Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-13)

William Williams, Pantycelyn (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-14)

Nis gwyddom beth a wnâi Harris yn "foddion annhebygol" yn meddwl Williams, os nad ei fod yn Eglwyswr zêlog, tra yr oedd yntau yn Ymneullduwr o ddygiad i fynnu, os nad o argyhoeddiad hefyd. Hyn yn bennaf, feddyliem, yn nghyd a ieuenctid y pregethwr, a gyfansoddent yr annhebygrwydd hwn. Ond fe ddaeth yr annhebygol i ben, a thrwy hynny daeth Williams yn sydyn o fewn cylch dylanwad gwyr Eglwysig, ac fe'i dygwyd ymaith o'i gysylltiadau cyntefig, megys gan lifeiriant. Beuir Williams am fyned i'r Eglwys Wladol, ac nis gellir edrych ar yr hyn a wnaeth yn amgen na chamgymeriad; ond fe gywirodd y camgymeriad a wnaeth mewn byr amser. Wedi iddo ddyfod i gyfathrach Howell Harris a Daniel Rowland, yr oedd ei fynediad i'r Eglwys Sefydledig yn hollol naturiol, a braidd yn anocheladwy. Credent hwy mai angen mawr yr oes honno oedd cael dynion o ddysg a doniau i'r offeiriadaeth, pobl fyddai yn llosgi o gariad at y Gwaredwr, ac o dosturi at gyflwr y wlad. Gwelent hwy yn Williams lestr etholedig Duw, a'i le priodol ef, yn eu tyb hwy, oedd yn yr offeiriadaeth. A thra yr oedd ei gymdeithion newydd yn ei wasgu i'r Eglwys, nid ymddengys fod yr un dylanwad cyferbyniol yn gweithredu arno. Nid oedd dim yn atyniadol yn yr eglwys y magwyd ef ynddi, i beri iddo ymgeisio am y weinidogaeth o'i mewn hi. Yr oedd yno dri o weinidogion yn barod, a dau o'r tri yn pregethu athrawiaethau a ystyriai efe yn heresi ofnadwy. Yn anffodus, nis gwelodd Williams Ymneillduaeth erioed ond yn y ffurf fwyaf anhawddgar. Yn rhyfela a'u gilydd y gadawsai efe eglwys Cefnarthen, dair neu bedair blynedd yn ol, ar ei fynediad i'r athrofa, ac yr oedd y rhyfel yn parhau, a'r frwydr yn boethach, pan y dychwelodd. Dan yr amgylchiadau, pa ryfedd iddo fyned i'r Eglwys Sefydledig? Y tu fewn i'w muriau hi yn bennaf yr oedd arweinyddion y Methodistiaid, pobl ag yr oedd ef yn awr yn barod i'w canlyn i'r lle bynnag yr elent. Iddo ef, yr oedd y deffroad Methodistaidd yn ymddangos yn ardderchog a gogoneddus. Yn mhen blynyddoedd, y mae Williams yn desgrifio cychwyniad Methodistiaeth yn yr ymadroddion cyffrous canlynol: [1] "Ond O, hyfryd foreu! dysgleiriodd yr Haul ar Gymru fe gododd Duw offerynnau yma o'r llwch, ac a'u gosododd i eistedd gyda phendefigion ei bobl; fe daflwyd y rhwyd i'r môr, ac fe ddaeth allan bob rhyw o bysgod - mawr a bach. Chwe' sir yn y Deheu a gofleidiodd y gair yn foreu; fe glywyd y ceiliog yn canu; fe ddihunodd hen wylwyr ag oedd wedi bod yn cysgu; pregethwyd bob Sul yn yr eglwysi; deffrodd yr Ymneillduwyr; fe ganwyd iddynt alarnad, a rhai o honynt a alarodd; fe ganwyd iddynt bibell, a rhai a ddawnsiodd."

Yn mha le y bu efe yn darpar ar gyfer arholiad yr esgob nis gwyddom. Yr oedd yn ysgolhaig da yn barod; a thebygol ddarfod iddo gael pob cymorth ag ydoedd yn eisiau arno gan ryw ŵr Eglwysig a drigau gerllaw. Fel hyn y dywed Mr. Charles am ei urddiad: " Urddwyd ef yn ddiacon yn yr Eglwys Sefydledig a.d. 1740, gan Nicholas Claget, Esgob Tyddewi, i guwradiaeth Llanwrtyd, a Llanddewi Abergwesyn. Gwasanaethodd ei guwradiaeth am dair blynedd, a phregethodd, gydag ond ychydig lwyddiant, i bobl dywyll ac anfoesol iawn. Dywedai, gyda llawer o ddifyrrwch, iddo gael ei roddi yn Llys yr Esgob am bedwar-ar-bymtheg o bechodau y bu yn euog o honynt: sef, am beidio rhoddi arwydd y groes wrth fedyddio, a pheidio darllen rhai rhannau o'r gwasanaeth, a'r cyffelyb bethau bychain, dibwys." Dywed yn mhellach: " Mai y Parch. G. Whitefield, yn bennaf, a'i hanogodd i adael yr Eglwys, a myned allan i'r priffyrdd a'r caeau. Yr oedd yn gwasanaethu ei eglwysi o Gefncoed, deuddeg milldir o leiaf o Landdewi-Abergwesyn. Yn y dyddiau hynny yr oedd yn cadw gweddi deuluaidd dair gwaith yn y dydd, ac yr oedd ei holl ymarweddiad yn syml, ac yn dduwiol yn gyfatebol i hynny. Ni chafodd erioed ei gyflawn urddau, fel y dywedant; pallodd yr esgob ei urddo, o herwydd ei afreolaeth yn pregethu yn mhob man, heblaw yn yr eglwysi, yn y plwyfau yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt. [2]Gwedi gadael, neu gael ei droi allan, nis gwn yn iawn pa un, o'r Eglwys Sefydledig, daeth yn gydnabyddus a'r Parch. Daniel Rowland, yr hwn a fyddai yn dyfod yn achlysurol i bregethu i gapel Ystrad-ffin, yr hwn oedd yn sefyll yn y plwyf yr oedd yn byw ynddo." Y mae amryw bethau yn y paragraph hwn nad



Nodiadau golygu

  1. Ateb Philo Evangelius
  2. Gadael yr Eglwys Wladol o'i wirfodd a wnaeth efe, ar gais ei frodyr yn Sasiwn Watford; ac efe oedd y cyntaf o'r Tadau a'i gadawodd hi.