Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II/Rhagymadrodd i'r Ail Gyfrol

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
Cynwysiad

RHAGYMADRODD I'R AIL GYFROL.

DA genym allu cyflwyno allu cyflwyno i'n darllenwyr yr Ail Gyfrol o'r Tadau Methodistaidd. Credwn nad ydyw yn ol mewn un modd i'r un flaenorol o ran cywirder hanes- yddol, llawnder desgrifiad, nac ychwaith o ran dyddordeb y darluniau a geir ynddi o'r Tadau, ac o'r lleoedd a enwogwyd trwy eu cysylltiad â hwy. Nis gall ei chynwys fod lawn mor newydd, gan ein bod yn dyfod i lawr at gyfnod mwy diweddar ; ond yr ydym wedi casglu yn nghyd yn ofalus yr holl friwsion oedd o fewn ein cyrhaedd, a gwel y cyfarwydd fod ynddi lawer o fater na bu o'r blaen mewn argraff. Nid ydym wedi agos gwblhau ein cynllun, ac yr ydym yn ceisio gobeithio, os yr Arglwydd a'i myn, y galluogir ni rywbryd i ddwyn allan gyfrol arall. Ond am y presenol, hyd nes y cawn ychwaneg o gefnogaeth, rhaid i ni orphwys ar ein rhwyfau. Yr ydym yn hyderu nad â ein llafur yn ofer, ond y bydd darllen am y Tadau, ac am y gwaith mawr a wnaeth yr Arglwydd trwyddynt, yn enyn awydd cyffredinol am gyfranogi o'u hyspryd.

JOHN MORGAN JONES, CAERDYDD.

WILLIAM MORGAN, PANT.

Medi 22, 1897.


Nodiadau

golygu