Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-6)

Howell Harris (1745) (tud-5) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-7)

oblegyd ei fod yn waed Duw. "Yr wyf yn gweled fy mod yn pregethu'r gwirionedd," meddai. Aeth y Suli Langeitho, i wrando Rowland; ac oddiyno i eglwys Llancwnlle, a phregethodd ei hun yn yr hwyr yn mhentref Gwynfil, ger Llangeitho, i gynulleidfa o rhwng dwy a thair mil. Rhwystrwyd ef i fyned i Ogledd Cymru, fel y bwriadesai, a dychwelodd adref trwy Gayo a Llwynyberllan. Rhydd y crynodeb canlynol o'r daith: "Mis i heddyw yr aethum o gartref i ymweled à Siroedd Caerfyrddin, Penfro, ac Aberteifi, taith O tua thri chant o filltiroedd, a galluogwyd fi i bregethu o gwmpas haner cant o weithiau, gan brofi bendithion diderfyn, yn nghyd â nerth meddwl a chorph anarferol i gyhoeddi Crist."

Yn

mhen ychydig ddyddiau wedi ei ddychweliad yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Dibwys oedd y trefniadau a wnaed; ond yn nglyn à hi cynhaliwyd cariad-wledd, yn mha un y cafwyd arwydd ion arbenig o bresenoldeb y Goruchaf. "Yr oedd yn gariad-wledd yn wir; buom yno yn canu, yn gweddio, ac yn cynghori, hyd nes yr oedd gwedi deg. Ond beth wyf fi wrth lawer o honynt? Yr oedd y brodyr wedi eu tanio i'r fath raddau fel y buont yn canu ac yn gweddïo hyd yn agos i ddau. Gogoniant i Dduw, yr hwn sydd eto yn ein mysg! Yn y gariadYn y gariad wledd cefais nerth i geisio, ac i guro; teimlwn ryw gymaint o agosrwydd at Dduw ; ond ni ddaeth yn y modd fflamllyd hwnw y daethai gynt, i gymeryd ymaith y gorchudd, gan ddangos ei ogoniant, nes toddi fy enaid, a rhoddi i mi fynediad i mewn agos. Ond parhausom i ymdrechu gyda Duw, ac yn mhen ychydig cefais nerth i ofyn i'r Arglwydd a oedd yn bwriadu ymweled a'r genedl yn ei ras, a dychwelyd atom? A oedd yn bwriadu sefyll wrth gefn y Methodistiaid tlodion, gan eu harwain a'u hamddiffyn? ganlynol, cefais foddlonrwydd yn fy enaid fy hun ei fod yn dyfod atom mewn cariad. Gwedi hyny, cefais ryddid i ofyn yr un peth yn y weddi gyhoeddus, a'r Arglwydd a ymddangosodd yn nghydwybod y brodyr, a boddlonodd hwy yn yr un dull ag y boddlonwyd fi. Yna, cefais ryddid mawr i'w hanog i ymdrech, i fywyd, a zêl, a gweithgarwch."

Dengys y difyniadau hyn ddyn yn byw yn agos iawn at yr Arglwydd. A oedd ei waith yn cwestiyno y Duw mawr, ac yn gofyn ateb pendant ganddo gyda golwg ar y dyfodol, ac yna yn cymeryd ei deimladau boddlongar ei hun a'i frodyr fel atebiad cadarnhaol i'r hyn a ofynwyd, yn dangos ystad meddwl hollol iachus, ni chymerwn arnom benderfynu. Ymddengys fel blaguryn o'r dueddfryd gyfriniol a ymddadblygodd ynddo i raddau gormodol wedi hyn. Yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca drachefn ar yr ail ddydd o Fawrth, a daeth Daniel Rowland i bregethu i'r ardaloedd cylchynol amryw ddyddiau yn flaenorol. Aeth Harris i'w wrando i Erwd. Pregethodd yntau yn rhyfedd oddiar Phil. iii. 1: "Ië, yn ddiameu. yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled, o herwydd ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd." O'r cofnodau llawn o'r bregeth a rydd Harris, nis gallwn ddifynu ond ychydig. "Dangosodd," meddai, "fel yr oedd ein cyflwr yn Nghrist yn rhagori ar eiddo. Adda. Yn (1) Pe y parhäi Adda heb bechu, nid ydym yn cael y cawsai ei symud oddiar y ddaear; ond yr ydym ni i gael ein symud i'r nefoedd at Dduw. (2) Nid oedd efe ond mewn paradwys i ba un yr oedd Satan yn gallu cael mynediad, ond yr ydym ni i gael ein symud i fan lle nas gall ddyfod. (3) Er ei fod mewn ystyr yn llawn O ras, eto nid oedd ganddo ddigonedd y tu cefn; felly, er y medrai sefyll, yr oedd yn bosibl iddo syrthio; ond y mae genym ni drysorau dihysbydd y tu cefn i ni, faint bynag a wariom. Yma yr oedd (Rowland) hyd adref ar barhad mewn gras, gan ddangos os oedd Satan wedi ein dinystrio trwy bechod fel nas gallwn achub. ein hunain, eto fod Crist yn well gweithiwr nag efe; felly, ai ni fydd iddo ein hachub mor effeithiol fel nas gallwn ddamnio ein hunain? Dangosodd fod y rhai a gamddefnyddiant yr athrawiaeth hon yn gnawdol. Yn nesaf, eglurodd ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist, gan ddangos mawredd y wybodaeth hon, a'i defnyddioldeb, ei bod yn dwyn pardwn, gras, a dedwyddwch. Yr oedd yn llawn addysg, ac o ddoethineb ddwyfol," meddai. "Yna aethum gydag ef tua Threfecca, i wrando arno, ac i gael fy nghryfhau wrth wrando. Dywedai fod yr Arglwydd yn fy rhoddi i iddo gyda hwy i gryfhau ei ddwylaw, ac i lefaru yr un peth ag yntau, a rhybuddiai fi i fod yn fwy gofalus yn fy athrawiaeth." Y mae yr ymadrodd olaf hwn yn dra arwyddocaol, ac yn dangos fod y Diwygiwr o Drefecca, yn marn ei frodyr, yn tueddu i fod yn anochelgar yn ei ymadroddion pan



Nodiadau golygu