Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-18)

Howell Harris (1746) (tud-17) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-19)

heb ei ordeinio, ac heb feddu doniau gweinidogaethol rhai o honynt, o herwydd ei yni, a thanbeidrwydd ei zèl, yn fwy ei ddylanwad na hwy ar y cymdeithasau, ac wedi cael ei ddyrchafu i fod yn ben ar Fethodistiaid Calfinaidd Lloegr. Gan mai dynion anmherffaith oeddynt, a'u bod, efallai, yn berchen uchelgais, naturiol iddynt oedd teimlo yn eiddigus, a thalu sylw gormodol i golliadau yr hwn oedd wedi ei ddyrchafu mor uchel. O'r tu arall, nid annhebyg fod ei ddyrchafiad wedi peri i Harris ymchwyddo, ac i fyned i edrych i lawr ar yr offeiriaid, y rhai a berchid gan yr adran fwyaf Eglwysig o'r Methodistiaid yn fwy nag efe, oblegyd eu hordeiniad. Ofnwn fod yr hen gwestiwn, "Pwy fydd fwyaf?" wedi cael gormod o le yn mynwesau y naill a'r llall. (4) Ymddengys yn bur amlwg fod Howell Harris yn y Gymdeithasfa, os nad yn flaenorol i hyny, yn gwneyd ymgais effeithiol i ffurfio y cynghorwyr yn blaid yn erbyn yr offeiriaid. Cawn efe a hwythau yn aros ar ol mewn ymgynghoriad gwedi i'r tri offeiriad fyned allan. Buont i lawr hefyd hyd wawr y boreu yn canu, ac yn gweddïo, ac yn ymddiddan, pan yr oedd y tri arall wedi myned i orphwys i'w gwelyau. Yn flaenorol, yr ydym yn cael Harris yn pwysleisio ar anwybodaeth y cynghorwyr; yn awr, y mae yn eu dyrchafu fel rhai wedi eu hanfon gan Dduw. Amcan amlwg yr oll yw eu cylymu wrtho ei hun. Hawdd iddo oedd dylanwadu ar y cynghorwyr. Efe oedd tad ysprydol llawer o honynt. Yn ychwanegol, yr oedd efe a hwythau mewn ystyr ar yr un tir, sef heb urddau, ac felly nid anhawdd eu cael i gyduno mewn eiddigedd at y rhai oeddynt wedi derbyn ordeiniad esgobol. (5) Ofnwn mai ei gred ei fod wedi llwyddo i ffurfio plaid gref, trwy gymhorth pa un y gallai ysgwyd ymaith Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall, oedd gwreiddyn y teimlad llawen a lanwai ei fynwes ar derfyn y Gymdeithasfa. Ni ddychymygodd y gallai yr offeiriaid ei drechu. Gwelai ei hun yn y dy. fodol agos yn ben ar Fethodistiaid Cymru, fel yr oedd yn barod ar Fethodistiaid Calfinaidd Lloegr, ac felly heb neb i'w wrthwynebu. Nid ydym am dybio mai balchder calon oedd wrth wraidd yr awyddfryd hwn; yr ydym yn credu gwell pethau am dano; diau y perswadiai ei hun y gallai, yn ei sefyllfa newydd a dyrchafedig, wasanaethu yr Arglwydd Iesu a'r efengyl yn fwy effeithiol. Pe y gwelsai y trychineb a achosid gan yr anghydfod rhyngddo ef a'i frodyr, diau y buasai ei galon yn chwerw ynddo, a'i obenydd yn foddfa o ddagrau.

Dranoeth i'r Gymdeithasfa, cawn deimlad arall yn ei feddianu; teimlad o alar am fod y brodyr wedi gwrthod y genadwri parthed dirgelwch Crist, a gogoniant ei waed; a'u bod yn ei ddirmygu yntau oblegyd ei symlrwydd a'i anwybodaeth. Ddechreu yr wythnos ganlynol cychwynodd ar daith i Sir Fynwy, a diau fod sefydlu ei awdurdod ei hun dros y seiadau yn un o'i amcanion. Cawn ef, i gychwyn, yn Fairmeadow, rhwng Talgarth a Chrughywel; ei destun oedd: "Gwir yw y gair;" ac ymosodai yn enbyd ar falchder. Y noswaith hono yr oedd yn Cilonwy, a dywed iddo gael yma yr hen nerth a nodweddai ei bregethu ar y cyntaf, wrth lefaru oddiar: "Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear." Dydd Mercher, aeth i le yn mhlwyf Grismond, lle y gwelodd lawer o ddrwgdeimlad ar ran yr Ymneillduwyr. Dywed iddo gael cenadwri ar y ffordd oddiwrth yr Arglwydd nad oedd i fyned i Sir Aberteifi, ond y cai awdurdod a nerth wrth bregethu y gwaed, a dirgelwch Crist, yr hon genadwri ni dderbyniai ei wrthwynebwyr. Pasiodd yn ei flaen trwy y Fenni, lle y cafodd odfa dda, ac y deallodd fod y newydd wedi rhedeg fel tân gwyllt trwy y wlad fod Rowland yn erbyn y cynghorwyr; ac ymwelodd a'r Goetre, Llanfihangel, Tonsawndwr, a New Inn, lle yr anerchodd y cynghorwyr gyda nerth. Dychwelodd yn ei ol i Drefecca erbyn y Sul. Er ei holl wroldeb, ceir arwyddion ei fod yn teimlo cryn unigrwydd ar ol colli cyfeillgarwch y brodyr; a chawn ef yn troi at Grist, gan ddweyd: "Ti yw fy mrawd! Fy mrawd oeddyt gerbron Pilat; fy mrawd oeddyt ar y groes; a'm brawd ydwyt yn awr yn y nefoedd; ac ynot ti yr wyf yn ogoneddus ac yn orchfygwr." Dywed ddarfod i'r Arglwydd ei arddel yn rhyfedd yn y daith hon, gan ei anrhydeddu i'r un graddau ag yr oedd y brawd Rowland yn ei ddirmygu. "Y mae y cymeriadau gwaethaf," meddai, "yn dwyn tystiolaeth i mi fy mod yn ddyn gonest."

Ddechreu yr wythnos ganlynol cychwyna am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Trefaldwyn, a Maesyfed. Aeth i Drecastell-yn-Llywel y noson gyntaf, lle y cafodd nerth i ddangos anfeidrol rinwedd gwaed Crist; ac yn y seiat breifat a



Nodiadau golygu