Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1749-50) (tud-06)

Howell Harris (1747-48) (tud-05) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1749-50) (tud-0)

ac eto i bechod, rhagfarn, ac ofn angau fod yn aros yn nyfnder yr enaid. Fod y seiadau yn debyg i ysgolion, lle yr oedd pawb yn cael eu dysgu gan Dduw. Aeth yn mlaen i ganmol yr Eglwys Sefydledig, gan alw y Methodistiaid yn Ddiwygwyr o'i mewn; dangosodd ei le ei hun, fod gofal yr holl bregethwyr a'r seiadau trwy Gymru yn gorphwys arno; cyfeiriodd at y brawd Richard Tibbot, ac at y gwahaniaeth rhyngddynt a'r Ymneillduwyr. Wedi y seiat, cynhaliwyd odfa gyhoeddus; pregethai Lewis Evan yn mlaenaf; taranu y gyfraith yn ofnadwy a wnelai efe, ac arweiniwyd Harris ar ei ol i efengylu. Yn y prydnhawn, aeth tua Llwydcoed, pellder o ryw un-milltir-ar-ddeg. Ar y ffordd, gofynodd dri chwestiwn i'r Arglwydd. (1) A oedd rhywbeth yn ei yspryd oedd yn gwrthod plygu, ac ymostwng i Dduw? Cafodd ateb, nad oedd. (2) Mewn atebiad i ofyniad sicrhawyd ef fod athrawiaeth, dysgyblaeth, a threfn y Methodistiaid yn gymeradwy gan yr Arglwydd, ac y gwnai ei breswyl yn eu mysg. (3) Gofynai ai buddiol fyddai iddo ddyfod y ffordd hono drachefn, yn mhen ychydig ddyddiau, i addysgu y cynghorwyr? a chafodd ateb yn gadarnhaol, yn mhen enyd. Gwelai y İles a allai ddeilliaw oddiwrth hyn; eithr mai. gwaith newydd ydoedd, ac ofnai ei gymeryd heb i'r Arglwydd ei roddi iddo, a'r angenrheidrwydd anorfod am i Dduw fod wrth ei gefn, os oedd i ymaflyd ynddo. Llawenhäi wrth feddwl fod yr Arglwydd am ddefnyddio ei holl alluoedd ef (Harris), hyd yn nod y ddysgeidiaeth a gafodd yn y gwahanol ysgolion. Prawf hyn fod Howell Harris am ychwanegu at ei orchwylion blaenorol, y swydd o fod yn fath o athraw symudol, er cyfranu i'r cynghorwyr addysg gyffelyb i'r hyn a gawsent mewn coleg duwinyddol. Cafodd ymddiddan maith hefyd a Richard Tibbot am yr Ymneillduwyr. Dywedai fod ei galon yn uniawn tuag atynt; ei fod yn eu caru, ac yn galaru am yr hyn oedd allan o le ynddynt; mai ei amcan wrth lefaru yn eu herbyn oedd eu symud o'u marweidd-dra a'u ffurfioldeb. Dangosodd, yn mhellach, y modd y dechreuasant oeri ato, pan y gwelodd oleuni yr efengyl yn glir gyntaf, ac y dechreuodd wahodd pechaduriaid at Grist fel yr oeddynt. Tybiai fod llawer o'r Ymneillduwyr yn blant dynion da, ac wedi derbyn addysg dda, mewn canlyniad i'r hyn y daethent i broffesu; ond nad oeddynt wedi cael eu symud allan o honynt hwy eu hunain, nac wedi derbyn yr efengyl mewn gwirionedd, er y credai fod llawer o'u pregethwyr a'u pobl yn perthyn i'r Arglwydd. Cydunai Tibbot, a dywedai y gwnai gymuno yn yr Eglwys, er fod hyny, o herwydd ei addysg a'i ddygiad i fynu, braidd yn chwith ganddo; mai yn achlysurol yn unig yr oedd wedi derbyn gan yr Ymneillduwyr; ond gan ei fod yn llafurio yn awr yn eu canol, tybiai y gwnai eu tramgwyddo wrth gymuno yn eglwys ei blwyf, ac y gallai fyned i ryw eglwys blwyfol arall i dderbyn. A hyn cydwelai Howell Harris.

Yr oedd torf anferth wedi ymgasglu yn Llwydcoed; Rhuf. vii. 24, oedd testun Harris, a chafodd odfa nerthol. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat gyffredinol breifat, sef seiat i'r aelodau a'r cynghorwyr o wahanol fanau oedd yn digwydd bod yn bresenol, a bu yno, a chyda'r cynghorwyr, hyd un o'r gloch y boreu. Anogodd hwy i brynu yr amser, ac i addysgu y plant; penderfynodd ryw faterion dyrys i'r brodyr; a threfnodd oruchwylwyr yn y gwahanol seiadau, i ddarllen y Beibl a'i egluro, a chyfeiriodd at ei fwriad i ddyfod yno yn mhen ychydig ddyddiau i addysgu y cynghorwyr. Wrth wasgu arnynt i ymroddi i wasanaeth Duw, dywedai: "Nid wyf yn cynyg unrhyw ddysglaid i chwi, heb fy mod wedi profi o honi fy hun; rhaid i ni gael ein dysgu ein hunain, a hyny yn aml trwy demtasiwn boeth, cyn y gallwn eich dysgu chwi." Dywedai, yn mhellach: "Y mae yr Arglwydd yn myned i gymeryd meddiant o'r wlad rhag blaen. Nid wyf yn gofyn dim llai yn bresenol na Phrydain Fawr. Ar y dechreu, ni ofynwn am fwy na fy mherthynasau, fy nghymydogion, a'r plwyf; ond yn awr, ni wna dim llai na'r holl wlad fy nhro." Cafwyd seiat ryfedd iawn. "Yr oedd yn amser gogoneddus o ryddid," meddai. Dydd Llun, yr oedd yn Ty-mawr, Trefeglwys. Oddiyno aeth i Lanidloes, lle y pregethodd yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond y rhan fwyaf yn Gymraeg. Yn y Tyddyn y mae dydd Mawrth, ac ymdrinia yma ag achos y cynghorwr Thomas Bowen, yr hwn oedd wedi colli yspryd crefydd i raddau mawr. Bu Harris yn ymddiddan ag ef am rai oriau, yn ateb ei wrthddadleuon, ac yn ymresymu; cafodd ddoethineb mawr yn nglyn â hyn, ond parhau yn ystyfnig a wnaeth Thomas Bowen. Boreu dranoeth, gwnaeth gynyg arno drachefn; galwodd yn ei dŷ, gan ateb ei resymau, a chau ei enau, fel nad oedd ganddo air i'w ddweyd;



Nodiadau golygu