Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-13)

Howell Harris (1745) (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-14)

llym i'r brodyr. Dangosais y rhaid i ni gael ein dysgu gan Dduw yn yr ol ag a geisiwn ddysgu i'r bobl, onide nas gallwn lefaru gydag awdurdod, a bywyd, a hyfdra; y dylem ddeall ein perthynas a holl greaduriaid Duw, â phawb dynion, ac â phawb credinwyr, gan weled ein bod wedi ein geni i'r byd cynddrwg a'r diaflaid; pan fyddom yn myned gerbron y bobl, ein bod yn wynebu ar greaduriaid sydd yn farw mewn pechod, y rhai na effeithia geiriau na rhesymau fwy arnynt na phe y ceisiem dyllu careg â bys, oddieithr i Dduw lefaru wrthynt a'u dwysbigo; y dylem benderfynu peidio myned at y bobl heb Dduw, a gofalu, gwedi myned, am gadw ein llygaid yn sefydlog ar Dduw; oblegyd pan fyddom yn myned yn y cnawd, os canfyddwn yn y gynulleidfa ŵr doeth a phrofiadol, ni a anghofiwn y bobl, gan gyfeirio ein holl ymadroddion ato ef, a cheisio gosod ein hunain yn iawn yn ei syniad ef, ac felly anghofio yr Arglwydd. Yna dangosais fel yr oedd y bobl wedi syrthio i drwmgwsg, fel, er eu bod yn teimlo tan weinidogaeth y Gair, nad ydynt yn eu bywydau yn cydnabod yr Arglwydd, ac na dderbyniant gerydd. Sylwais y byddai yn well i ni beidio pregethu, oni wneir ni yn effeithiol i ddwysbigo ac argyhoeddi. Cyfeiriais at falchder—balchder mewn dillad—ein dull o geisio ei guddio, ac fel yr ydym yn gaethion iddo. Yr oedd nerth mawr yn ein mysg. Yr wyf yn credu y caiff hyn ei fendithio iddynt, ac i'r wyn. Gwelais ddarfod i'r Arglwydd fy anfon gyda'r genadwri hon atynt. Yna, gwedi trefnu dydd o ymostyngiad, a phenderfynu ein cylchdeithiau, aethum, o gwmpas wyth, tua Llangamarch." Pregethodd yno gyda nerth mawr, ac aeth i dŷ Mr. Gwynn i gysgu.

Yr wythnos ganlynol aeth ar daith i ranau o Fynwy a Morganwg, er mwyn, yn un peth, bod yn bresenol yn Nghymdeithasfa Watford; ac, fel y dengys y dydd—lyfr, er mwyn cadarnhau y cynghorwyr. Yr oedd y cyffro a'r anesmwythder a ffynai yn eu mysg yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl. Meddai: "Yr wyf yn teimlo fy enaid yn crynu oblegyd y cynghorwr; y mae hunangais yn cynyddu yn eu mysg, a thlodi yspryd yn darfod, a gwybodaeth y pen yn dyfod yn mlaen. O fy Nuw, dwg ni i'th ddysgeidiaeth di, fel y gwelom ac y gogoneddom di, ac y deuwn yn debyg i ti. Byddai yn beth arswydus i'r Methodistiaid adael yr Arglwydd ar ol cymaint a wnaeth efe iddynt. Eithr y mae fy Arglwydd yn dyner wrthyf yn y dydd hwn o brawf. Yr wyf yn cael mai yr hyn yn unig a geisiant yw, ordeiniad, disgyblaeth, a chynulleidfaoedd. O, ai nid ydynt yn hyn yn debyg i'r Israeliaid a geisient frenin er mwyn bod fel y cenhedloedd eraill?" Wedi pregethu yn Cantref, Dolygaer, Llanheiddel, a New Inn, cyrhaeddodd Watford y nos cyn y Gymdeithasfa. Yr oedd yma o fewn dwy filltir i'r Groeswen, canolbwynt y cyffro am ordeiniad, o'r hwn le hefyd yr anfonasid y llythyr i Gymdeithasfa Cayo. O angenrheidrwydd, felly, rhaid fod awydd y cynghorwyr am gael eu hordeinio, a'r cynhwrf yn nglyn â hyny, yn uchaf ar feddwl pawb a ddaethai yn nghyd; a rhaid i'r mater gael ei drafod. Cymerodd Harris fantais ar bresenoldeb llawer o'r brodyr i drin y pwnc yn flaenorol i gynulliad ffurfiol y Gymdeithasfa, gan draethu yn helaeth ei syniadau ei hun, ac ateb rhesymau a gwrthddadleuon. Caiff y dydd—lyfr adrodd yr hanes "Wrth ymddiddan a'r brodyr, dywedais fy mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn tri pheth. Yn mlaenaf, nad oeddwn erioed wedi edrych ar y seiadau fel eglwysi, ond fel canghenau bychain o Eglwys. Yn nesaf, nad oeddwn wedi edrych ar y cynghorwyr fel gweinidogion i weini yr ordinhadau, na, gyda golwg ar lawer o honynt, fel rhai i gyfranu y Gair yn y ffordd o bregethu, ond mewn ffordd o gynghori. Yn drydydd, nad oeddwn wedi edrych arnom erioed fel sect, ond fel pobl o fewn i'r Eglwys, wedi ein galw er mwyn diwygiad, hyd nes naill y gwrandewir ni neu y troir ni allan. Dangosais y rhaid i bwy bynag a elwir i lafurio fel diwygiwr gael cariad cryf i ddyoddef llawer. Dywedais fod yr holl anesmwythder hwn, yn ol fy marn i, yn codi yn—

"I. Oddiwrth Satan yn gweithio yn ddirgel i geisio ein rhanu. Fy rhesymau ydynt y rhai canlynol: (1) Nis gallaf gredu fod y petrusder (gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys) wedi cael ei gynyrchu gan Dduw, gan na ddaeth yr amser eto i'w symud, na gweithredu yn ei ol. (2) Amy rhai ddarfu ildio i'r petrusder hwn, fel pe yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd, nid ydynt wedi llwyddo. (3) Nis gallem gyduno â'r Ymneillduwyr pe yr ymumem â hwy, oblegyd eu Baxteriaeth mewn athrawiaeth, a'u clauarineb fel proffeswyr, tra y byddent hwy yn edrych arnom ni fel rhai urddasol, ac na chaem awdurdod yn eu mysg i fyned yn mlaen â gwaith y diwygiad. (4) Fod



Nodiadau golygu