Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-8)

Howell Harris (1745) (tud-7) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-9)

Iau a dydd Gwener, a ffynai heddwch yn yr holl gyfarfodydd. "Yn sicr, gwrandawodd yr Arglwydd ein gweddi," meddai Harris, "ac unodd yn hyfryd ein calonau a'n heneidiau. Teimlwn fod yr Arglwydd yn rhoddi i mi symlrwydd, cariad, a rhyddid, a buddugoliaeth ar ragfarn, i siarad yn syml, ac i beidio ymryson parthed geiriau. Gwelwn ein bod yn meddwl yr un peth (1) gyda golwg ar Grist ein cyfiawnder; yr oeddynt hwy yn golygu yr un peth wrth ei alw ein sancteiddrwydd, ag a olygwn ni wrth ei alw yn gyfiawnder cyfranedig; neu sancteiddrwydd personol. (2) Eu bod hwy yn golygu yr un peth wrth ffrwythau ffydd, neu ffrwythau yr Yspryd, ag a olygwn ni wrth y creadur newydd, sef egwyddor o ras oddifewn yn yr enaid. (3) Eu bod hwy yn golygu yr un peth wrth y gair ffydd mewn ymarferiad ag a olygwn ni wrth ffydd, neu gymundeb â Duw. (4) Eu bod hwy yn meddwl yr un peth wrth ffydd allan o ymarferiad ag a olygwn ni wrth y gair anghredu, neu wrthgilio yn y galon. (5) Pan y siaradent yn erbyn profiad, golygent yn unig peidio ei osod allan o'i le, sef yn gyfnewid am Grist. Yna, cydunasom, os byddem yn defnyddio rhyw derm nad yw yn yr Ysgrythyr, i'w egluro mewn geiriau Ysgrythyrol; ac, hyd y mae yn bosibl, i gyfyngu ein hunain i ymadroddion Beiblaidd." Drachefn, “Cydunasom am gyfiawnhad a sancteiddhad; mai Crist, ac nid ffydd, yw y sylfaen ar ba un y dylem bwyso; a chawsom oleuni a rhyddid anghyffredin wrth ymdrin parthed angenrheidrwydd a lle ffrwyth, sef sancteiddrwydd calon a buchedd; yn nghyd â lle y gyfraith neu y gorchymyn mewn crefydd. Golygem yr un peth yn flaenorol, pan yr ymddangosem fel yn gwrthddweyd ein gilydd. Cydunasom hefyd am y modd i ddelio a'r rhai sydd yn tori y ddeddf yn eu bucheddau nad ydynt yn gredinwyr, am fod Crist yn ysgrifenu ei gyfraith ar galon y credadyn. Mynegasom ein holl galonau i'n gilydd ar bob pwynt; ysgrifenasom hefyd i lawr y pethau y cydunem arnynt. Cydunasom hefyd gyda golwg ar wahanol raddau ffydd-ffydd wan a ffydd gref, ffydd ddamcaniaethol, ffydd grediniol, a ffydd achubol. Cydunwyd hefyd gyda golwg ar y brawd Cudworth; nid oeddwn i yn tueddu ato fel cydlafurwr; ond pan y mynegodd ei fod yn syml, heb dwyll na hoced, yn cyduno a'r hyn a ysgrifenasid i lawr, cefais ryddid i'w dderbyn. Trefnwyd cylchdeithiau pob un; a chwedi trefnu y pregethwyr ieuainc yn eu gwahanol leoedd, ymadawsom yn hyfryd a dedwydd, wedi offrymu mawl a gweddi i Dduw, yr hwn a roddodd i ni y fuddugoliaeth."

Felly y terfynodd Cymdeithasfa Bryste, ac y mae yn sicr fod ei dylanwad yn fawr ar Fethodistiaeth Cymru yn gystal ag eiddo Lloegr. Am y waith gyntaf, tynwyd i fynu fath o Gyffes Ffydd, a Rheolau Disgyblaethol, a gosodwyd y cyfryw i lawr mewn ysgrifen, fel y gellid apelio atynt yn ol llaw. Hawdd gweled fod yr adeg yma yn un o gyffro mawr, a bod y cyffro hwnw yn peri fod holl athrawiaethau crefydd yn cael eu chwilio a'u dadleu. Yr oedd anuniongrededd yn cael yr un driniaeth ag anfoesoldeb, a hawdd iawn i frodyr oedd myned i ymryson yn nghylch geiriau, pan y golygent yr un peth. Doeth iawn yn y frawdoliaeth oedd cyduno i arfer geiriau Ysgrythyrol, hyd byth ag oedd yn bosibl, wrth egluro pob athrawiaeth; ac nid rhyfedd fod Harris yn galw y Gymdeithasfa yn "Gymdeithasfa fendigedig." Y mae yn ddiau fod perygl ymraniad ar y pryd. Felly, o leiaf, y golygai Howell Harris ; a chredwn mai ei ddoethineb a'i arafwch ef fel llywydd y gynadledd a fu yn offerynol i ailsefydlu heddwch, ac i gadw y brodyr rhag ymwahanu. Fel hyn yr ysgrifena gyda golwg ar yr ymdrafodaeth at Mr. Erskine, Ebrill 12, 1745: "Ni fedraf byth anghofio eich gofal pan y cyfarfyddem yn Mryste. Yr oedd, yn wir, yn amser enbyd; ond y Duw sydd yn wrandawr gweddi a agorodd ei glustiau i lefau ei liaws plant a afaelent ynddo. Yr oedd pethau wedi myned mor bell fel na allai unrhyw foddion dynol leshau, ond Duw a dosturiodd wrthym, ac ni oddefai i'w ogoniant, ei waith, a'i blant, a'i genhadau tlawd a drygionus gael eu sathru dan draed, nac i'w gelynion orfoleddu. Gwnaeth ryfeddodau erddom. Ni ddynoethwyd ei fraich yn fwy o'n plaid erioed. Cynlluniau Satan a ddarganfyddwyd, a'i fwriad uffernol a wnaed yn ddim. Gan y gwn eich bod wedi cael y manylion gan y brawd Edwards, nid rhaid i mi ond nodi mai y moddion a ddefnyddiodd i'n huno oedd a ganlyn. Yn gyntaf, datguddiodd i ni, o leiaf i rai honom, y canlyniadau arswydus a fyddant yn debyg o ddilyn ymraniad; y dianrhydedd a dderbyniai ein hanwyl Arglwydd, y tramgwydd a deflid ar ffordd yr annychweledig, a'r annhrefn a ddeuai i'n mysg ninau, a phawb sydd yn



Nodiadau golygu