Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-5)

Howell Harris (1743—44) (tud-4) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-6)

Arglwydd, nas gelli fy niweidio.' Gwnaed i fy enaid yn awr mewn ffydd goncwerio ar fy holl elynion, trwy weled fod Duw wedi fy ngharu, ac wedi fy ngwaredu rhagddynt oll. Gwnaed fi, yn wir, yn ddiolchgar am fy ngwaredu o deyrnas y diafol, gyda ei grym a'i thrueni. Gwelais yn awr, trwy ffydd, fy rhagorfreintiau, fy mod yn eiddo yr Arglwydd, ac yntau yn eiddo i minau. Wyth mlynedd yn ol tynwyd fi o grafangau y diafol at Dduw; ond yn awr y mae arnaf eisiau cael fy ngwaredu oddiwrth ddylanwad y cnawd, a'r natur, yn mha rai y mae Satan yn gweithio. O Dduw, gwared fi rhag fy hunan! O, gwared fi rhag fy natur!" Yn sicr, nis gallai neb ond un yn byw llawer yn y byd ysprydol ysgrifenu fel hyn.

Un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn 1743, oedd dal y cynghorwr Morgan Hughes, a'i anfon i garchar Aberteifi, i sefyll ei brawf yn y brawdlys yno, heb ganiatau iddo gael myned yn rhydd yn y cyfamser, trwy roddi meichiau am ei ymddangosiad. Cynyrchodd yr amgylchiad gyffro dirfawr yn mysg y Methodistiaid; ymddangosai yr helynt, y naill ffordd neu y llall, fel yn penderfynu tynged y diwygiad. Pan y pasiai Howell Harris trwy dref Aberteifi, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Fisol Longhouse, yr oedd Morgan Hughes, druan, yn gaeth y tu fewn i furiau y carchar. Nis gallodd fyned i'r carchar i'w weled; nid yw yn ymddangos fod ganddo drwydded i hyny oddiwrth yr ynadon. Ond hawdd gweled ei deimlad yn y difyniad canlynol o'i ddydd-lyfr: "Aberteifi, dydd Mercher. Yn y dirgel cefais achos y brawd Morgan Hughes, y carcharor, yn gwasgu yn drwm arnaf. Teimlais y fath gariad ynof fel yr oeddwn fel pe wedi cymeryd lle y carcharor, ac yn teimlo fel y teimlai efe; yr oedd pob peth oedd genyf, bywyd, arian a chwbl, at ei wasanaeth; gallwn ddyoddef yn ei le. Teimlwn hefyd y cyfryw gariad tadol at yr oll o'r cynghorwyr, fel y gallwn ddyoddef gyda hwy. Ysgrifenais lythyr at y brawd Rowland, yn ei gyfarwyddo i geisio cael y brawd yn rhydd trwy roddi meichiau." Teimlad diflas i un a'i ymysgaroedd mor dosturiol a Howell Harris, oedd gorfod cefnu ar Aberteifi heb weled ei gyfaill, na medru ei gynorthwyo mewn un modd. Ni lwyddwyd i gael Morgan Hughes allan trwy feichiau, ychwaith; bu raid iddo aros yn rhwym hyd ddydd y prawf. Teimlai Thomas Price, o'r Watford, a'r gymdeithas i ba un y perthynai, yn ddwfn oblegyd yr helynt. Meddai Mr. Price, mewn llythyr at Howell Harris: "Yr wyf yn ofidus, ac eto yn llawenhau, oblegyd yr erledigaeth ar y brawd Rowland a'r brawd Hughes." Awgryma hyn fod Daniel Rowland yn ogystal wedi cael ei wysio i sefyll ei brawf yn Aberteifi, ond na feiddai yr ynadon draddodi offeiriad ordeiniedig i garchar. Ychwanega Mr. Price: "Bûm yn meddwl myned i Aberteifi erbyn y brawdlys, gyda y brodyr William Morgan a Watkin Evans; ond gan i rwystrau ddyfod ar ein ffordd, a bod y draul yn anghymesur, yr ydym yn anfon hyn (swm o arian) gyda ein serch i'r brodyr Rowland a Hughes. Yr ydym yn anfon cymaint ag a fedrwn o'n cariad gyfranu, er mwyn i chwi symud yr achos i Westminster, ac yr ydym yn barod i'ch cynorthwyo hyd eithaf ein gallu. Gwell i ni fod yn ddiffynwyr, ond os nad ânt yn y blaen, dymunwn arnoch ddwyn cyhuddgwyn yn eu herbyn am gam drin Morgan Hughes ar brif-ffordd y brenin. Nid rhaid wrth dyst, gan i'r peth gael ei gyflawni mewn lle mor gyhoeddus." Felly yr ysgrifena Mr. Price, a hawdd gweled ei fod wedi ei gyffroi, ac y meddai yn ogystal lawer o wybodaeth o'r gyfraith.

Ar foreu dydd Llun, tua diwedd mis Ebrill, y mae Howell Harris a Daniel Rowland yn cychwyn o Langeitho tua brawdlys Aberteifi. Yr oedd eu ffordd ar y cyntaf trwy ddyffryn prydferth Aeron, un o'r rhai tlysaf yn Nghymru; erbyn tri daethant i Clwyd Jack, haner ffermdy a haner palasdy, tua thair milltir islaw Talsarn, lle y cawsant ymborth i'w hanifeiliaid. Cyrhaeddasant dy un Walter Watkins erbyn chwech, ac yr oedd yn agos i naw arnynt cyn cyrhaedd Aberteifi. Melus odiaeth oedd y gyfeillach ar y ffordd; teimlent ddirfawr hyfrydwch mewn cael cyd-ddyoddef. Gwelai Howell Harris fawr dynerwch a doethineb Duw yn nhrefniant eu dyoddefaint; ar y cychwyn, pan oeddynt yn wan, ni erlidid hwy ond trwy eu gwatwar a'u gwawdio, dim ond digon o wrthwynebiad yn eu cyfarfod i roddi rhyw gymaint o ymarferiad i'w gras eiddil; a phan, tua phedair blynedd yn ol y cyfododd ystorm yr oedd ganddynt gyflawnder o frodyr, a chyfeillion ac arian i fod yn gymhorth iddynt. Daeth ar ei feddwl i ysgrifenu a chyhoeddi llyfrau Cymraeg, fel gallai pawb ddod i adnabod Crist; ond teimlai mai ei ddyledswydd gyntaf oedd ymweled a'r seiadau, lle yr oedd yn amlwg



Nodiadau golygu