuydd yn y Deheudir o blaid y symudiad oedd Mr. Ebenezer Morris; ond darfu i Mr. Richard, a Mr. Charles, Caerfyrddin, er na chymerasant ran mor gyhoeddus yn yr helynt, wneyd llawn cymaint er addfedu teimlad y wlad ar y pwnc. Byddai Mr. Richard yn arbenig mewn ymddiddanion preifat yn dadleu yn gryf o blaid cymeryd y cam hwn, a bu nerth ei resymau yn foddion i argyhoeddi llawer. Prawf o'r lle uchel a feddai yn marn ei frodyr yw iddo, wedi i farn gael ei dwyn i fuddugoliaeth, gael ei neillduo yn mysg y rhai cyntaf i weinyddu y sacramentau, er ei fod yr ieuangaf o bawb o honynt, ac yn wir, heb gyrhaedd ei ddeg-mlwydd-ar-hugain. Ymddengys fod y cyfarfod ordeinio yn Llandeilo Fawr yn nodedig am urddas a'i ddifrifwch. Fel hyn yr ysgrifenai un oedd yn bresenol at feibion Mr. Richard: "Mewn perthynas i'r Neillduad cyntaf, er fy mod yno, y mae y rhan fwyaf wedi ei anghofio. Ond yr wyf yn cofio tri pheth yn berffaith; sef yn gyntaf, mai y Gymdeithasfa hono oedd yr un fwyaf ofnadwy y bum ynddi yn fy mywyd. Yr oedd pob cnawd yn crynu; ïe, yr oedd llawer o'r gweinidogion mwyaf duwiol, hyawdl, a chadarn yn yr Ysgrythyrau, bron methu ateb gan fawredd Duw. Yn ail, dull hynaws Mr. Charles, o'r Bala, yn gofyn y cwestiynau. Yr oedd ei wedd yn hardd a siriol, ei eiriau yn fwyn ac yn enillgar iawn. Wrth ddechreu gofyn i bob un, arferai yr un geiriau, sef, A, B, a fyddwch chwi mor fwyn a dweyd gair o'ch meddwl am y bôd o Dduw,' &c. Yn drydydd, wrth weled amrai yn crynu, a bron yn methu, yr wyf yn cofio yn dda fy mod mewn pryder mawr mewn perthynas i'ch tad, rhag ofn iddo golli, oblegyd yr oedd yn ieuangach na hwynt oll. Ond cafodd ei hoff bwnc, sef Duwdod Crist; a phan glywais hwnw, syrthiodd fy maich yn y fan, oblegyd gwyddwn fod hwn yn anwyl, ac fel A, B, C ganddo. Dywedodd ei feddwl arno yn oleu, yn rhydd, yn gadarn, ac i foddlonrwydd mawr, fel y collais fy ofnau ar unwaith."

Darfu i'w neillduad i weinyddu y sacramentau ychwanegu yn ddirfawr at lafur Mr. Richard. I'w ran ef, neu Mr. Williams, Lledrod, y disgynai cyfranu yn holl gynulleidfaoedd y Methodistiaid yn rhan uchaf y sir. Ac nid yn anfynych byddai y fath eneiniad ar ei yspryd ef ei hun, a'r fath lewyrch dwyfol ar y gwirioneddau a draethai, wrth weinyddu yn y cymun, nes peri hyd yn nod i'r rhai mwyaf rhagfarnilyd ddygymod â'r oruchwyliaeth newydd. Yn y flwyddyn 1815, y gyntaf y mae ei gyfrif genym, yr ydym yn cael i Mr. Richard bregethu 343 o weithiau, gweini sacrament swper yr Arglwydd 73 o weithiau, a bedyddio 21 o blant. Ar yr olwg gyntaf ymddengys nifer y plant a fedyddiwyd yn fychan o'i gymharu âg amledd y gweinyddiad o'r sacrament arall, ond dylem gofio i'r Methodistiaid fod yn fwy araf yn ymryddhau oddiwrth yr iau offeiriadol parthed bedydd, na'r gweinyddiad o'r 'cymun. Am ryw reswm, nas medrwn roddi cyfrif am dano, byddai Methodistiaid zelog gyda phob peth arall yn myned a'u babanod i'w bedyddio at yr offeiriaid. A rhaid i ni ychwanegu y byddai y clerigwyr yn gwylio yn eiddigeddus pwy a aent â'u plant i'r capelau, i'w bedyddio gan y gweinidogion newydd-ordeiniedig, ac y byddent yn dial ar y cyfryw, trwy eu drygu yn eu masnach, neu eu gyru o'u ffermydd, os byddai hyny yn bosibl iddynt. Am alw Mr. Richard i fedyddio ei faban cafodd Mr. David Jones, Dolaubach, y blaenor synwyrgall a berchid trwy yr holl fro, ei yru o'i dyddyn. Ond yn raddol diflanodd rhagfarn y bobl, a methodd yr erledigaeth yn ei nod, oblegyd yn mhen chwech mlynedd ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1821, yr ydym yn cael ddarfod i Mr. Richard fedyddio 58 o blant, a hyny er fod nifer y gweinidogion Methodistaidd wedi lliosogi yn fawr.

Fel yr ydym wedi cyfeirio eisioes gwnaed ymdrech egniol, gwedi y Neillduad, i berswadio y penaf yn mysg gweinidogion ¡y Methodistiaid i gymeryd urddau esgobol, ac yn eu mysg ymosodwyd ar Mr. Richard. Anfonwyd am dano gan John J ones, Ysw., Derry Ormond, yr hwn oedd yn berthynas i'w wraig, ac wedi talu cryn sylw iddo yntau. Wedi iddo gyrhaedd y palas, a chael pob groesaw, dywedai y boneddwr wrtho ei fod ef, a Mr. Evans, ficer Llanbadarn Fawr, wedi penderfynu cynyg iddo bersoniaeth yn yr Eglwys Sefydledig, lle y caffai fywyd mwy esmwyth, a sefyllfa fwy parchus, nag a allai obeithio gael yn mysg y Methodistiaid; a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air y byddai iddo ei berswadio i gydsynio. Atebodd yntau ar unwaith: "Y mae y peth yn anmhosibl, syr." Synodd y boneddwr yn ddirfawr, a gofynodd, "Paham ?" Atebodd yntau: "Yn gyntaf, byddai cydsynio â'r cynygiad yn weithred groes i'm cydwybod, canys yr wyf o egwyddor yn ymneillduo oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Yn nesaf, yr wyf yn barnu y byddaf yn fwy defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd yn y man lle yr ydwyf. Ac yn nesaf, y mae cymaint o anwyldeb ac undeb rhyngof a fy mrodyr, fel y byddai y rhwygiad yn annyoddefol i'm teimladau."

Ni fedrai y boneddwr ateb y rhesymau hyn; ond dywedodd gyda gwedd anfoddog, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn er ei les ei hun i wrthod y fath gyfleustra. Parhaodd Mr. Richard yn Ymneillduwr egwyddorol trwy ystod ei oes. Unwaith, mewn cyfeillach, gwnaed cyfeiriad at bregethwr oedd wedi gadael ei frodyr ac wedi myned drosodd i'r Eglwys Sefydledig. Dywedai rhywun oedd yn bresenol: "O'm rhan i, yr wyf yn meddwl iddo wneyd yn burion, oblegyd caiff fywioliaeth lawer mwy cysurus, a'r un cyfleustra i bregethu yr efengyl." Cyffrodd Mr. Richard trwyddo, a chyda llymder a phwyslais atebai: "O na, os nad oes genym rywfaint o brinciple yn y pethau hyn, nid ydym werth dim." Dro arall, yn ystod ei ymweliad olaf â Llundain, pan yr oedd Mrs. Richard ac yntau yn pasio trwy Smithfield, dywedai: "Dyma'r fan, Mary fach, lle y merthyrwyd llawer o'r hen dduwiolion." "Ie," ebai cyfaill Ië, oedd gyda hwynt, "ond y mae yn amser braf arnom ni." "Ydyw," meddai Mr. Richard yn ol, "y mae yn well, yn ddiau, ond y mae llawer o erledigaeth eto. Beth y mae dynion yn ei feddwl wrth Ddeddf y Goddefiad? Dim ond ein 'goddef ni y maent hwy eto. O ffei! ffei! Goddef dynion i addoli Duw yn ol eu cydwybod."

Yn 1811, sef gwanwyn blwyddyn y Neillduad, torodd diwygiad crefyddol cryf allan yn Nhregaron, a'r eglwysi cymydogaethol, yr hwn a ymledodd fel fflam trwy Gymru. Efallai mai hwn oedd yr ymweliad mwyaf grymus a gafwyd er dyddiau Daniel Rowland; ac edrychai y wlad arno fel arwydd o foddlonrwydd Duw i'r cam oedd y Cyfundeb wedi ei gymeryd. Daliwyd y difeddwl âg arswyd, llanwyd calon y rhai mwyaf rhyfygus mewn annuwioldeb â dychryn, aeth yn floedd am fod yn gadwedig trwy y broydd, a gwelwyd hen bererinion Seion yn tynu eu telynau oddiar yr helyg, ac yn tori allan mewn sain cân a moliant. Un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn y diwygiad hwn oedd Mr. Richard. Fel y mae gwaethaf y modd hanes un o'i odfaeon nerthol yr adeg hon yn unig sydd ar gael. Un boreu Sabbath pregethai yn Llangeitho; yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a chan fod hwnw yn eang, a rhan fawr o hono heb na seddau na meinciau, cynwysai dorf anferth o ddynion. Testun Mr. Richard oedd Luc xvi. 23: "Ac yn uffern efe a gododd ei olwg." Pregeth ofnadwy oedd hono. Rhaid fod rhyw ddwysder angherddol wedi meddianu enaid y pregethwr cyn y beiddiai gymeryd y fath destun. Yr oedd yn lle difrifol yno mewn gwirionedd, mellt y bygythion yn gwibio, taranau melldithion y gyfraith yn erbyn ei throseddwyr yn rhuo, dynion yn llewygu gan ofn, a chenad y nefoedd yn y pwlpud fel pe yn cyhoeddi y farn dros Dduw. Sut y terfynodd y cyfarfod ni chlywsom, ond y tebygolrwydd yw i'r pregethwr agor drws gobaith o led y pen, a chyfeirio meddwl y bobl at Grist, nes yr aeth rhwymau llawer yn rhyddion. Un o'r dyddiau canlynol yr oedd Mr. Williams, Lledrod, yno yn cadw seiat, a deg-ar-hugain mewn edifeirwch yn gofyn am le yn nhŷ Dduw. O'r rhai hyn priodolai wyth-ar-hugain eu hargyhoeddiad i bregeth Mr. Richard. Wrth ei fod yn holi yr ymgeiswyr am yr hyn oedd wedi eu dwyn i ystyriaeth o'u cyflwr, ac yn cael yr un ateb gan agos bawb, llefodd Mr. Williams mewn syndod: "Garw gymaint o honoch chwi saethodd e â'r un ergyd." Yn wir, dywedir i ugeiniau lawer gael eu hychwanegu at eglwysi y gymydogaeth, heblaw y rhai dderbyniwyd yn Llangeitho, a'u bod agos oll yn priodoli eu dychweliad i'r bregeth ryfedd y boreu Sul hwnw.

Yn y flwyddyn 1813, cafodd ei benodi i fod yn Ysgrifenydd Cymdeithasfa y Deheudir. Dywedir i'r penodiad gael ei wneyd yn unol â chynghor Mr. Charles, o'r Bala. Nis gellid cael o hyd i neb mwy cymhwys. Yr oedd ei hoffder o drefn, tuedd ymarferol ei feddwl, yr addysg foreuol a gawsai, yn nghyd â'i gydnabyddiaeth â nodweddion y Cyfundeb, yn ei gymhwyso mewn modd arbenig ar gyfer y gwaith. Ei hysgrifenydd yw bywyd pob cymdeithas os bydd yn ddyn o allu, ac o hyn hyd ddydd ei farwolaeth Mr. Richard fu y mwyaf ei awdurdod a'i ddylanwad yn Nghymdeithasfa y Dê. Gwedi marwolaeth y Parch. Ebenezer Morris, a dygn afiechyd Mr. Charles, Caerfyrddin, braidd na ellid dweyd fod holl lywodraeth y Gymdeithasfa yn gorwedd ar ysgwyddau Mr. Richard, a'i frawd doniol, Mr. Thomas Richard. Ni chredai ei gydoeswyr fod y fath ysgrifenydd. Ebai y Parch. William Morris, Cilgeran, am dano yn ei bregeth. angladdol: "Fel ysgrifenydd y Gymdeithasfa yr oedd heb ei fath. Yr oedd gan Dafydd frenin Jehosaphat yn gofiadur, a Sadoc yn ysgrifenydd; ond mi feddyliwn nad oeddynt ill dau yn nghyd ddim cymaint a'n Ebenezer ni. Y pethau a drinid yn sathredig, efe a osodai bob aelod yn ei le, ac a ddarllenai y sylwadau yn y Gymdeithasfa nesaf, nes y byddai pawb wedi cael cyflawn daliad am eu trafferth i deithio i'r lle. Hyderaf y ceir y blwch, ac y gosodir ef yn yr argraffwasg, nes y gwasgerir ei beraroglau dros holl derfynau yr iaith Gymraeg." Yr oedd y Parch. William Morris yn ŵr craff a sylwgar, a diau mai ei farn ef am gymhwysderau arbenig Mr. Richard fel ysgrifenydd oedd yr un a goleddid yn gyffredinol.

Dywedir yn ei gofiant iddo, tua'r flwyddyn 1814, gysegru llawer o'i amser a'i egni i alw sylw y cynulleidfaoedd at y ddwy gymdeithas ragorol, sef Cymdeithas y Beiblau a Chymdeithas Genadol Llundain. Yn hyn eto yr ydym yn ei gael yn canlyn yn ol traed Mr. Charles. Yn wir, yr ydym yn cael ein taraw yn barhaus gan y tebygolrwydd mawr a fodolai rhwng y ddau; tebygolrwydd parthed athrylith, craffder i weled angen y werin, a llwyredd ymgysegriad gyda y cynlluniau tebycaf i gyflenwi y cyfryw angen. Darllenai Mr. Richard adroddiadau y cymdeithasau hyn yn fanwl, ac ymgydnabyddai â'u gweithrediadau; yna ai o gwmpas, gan draddodi areithiau brwd drostynt, a mynegi am y daioni dirfawr a wnaent, yn y gwahanol gapelau, nes cynyrchu cydymdeimlad cyffredinol â'u hamcanion, a chasglu swm mawr o arian i'w coffrau. I lafur Mr. Richard y rhaid i ni briodoli y cydymdeimlad â Chymdeithas y Beiblau sydd yn parhau yn rhan uchaf Sir Aberteifi, a'r ymdrech a wneir, ac ystyried tlodi y wlad, i gasglu tuag ati.

Y mae yn syn na fu Mr. Richard yn gwasanaethu yr achos crefyddol yn Llundain, hyd y flwyddyn 1818. Nid oes genym un esboniad priodol ar hyn. Anhawdd genym gredu na chafodd yn flaenorol wahoddiadau mynych a thaer gan y cyfeillion yno; ond efallai fod amledd ei orchwylion a phrinder amser yn ei rwystro i'w derbyn. Pa fodd bynag, daeth y ffordd yn rhydd iddo fyned yn Ngwanwyn 1818; cadwodd yntau ddydd-lyfr manwl yn cynwys hanes gwaith pob dydd yn ystod ei arosiad. Y mae y dydd-lyfr ar gael, a buasem yn difynu yn helaeth o hono oni bai prinder gofod. Bu yno am ddau fis, ac heblaw gwasanaethu ei gydgenedl, hysbysir ni iddo fod yn bresenol mewn chwech-ar-hugain o gyfarfodydd cyhoeddus, a gwrando chwech-ar-hugain o bregethau yn yr iaith Saesneg.

Mewn un ystyr, ychydig o hanes sydd i Mr. Richard. Neu, yn hytrach, ei hanes ef, o adeg ei ddyfodiad i Dregaron, yw hanes Cyfundeb y Methodistiaid yn y Deheudir. Yn y blynyddoedd cyntaf, yr oedd Mr. Ebenezer Morris, a Mr. Charles, Caerfyrddin, mewn un ystyr yn llawn. cymaint eu dylanwad ag yntau, ac efallai yn fwy yn y ffrynt yn y Gymdeithasfa; ond efe, oblegyd ei ddeheurwydd, oedd yn benaf fel trefnydd y pryd hwnw. A chwedi marw Mr. Morris, yn y flwyddyn 1825, ac analluogi Mr. Charles, Caerfyrddin, trwy afiechyd, yn y flwyddyn 1828, daeth yr arweiniad yn gyfangwbl i'w ddwylaw ef, mewn undeb â'i frawd, y Parch. Thomas Richard. Dywed y Parch. Owen Thomas, D.D., ei fod yn llywodraethu mor effeithiol, fel na feiddiai neb godi yn ei erbyn, ac ar yr un pryd mor hynaws a boneddigaidd fel na fyddai un amser yn ymylu ar dra-arglwyddiaeth. Tystiai Dr. Lewis Edwards yn gyffelyb, na fu llywodraeth y ddau Richard, mor bell ag y sylwodd ef, nac yn annoeth nac yn ormesol, ond bob amser yn gyfiawn, gyda'r eithriad, efallai, iddynt fod i raddau yn llawdrwm ar Mr. Rowlands, Coedduon, gwedi hyny, Dr. Rowlands, o'r America, pan y darfu iddo, o herwydd. cael ei dynu i mewn gan dwyllwr, fethu yn ei amgylchiadau. Ar ysgwyddau y Parch. Ebenezer Richard yr oedd yr holl ofal. Yn ol dydd-lyfr a gadwai, pregethodd mewn dwy-flynedd-ar-hugain, sef o ddechreu 1815 hyd ddiwedd 1836, chwe' mil, wyth cant, pump-deg-a-naw o weithiau, sef tua 312 o weithiau bob blwyddyn. Yn ystod yr un amser teithiodd yn agos i driugain mil o filldiroedd, a bu yn bresenol mewn tua saith cant o gyfarfodydd cyhoeddus, sef Cyfarfodydd Misol, Cymdeithasfaoedd, a Chymanfaoedd yr Ysgol Sabbothol. Heblaw presenoli ei hun yn holl Gymdeithasfaoedd y Deheudir, yr hyn oedd yn rheidrwydd arno fel Ysgrifenydd, ymwelai â dwy neu dair o Gymdeithasfaoedd y Gogledd yn flynyddol, gan bregethu efengyl y deyrnas wrth fyned a dychwelyd. Rhaid fod ei lafur yn enfawr. Fel hyn yr ysgrifena at Mr. W. Morris, Cefncoedcymmer, gwedi hyny Pant-tywyll, pan yn ymesgusodi am beidio ateb llythyr : "Yr holl esgusawd sydd genyf i'w gynyg am fy ymddygiad anfoneddigaidd tuag atoch yw, nad oedd dim yn fwriadol yn y cwbl, a'i fod yn cyfodi oddiar ddeddf orthrymus angenrheidrwydd, gan fy mod oddicartref y rhan fwyaf o'm hamser yn pregethu, a phan ddychwelwyf, yr wyf yn gorfod myned at y gwaith o gywiro fy rhwyd, ac yna allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf. Ac fel hyn yr wyf yn cael fy nhaflu o gwmpas, yn Sabbothol ac wythnosol. Y Sabbath yw i mi y dydd gwaith caletaf, ac y mae rhai o'r dyddiau wythnosol yn wir Sabbathau i'm henaid lluddedig i. Weithiau, wrth fyfyrio, braidd na ddymunwn fod genyf ddau enaid mewn un corph; a thrachefn wrth bregethu, egwyddori, &c., derbyniwn yn llawen ddau gorph i un enaid. Ond wedi'r cwbl nid wyf ond gwas anfuddiol iawn. Nid yw achos fy Meistr yn y byd fawr iawn gwell o'm plegyd i. O'r fath gywilydd; ac eto y mae hyd yn hyn yn ymatal rhag dileu fy enw oddiar y gofrestr; ac nid wyf hyd yma wedi cael fy ngyru allan o'r fyddin (drummed out of the regiment)." Gallwn gyfeirio at ddau beth yn hanes Mr. Richard, yn ychwanegol at ei lafur arferol, a barasant iddo bryder nid bychan, ac a drethasant ei egni yn ddirfawr. Un oedd lluniad y Cyffes Ffydd, yr hyn a wnaed gan bwyllgor unol o Ddê a Gogledd, yn nhŷ Mr. Robert Davies, Great Dark Gate Street, Aberystwyth, i'r hwn bwyllgor yr oedd Mr. Richard, mewn undeb a'r Parch. Humphrey Gwalchmai, yn ysgrifenydd. Y llall ydoedd yn nglyn â'r Weithred Gyfansoddiadol (Constitutional Deed). Tuag at i'r Weithred feddu grym cyfraith, yr oedd yn rhaid iddi gael ei llawnodi gan ymddiriedolwyr yr holl gapelau a gawsent eu hadeiladu. Ar Mr. Richard y gosodwyd casglu yr arwyddnodau hyn yn y Deheudir, a threuliodd y rhan fwyaf o ddiwedd y flwyddyn 1826, a dechreu y flwyddyn ganlynol, wrth y gorchwyl.

Gyda golwg ar ddyn allanol Mr. Richard, rhydd ei ddarlun, yr hwn a dynwyd pan oedd yn nghyflawnder ei nerth, sef ychydig dros ddeugain mlwydd oed, syniad mor gywir o hono ag a ellir ei osod ar bapyr. Dyn tal ydoedd, lydan ei ysgwyddau, ac yn meddu frame fawr. Tywyll iawn oedd ei bryd, a du fel y frân oedd ei wallt, hyd nes y dechreuodd fritho yn bur gynar. Tewychodd pan yn dra ieuanc, a chyda y tewychdod daeth math o drymder drosto, a chwsg yn cydfyned, fel yr aeth i deimlo yn hen cyn amser henaint. Yr oedd ei ymddangosiad yn y pwlpud ac allan o hono yn hynod o dywysogaidd; nid oedd yr un o'i gydweinidogion, gyda'r eithriad o Ebenezer Morris, i'w gymharu âg ef yn yr hyn a elwir presenoldeb; yn mha fan bynag y byddai, ai ar stage y

Gymdeithasfa, yn y pwlpud, neu yn y gynhadledd, neu ynte mewn cymdeithas gyffredin, teimlid ei fod yn llanw y lle. Hynodid ef gan foneddigeiddrwydd moes; meddai galon fawr, a'i llond o dosturi; ac eto yr oedd rhywbeth ynddo yn cadw dynion draw, fel na feiddient wneyd yn eofn arno. Hyd yn nod yn Nhregaron, ei gartref, cadwai gryn bellder rhyngddo a phawb, er yr ymddygai yn hynaws a charedig atynt oll. Ni welid ef un amser ar yr heol, oddigerth pan yn myned i'r capel, neu i ymweled â rhyw glaf; ac eto, er nad ymgymysgai â'r bobl, y fath oedd ei graffder fel yr adwaenai bawb, nid yn unig o ran pryd a gwedd, ond hefyd o ran cymeriad, fel y canfyddid yn amlwg ar achlysuron neillduol. Yn ei deulu yr oedd yn frenhin, ac eto tystiai hen forwyn iddo na welid gwg un amser ar ei ael.

Safai Mr. Richard yn rhes flaenaf pregethwyr Cymru. Meddai lais rhagorol; tystiai Dr. Owen Thomas ei fod y llais mwyaf swynol a thoddedig a swniodd erioed yn ei glustiau. Llais mawr a dwfn ydoedd; nid oedd mor dreiddgar ag eiddo John Elias, ac mor gyffelyb i swn dyfroedd lawer ag eiddo Ebenezer Morris; ond rhagorai ar y naill a'r llall mewn tynerwch. Tebygai y diweddar Barch. David Howells, Abertawe, iddo yn ei ddull o draddodi, ac hefyd i raddau yn ei lais, a hyny gymaint fel y mynai hen wrandawyr Mr. Richard fod Mr. Howells yn ei ddynwared, er y mae yn sicr mai naturiol oedd y tebygolrwydd hwnw; ond methai Mr. Howells mewn ystwythder a thynerwch, ac hefyd nid oedd ei draddodiad mor lifeiriol ag eiddo Mr. Richard. Yr oedd dawn Mr. Richard fel yr afon; ni fyddai un amser arno drai na diffyg; a'r fath oedd ei feistrolaeth ar iaith fel na byddai byth ball arno, nid yn unig am air, ond am y gair angenrheidiol.

Yn ei flynyddoedd olaf, anaml y pregethai heb wylo; byddai y dagrau mawrion yn ffrydio o'i lygaid, ond yr hyn oedd yn hynod oedd na byddai ei wylo un amser yn ei rwystro i siarad; yn hytrach, effeithiai y dagrau fel olew ar ei beirianau ymadroddi nes ei alluogi i siarad yn rhwyddach.

Bu yn efrydydd caled, yn wir diorphwys, trwy ei oes. Fel y rhan fwyaf o'r hen bregethwyr, diau iddo ddarllen a myfyrio llawer ar gefn ei geffyl wrth deithio. Pan gartref, byddai yn ei fyfyrgell o foreu hyd hwyr, ac ni cheid ef o honi ond at ei bryd bwyd, neu i fyned i'r capel i'r moddion.

Yr oedd oriau gweithio crefft wyr Sir Aberteifi y pryd hwnw yn ddireswm o faith; ond dywedai mam Mr. Daniel Davies, Ton, wrtho, nad oedd na chrydd, na saer, na gôf, yn foreuach nac yn hwyrach yn ei weithdy nag oedd Mr. Richard yn ei fyfyrgell. Fel Mr. Elias, troai ei fyfyrdodau yn weddïau; ai â'r meddyliau a gaffai wrth ddarllen llyfrau, ac wrth fyfyrio, at Dduw, gan eu lledu yno a'u dal gerbron y Dwyfol Bresenoldeb, ac erfyn bendith arnynt. Aml waith y cafodd y forwyn ef, wrth fyned i mewn i'w ystafell yn ddisymwth, gan dybio ei fod ef allan, ar ei liniau mewn gweddi, a'r gadair yn wlyb gan ei ddagrau. Felly, yr oedd ei feddwl wedi ei gyflenwi â gwirioneddau yr efengyl, a'i yspryd wedi ei drwytho gan ei dylanwad. Oblegyd hyn, yn nghyd a pharodrwydd naturiol ei ddawn, byddai ganddo gaflawnder at ei alwad ar ba fater bynag y gelwid arno i siarad. Gelwid weithiau arno i draethu ar bynciau neillduol ac annghynefin, a hyny yn gwbl ddirybudd, ond bob amser byddai ef yn llefaru fel pe buasai wedi parotoi yn fanwl ar gyfer yr amgylchiad. Ond ni byddai un amser yn rhyfygu anturio i'r pwlpud heb bregeth wedi ei chyfansoddi yn fanwl; ni chafodd ei ddenu i segurdod gan y parodrwydd a feddai; ond llafuriodd yn galed i ddarllen a myfyrio hyd ddiwedd ei oes,

Ei brif nodwedd fel pregethwr oedd cyflawnder a thynerwch. Meddai ddirnadaeth eang, dychymyg cryf a bywiog, canfyddiad clir, a gallu anarferol i doddi cynulleidfa, a'i thynu i'w fynwes. Dywedir y byddai, yn ei flynyddoedd cyntaf, yn danllyd iawn, ac yn gosod ei wrandawyr hefyd ar dân. Teithiodd ef a'i frawd lawer yn y cyfnod hwnw, ac yr oedd fel pe buasai y wlad yn cael ei hysgwyd gan ddaeargryn pan fyddent hwy yn pasio trwyddi, gan mor rymus y byddent yn pregethu. Nid anfynych torai allan yn orfoledd mawr, a byddai y ddau bregethwr yn uno yn y moliant nes y byddai eu natur wedi ei llwyr orchfygu. Ond, oblegyd llesgedd, gorfu i Mr. Richard, Tregaron, arafu, a newid ei arddull; efallai hefyd fod cyfnewidiad yn ystad yr amseroedd yn galw am hyny. Yn y rhan olaf o'i oes toddi ei wrandawyr a wnelai, ac anaml y methai wneyd y galon galetaf yn llyn dwfr. "A dyma lle y byddai golygfa," ebai Dr. Owen Thomas; "efe yn wylo, a'r holl gynulleidfa yn wylo, a'r lle drwyddo yn un Bochim.' Adroddai cyfaill i ni (Owen Elias, Ysw.) am y tro diweddaf y bu Mr. Richard yn Liverpool, fod yr hen flaenoriaid, o'r amrywiol gapelau, yn ei ddilyn o gapel i gapel trwy y dydd; ac yr oedd ein cyfaill yn sylwi fod dau neu dri o'r hen frodyr anwyl, y rhai mwyaf teimladol, can gynted ag y darllenai Mr. Richard ei destyn, yn tynu allan eu llofleni (handkerchiefs), er mwyn parotoi eu hunain i sychu eu dagrau, gan wybod y byddent dan angenrheidrwydd i'w defnyddio yn bur fuan." Ebai Mr. John Elias, Tregof, am dano: "Ei wyneb anwyl! Ni fuasai waeth i ni ddechreu crio mor gynted ag y gwelem ef, na chrio wedi hyny, oblegyd, yn hwyr neu yn hwyrach, crio fyddai raid i bawb o honom." yn rhwydd ac yn lled danbaid. Fe'n harweiniwyd i eisteddle gyferbyn a'r pwlpud, mewn lle nodedig o fanteisiol i weled a chlywed. Ond ar unwaith fe'n taflwyd i brofedigaeth fawr. Yr oedd ein mam wedi gadael argraff ar ein meddwl fod Mr. Richard yn bregethwr annghyffredin o effeithiol, bod ganddo lais nodedig o dyner, a'i fod yn ŵr tew iawn. Yr oedd yr hwn oedd yn awr yn pregethu yn ŵr lled dew, ac yr oedd ganddo lais mwynaidd, ac yr oedd rhyw hen ŵr teneu, mewn diwyg lled gyffredin, yn sefyll yn y pwlpud yn lled agos ato. Gwnaethom ein meddwl i fynu, naill ai nad oedd Mr. Richard yn llawn cystal pregethwr ag y darluniasid ef i ni, neu nad oedd wedi dyfod i'w gyhoeddiad, ac mae yr hen ŵr a welem yn y pwlpud oedd wedi dyfod yn ei le. Toc, modd bynag, fe ddywedai y pregethwr fod yn bryd iddo ef ddybenu, i roddi lle i was yr Arglwydd, ac yn fuan iawn fe derfynodd. Ar hyny, dyna ŵr tew iawn, llonaid pwlpud o ddyn, yn dyfod i'r golwg, o bryd du, a gwallt du, lled deneu, ac o ymddangosiad tra boneddigaidd. Cyn iddo roddi y penill i'w ganu, dyna yr hen bregethwr, Mr. Griffith Davies, yn anog y bobl i ymwthio yn mlaen oddiwrth y drysau; ac yn cymhell y rhai a allent i neidio i mewn i'r eisteddleoedd oeddent weigion ar y gallery, gan fod eu drysau wedi eu hoelio fel na ellid eu hagor, 'am fod y bobl,' meddai, yn myned iddynt heb dalu am danynt.' Yr oedd y capel yn ymddangos yn lled newydd. Tra yr oeddem ni yn synu wrth glywed hysbysiad o'r fath, a lliaws yn neidio i'r lleoedd gweigion, dyna Mr. Richard yn rhoddi penill i'w ganu:— "

'Deuwch, hil syrthiedig Adda,' &c.,

a hen ŵr Hafod-y-myn yn arwain y gân. Yr oedd yno ganu gwresog, a braidd ormod o hono genym ni, yn ein mawr awydd am glywed y pregethwr. Ei destun oedd, 2 Cor. ix. 15: Ac i Dduw y byddo y diolch, am ei ddawn annhraethol.' Nid ydym yn cofio nemawr o'r bregeth, heblaw ei fod yn esbonio fod y ddawn annhraethol' yn y testun yn golygu Iesu Grist, y rhodd benaf a roddodd Duw, a'r rheswm am bob rhodd arall; a'i fod hefyd yn llefaru yn helaeth iawn ar ein rhesymau i ddiolch i Dduw am dano. Ond yr ydym yn cofio yn dda ei fod yn llefaru yn hynod o effeithiol. Yr oedd y pregethwr yn wylo, y gynulleidfa yn wylo, a'r holl le mewn gwirionedd yn Bochim.' Yr oeddem, yn mhell cyn gorphen y bregeth, yn hollol yr un farn a'n hanwyl fam am y pregethwr, ac ni chollodd byth ei dylanwad arnom. Yr oedd holl flinder y cerdded o Gaergybi wedi myned ymaith wrth wrando arno; ac yr oeddem yn edrych yn mlaen gyda hyfrydwch at y wledd oedd yn ein haros yn Amlwch, pan y caem ei glywed ef drachefn, yn gystal a'r gwŷr enwog eraill a ddysgwylid yno."

Cafodd Dr. Thomas ei glywed yn Amlwch, ond nid yw yn rhoddi adroddiad o'r odfa. Eithr hysbysa mai Mr. David Jenkins, Llanilar, cyfaill Mr. Richard ar ei daith, oedd yr hwn a bregethai yn gyntaf yn Llanerchymedd; ac mai hen ŵr, trwm ei glyw, o'r gymydogaeth oedd yr un a safai gerllaw iddo yn y pwlpud, yr hwn yr ofnai y llanc ei fod wedi dyfod yn lle Mr. Richard.

Y mae amryw o bregethau y Parch. Ebenezer Richard yn argraffedig; ceir tair yn y Gofadail Fethodistaidd, yr ail gyfrol, o ba rai y mae dwy bregeth wedi eu hysgrifenu yn bur llawn. Dygant yn amlwg ôl llaw meistr celfydd. Y maent yn frith o sylwadau cyrhaeddgar, tlysion, ac yn llwythog o efengyl. Awgrymant nad i gyfeiriad yr athrawiaethol y tueddai meddwl Mr. Richard, er nad oedd yn amddifad o fedr i drin pynciau; eithr yn hytrach mai ei hoff waith oedd cymhell pechaduriaid at Grist, a dangos digonolrwydd y Ceidwad ar eu cyfer. Gallwn ychwanegu ei fod lawn mor boblogaidd yn Nhregaron, a'r cymydogaethau o gwmpas, ag ydoedd trwy y wlad yn gyffredinol. Ni fynai pobl ei gartref fod pregethwr yn Nghymru yn rhagori arno; na bod neb yn wir i'w gystadlu âg ef, oddigerth John Elias ac Ebenezer Morris.

Perchenogai mewn cyflawnder holl gymhwysderau arweinydd. Yr oedd craffder arbenig ei sylwadaeth, tuedd ymarferol ei feddwl, ei ddeheurwydd gydag amgylchiadau, ei fedr i drin dynion, yn nghyd a pharodrwydd ei ddawn, a'i wroldeb, pan fyddai angen, yn ei gymhwyso yn arbenig at arwain. Yn y Dê, efallai na fyddai gymaint yn y golwg, oblegyd ei fod yn gweithredu fel ysgrifenydd; eithr efe a fyddai o'r tu ol i'r llen yn tynu wrth bob gwifren. Gwyddai yn dda pwy i'w osod i gyflawni gwahanol orchwylion. Yn Nghymdeithasfa Gwynedd byddai ei ddylanwad yn. cael ei deimlo, ac efallai y byddai fwy yn y ffrynt. Nid unwaith, pan fyddai Mr. Elias wedi poethi o ran ei dymher, ac wedi cael ei gamarwain gan gludwyr chwedlau, y dygodd Mr. Richard y llestr i'r dyfroedd tawel, ac yn anuniongyrchol y gweinyddodd gerydd esmwyth ar Elias ei hun.

Yr ydym wedi cyfeirio yn barod ato yn cyfryngu yn Nghymdeithasfa y Bala, 1835, pan yr ymosodai Mr. Elias ar y Parch. John Jones, Talsarn, gan awgrymu ei fod yn cyfeiliorni oddiwrth y ffydd. Gallasai pethau fyned yn dra annghysurus yno, oni bai i Mr. Richard neidio i'r adwy. Gyda bod Mr. Elias yn eistedd, dyna ef ar ei draed, ac meddai: "Os ydym am gael Yspryd Duw atom, ac i aros gyda ni, ac i weithio trwom ac yn ein plith, nid oes dim yn fwy angenrheidiol nag i ni ofalu am ein hysprydoedd ein hunain. Ni a allwn ddeall pa fath Yspryd ydyw ef oddiwrth ei ffrwythau. Ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest.' Y mae pob terfysg a chynwrf yn groes iawn i'w natur ef, ac yn ei anfoddloni yn fawr. Un hawdd iawn i'w dychrynu yw y golomen fach. Nid oes dim yn blino y Golomen nefol yn fwy na 'chynenau, gwynfydau, ymrysonau,' a'r pethau yn tueddu at hyny. Chwi a'i gyrwch i ffordd yn mhell oddiwrthych, os daw dim fel yna i mewn i'ch plith." Teimlodd Mr. Elias yn ddiau fin y sylwadau; o'r ochr arall, teimlai y Gymdeithasfa fod cerydd anuniongyrchol Mr. Richard yn ddigonol; adferwyd heddwch i'r Gynhadledd, a gorphenwyd y cyfarfod mewn yspryd rhagorol.

Adrodda Dr. Owen Thomas am dro arall, nid annghyffelyb, mewn Cymdeithasfa yn Nghaernarfon. Cwynid fod crefydd yn isel, ac yr oedd amryw o'r hen frodyr yn tueddu i ymosod ar y pregethwyr ieuainc, fel rhai anysprydol, ac amddifad o'r rhagoriaethau a nodweddent yr hen bobl. Felly gwnelai Mr. Elias. "Y mae yn rhaid i mi dystio," meddai, "fod clauarineb, a chnawdolrwydd, a hyfdra ansanctaidd, liaws o grefyddwyr ac ambell bregethwr, yn y dyddiau hyn, yn flinder mawr i mi, yn enwedig wrth eu cymharu â'r rhai yr wyf yn gofio. Byddaf yn meddwl yn fynych am eiriau Micah: Gwae fi! canys yr ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhauaf gwin; nid oes swp o rawn i'w bwyta; fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf.' Mi a chwenychwn fyw gyda rhai mwy sanctaidd; nid oes ond ychydig yn meddwl am grefydd, a'r rhai hyny yn dra gwahanol i'w tadau. O! yr addfed ffrwyth cyntaf!'—eu hedifeirwch dwfn, eu gostyngeiddrwydd mawr, eu ffydd gref, eu cariad tanllyd, eu hymddiddanion sanctaidd, eu hymddidoliad oddiwrth y byd, eu cysegredigaeth i grefydd. Nid oes bosibl cofio am danynt, a'u cymharu â chrefyddwyr clauar, ffurfiol, cnawdol, y dyddiau hyn, heb deimlo hiraeth mawr ar eu hol. Fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf!"

Llefarai gyda theimlad dwys, ac yr oedd effeithiau anarferol ar yr holl gyfarfod. Ond teimlai Mr. Richard fod y pwn yn troi ormod un ochr, a phan y galwyd arno i siarad, dywedodd: "Y mae yn dda genyf finau gofio yr hen bobl, ein hen dadau anwyl; ac y mae pob cyfeiriad atynt yn cyffwrdd a llinynau tyneraf fy nghalon. Yr oeddwn yn awr, wrth glywed mor ardderchog am danynt, yn hiraethu ar eu hol fel y gallaswn wylo. O! eu gweddïau taer ! O! eu zêl fawr! O! eu llafur caled! O! eu pregethu bywiog! O! eu gwrando cynhes, teimladol! Y mae arnaf hiraeth y foment yma am danynt. Ond nid daioni oedd ganddynt hwythau i gyd. Yr oedd y Meistr mawr yn cael llawer o waith maddeu iddynt hwythau. Ac yr oeddent yn gwneyd yn dda iawn ar dir maddeuant. Ië, ar dir maddeuant, cofiwch. Hwyrach hefyd y goddefai y Tad nefol lawer o bethau ynddynt hwy na byddai mor hawdd ganddo fyned heibio iddynt ynom ni. Yr ydym ni wedi cael llawer iawn o fanteision na chawsant hwy. Edrychwch ar y plentyn bach ar fraich ei fam; ac am na chaiff ei ffordd ei hun y mae gyda holl nerth ei fraich fach yn slapo ei boch hi; a'r tad yn chwerthin wrth edrych arno. Pe buasai bachgen deunaw oed yn gwneyd hyny fe gawsai ei droi dros y drws. Yr ydych chwi wedi myned yn llanciau; gwyliwch slapo'r fam, rhag i'r Tad ddigio!" Ychwanega Dr. Thomas: "Ni welsom odid un amser sylwadau yn effeithio yn fwy dedwydd. Yr oeddent y cyflenwad goreu a allesid gael i'r sylwadau blaenorol, ac yn cael eu teimlo felly gan yr holl frawdoliaeth."

Eithr o holl anerchiadau Mr. Richard y mwyaf effeithiol, yn ddiau, oedd yr un a draddododd yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 15 a'r 16, 1836; yr olaf o Gym deithasfaoedd y Bala iddo ef. Oblegyd ei ddawn a'i newydd-deb, yr oedd disgwyliad mawr am dano, a phan y cododd yr oedd pawb yn llygaid ac yn glustiau i gyd. "Wel," meddai, "y mae yn debyg eich bod yn dweyd yn eich meddyliau, Dyma y gôg eto; yr un dôn sydd ganddi hi fyth; dim ond un cw-cw y naill flwyddyn ar ol y llall.' Ond os yr un dôn sydd ganddi, ffryndiau, nid yw ei swn yn arwyddo dim drwg, y mae yn hytrach yn dywedyd fod yr haf yn agos. Ac at waith yr efengyl yr wyf am eich gwahodd eleni eto. Y mae genym Gymanfa i gael ei chynal y chweched a'r seithfed o'r mis nesaf, mis Gorphenaf, yn y Twrgwyn, yn Sir Aberteifi; hen le cysegredig, hen gartref dynion Duw, ond lle na fu Cymanfa gan y Methodistiaid erioed o'r blaen. Hi a fydd y gyntaf yno; ac y mae arnaf eisiau cyhoeddiadau fy mrodyr anwyl o'r Gogledd i anrhydeddu ei dechreuad. Nid ydwyf am gymeryd fy ngomedd genych y tro hwn. Rhaid i chwi gyd-ddwyn â mi am fod yn daer arnoch y waith hon, oblegyd eich gwahodd i ddinas beddrod fy nhadau yr ydwyf. Chwi gewch bregethu yn ymyl y fan lle y gorwedd llwch y gwrol Dafydd Morris, a'r enwog Ebenezer Morris, y cewri hyny fu yn bloeddio ar y Cymry i ddeffroi o'u cwsg. Ac heblaw hyny, nid wyf am eich blino chwi mwy. Yr wyf wedi codi dan deimladau difrifol y tro hwn; y mae rhyw argraff ar fy meddwl mai dyma y tro olaf am byth i mi eich anerch fel hyn yn y Bala. Yr wyf wedi cyrhaedd blwyddyn fy mrodyr" (cyfeiriad at Mr. Ebenezer Morris a Mr. David Evans, Aberaeron, y rhai a fuont feirw ill dau yn yr unfed-flwyddyn-ar-bymtheg-a-deugain o'u hoedran); "ac y mae rhywbeth ynof yn dweyd y bydd yn flwyddyn i minau; a chyn y bydd Sasiwn eto yn y Bala, y byddaf fi wedi myned oddiar y maes, yn gorwedd â'm cleddyf dan fy mhen." Tra y llefarai fel hyn yr oedd ei lygaid mawrion, prydferth, yn arllwys y dagrau gloywon, a'r holl frawdoliaeth yn cydwylo, heb gymaint ag un a llygad sych. Methodd gael addewid gan Mr. Elias, ond cydsyniodd y Parch. Henry Rees a'i gais.

Rhagorai mewn medr gyda'r Ysgol Sabbothol. Braidd na ellir edrych arno fel tad yr Ysgol Sul yn y Dê. Os oedd ysgol Sabbothol wedi cael ei chychwyn yn flaenorol mewn rhai lleoedd, eiddil a didrefn ydoedd; eithr ymroddodd efe i anadlu anadl einioes ynddi, gan ddarostwng ei holl beirianwaith dan drefn briodol. Efe sefydlodd y Cyfarfodydd Dau Fisol yn y Deheudir. Cyfan soddodd hefyd reolau manwl iddi, y rhai a fabwysiadwyd yn gyffredinol, ac ydynt i raddau mawr mewn grym hyd y dydd hwn. Llafuriodd mewn amser ac allan o amser gyda'r sefydliad gwerthfawr hwn; teithiodd lawer i'r Cymanfaoedd Ysgolion, a byddai ei bresenoldeb yn sicrhad o gymanfa dda. Credwn na chododd ei debyg yn Nghymru fel holwr pwnc. Fel hyn yr ysgrifena Mr. Daniel Davies, Ton:Y Drysorfa, Mehefin, 1888. "Er mor ddylanwadol oedd Mr. Richard wrth bregethu, nid oedd yn fwy felly nag y byddai wrth holwyddori; o'r ddau, yr oedd y dylanwad a fyddai yn cydfyned â'i waith yn holwyddori yn gryfach, neu o leiaf yn fwy cynhyrfus, na'r dylanwad a fyddai yn cydfyned â'i bregethu, oddieithr ar rai adegau hynod a neillduol iawn. BendithBendith iwyd ei lafur yn y dull hwn i fod yn foddion argyhoeddiad llawer iawn. Cawsom fantais i adwaen rhai o'r cyfryw. Un o honynt oedd y diweddar Samuel Rowland, Tymawr, gerllaw Llanddewibrefi, aelod o'r teulu ag y perthynai yr enwog Rowland, Llangeitho, iddo. Yr oedd Mr. Richard yn holi pwnc ar ddydd y farn mewn Cymanfa Ysgolion yn Llanddewibrefi; ac er y gallesid ateb agos yr holl gwestiynau a ofynai gydag ïe, neu nage, do, neu naddo, yr oedd yr holwr wedi llwyddo i bortreadu y dydd mawr mor fyw, a'i ddwyn mor agos at feddyliau y gynulleidfa, nes yr oedd braw a dychryn wedi llenwi mynwesau llawer oedd yn bresenol. Ar ganol yr holi rhoddodd Samuel Rowland ysgrech gyffrous, fel pe byddai rhywun yn ei drywanu, nes peri cyffro mawr yn y gynull eidfa, a chlywsom rai oedd yn bresenol yn dweyd nas gallent byth anghofio yr amgylchiad. Yr oedd Samuel Rowland yr adeg hon yn ddyn ieuanc cryf a hoyw, ac yn tueddu i fyned yn wyllt, fel y dywedir; ond o hyny allan yr oedd yn ddyn arall. Bu fyw am rai degau o flynyddoedd ar ol y tro hwnw, ac yr oedd ei fywyd bob amser yn brawf o wirionedd y cyfnewidiad a weithredwyd ynddo yn y Gymanfa Ysgolion.

Cynyrchid yr effeithiau mwyaf rhyfeddol weithiau pan fyddai Mr. Richard yn holi, trwy ei waith yn peri i'r ysgol adrodd, ac ail-adrodd drosodd a throsodd drachefn, adnod, neu ddarn o adnod, fyddai yn cael ei chynwys yn y "pwnc," neu y digwyddid ei hadrodd gan rywun mewn atebiad i gwestiwn. Člywsom am dano unwaith yn tanio cynulleidfa wrth yn unig adrodd enw y Gwaredwr. Ar ol gofyn pwy a anfonwyd i waredu dynolryw, ac i'r ysgol ateb, Iesu Grist, torodd allan mewn tôn orfoleddus i ganmol yr enw bendigedig; yna gwahoddai hwynt i'w adrodd drachefn, a gwnaent hwythau hyny yn fwy gwresog na'r tro cyntaf. "Yn wir," meddai yntau, "fe ellid meddwl wrth eich gwaith yn ei adrodd eich bod chwithau yn hoff o'r enw, ac y byddai yn dda genych gael ei ddywedyd eto." Yna gofynodd yr un cwestiwn drachefn, ac atebodd yr ysgol eilwaith, "Iesu Grist;" ac felly yr aed yn mlaen am beth amser, efe yn canmol yr enw, a'r ysgol yn ei adrodd, nes yn y diwedd y torodd allan yn orfoledd trwy yr holl gynulleidfa.

Weithiau cymerai adnod i fynu, a gwnai ychydig o sylwadau arni, ei hun, nes cynyrchu y teimladau mwyaf angherddol. Sylwai unwaith ar y geiriau hyny: "A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau." "Dyna," meddai, "yw'r hanes am lawer yn y gynulleidfa hon, a phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt,' ac yr wyf yn credu na ddigia y Maddeuwr mawr wrth y creadur gwael sydd ger eich bron am wneyd yn hyf arno am unwaith, a chyfaddef mai felly y bu arno yntau, pan oedd ei achos yn cael ei drin yn y llys fry, ac yntau yn ofni mai y carchar oedd yn ei aros, dyna fel y trodd hi allan yn y diwedd arno; A phryd nad oedd ganddo ddim i dalu efe a faddeuodd iddo.' Yr oedd mewn teimladau dwysion iawn pan yn dechreu llefaru; ond wrth gymhwyso yr adnod at ei achos ei hun, a phan yn ei hadrodd yr ail waith, gosododd ei ddwylaw ar ei wyneb, a thorodd allan i wylo yn uchel, ac erbyn hyny yr oedd pawb yn y lle yn wylo gydag ef, nes y gallesid galw yr holl gynulleidfa yn dra phriodol Bochimrhai yn wylo.

Adroddai y Parch. Thomas Rowlands, Aberdar, wrthym ei fod yn bresenol mewn Cymanfa Ysgolion yn Llanddewibrefi, yn y flwyddyn 1832, adeg y diwygiad cyn y diweddaf. Yr oedd y tair adnod olaf yn yr 11eg benod o Matthew yn rhan o'r pwnc: "Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog," &c. Gofynai Mr. Richard: "Pwy sydd yn galw?" ac atebai yr ysgol, "Iesu Grist." Yna gofynai: "Ar bwy y mae yn galw? Pa nifer sydd yn cael eu galw ganddo?" Yna safai i synu fod y fath un yn galw y fath rai, ac yn galw pawb o'r fath; a gofynai eilwaith: "Beth y mae yn myned i wneyd o honynt?" Yr atebion i'r holl gwestiynau hyn oedd y darnau priodol o'r adnodau. Pan yn adrodd, ac yn ail adrodd, mewn atebiad i'r cwestiwn olaf a'r cwestiynau oedd yn codi oddiarno, y geiriau: "A mi a esmwythâf arnoch," yr oedd yr effeithiau. yn fawr iawn. Ac wrth adrodd yr adnod ddilynol: "A chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau," rhoddodd William Evans, Llanio Isaf, floedd: "O diolch!" ac ar hyn aeth yn ddiolch trwy yr holl gynulleidfa, fel nad oedd yn bosibl myned yn mlaen yn mhellach gyda'r holwyddori; ac yn yr agwedd hono y terfynodd y Gymanfa."

Byddai yn aml wrth holi ysgol yn dal ar ryw air, neu ymadrodd mewn adnod, nes tynu sylw pawb ato. Adrodda y Parch. John Evans, Abermeurig, am Mr. Richard yn holi ysgol Maesyffynon, mewn Cymanfa yn Abermeurig. Y pwnc yma eto oedd y farn; a'r adnod fawr oedd : Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist;" a'r geiriau y daliai efe arnynt oedd "ni oll." Gofynai "Pwy raid ymddangos?" "Ni oll." "Ni oll." "Dywedwch eto."

"Pwy?" "Ni oll." "Rhaid i ni "A raid i bob un o ysgol Maesyffynon ymddangos yn y yn y farn?" oll." Yr oedd yr holi a'r ateb yn myned yn gryfach ac yn fwy gwresog wrth fyned yn mlaen. Wedi aros yn hir gyda'r ysgol trodd at y gynulleidfa, gan ddweyd: "Yr ydych chwi, y dyrfa fawr, yn clywed i gyd, mae yn rhaid i bob un o ysgol fach Maesyffynon ymddangos yn y frawdle. A ydyw hyn yn wir am danoch chwi ?" Atebodd y dyrfa: "Rhaid i ni oll." Wedi troi a throsi am ychydig, gofynodd : "A fydd vaid ymddangos?" "Rhaid i ni oll." "A fydd pawb yn foddlon ymddangos?" "Na fyddant." "A fydd yn rhaid i'r rhai hyny?" "Rhaid i ni oll." "A fydd rhai yn foddlon ymddangos?" "Bydd." "Pwy fydd y rhai hyny?" rhai hyny?" Atebai rhai, "y saint;" ac eraill, "y duwiolion;" ond dyma rywun yn gwaeddi o ganol y llawr: ffryndiau'r Barnwr fyddant!" Aeth yr ateb fel gwefr trwy y lle; ofer ceisio holi ychwaneg. Yr oedd rhai yn gwaeddi am "hyder ddydd y farn;" eraill yn canu,

"O flaen y fainc rhaid sefyll," &c.;

ac eraill yn gorfoleddu, "Dacw y Duw y gobeithiasom ynddo." Felly mewn sain cân a moliant y terfynodd y Gymanfa hon.

Yr oedd wedi holi yn hynod gefnogol i rai gweiniaid; derbyniai atebion am- mherthynasol, gan eu troi i ateb y mater dan sylw. Yr oedd yr hynod Theophilus Jones, Tregaron, ac yntau mewn Cymanfa Ysgolion yn Nhalyllychau, Sir Gaerfyrddin. Holai "The. Jones," fel ei gelwid, ysgol Cwmdu am Dduw, a gofynai am adnod fwy pendant i brofi ei fodolaeth. O'r diwedd cododd llanc ar ei draed, gan adrodd yr adnod, "Ac yr oedd dyn o'r Phariseaid a'i enw Nicodemus." Cyffrodd yr hen bregethwr, ac meddai, "Dyna adnod ryfedd i brofi fod Duw. Ysgol Cwmdu sydd yn ateb; ïe, a du iawn y'ch chwi hefyd." Yr oedd Mr. Richard yn holi ysgol arall yn ganlynol, ac meddai, "Yr wyf bob amser wrth fy modd mewn Cymanfa Ysgolion, ac ni theimlais erioed yn fwy hapus na heddyw. Yr ydych yn ateb yn rhagorol iawn. Nid oedd modd cael adnod well nag eiddo y gŵr bach yna i brofi y pwnc: 'Ac yr oedd dyn.' Beth eill brofi yn fwy amlwg fod Duw, na bod dyn? Da machgen i, am ddod ag adnod mor bwrpasol." Yr oedd pawb yn gwenu, a The. Jones y tu cefn yn ocheneidio yn drwm, ac yn dweyd, "Ho, ho, druan! Ho, ho, druan!"

Meddai hoffder angherddol at blant. Pan yn myned unwaith i Gyfarfod Misol yn Llanon, yn nghwmni Mr. David Jones, Dolaubach, gwelai gryn nifer o blant Bethania ar y ffordd yn chwareu. Trodd atynt ar unwaith, gan ddechreu eu holi, a'r plant yn ateb wrth eu bodd. "Yr ydych wedi cael cwrdd plant, Mr. Richard," ebai David Jones; "O," ebai yntau, "y mae yn rhaid gwneyd tipyn mewn amser ac allan o amser.' Teimlai hoffder mawr at Bethania. Yr oedd yno yn cadw Cyfarfod Jiwbili yr ysgol Sabbothol, yn y flwyddyn 1831, ac yr oedd hwnw yn un o'r rhai hynotaf yn nghôf yr hen bobl. oedd yn yr un lle yn gofyn addewidion at yr ail gapel, ac meddai: "Pan y bydd dynion yn myned i olchi defaid, y maent yn arfer taflu y llwdn cryfaf yn gyntaf i'r llyn, fel y byddo hwnw yn arwain y lleill. Gwell i ninau wneyd yr un fath, am hyny mi a ofynaf eich enw chwi, John Davies blaenor cyfoethog—"yn gyntaf."

Yr oedd yn ddihafal fel ysgrifenydd llythyrau. Yr ydym wedi crybwyll eisioes am ei waith yn ysgrifenu at foneddwr, ar ran cynulleidfa Llanddewibrefi, pan oedd hono wedi cael ei throi allan o'i chapel adeg y Neillduad, i ofyn am ddarn o ddaear i adeiladu capel newydd arno. Daeth y llythyr i law y boneddwr adeg ciniaw rhent, ac effeithiodd mor ddwys arno nes dwyn y dagrau i'w lygaid, er ei fod yn mhell o fod yn gymeriad crefyddol, a throdd at nifer o offeiriaid a eisteddent wrth y bwrdd, gan ddweyd dan haner llefain: "Paham na ellwch chwi ysgrifenu fel hyn, y d—l—d?" Ceir nifer mawr o'i lythyrau yn ei Gofiant; buasai yn dda genym eu gosod i mewn yma oll, ond rhaid i ni ymfoddloni ar un. Anfonwyd ef at Gymdeithasfa y Gogledd, ar gais Cyfarfod Misol Ceredigion, ychydig wedi marwolaeth y Parchn. Ebenezer Morris a David Evans. Fel hyn yr ysgrifena Mr. Richard :

"Fy Mrodyr anwyl a hoff,—Ar ddymuniad Cyfarfod Misol Sir Aberteifi, yr ydwyf yn cyfeirio yr ychydig linellau hyn atoch chwi, yn gynulledig yn eich Cymdeithasiad Chwarterol, y rhai a dderbyniwch trwy law ein brawd caredig a'n cenhadwr ffyddlon, Mr. John Morgans. Cenhadwr mewn galarwisg ydyw, ac yn cynrychioli llonaid sir o frodyr mewn galarwisgoedd. Am ba achos yr ydym yn galaru nid rhaid i ni ddywedyd wrth ych. Dygwyd atoch yn hir cyn hyn yr hanes blin am rwygiad ar rwygiad a welodd ein Tad nefol yn dda wneuthur yn ein plith ni yma; rhwygiadau na bu eu cyffelyb yn ein plith er pan ydym yn Gorph. Colli dau mor llafurus, diwyd, defnyddiol, a llwyddianus, mewn llai nag wythnos o amser ! O! pwy adfera'r golled hon! Ei colli ar ganol eu gwaith, ar ganol eu dydd, a cholli yr olaf cyn ofni ei golli, cyn dysgwyl am y tro, cyn dychymygu na meddwl fod hyny yn bosibl !

"Ein dwy aden oeddent, â pha rai yr ehedem; ein dwy ffon oeddent, ar ba rai y pwysem; ein dwy fron oeddent, o ba rai y sugnem; ein dau lygad oeddent, à pha rai y gwelem; a'n dwy fraich oeddent, â pha rai y gweithiem. Ond heddyw, wele ni hebddynt; hebddynt, nid am ddau fis i Lundain, nid am fis i'r Gogledd, ac nid am wythnosau i Bristol, neu ryw gwr arall o'r maes; ond hebddynt am byth ar y ddaear! Heb eu presenoldeb siriol i'n İloni, heb eu pregethau nerthol i'n bywiogi, heb eu cynghorion doethion i'n hyfforddi, a heb eu llywodraeth hynaws i'n trefnu. Llywodraethwyr oeddent yn ein mysg wrth fodd pawb, uwchlaw pawb, gofalus am bawb, tadol i bawb; heb lethu neb, na phoeni neb, na thra-awdurdodi ar neb un amser. Rhaid i mi daflu'r pin o'm llaw; y mae y dagrau yn tywyllu fy llygaid, ac y mae eu coffa yn aredig fy enaid.

"Braidd yr wyf yn medru ymatal heb ofyn i chwi o ddifrif, a ydynt hwy ddim yna gyda chwi yn Mhwllheli ? Onid yw fy mrawd Roberts yn eu henwi at y gwaith cyhoeddus? Och! Och! Och! Clywaf atebion canoedd o honoch yn gwanu fy nghalon fel picellau; Nac ydynt, nac ydynt. Buont yma yn y fynwes, buont yma yn llaw ddehau eu Harglwydd, buont yma tan goron o arddeliad, buont yma yn fynych, a buont yma yn ddiweddar-diweddar !' Pa mor ddiweddar? Buont yn eich Cymdeithasiad Flynyddol ddiweddaf yn Nghaernarfon; daethant atoch yn nghyd, ac yno canasant yn iach i eglwysi Gogledd Cymru, fel pe buasent am ragarwyddo eu bod i roddi eu harfau i lawr yn nghyd. O'r fath ymffrostwyr ydynt heddyw, wedi diosg eu harfau, gorphen eu brwydrau, darfod eu teithiau, a thaflu i lawr yr olaf o'u beichiau! Maent yn canu ar eu telynau ryw nefol odlau yn mhlith y seintiau, lle y mae llawer o drigfanau, a'r rheiny oll yn gysurol, yn heddychol, a thragywyddol.

"Fy mrodyr, cofiwch am danom, i weddïo drosom; ac od oes arnoch eisiau cyfle i ddangos cariad, cydymdeimlad, elusengarwch, a haelioni, trowch at Sir Aberteifi dlawd yn ei chyfyngder presenol.

Na fydded i'ch holl serch atom, a'ch holl dristwch drosom, eich goddef i fod bawb gartref, ond deuwch drosodd a chynorthwywch ni, a hyny ar frys, ac yn helaeth; a llonwch ein brawd trwy ei gyf oethogi a'ch cyhoeddiadau.-Ydwyf, frodyr anwyl, gyda'r serch mwyaf diledrith, dros. Gyfarfod Misol Sir Aberteifi,

"EBENEZER RICHARD."

Yr oedd yn gyflawn o yspryd cenhadol. Yn hyn nid oedd neb cyffelyb iddo yn Sir Aberteifi, nac yn wir yn y Deheudir; a dyna paham, fel yr ydym wedi sylwi yn barod, y mae y rhan uchaf yn feddiant llwyr i'r Methodistiaid. Ei gynllun oedd sefydlu canghenau Ysgolion Sabbothol pa le bynag y ceid deg o ddynion yn rhy bell i fyned i ysgol arall. Dywedai mai dyma y rheol gyda golwg ar y synagogau Iuddewig, sef sefydlu synagog pa le bynag y ceid deg dyn yn alluog i fod yno yn gyson. Yn mhob lle o fewn cylch ei ddylanwad mynai gapel eang, mwy na digon i'r gynulleidfa. Felly y gwnaeth yn Nhregaron, er fod rhai yn anewyllysgar i gael adeilad mor fawr. Dywedai y dylai capelau fod fel yr iachawdwriaeth, yn llefaru yn eu hiaith: "Eto y mae lle."

Nis gallwn olrhain hanes y gwas hwn i Iesu Grist yn mhellach. Blinid ef y rhan olaf o'i oes gan hunglwyf (lethargy) trwm, yn peri cwsg annaturiol, fel nad oedd braidd yn bosibl ei ddeffroi o hono. Cafodd ymosodiad trwm ganddo yn y flwyddyn 1832, a thrachefn yn niwedd y flwyddyn 1835; ar yr achlysuron hyn gwaedid ef yn helaeth, yn unol âg arferiad y dyddiau hyny, ond er y gwnelai y lancet les iddo am ychydig, nid annhebyg ei bod yn gwneyd niwed i'w gyfansoddiad. Tua diwedd y flwyddyn 1836, teimlai yn bur iach, aeth i Gymdeithasfa Dolgellau, yn mis Medi, ac yr oedd yn bresenol yn Nghymdeithasfa Crughywel, Sir Frycheiniog, Hydref 25 a'r 26. Ond nid oedd yn teimlo gystal ddechreu y flwyddyn ganlynol. Dechreu mis Mawrth aeth, yn unol â phenodiad y Cyfarfod Misol, i ymweled âg eglwysi rhan isaf Sir Aberteifi. Ond yn nghymydogaeth Twrgwyn teimlai ei hun yn gwanhau; barnodd ef a'i gyfaill nad doeth iddynt fyned yn y blaen yn mhellach, a dychwelyd i Dregaron a wnaethant; efe yn bur llesg, ond a'i feddwl mewn tangnefedd perffaith. Aeth i'w wely, ac ymddangosai fel yn cysgu yn naturiol ac esmwyth. Tua chwech o'r gloch, boreu dranoeth, deffrowyd ef trwy gryn drafferth i roddi meddyginiaeth iddo. Syrthiodd yn fuan eilwaith i gwsg trwm. Pan aed, yn mhen tua dwy awr drachefn, at ei wely, ymddangosai wedi cyfnewid yn fawr, ac yr oedd rhyw ddyeithrwch rhyfedd yn ei wedd. Yn mhen tua chwarter awr ehedodd ei yspryd ymaith i wlad yr iechyd tragywyddol. Yr oedd hyn foreu dydd Iau, Mawrth 9, 1837, pan nad oedd ond ychydig dros bymtheg-mlwydd-a-deugain. Y dydd Mawrth canlynol cymerwyd ei gorph yn gyntaf i'r capel, lle y pregethodd y Parchn. John Jones, Llanbedr, oddiwrth 2 Sam. iii. 38; ac Evan Evans, Aberffrwd, oddiwrth 2 Tim. i. 10. Yna, yn nghanol galar nas gwelwyd yn fynych ei gyffelyb, gosodwyd ef i orwedd yn mynwent Tregaron.

Y PARCH. EBENEZER RICHARD,

Yr hwn a fu farw Mawrth 9fed, 1837, yn 56 oed.

Y Gareg hon

A godwyd gan ei deulu a'i gyfeillion,

Nid i adrifo rhinweddau y marw, nac ychwaith i

gyhoeddi ei galar hwy am dano,-canys, "y

galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei

hun: a'r dieithr ni bydd gyfranog o'i

llawenydd hi," (Diar. 14, 10) ond fel arwydd

o'u cydnabyddiaeth o ras Duw yn y gwas

ffyddlon, yr hwn,

Y mae ei glod trwy yr holl eglwysi.

Anrhegwyd ef yn helaeth iawn

A'r holl ddoniau dewisol sy'n prydferthu

Dyn, Cristion, a gweinidog yr Efengyl.

Ei gyfansoddiad corfforol ydoedd gryf, a'i olygiad

yn urddasol; a holl addurniadau y dyn oddi-

allan, oeddynt gywir bortreiad o ragor-

iaethau tywysogaidd y dyn oddimewn.

Doethineb a chryfder ei feddwl;

Cadernid a chywirdeb ei farn;

Bywiogrwydd ei ddychymyg, a lledneisrwydd ei

deimladau yn nghyda dwfn enneiniad ei yspryd

a'i perffeithient i waith y weinidogaeth, ac a

ennillent iddo radd dda yn eglwys Dduw.

Ei dalentau oeddynt amryw, ond ei destun ydoedd

un; "Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio."

I'w ddyrchafu ef,

Cysegrai yn ffyddlon holl yınadferthoedd grymus

ei feddwl ar hyd ei oes.

Serchiadau ei wrandawyr lluosog

A grychneidient wrth ei glywed yn traethu

am dano ef, a'i athrawiaeth a ddefnynai

arnynt fel gwlaw,

Doeth a diwyd ydoedd, fel Paul i blanu;

Tyner a gwlithog, fel Apolos i ddyfrhau;

I'r gydwybod gysglyd a difraw, yr ydoedd yn 'fab

y daran; ac i'r yspryd cystuddiedig, yn 'fab

diddanwch :'

Yn mysg

Ieuengctyd yr ysgolion Sabbothol,

A Henuriaid yr eglwysi yn y Gymanfa fawr,

Trigai fel Brenin mewn llu;

Ei addysgiadau a dderbynid fel deddf;

Ac a berchid fel doethineb yr oracl;

Hwy a wrandawent arno, ac a ddisgwylient;

Dystawent ei gynghor,

Ar ol ei ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith;

a'i ymadrodd

A ddyferai arnynt hwy.

Cyfodai yn lle ei dadau

(Gyda'r Trefnyddion Calfinaidd)

I berffeithio eu gwaith,

Ac, i iawn drefnu y pethau oedd yn ol

Yn yr eglwysi a blanasent:

Ac wedi gorphen ei waith

Iunodd gyda hwy yn yr Arglwydd, a chasglwyd ef

at ei bobl.

Hefyd MARY RICHARD, Anwyl Briod y rhag-

ddywededig Barch. Ebenezer Richard,

Yr hon a fu farw Chwefror 14, 1865,

Yn 74 mlwydd oed.




DIWEDD CYFROL II.




LEWIS EVANS, ARGRAFFYDD, 13, HEOL Y CASTELL, ABERTAWE.


Nodiadau

golygu