Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-34)

Howell Harris (1743—44) (tud-33) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-35)

gostyngeiddrwydd wrth lefaru yn gyhoeddus, ac mewn ymddygiadau preifat, wedi dysgwyl yn ostyngedig wrth Dduw, pob un yn agor ei galon ac yn cyfaddef rhyw fai, a phawb wedi dysgu gwersi pwysig, gan weled yn neillduol nad digon fod y llygad yn syml, ond y rhaid i'r rheol a'r bwriad fod yn iawn, a'r oll mewn yspryd iawn, cyn y byddo ein hymddygiad yn ddyogel, cydunasom, ac yr oeddym yn un, bendigedig fyddo Duw, gan ganfod llawer o ddichellion y gelyn. Gan fod y brawd Howell Griffith wedi cael ei oddiweddid gan fai, a chwedi dangos profion digonol of edifeirwch gwirioneddol at y brodyr, cydunwyd ei fod i gael ei dderbyn drachefn ar brawf, ar yr amod ei fod yn cymeryd gofal am achos ei gwymp yn y dyfodol.

"Fod y brawd Richard Jones i gael ymddiddan ag ef gan y brawd Harris, ac i gael ei dderbyn yn unig ar arwyddion o wellhad oddiwrth ei ddifaterwch, yr hyn a ddangosodd yn mhen dau ddiwrnod wedi siarad ag ef gerbron yr holl seiadau yn St. Nicholas, pan y trefnwyd ei fod ef a'r brawd Thomas Lewis, Pwllymeirch, it gyfnewid bob yn ail Sabbath, ac i gadw yn ddifwlch eu cymundeb â'r brodyr.

"Trefnwyd y goruchwylwyr yn seiadau. St. Nicholas, ac hefyd yn seiadau St. Andrews, Aberthyn, ac Aberddawen.

"Gan ddarfod i Thomas Williams ddweyd rhywbeth yn erbyn y gŵn a'r cassog (cassock and gown), addefodd nad hwy eu hunain oedd mewn golwg ganddo, eithr gwneuthur eilunod o honynt.

"Addefodd y brawd Powell hefyd ei fai, ddarfod iddo gyfeirio at y brodyr Price a Belsher fel rhai heb fod yn uniongred mewn rhai egwyddorion; ac ystyrid ei fod yn ddiofal wrth anog y bobl i beidio parchu y pregethwyr yn fwy nag eraill; fod hyn. yn tueddu i wanhau dwylaw y pregethwyr, ac yn rhwystro y bobl i barchu y swydd; er mai ei amcan ef (Powell) oedd peidio gwneyd eilunod o honynt, neu dderbyn wyneb personau yn ol y cnawd."

Dengys y cofnodau hyn fod y Methodistiaid yn dechreu cyfarfod â rhwystrau mewnol; fod rhai o'r cynghorwyr a berchid fwyaf yn cael eu dal gan feiau, a mawr angen am eu hadgyweirio; ac nad oeddynt yn gwbl rydd oddiwrth eiddigedd a rhagfarn y naill at y llall. Y mae yn amlwg nad yw diwygiad grymus, a theimladau dyfnion a chyffrous, yn dinystrio yr hen ddyn yn y bobl oreu mewn diwrnod. Anhawdd peidio gwenu wrth weled y mawr ofal a gymerir rhag i neb lefaru gair condemniol am bethau perthynol i'r Eglwys, ac yn arbenig y gwisgoedd offeiriadol. Ond y mae yn deilwng o sylw nad oedd yr un offeiriad urddedig yn bresenol yn y Gymdeithasfa; ac felly nad neb o honynt. hwy oedd yn gyfrifol am yr eiddig. edd hwn. Aeth Howell Harris yn bur fanwl trwy ranau o Sir Forganwg a Sir Gaerfyrddin, gan gyfeirio ei gamrau tua Phorthyrhyd, lle y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol, Hydref 3 a 4. Prawf y difyniad canlynol ansawdd ei yspryd: Cefais nerth i ddymuno ar i mi gael fy ngwneyd yn fendith i bawb, y ffordd yr wyf yn teithio; i'r cynghorwyr, ac i'r ŵyn, fel y gallwn fendigo pob tŷ yr awn iddo, a bod o les i bawb sydd yn fy ngwrando. Gwelais y fath anrhydedd y mae Duw yn roddi arnaf trwy fy ngosod yn y fath safle. Gweddïais dros y gweithwyr, yn arbenig ar iddynt fod yn un.”

Y diwrnod cyn y Gymdeithasfa daethant i gapel Abergorlech, lle y pregethai Rowland, oddiar y geiriau: "Dos yn fy ol i, Satan." Ymddengys ei bod yn bregeth amserol, a thra miniog. Y "Satan' yr anogai y brodyr i ddweyd wrtho, "Dos yn fy ol i," oedd balchder. Ymhelaethai ar ymfalchio mewn doniau, ac mewn grasusau, gan ddangos i'r rhai na feddent ddawn mor ddedwydd ydynt, eu bod yn gyffelyb i lwyn isel, yn ddyogel rhag llawer o dreialon a phrofedigaethau at chwythant ar y rhai sydd wedi eu donio yn helaeth; ac fel yr oedd yr Arglwydd yn edrych ar ffydd yn hytrach nag ar ddoniau. Yna llefarai wrth y rhai a feddent ddoniau, gan ddangos yn (1) Nad yw y doniau wedi eu rhoddi er ein mwyn ni, ond er mwyn eraill; (2) Fod y rhai a feddant lawer o dalentau yn aml yn brin mewn gras; (3) Nad yw dawn yn ddim yn ngolwg Duw mwy na phe byddent hebddo; mai ar ffydd yr edrych efe; (4) Fod doniau yn cael eu rhoddi yn amodol; y gellir eu cymeryd ymaith, a bod hyn yn cael ei wneyd yn aml; (5) Fod doniau yn aml yn arwain i brofedigaethau, fel siaced fraith Joseph. Yna trodd at falchder mewn grasusau, gan egluro fod Duw yn erbyn pob ffurf ar falchder, nad oes dim a wneir mewn balchder yn llwyddo. Yn ddiweddaf, dangosodd arwyddion ymfalchio mewn gras, sef mawrhau ein gras, ac ymddiried ynddo, yn lle yn Nghrist. Pregeth i'r cynghorwyr ydoedd yn benaf; yr oedd pob gair yn dweyd ar Howell Harris. "Gwnaed



Nodiadau golygu