Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-6)

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-5) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-7)

a Howell Harris, ar wahan i'w gilydd, i sefydlu cymdeithasau neillduol er adeiladu y praidd a'u cadw rhag myned ar gyfeiliorn; ac erbyn hyn y mae y cymdeithasau yma yn elfen o'r pwysicaf yn mywyd ysprydol y genedl.

Amrywia haneswyr yn eu barn gyda golwg ar pa un ai Daniel Rowland ynte Howell Harris oedd y blaenaf o ran amser ynglyn a'r Diwygiad. Dywed y Parch. John Hughes, Liverpool, [1] ei fod yn ymddangos yn lled sicr ddarfod i Harris gael y blaenafìaeth o ychydig amser; ond ni rydd Mr. Hughes un rheswm dros ei dybiaeth, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifena yn nes yn mlaen yn ei lyfr, y mae yn amlwg ei fod mewn cryn betrusder gyda golwg ar ei chywirdeb. Maentymia y Parch. Hugh J. Hughes, Cefncoedcymmer, mai Harris yn ddiamheuol bia y blaen mewn amseriad, yn gystal ag mewn cymeriad beiddgar a diofn; ond nid yw yntau ychwaith yn dwyn yn mlaen unrhyw brawf. Geiriau Howell Harris ei hun ydynt: "Am y gweinidog arall, y dyn mawr hwnw dros Dduw, Mr. Daniel Rowland, deffrowyd ef tua'r un amser a minau, mewn rhan arall o Gymru, sef yn Sir Aberteifì; ond gan mai ychydig o ohebiaeth oedd rhwng y sir hono a Brycheiniog, aeth ef yn mlaen gan gynyddu yn raddol mewn doniau heb wybod dim am danaf fì, na minau am dano yntau, nes i ni gyfarfod yn Eglwys Defynog, yn y flwyddyn 1737.[2] Tuedda Williams, Pantycelyn, yn amlwg i roddi y blaen mewn amser i Daniel Rowland, a Dylid cofio fod Williams yn gyfaill mynwesol i'r ddau, ac agos yn gyfoed a hwynt; a'i fod yn mhellach nid yn unig yn fardd ardderchog, ac yn emynydd digyffelyb, ond hefyd yn hanesydd gwych. Nid ydym yn rhoddi cymaint pwys ar ei eiriau yn y farwnad i Rowland:—

"Pan oedd tywyll nos trwy Frydain,
Heb un argoel codi gwawr,
A thrwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd
Wedi goruwch guddio'r llawr;
Daniel chwythodd yn yr udgorn."

Y mae yn amlwg nad yw yr ymadroddion hyn i'w gwasgu i'w hystyr eithaf, a defnyddia eiriau llawn mor gryfion gyda golwg ar Howell Harris:—

"Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca fach i maes."

Amlwg yw nad ydyw y difyniadau uchod yn penderfynu dim ar y mater; gellir gosod y naill farwnad ar gyfer y llall. Eithr y mae un llinell yn marwnad Rowland a ymddengys yn troi y glorian yn drwm o'i blaid:-

"Rowland startodd allan gyntaf,
A'i le gadwodd ef yn lân;
Ac nis cafodd, er gwisgied,
Ungwr gynyg cam o'i flaen."

I "Ond y mae perygl i ni fod yn rhy frysiog," meddai y Parch. Lewis Edwards, D.D., oblegyd nid yw yn sicr fod yma gyfeiriad at Howell Harris.[3] Er hyny, pe buasai Harris wedi 'startio' allan yn gyntaf, nid yw yn debyg y buasai Williams yn anghofio y ffaith wrth gyfansoddi ei farwnad, ac y mae yn ddiau y buasai hyny yn ei rwystro i ddefnyddio geiriau mor gryfion am Rowland."

Ymddengys yr holl amgylchiadau fel yn ffafrio y golygiad fod Rowland wedi tori allan i rybuddio pechaduriaid lawn mor fuan a Harris, os nad o'i flaen. Argyhoeddwyd Howell Harris yn y flwyddyn 1735. Hydref y flwyddyn hono aeth i Rydychain. Ond yr oedd yn flaenorol wedi dechreu cynghori ei gydwladwyr. Dychwelodd adref o gwmpas y Nadolig, ac nid aeth yn ei ol. Ail ymafla yn ei waith yn gynar yn y flwyddyn 1736. Y flwyddyn ganlynol, sef yn 1737, yr ydym yn cael Daniel Rowland yn pregethu yn Eglwys Defynog, ddeugain milldir o'i gartref fel yr hêd brân; a chawn ef yr un flwyddyn ar daith yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw yn debyg y buasai yn myned i bregethu i siroedd eraill, heb ei fod wedi treulio cryn lawer o amser yn y cymydogaethau o gwmpas ei gartref, a chael arwyddion amlwg fod bendith ar ei ymdrechion. Meddai Joshua Thomas, ei gydoeswr, gyda golwg arno:—[4] "Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ei glywed o gylch 1737 yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno liaws yn gwrando; ac mi glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref. Yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn: "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr ond Griffith Jones. Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni yn mhlith pobl yr Eglwys." Dylid cofio mai gwr ieuanc,



Nodiadau golygu

  1. Methodistiaeth Cymru, Cyf. i. tudal. 66
  2. The Life of Howell Harris, tudal. 45
  3. Traethodau Llenyddol, tudal 479
  4. Hanes y Bedyddwyr, tudal. 53