Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-11)

Howell Harris (1745) (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-12)

mwy nag sydd genych chwi, yr offeiriaid, atom ni yn bresenol; am hyny ni a ddymunem arnoch wneuthur yr un peth; ac wrth wneuthur felly ni ellwch dramgwyddo neb dynion a gymero Air Duw fel rheol benaf i rodio wrthi, ac ni a allwn ddisgwyl yr un effeithiau, sef chwanegu at ein rhifedi, a bod yn gadernid i'r rhai sydd eisoes wedi eu galw. Ni a ddymunem na fyddo i'r brodyr edrych arnom fel pobl wedi syrthio i glauarwch, o herwydd ein bod fel hyn yn anfon ein meddyliau atoch, na'n bod yn disgwyl am gael enwau mawrion yma; nage, canys os rhoddwch chwi le iddo yn eich rheswm, nid ydym yn actio yn y cyfryw fodd. O herwydd hyn, ni allasem fyned ymaith yn ddystaw, ac felly cael ein hordeinio, a chymeryd cynulleidfaoedd dan ein golygiad. Nage, frodyr; yr ydym yn foddlawn i gydlafurio gyda chwi, fel yr ydym hyd eto, ac i gymeryd ein llywodraethu genych chwi fel o'r blaen, eto yn yr Arglwydd, ac yn ol ei Air. Yr ydym wedi bod yn ceisio dodi ein hachosion o'ch blaen chwi er ys talm o amser, ond ni chawsom ryddid i wneuthur felly. Duw a dosturio wrthyın mewn amser O gyfyngder, pan y mae ein tadau yn Nghrist, a'n brodyr yn yr Arglwydd, yn ein gadael yn amddifaid. Hyn, yn bresenol, oddiwrth eich caredicaf frodyr,

"THOMAS Price,
"WILLIAM EDWARD,
"THOMAS WILLIAM,
"JOHN BELSHER,
"EVAN THOMAS."

Rhaid addef fod hwn yn lythyr cryf, er y cynwysa rai cyfeiriadau personol nad ydynt yn gwbl barchus. Prin yr oedd yn weddus ar ran y cynghorwyr hyn i awgrymu, pe y caffai rhai o ddynion blaenaf y Gymdeithasfa eu hordeinio yn ol trefn Eglwys Loegr, nad gwaeth ganddi beth a ddeuai o'r lleill. Hawdd darllen rhwng y llinellau awydd mawr am ordeiniad; yr oeddynt yn barod i aros gyda'r Methodistiaid, ond iddynt gael eu hordeinio; yr oeddynt yn benderfynol i ymadael oni chaent. Diau genym fod y cyffelyb ysprydiaeth yn ymweithio fel lefain yn mysg y cynghorwyr trwy lawer o'r cynulleidfaoedd. Dyddorol fyddai gwybod pa ateb a roddwyd i'r llythyr, os atebwyd ef o gwbl; nid yw y wybodaeth hono genym; ond teifl dydd—lyfr Howell Harris lawer o oleuni ar stad meddwl y frawdoliaeth cynulledig yn Nghayo, yn nglyn a'r mater hwn. Meddai: "Cawsom hir ymchwiliad i natur ac arwyddion balchder, sydd yn awr yn dechreu ymddangos yn y cynghorwyr. Agorasom ein calonau i'n gilydd, gan weled fod yn rhaid i ni ddatgan yn erbyn yr Ymneillduwyr, eu bod yn cysgu, ac yn gadael yr Arglwydd. Rhoddodd yr Arglwydd i mi genadwri i'w chyhoeddi i'r brodyr ; cenadwri ofnadwy, yn tori i'r byw, gyda golwg ar ostyngeiddrwydd, a thlodi yspryd. Yr oedd yr Arglwydd yno yn wir. Datganai amryw fod y geiriau yn trywanu eu heneidiau fel cleddyfau. Cyfeiriais at berygl balchder; mor ffiaidd oedd ein gweled ni (y cynghorwyr) yn falch, gan na feddwn ond ychydig ddoniau, ac ychydig wybodaeth mewn unrhyw beth; a'n bod heb ddysg na medr, yn wael, ac yn ddirmygus yn ngolwg pawb, ac felly hefyd mewn gwirionedd. Dangosais y dylem gywilyddio, ac ymostwng gerbron Duw, wrth weled cynifer yn ymgynull i wrando ar greaduriaid mor wael; a'r modd y mae balchder yn ymddangos mewn anallu i oddef cerydd." Prawf y difyniadau hyn mai fel balchder yspryd ar ran y cynghorwyr, yr edrychai Howell Harris, a'r brodyr yn Nghayo, ar y dymuniad angerddol am urddiad oedd yn dechreu dangos ei ben, ac yn peri dadleuaeth frwd ac ymraniad. Ymddengys y pethau canlynol yn bur glir: (1) Fod arweinwyr y Methodistiaid yr adeg hon, ac yn arbenig Howell Harris, yn dra ymlyngar wrth yr Eglwys Sefydledig, ac yn rhy anmharod i gydnabod hawliau y cynghorwyr mwyaf galluog gyda golwg ar ordeiniad i gyflawn. waith y weinidogaeth. Awyddent am i amryw gael urddau esgobol; eithr oni chaent y fraint hono, nid oeddynt yn barod i ymgymeryd a'r cyfrifoldeb o ordeinio yn eu mysg eu hunain. Gwell ganddynt, yn hytrach, oedd i'r cymdeithasau ddyoddef amddifadrwydd, ac i'r cynghorwyr galluocaf gefnu. (2) Tra yr oedd rhai cynghorwyr wedi eu cynysgaethu â doniau helaeth, ac yn meddu gwybodaeth ddofn o'r Ysgrythyr, fod lliaws o rai eraill yn weiniaid eu galluoedd, yn brin eu dirnadaeth, ac yn amddifad o chwaeth a barn; ac eto, nid annhebyg fod yr awydd am ordeiniad, er mwyn cael safle uwch yn yr eglwys, yn gryfach yn y dosbarth olaf hwn na neb. Felly, pe y dechreuid ordeinio y cynghorwyr, nid annhebyg y byddai hyny fel pe yr agorid argae, y llifai cenfigen ac eiddigedd i fewn i fysg y brodyr fel afon. (3) Y mae yn bur sicr fod amryw, a'r rhai



Nodiadau golygu