Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-16)

Howell Harris (1747-48) (tud-15) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-17)

Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa bu dadleu brwd, a rhyw gymaint o deimlad anhapus. "Tra y mynwn i roddi i fynu y gyfraith mewn ffydd, yn Ngogledd Cymru," meddai, "ac y ceryddwn hunan ac yspryd cnawdol, un a ddaethai oddiyno. i ofyn am gyfarwyddyd, daeth Satan i lawr. Cyhuddodd rhywun fi o falchder. Gwrthodais inau weithredu heb i'r brodyr gydnabod eu bai, a datgan gofid, gan fy ngosod yn fy lle priodol; a dywedais nad oedd genyf un amcan wrth ddyfod yno heblaw gwasanaethu Crist, ac y rhaid i bob un sefyll yn ei le ei hun. Daeth yr Cefais Arglwydd i'n mysg drachefn. Cefais gyfleustra i egluro ein rhesymau dros aros yn yr Eglwys. Yr wyf yn cael fod yr Arglwydd, trwy amrywiol ffyrdd, yn dwyn y brodyr i ymsefydlu o'i mewn. Cydunasom i gasglu i ddwyn yn mlaen y gyfraith yn erbyn Syr Watkin Williams Wynne. Trefnodd y brodyr eu teithiau. Yn breifat, cefais ateb oddiwrth yr Arglwydd gyda golwg ar y gyfraith, a chyda golwg ar gyflogi Mr. Williams, Caerlleon, i'w chario yn mlaen. Yr wyf yn cael Yspryd Duw ynof yn gwaeddi yn gryf yn erbyn Syr Watkin." Byddai yn ddyddorol gwybod sut y terfynodd helynt y gyfraith, ac ai marwolaeth ddisymwth y boneddwr a roddodd ben arni. Dranoeth, aeth pethau yn mlaen yn bur hwylus; eithr bu Harris yn rhoddi gwers lem i rai brodyr am eu hysgafnder a'u cnawdolrwydd, ac aeth yn ddadl rhyngddo a Rowland, a Williams, Pantycelyn, am reolau i droi proffeswyr cnawdol allan. Dadleuent hwy fod hyn yn anhawdd ac yn beryglus. "Ond," meddai Harris, "deliais i yn gryf fod yna lygad, neu oleuni ysprydol, yn y Cristion, yr hwn sydd yn barnu ac yn mesur pob peth." Mynai ef osod y rhai difraw oll dan ddysgyblaeth. Sut y terfynodd y ddadl, nis gwyddom, ond gwnaed llawer o drefniadau, ac ymwahanodd y brodyr mewn teimlad hapus at eu gilydd. Eithr y mae yn anmhosibl darllen adroddiad Howell Harris ei hun am y Gymdeithasfa, heb deimlo ei fod yn dra arglwyddaidd, ac yn honi llywodraeth; a'i fod yn cyfeirio yn rhy fynych at "ei le" yn y Gymdeithasfa, fel pe buasai wedi cael ei osod yn oruchaf ar ei frodyr. Y mae yn ofidus gweled un mor llawn o natur dda, a mor gynhes ei yspryd, wedi cael ei feddianu gan y fath deimlad.

O Lanbedr, aeth Harris ar daith bur fanwl trwy ranau isaf Sir Aberteifi, rhanau o Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg. Heblaw pregethu, a threfnu materion yn y seiadau, yr oedd hefyd yn casglu at Dŷ yr Amddifaid, a sefydlasid gan Whitefield yn Georgia. Ar amlen y dydd-lyfr, ceir y swm a gasglwyd yn mhob lle, a chan mai dyma yr adroddiad cyntaf o gasgliad cyffredinol yn mysg Methodistiaid Cymru, yr ydym yn ei groniclo. Heblaw ei fod yn ddyddorol, teifl ryw gymaint o oleuni ar nerth cymharol y gwahanol seiadau. "Derbyniais," meddai, "at Dŷ yr Amddifaid yn—

Teithiai Howell Harris yn ddiorphwys yn ystod y Gwanwyn hwn; nid oedd ball ar ei ymdrechion: cawn ef weithiau yn Morganwg a Mynwy; bryd arall yn Sir Drefaldwyn, neu Sir Gaerfyrddin; a phan na fyddai yn mhell o gartref, ymwelai a'r lleoedd cyfagos yn Mrycheiniog a Maesyfed. Ofer i ni geisio ei ganlyn i bob man, a phrin y byddai yn fuddiol i'r darllenydd. Yr wythnos gyntaf yn mis Mai, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Nghaerfyrddin. Dywed Harris iddo fyned i'r ystafell, a phregethu yno i dorf anferth. Awgryma hyn fod y Methodistiaid wedi adeiladu capel yn y dref. Ei destun ydoedd: "Trwy ras yr ydych yn gadwedig," a chafodd nerth a goleuni anarferol i ganmol gras Duw. Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa, daeth rhyw awel dyner wrth ganu ar y cychwyn. Yna,



Nodiadau golygu