Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-27)

Howell Harris (1745) (tud-26) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-28)

Drefecca y noswaith hono. Eithr dros y Sabbath yn unig y cafodd fod gyda ei deulu. Boreu dydd Llun, ar lasiad y wawr, y mae ymaith drachefn, ac yn cyrhaedd Cayo tua chanol dydd, lle y pregethodd gyda nerth oddiar y Salm gyntaf. Yn gynar yn y prydnhawn yr oedd yn Llwyn yberllan, yn yr hwn le y cedwid Cymdeithasfa Fisol. Daniel Rowland a lywyddai. Nid yw yn ymddangos ddarfod i benderfyniadau o bwys gael eu pasio; ond bu Howell Harris yn anerch y cynghorwyr gyda difrifwch mawr. Meddai: "Datgenais mai perffeithrwydd oedd y nod o fy mlaen; os syrthiaf, fod yn rhaid i mi gyfodi, ac mai hunanymwadiad sydd yn gosod gwerth ar waith. Anogais ar i'r seiadau gael eu cyffroi i ddarllen yr Ysgrythyr, a dwyn eu holl brofiadau at faen prawf yr Ysgrythyr; ac oni fyddant yn gyson â'r Beibl nad ydynt i gael eu derbyn. Dywedais y rhaid i'r bobl gael pregethu iddynt mor gyson ag sydd bosibl, a'u cynghori i beidio gwneyd sŵn yn yr odfaeon cyhoeddus." Gwelir fod anghymeradwyaeth Griffith Jones o waith y rhai mwyaf tanbaid eu tymherau, yn tori allan i waeddi dan y Gair, yn cael ei gludo trwy Harris i'r cymdeithasau. Dranoeth, pregethodd Daniel Rowland yn nghapel Abergorlech, oddiar Hosea ix. 12. Gwedi y bregeth yr oedd cymundeb, a daeth Harris allan yn hyfryd a dedwydd ei deimlad, ac yn ddyn rhydd. Aeth y ddau gyfaill yn nghyd i Glanyrafonddu. Melus odiaeth oedd y gyfeillach rhyngddynt; y naill yn agor ei galon i'r llall. Yno gorfodwyd Harris i bregethu, yr hyn a wnaeth yn effeithiol, am ddirgelwch duwioldeb. Pregethodd Daniel Rowland boreu dranoeth, yna aethant i Dygoedydd, a chafodd Rowland odfa i'w chofio byth. Yma ymadawsant, a dychwelodd Howell Harris drwy Ceincoed, Llangamarch, a Wernddyfwg, gan gyrhaedd gartref yn hwyr nos Sadwrn.

Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Watford, a chawn Harris a Rowland yno eto. Rhaid fod eu llafur yn ddiderfyn. Dychwelodd Harris adref nos Iau, a boreu dydd Sadwrn cychwyna am daith i Sir Drefaldwyn, gan bregethu yn Tyddyn, Trefeglwys, Llanbrynmair, Blaencarno, Llanllugan, a Mochdref. Yn y lle olaf datganodd ei farn yn bur rhydd. wrth Richard Tibbot am yr Ymneillduwyr, nad oeddynt yn ymddangos iddo ef yn gosod ceisio Duw fel eu prif amcan, eithr yn hytrach uniongrededd, trefn, swn, a moesoldeb; am dano ei hun, na ofalai pe na lefarai air wrth y bobl, oddigerth fod yr Arglwydd yn defnyddio y cyfryw air i glwyfo rhai, ac i feddyginiaethu eraill; mai ei holl amcan oedd delio a chalonau. Ei fod yn bleidiol i uniongrededd, ac hyd yn nod i efrydu llyfrau ac ieithoedd, fel pethau is-ddarostyngedig i'r Yspryd, ond ei fod am i Dduw gael cymhwyso y pregethwyr at y gwaith, trwy ddatguddio ei hun iddynt. Fod ei galon ef yn gatholig, a'i fod yn erbyn rhagfarn o bob tu, ac am gynydd mewn pob math o wybodaeth, ond nid trwy nac yn y llythyren yn unig, ond yn yr Yspryd, trwy weithrediad ffydd, ac mai hanfod ffydd yw adnabyddiaeth o Dduw, fel y mae yn datguddio ei hun yn Iesu Grist. Pa beth a achlysurodd yr ymddiddan hwn, nis gwyddom; nid annhebyg fod Tibbot yn gwasgu ar Harris am gymeryd dalen allan o lyfr yr Ymneillduwyr, a sefydlu math o athrofa i addysgu y cynghorwyr, fel yr awgrymasai yn ei lythyr at y Gymdeithasfa. Ond i fyned yn mlaen, ymadawodd Harris yma, gyda serchawgrwydd mawr, a nifer o wyn anwyl yr Iesu, o Siroedd Caernarfon a Meirionydd, ac aeth yn ol trwy Lwynethel a Llandrindod.

Yr wythnos olaf yn Tachwedd, cawn ef a Mrs. Harris yn cychwyn am Lundain. Parhau yn gymysglyd yr oedd pethau yn mysg y brodyr Saesnig, ac yn ben ar y cwbl, bygythiai Cennick eu gadael, gan ymuno a'r Morafiaid. Yn y Gymdeithasfa Chwarterol, a gynhelid yn y Tabernacl, Rhagfyr 4, daeth y mater yn mlaen. "Agorodd y brawd Cennick," meddai Harris, "ei galon gyda golwg ar y Morafiaid, a'r rheidrwydd a deimlai i ymuno â hwy ar unwaith. Dywedais inau fy mod yn eu hadwaen, ac yn eu parchu, ond nas gallwn gydweled â hwy, am (1) Eu bod yn gwrthod cyhoeddi y gyfraith i bechaduriaid, i ddangos iddynt eu hangen o Grist. (2) Am nad oedd ganddynt ond un mater yn eu gweinidogaeth, sef person yr Arglwydd Iesu, ac felly eu bod yn gwrthod addef graddau mewn ffydd. (3) Am eu bod yn dal y caiff pawb eu hachub yn y pen draw. Dywedais yn mhellach, pan y cyflwynai efe ofal y Tabernacl i mi, nas gallwn wrthod ymgymeryd a'r baich, hyd nes y dychwelai Mr. Whitefield, neu y trefnid rhyw gynllun arall. Yr oeddwn yn barod wedi lledu y mater gerbron yr Arglwydd, ac yr oedd yntau wedi eu gosod (y brodyr Saesnig) ar fy nghalon, fel yr



Nodiadau golygu