Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-23)

Howell Harris (1746) (tud-22) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-24)

y cyhuddent fi o Antinomiaeth; cyfeiriais at y modd yr oeddynt wedi cadw Cymdeithasfaoedd yn fy absenoldeb, a'r modd y meddyliwn eu bod wedi pechu yn fy erbyn, er mai fi oedd tad y nifer fwyaf o honynt.

"O gwmpas deg aeth y brodyr i swpera, minau a aethum i ysgrifenu fy nydd-lyfr, pawb yn llawn o honom ein hunain, ac heb ond ychydig o'r Arglwydd yn ein mysg. Yr oedd ganddynt hwy gynygiad i'w osod gerbron y frawdoliaeth parthed gosod y brawd Rowland yn fy lle, i dderbyn ac i fwrw allan y cynghorwyr, ac i drefnu i bob un ei gylchdaith. Datgenais fy mod yn rhydd i roddi fy lle i fynu fel arolygwr cyffredinol, ond nas gallwn osod fy hun dan ei awdurdod ef (Rowland), i gael fy anfon yma a thraw, fel y gwelai efe yn dda. Yr oeddwn wedi derbyn hawl oddiwrth yr Arglwydd i fyned i'r lleoedd at dybiwn yn briodol, ac nas gallwn roddi hyn i fynu heb bechu yn erbyn Duw. Meddyliwn na ddeuai pethau i'w lle hyd nes yr ymddarostyngent gerbron yr Arglwydd am eu pechod yn fy erbyn, ac yn erbyn fy ngweinidogaeth.

"CASTELLNEDD, dydd Iau. Y Gymdeithasfa yn parhau. Neithiwr, cefais ryddid i fyned at yr Arglwydd, ac i bledio ar ran y brodyr, gan lefain: O Arglwydd, ti a wyddost ddarfod i ti fy narostwng gerbron y brawd Rowland, gan wneyd i mi lafurio am heddwch ac undeb; ti a wyddost hefyd eu bod wedi pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth, gan wanhau fy nwylaw. Bydded i ti faddeu iddynt.' Yn y Gymdeithasfa, cyhuddid fi o ohebu a'r Morafiaid; dywedais nad oedd un ohebiaeth rhyngom, ond fy mod yn awyddus. am hyny, gan yr anrhydeddwn hwynt yn fawr, oblegyd eu bod yn adnabod Iesu Grist. Mr. Powell (yr offeiriad) a geryddodd y cynghorwyr a'm gwrthwynebent; brawd arall a siaradodd i'r byw, fod eu geiriau yn fy erbyn i yn ei wanu ef; ac un arall drachefn a ddywedodd mai myfi oedd tad ysprydol y nifer amlaf o honynt, os nad eu tad oll. . . . Dywedais, drachefn, fy mod yn barod i roddi fy lle i fynu i'r brawd Rowland, ond nas gallwn, heb bechu yn erbyn yr Arglwydd, roddi iddo. awdurdod ar fy ngweinidogaeth, i'm trefnu i ba leoedd i fyned, a pha beth i bregethu. Yna, gwedi i mi ddatgan fy mod yn edrych arnaf fy hun fel wedi cael fy symud o fy lle hyd nes yr ail-benodid fi, y brawd Morgan Jones a safodd i fynu, ac a ddywedodd, mi a feddyliwn yn yr Arglwydd, ei fod, gerbron Duw a dynion, yn fy newis i fod yn olygwr drosto yn yr Arglwydd, gan ddarfod i'r Arglwydd fy nghymhwyso tuag at y cyfryw le tuhwnt i neb. Yr oedd y brawd Powell wedi dweyd felly o'r blaen. Dywedai amryw yr un peth yn awr. Gwelais fod yr Arglwydd yn fy ail-sefydlu yn fy lle. Dangosais, gyda golwg ar y brawd John Belsher, ei fod wedi ceisio gwneyd rhwyg, trwy gamddarlunio pethau i'r brawd Rowland, a'i fod wedi ymchwyddo i'r fath raddau, fel nas gallwn gydweithio ag ef, nes iddo ymddarostwng. Am y brawd Benjamin Thomas, yr oedd ef wedi condemnio fy athrawiaeth, ac wedi llefaru yn fy erbyn; dygaswn ei faich er ys amser, gan ddysgwyl i'r Arglwydd ei argyhoeddi, nas gallwn lafurio gydag yntau heb iddo. gael ei ddarostwng. Achosodd hyn gyffro adnewyddol. Eithr glynais wrth fy mhenderfyniad, am ei fod ar fy nghydwybod. Yna, darllenwyd yr adroddiadau, aethum i weddi, a daeth yr Arglwydd i lawr. Cefais ryddid i gynghori y brodyr; boddlonais hwy gyda golwg ar bob peth. Y mae yn rhyfedd fel yr oeddynt wedi derbyn camachwyn am danaf. Clywsent fy mod am uno a'r Morafiaid; fy mod yn duo eu cymeriadau wrth bregethu, a bod genyf ryw ddull newydd o bregethu; ond cawsant gymhorth i fy nghredu yn awr. Anerchais hwynt, gan ddangos fod y prawf hwn wedi dyfod arnom am nad oeddym yn treulio digon o amser mewn hunanymholiad, a dywedais nad oeddwn yn clywed digon o swn edifeirwch yn eu gweddïau. Gwedi terfynu, syrthiasant ar fy ngwddf; a'r brodyr tramgwyddus a ddaethant ataf, gan ofyn i mi faddeu iddynt, yr hyn a wnaethum yn hawdd. Dywedais nas gallwn wrthsefyll dynion ymostyngar a drylliog. Yna, ni oll a ollyngwyd yn rhydd; mwynasom lawenydd cyffredinol, a syrthiodd ein beichiau i ffwrdd. Cefais ryddid i addaw cyfarfod yma yn mhen. pythefnos a'r brawd Rowland."

Ysgrifenodd Howell Harris y nodiadau hyn yn ei ddydd-lyfr yn nghanol cyffro yr helynt, pan yr oedd ei yspryd yn ferw o'i fewn; ac i ba raddau y darfu i'w deimladau daflu eu lliw ar yr hyn a ddywed, sydd anhawdd ei benderfynu. Yn anffodus, ei ymadroddion ei hun, yn mron yn gyfangwbl, a gronicla; prin y dengys â pha eiriau ei hatebwyd. Gallwn dybio ddarfod iddo gael ei gynhyrfu yn enbyd ar y ffordd i'r Gymdeithasfa gan y chwedlau a



Nodiadau golygu