Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-20)

Howell Harris (1747-48) (tud-19) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1749-50) (tud-01)

iddo ef. "Awn lle y mynwn," meddai, "ni a fyddwn yn nheyrnas yr Iesu. Pan yr oedd y gwaith hwn yn cychwyn, creodd Satan wrthwynebiad iddo; eithr daeth i'r dim. P'le mae Satan yn awr?" Yn y seiat a ddilynai, bu yn dra llym wrth y proffeswyr am nad oeddynt yn dwyn ffrwyth. Dywedai ei fod wedi talu ardreth yr ystafell yn Nhrefecca ei hun am gryn amser; na ddaeth neb ato i ofyn sut yr oedd yn gallu fforddio; ei bod yn ddigon iddo ef bregethu y Gair iddynt heb roddi ystafell yn ogystal; ai fod wedi cynhal ysgol yn y lle am amser ar ei draul ei hun. Condemniodd hwy am beidio cydymdeimlo a'u brodyr, gan ddweyd fod rhai o'r cynghorwyr yn dlodion, ac mewn perygl o gael eu hanfon i'r carchar. "Beth a fyddai i gynifer o seiadau eu cynorthwyo?" meddai. Gallwn feddwl fod ei eiriau yn cyrhaedd i'r asgwrn. Buont yno hyd ddau o'r gloch y boreu, a Harris yn dangos i'r brodyr eu diffygion. Yna, trefnwyd amryw faterion. Bu achos James Beaumont dan sylw, yn yr hwn yr oedd yspryd cyfeiliorni wedi ymaflyd. Dadleuai Harris yn erbyn ei droi allan, eithr ymddwyn ato mewn modd efengylaidd, yn y gobaith y byddai i Dduw ei ddwyn i'r iawn. Cyn diweddu, daeth y dylanwadau nefol i lawr yn helaeth; llamai y brodyr gan faint eu llawenydd; a chwedi bod yn canu ac yn bloeddio concwest, yr oedd yn bump o'r gloch y boreu ar Howell Harris yn myned i'w wely.

Y mae yn debygol fod Harris yn fwy rhydd i'r gwaith yn Nghymru yr haner olaf o'r flwyddyn 1748 nag y buasai am gryn amser yn flaenorol, gan i Whitefield, ar ol bod yn yr Amerig am bedair blynedd a haner, ddychwelyd i Lundain ddechreu Gorphenaf. Yn y Gymdeithasfa a gynhelid yn Llundain, Gorphenaf 20, 1748, Whitefield a lywyddai. Fel math o isgadben dan Whitefield, yr edrychai Harris arno ei hun yn ei berthynas a'r brodyr Saesnig. Nid oedd Whitefield, modd bynag, yn hollol barod i gymeryd ei le fel cynt yn eu mysg. Dywedai fod y fath annhrefn wedi dod i mewn i'w plith, trwy fod y pregethwyr ieuainc yn myned tu hwnt i'w terfynau priodol, fel nas gwyddai beth i'w wneyd. Y mynai glywed o wahanol gyfeiriadau cyn gwneyd ei feddwl i fynu, ond ei fod yn benderfynol o beidio cydlafurio â neb na ddangosai barodrwydd i gymeryd ei ddysgu, ac i fod tan ddysgyblaeth. Nid oedd, meddai, yn awyddu am fod yn ben, ond y rhaid iddynt (y pregethwyr ieuainc) adnabod eu lle, ac edrych arnynt eu hunain fel ymgeiswyr ar brawf, ac arno yntau fel tad arnynt, onide na ddaliai gysylltiad â hwynt. Mewn canlyniad i'r araeth hon, plygodd y brodyr, a dywedasant eu bod am ymostwng yn gyfangwbl iddo, a defnyddio pob moddion i gynyddu mewn defnyddioldeb. Cymerodd dyfodiad Whitefield ran o faich Harris oddiar ei war; a diau fod cynghor a chydymdeimlad cyfaill mor ddiffuant, yn falm i'w enaid yn y treialon trwy ba rai yr oedd yn pasio.



Nodiadau golygu