Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-13)

Howell Harris (1746) (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-14)

yn eu calonau yn meddu adnabyddiaeth agosach o'r Iesu na rhai o'r Methodistiaid. Dywedai, yn mhellach, nad oedd teyrnas ein Harglwydd yn dibynu ar ragfarn, ac ar zêl boeth dros yr hyn a ystyrir yn wirionedd, ond ar addfwynder, a chariad; nad oedd ef ei hun ond gwas, ac nad oedd ganddo awdurdod i rwystro eraill. Datganai mai nid trwy wrthwynebiad agored y buasent debycaf o rwystro y Morafiaid, ond trwy yspryd cymhedrol a chariadlawn, ac ymresymu â hwy yn arafaidd. Ofnai rhag i'r helynt rwystro y gwaith, at gwneyd i ffwrdd a symlrwydd y weinidogaeth yn eu mysg. Ni ddywed yn bendant pa fodd y terfynodd yr ymdrafodaeth, ond gallwn feddwl mai penderfyniad y brodyr oedd fod Howell Harris i ymweled â Hwlffordd. Cychwynodd yntau ddiwrnod y Gymdeithasfa; cyrhaeddodd Hafod, pellder o bum'-milldir-ar-hugain, nos Iau. Erbyn nos Sadwrn, yr oedd yn Llanddowror; bu y Sul yn ymgynghori â Griffith Jones, ac yn gwrando arno yn pregethu; a daeth nos Sul i dŷ Howell Davies, sef y Parke. Nos Lun, aeth i Hwlffordd, ac yn y seiat breifat cafodd lawer o ryddid i egluro dichellion Satan, ac i gyfeirio at ragfarn, balchder, a hunanymddiried. Boreu dranoeth, gwnaeth ef a John Sparks eu goreu i rwystro ymraniad. Pregethai Harris oddiar Rhuf. vii. 24; ac yn y bregeth llwyddodd i roddi yr ergyd olaf ar ddyfais y diafol, am y pryd, modd bynag. Eglurodd gyfeiliornadau y Morafiaid; yr angenrheidrwydd am bregethu y ddeddf; y pwys o chwilio yr Ysgrythyrau, a gwreiddio y dychweledigion ynddynt. Teimlai ei fod wedi llwyddo yn ei neges, ac aeth ymaith yn hapus at dedwydd tua Wolf's Castle. Oddiyno tramwyodd trwy Laneilw, Tyddewi, Longhouse, Abergwaen, Ty'r Yet, Cerig Ioan, Cwm Cynon, a Llangeitho, lle y treuliodd y Sul. Boreu y Sabbath, cafodd Rowland odfa ryfedd yn Llancwnlle; ei fater oedd, ymdrechu yn erbyn y diafol; yr oedd y dylanwad ar Howell Harris bron yn fwy nag y medrai ymgynal o dano; dywed mai unwaith o'r blaen yn unig y clywsai Rowland yn y fath yspryd. Hawdd darllen rhwng y llinellau y teimlai Harris ddarfod iddo boethi gormod yn Watford; ac nad oedd ei yspryd yn y Gymdeithasfa y peth y dylasai fod; dywed ei fod wedi dyfod i Langeitho mewn yspryd hunanymwadol. Meddai: "Yr oeddwn yn teimlo undeb agos at y brawd Rowland; gwelwn mai fy mraint a'm dedwyddwch oedd cael cadarnhau ei ddwylaw, byw a marw mewn undeb ag ef, a threulio tragywyddoldeb yn ei gymdeithas. Yr oeddwn yn ei garu fel fy enaid fy hun. Gwedi y sacrament, aethom i Langeitho; am chwech, sefais i fynu i bregethu; ac wedi dechreu y cyfarfod, llonwyd fi yn fawr wrth weled y brawd Rowland yn dyfod i mewn." Ymddengys mai odfa galed a gafodd. "Teimlwn gywilydd," meddai, "nad oedd dylanwad yn cydfyned a'm geiriau; ni wylai neb, ac nid oedd neb yn teimlo." Efallai fod rhyw gymaint o blentyneiddiwch yn y teimlad a ddatgana, ond y mae yn dra naturiol. "Eithr," meddai, "gwnaed fi yn ostyngedig; ac yr oeddwn yn foddlon bod yn wael yn eu golwg."

Boreu dydd Llun, cronicla fod ei galon yn llifo drosodd gan serch at Daniel Rowland. Dywedais wrtho," meddai, "y teimlwn yn anrhydedd i gael golchi ei draed, ac i gyflawni erddo y swyddau gwaelaf; fy mod yn llawen ac yn ddiolchgar am y talentau a dderbyniasai, a'r llwyddiant a goronai ei ymdrechion, ac am gael fy rhifo yn mysg ei gyfeillion. Cefais ffydd i weled y byddai i mi a Rowland orchfygu pob rhwystrau." Hyfryd gweled fel yr ymglymai enaid y ddau gyfaill wrth eu gilydd, er fod cymylau yn codi rhyngddynt weithiau. Pregethodd Harris yn Llangeitho dydd Llun drachefn, cyn ymadael, a chafodd odfa nerthol. Yna cyfeiriodd ei gamrau yn ei ol, gan ymweled a Glanyrafonddu, Llandilo Fawr, Gellydorch-leithe, Tref-Feurig, ger Llantrisant, lle y rhoddwyd ceffyl yn rhodd iddo gan y frawdoliaeth; Aberthyn, St. Nicholas, a Dinas Powis. Y Sul, yr oedd yn y Groeswen, ac wrth bregethu ar y geiriau, "A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen," yr oedd yn ofnadwy i annuwiolion, ac yn cario pob peth o'i flaen. Cawn ef yn Watford, y Llun, ac ymddengys fod rhyw ddadleuon poenus yn parhau yma yn mysg y frawdoliaeth. Rhybuddiodd hwy fod Satan wedi ei ollwng yn rhydd yn eu mysg, a'i fod am eu rhanu, fel y rhanasai y brodyr yn Lloegr trwy ei ddichellion. Archodd iddynt hefyd holi eu hunain, a oedd pob gras ganddynt mewn gweithrediad, yn arbenig edifeirwch efengylaidd, hunanymholiad, a thynerwch cydwybod. "Hynod," meddai, "fel y mae yr Arglwydd yn ein cadw rhag cyfeiliornadau, er ein bod fel pe ar y dibyn yn aml. Hyderaf



Nodiadau golygu