Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-04)

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-03) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-05)

i gydweithio yn galonnog. Deffroi y wlad, cael eneidiau at y Gwaredwr, a'u hadeiladu yn y gwirionedd, oedd yr amcan mawr; yn ymyl hynny na nid oedd enwadaeth ond dibwys. Ar y naill law, gwelwn nifer o offeiriaid perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn cyfranogi yn y deffroad; dy wedir fod o leiaf ddeg o'r cyfryw yn cael eu hadnabod fel Methodistiaid yr adeg hon; ac y mae lle i gasglu fod eraill, er na ddeuent allan yn gyhoeddus, yn dirgelaidd gydymdeimlo. Taflent ymaith eu rhagfarnau eglwysig, ac ymunent yn y gorchwyl o ysgwyd Cymru. O'r ochr arall, cawn yr holl weinidogion Ymneillduol, pa beth bynag fyddai eu golygiadau wahaniaethol, a feddent unrhyw radd o ddifrifwch yspryd, yn croesawu y diwygiad gyda breichiau agored. Y mae tegwch hanesyddol, a chyfiawnder a'u coffadwriaeth, yn hawlio i ni goffau hyn. Derbyniasant- Howell Harris a Daniel Rowland fel anghenion; gwahoddasant hwy i'w cymydogaethau i bregethu, a gwnaethant bob peth o fewn eu gallu i gadarnhau eu dwylaw. Adnabyddasant y diwygiad ar unwaith fel bys Duw, fel anadliad oddiwrth y pedwar gwynt ar yr esgyrn sychion; a mawr fu eu llawenydd oblegyd ei ddyfodiad. Y mae hyn yn wir yn unig am y rhai o olygiadau uniawngred. Gwrthwynebai yr Arminiaid; ond buan y darfu i'r diwygiad ysgubo ymaith Arminiaeth anefengylaidd, fel yr ysguba chwythwm o wynt lonaid dyffryn niwl ac o darth i ffwrdd; ac ni welwyd mo honno mwy yn Nghymru, oddigerth mewn ychydig gonglau, lle yr ymddadblygodd yn ol ei natur yn Ariaeth, ac yn Sosiniaeth.

Cydweithredai y Bedyddwyr yn gystal a'r Annibynwyr; ac os hoffent ddwyn bedydd i amlygrwydd gormodol, yn ol barn a theimlad y Tadau Methodistaidd, hawdd maddeu iddynt, gan eu bod hwythau yn awyddus am wneyd yr hyn a fedrent yn mhlaid yr efengyl. Yr ydym am bwysleisio ar y ffaith, ddarfod i holl weinidogion difrifol Cymru, perthynol i bob enwad a phlaid, yn mron yn ddieithriad, ddyfod allan ar y cyntaf i bleidio y diwygiad. Talodd y nefoedd yn ol iddynt hwythau yn ehelaeth; bedyddiwyd hwy yn ddwys a'r un a'r unrhyw ysprydiaeth; gwnaed hwythau yn gymylau dyfradwy i ddyhidlo y gwlaw graslawn ar y tir sychedig; ac ymledodd y diwygiad y tuallan i derfynau Methodistiaeth. Y mae dylanwad y diwygiad i'w ganfod ar bob enwad crefyddol uniawngred yn Nghymru y dydd hwn.

Ond am amser byr y parhaodd y brawdgarwch a'r cydweithrediad cyffredinol hwn. Nid oedd rhagfarn wedi marw eto, er iddi fod mewn trwmgwsg am dymor. Cawn Edmund Jones, Pont-y-pŵl, y cyntaf i wahodd Howell Harris i Fynwy, ac i'r hwn am beth amser yr ymddiriedai Harris seiadau y rhan honno o'r wlad, yn ngwres ei zêl broselytiol yn ceisio ffurfio eglwysi Annibynol o'r dychweledigion, a hyny heb unrhyw gydymgynghoriad a'r rhai a fuasai yn offerynnau i'w hargyhoeddi. Gwnaeth hyny yn y Brychgoed, ger Defynog, yn Nghastellnedd, mewn lle yn swydd Wills, ac hyd yn nod yn nghymydogaeth Trefecca. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at lythyr Howell Harris ato mewn canlyniad; llythyr boneddigaidd, rhyddfrydig, a chatholig ei yspryd; ond a dramgwyddodd Edmund Jones i'r fath raddau fel ag i beidio cydweithredu mwy. Yn dyner, beia Harris ef am ei fod trwy ei ymddygiad yn gwanhau dwylaw y Diwygwyr, gan beri i'w gelynion edrych arnynt fel rhai awyddus am ffurfio plaid, tra yr oeddynt hwythau wedi datgan o'r cychwyn nad oedd hyny yn amcan ganddynt; am y perai i'w gwrthwynebwyr gredu am danynt eu bod yn rhagrithwyr, yn cyhoeddi eu ymlyniad wrth yr Eglwys, ac ar yr un pryd yn gosod i fynnu sect arall mewn gwrthwynebiad i'r Eglwys, ac felly mewn ystyr yn tynnu dan ei sail; ac am ei fod yn dwyn i mewn gyfnewidiad pwysig, nad oedd un prawf fod yr Arglwydd yn foddlon iddo, gan mai fel yr oeddynt yn faenorol y daethai Duw at y Methodistiaid, gan eu bendithio. Eglura Harris, hefyd, y cyfarwyddiadau a roddir ganddo i'r holl ddychweledigion gyda golwg ar wrando y Gair, sef, ar iddynt fyned (i) lle y pregethir yr efengyl fwyaf pur; (2) lle y cyffyrddir ddwysaf a'u calonnau; (3) lle y mae yr Arglwydd yn gweithio gryfaf ar eu heneidiau; (4) lle y maent yn cael eu cymell yn mlaen, eu harwain, eu porthi, eu cadw rhag cysgadrwydd, a'u hanog i gynyddu ar ddelw Crist fwyaf. Gyda golwg ar y cymun, cynghora bawb i aros lle yr oeddynt, bydded eglwys neu gapel, er mwyn heddwch. Ni syrthiai Edmund Jones i mewn a golygiadau Howell Harris; cawn y Diwygiwr yn achwyn arno oblegyd ei zêl enwadol mewn amryw o'i lythyrau, a darfyddodd pob cydweithrediad rhyngddynt. Nid oedd Edmund Jones yn bresennol yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. Yn gyffelyb y gweithredai David



Nodiadau golygu