Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-26)

Howell Harris (1743—44) (tud-25) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-27)

anghymwysder ei hun ar ei gyfer, a'r angen oedd arno am bob gras, fel y llefai: "Arglwydd, ni wnai dim beri i mi fyned allan (i bregethu), ond dy fod di yn fy anfon; hyn, a hyn yn unig yw y sail yr wyf yn adeiladu arni, fy mod wedi cael fy anfon ganddo ef." Dranoeth, aeth yn nghwmni Rowland a Williams mor bell a Dygoedydd; yno pregethodd Daniel Rowland, ar Can. ii. 14, ac ymddengys iddo gael hwyl anarferol. Yna ymwahanodd y cyfeillion, Rowland a Williams yn myned tua Cheredigion, a Harris tua Threfecca.

Ychydig, a chymharol ddibwys, oedd penderfyniadau Cymdeithasfa Brynbychan:Cydunwyd, gwedi dadl faith, fod Evan John i gael ei adael i'r Arglwydd, hyd nes y caffom oleuni pellach i ganfod ei alwad; nid oedd ef yn teimlo ei hun yn rhydd i roddi i fynu.

"Fod enw yr hwn sydd i gynghori i gael ei hysbysu, pan y cyhoeddir fod cynghori i gymeryd lle mewn unrhyw le.

"Fod cateceisio i gael ei osod i fynu, a'i drefnu yn y fath fodd ag a fo fwyaf buddiol, er cyffroi pawb i chwilio yr Ysgrythyrau.

"Fod William Samuel i gynghori ar brawf o gwmpas cartref."

Fel yr oedd adeg priodas Harris yn agoshau, cynyddai y gwrthwynebiadau i'r undeb. Yr oedd teulu Miss Williams ei hun yn chwerw ac yn erlidgar. Cynygiai ei thad, a roddasai unwaith ei gydsyniad i'r briodas, bymtheg cant o bunoedd iddi am dynu yn ol; bygythiai ei mam ei churo; ac yr oedd ei brawd yn llawn cynddaredd. Yn ychwanegol, taenid chwedlau ar led oeddynt yn dra niweidiol i gymeriad y Diwygiwr, sef ei fod yn priodi yn unig er mwyn y gwaddol a gaffai gyda ei wraig, ac nad oedd ef a hithau yn myned i'r ystad briodasol mewn ffordd anrhydeddus. Pan glywid am gwymp tybiedig y dyn a elai o gwmpas i bregethu, gan fygwth digofaint Duw ar holl weithredwyr anwiredd, llawenychai ustusiaid Brycheiniog a Maesyfed fel pe wedi cael ysglyfaeth lawer. Eithr yr oedd rhuddin yn y ferch ieuanc; ac er pob gwrthwynebiad, unwyd hi a Howell Harris mewn glân briodas yn Nghapel Ystrad—ffin, Mehefin 18, 1744. Er rhoddi taw ar elynion crefydd, gwrthododd Harris gymeryd ceiniog o waddol gyda hi; ac yn y cyfnod priodol profodd amser fod y chwedl arall yn anwireddus.

Ar y 27ain o Fehefin, cynhelid y Gymdeithasfa Chwarterol yn Nhrefecca. Ymgynullodd y frawdoliaeth yn bur gryno, ac yn mysg eraill yr oedd Daniel Rowland, Howell Davies, Williams, Pantycelyn, wedi dyfod. Am un—ar—ddeg yn y boreu, pregethodd Rowland, oddiar Heb. vi. 18, gan ddangos yr angenrheidrwydd am ffydd o flaen gweithredoedd, a'r ddyledswydd o fyned at yr addewidion cyn myned at y gorchymyn. gorchymyn. Teimlai Harris eu hun yn drymaidd a chysglyd yn ystod y cyfarfod. Nid oedd hyd yn nod Rowland yn gallu tanio cynulleidfa bob amser. Gwedi hyny pregethodd Herbert Jenkins, oddiar Phil. iv. 4, a chafodd gryn afael ar y bobl. "Wedi iddo orphen,' meddai Harris, "aethom i giniaw, a chefais bleser mawr tra yn gwasanaethu ar y brodyr wrth y bwrdd, gan deimlo yn ddiolchgar fod genyf dŷ i groesawu cenhadau Duw. O gwmpas tri, aethum gyda'r gweddill o'r frawdoliaeth i'r Gymdeithasfa, lle yr arosasom hyd ddeg. Yr oedd genym faterion o bwys i'w hystyried, yn arbenig y priodoldeb i'r offeiriaid gyfranu y sacrament mewn tai. Yr oeddwn i, gyda mawr wres a zêl, wedi bod yn erbyn hyn; ond wrth weled cymaint o anesmwythder yn yr ŵyn, a bod llawer yn ein gadael o'r herwydd, ymddangosai i mi fod llais rhagluniaeth yn galw ar yr offeiriaid i fyned un cam yn mhellach. Ond gan na theimlent hwy yn rhydd, cydunasom i neillduo diwrnod yr wythnos nesaf i ymgynghori â Duw. Yr oeddem yn unfryd yn ein holl ymgynghoriadau a'n penderfyniadau. Mor raddol y mae yr Arglwydd yn ein harwain, fel y gallwn ei ddwyn. Wrth ddarllen hanes yr arolygwyr am yr ŵyn dan eu gofal, cawsom foddhad mawr. Ond yr oeddwn i yn sych. Yna swperasom, a chawsom gymdeithas felus yn nghyd, yn trefnu ein Cyfarfodydd Misol am y dyfodol." Dranoeth pregethodd Morgan John Lewis, gyda nerth mawr, oddiar Hab. iii. 19, ac yna ymwahanodd y brodyr.

Am unwaith, gwelwn fod Howell Harris yn fwy rhyddfrydig na Daniel Rowland, a Howell Davies, a Williams, Pantycelyn. Daethai ef yn foddlon i'r offeiriaid weinyddu y sacramentau mewn tai byw, yn y plwyfydd hyny lle yr oedd offeiriaid yn anfoesol, neu lle y gwrthodid y cymundeb i'r Methodistiaid. Nid oeddynt hwy eto yn barod i gymeryd cam mor bwysig. Diau y gwelent yr arweiniai hyn i beri i'r Esgob gymeryd eu trwyddedau oddiarnynt, yr hyn a allai wneyd yn hawdd,



Nodiadau golygu