Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1749-50) (tud-03)

Howell Harris (1747-48) (tud-02) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1749-50) (tud-04)

Gwelai fod yr Arglwydd yn ei gymhwyso fwy fwy ar gyfer ei le, gan fyned gydag ef, a gwneyd pob peth erddo. Dydd Mawrth, ymwelodd a St. Nicholas. Yma, anogai hwy i ranu eu heiddo yn dair rhan; un i dalu eu dyledion cyfiawn, y rhan arall i gynal eu rhieni a'u teuluoedd, a'r rhan arall mewn gwneuthur daioni, yn nghylch yr hyn y dylent ymgynghori a'r Arglwydd. Wrth weddio ar y terfyn, daeth Duw i lawr mor amlwg, fel y boddid llais y pregethwr gan floeddiadau y dorf. Cyn ymadael, bu mewn ymgynghoriad a'r pregethwyr a'r goruchwylwyr. Dangosodd y cymhwysderau angenrheidiol yn y goruchwylwyr, sef eu bod yn adnabod Duw, ac yn cael cymdeithas ag ef, er gwybod ei ewyllys; a'u bod yn gynefin a themtasiynau, er mwyn bod yn feddianol ar amynedd. Eu gwaith ydoedd: (1) Derbyn yr holl gasgliadau, cadw cyfrif o honynt, a dwyn y swm i'r Gymdeithasfa Fisol. (2) Gofalu am y drws yn y gynulleidfa, arwain dyeithriaid i'w lleoedd, a chadw y plant a'r cŵn yn ddystaw. (3) Edrych ar ol y cleifion a'r tlodion. (4) Sylwi ar y rhai ydynt yn mynychu y moddion, a thori atynt i siarad â hwynt. (5) Edrych am y rhai absenol, a gweled a ydynt wedi syrthio, neu yn tueddu at ysgafnder. Yna, eglurodd nad oedd y Methodistiaid ond rhan o gorph Crist; fod y Wesleyaid, y Morafiaid, a'r Ymneillduwyr yn perthyn iddo yn ogystal. Cadwer mewn cof, mai y rhai a alwn ni yn flaenoriaid, a adwaenid yn amser Harris fel goruchwylwyr, neu stewardiaid seiat.

Yn nesaf, aeth i Aberddawen; ei destun yma ydoedd: "Dysgwch genyf." Oddiyno i Dinas Powis, lle y pregethodd oddiar: "Cymerwch fy iau arnoch." Yn y Groeswen, pregethodd am dair awr; dechreuai am wyth, a pharhaodd hyd un-ar-ddeg. Ar derfyn yr odfa, cadwodd seiat breifat am chwech awr yn mhellach, sef hyd bump. Felly y dywed ef ei hun. Ymddengys fod nifer mawr o'r gwahanol seiadau wedi ymgasglu i'r Groeswen, er na chynhelid yno Gymdeithasfa reolaidd, a chymerodd yntau fantais i osod mewn trefn y pethau a ystyriai allan o le yn mhob un. Dechreuodd gyda Llantrisant, gan alw yr aelodau yn mlaen, a'u trin yn ilym am yr annrhefn oedd yn eu mysg, yr annghariad, a'r diffyg gofal am ogoniant Duw. Dywedai fod yr Arglwydd yn eu bendithio tra y byddent yn unol, ond pan y byddent yn cweryla, eu bod yn tori ei galon. Yna, aeth i weddi ar eu rhan, a chafodd afael ryfedd; daeth Duw i lawr, gan eu darostwng yn isel, ac yn y diwedd cawsant oruchafiaeth. Gwedi hyn, gosododd ddwy seiat arall mewn trefn, ni ddywed beth oedd allan o le ynddynt. Yn ganlynol, rhoddodd gynghorion cyffredinol, gan eu hanog i ddyfod i'r Cyfarfodydd Misol, y rhai a esgeulusid yn mron yn gyfangwbl ganddynt. Dywedodd fod yn rhaid iddynt adael pob peth, fel yntau, a'i fod yn benderfynol o wasanaethu y rhai a feddent yr un ffydd ag efe, gan fod yn farw iddynt eu hunain, heb ofalu beth a fwytaent, na pheth a wisgent, na phwy fyddai yn uchaf, na phwy yn isaf. Ei fod yn ei theimlo yn anrhydedd cael bod yn wlyb hyd ei groen, cael ymdreulio, a bod ar ei eithaf, a chael ei gashau gan bawb oblegyd yr efengyl; yr ai i ddaeargelloedd am flynyddoedd, ïe, y dyoddefai angau er eu mwyn. Dywedai, yn mhellach, ei fod yn gwneyd yr oll a wnelai bron yn ddidâl, y gallai deithio can' milltir heb fod neb yn holi pa fodd yr oedd ei amgylchiadau; ond fod llawer yn dyfod ato am gymorth mewn cyfyngder, gan gredu ei fod yn gyfoethog, am y llanwai y fath le yn mysg y Methodistiaid, a bod cynifer o seiadau dan ei ofal. Gwasgoddd arnynt am gymeryd achos Crist at eu calonau; rhoddodd ger eu bron achos y capel newydd yn Llanfair-muallt, ac anogodd hwy i gasglu at achos Duw yn wythnosol. Atebodd rhywun nas gallent gyfranu, eithr rhoddodd Harris wers iddo nad anghofiai am dro. Dywedodd fod pawb i gyfranu, hyd yn nod y tlodion, gan gyfeirio at ddwy hatling y wraig weddw; eu bod oll yn rhan o'r Corph; eu bod yn pechu wrth feddu, oddigerth eu bod yn meddianu yn Nuw, ac nad oes dim ffrwyth yn gymeradwy, hyd yn nod pe y caffai ei olchi yn ngwaed Crist, oni fydd yn ffrwyth Yspryd Duw. Wedi gorphen y seiat, bu yn anerch y cynghorwyr a'r goruchwylwyr yn gyffelyb i fel y gwnaeth yn St. Nicholas, gan ddangos iddynt eu gwahanol ddyledswyddau."Gelwais hwy oll yma i gyfrif am gyfranu y sacrament yn y tŷ hwn (Groeswen), gan ei fod yn dal cysylltiad a'r holl Gorph, heb ymgynghori â ni oll. Dy. wedais, os aent yn y blaen fel hyn, y dyoddefai y gwaith, ac y gwnawn i eu gadael. Dangosais fy mod wedi dyfod i symud yr hyn oedd rhy drwm iddynt, ac i'w cadarnhau. Rhoddais gynghorion iddynt parthed dysgyblaeth, ac eisteddasom



Nodiadau golygu