Y Tri Brenin o Gwlen

Rhestr y cymeriadau

Ffwl
y genad, kenad erod, y kenadwr
y brenin kynta
yr ail brenin
y trydydd brenin
y brenin
y porthor
erod
yr ysgolheigion
yr angel
y vrenhines
gwas y porthor
josseff
mair
y kythrel

[td. 33v]

LLYma yr ymddiddan a vy Ryng [~ rhwng] y tri
Brenin o gwlen ac erodr grevlon ac val
jr aeth mair a 'i mab a ssiosseph o vethlem
a 'r tair anrrec ganthyn

y genad
Tewch a 'ch ssiarad a gwrandewch
ffrae ystrwmant neb nis gwnewch
yn wir chwi a gewch amarch
gwedi ych kyfarch onis tewch

[td. 34r]
Edrychwch bawb ywch benn
chwi gewch weled y seren
yn wyneb y gorllewin
a 'r tri brenin o gwlen
kerddwch i veddlem ssiwdi
a 'ch tri ffeth genwch i
aur a ssens a myr arab
y 'w roi i 'r mab newydd eni
y sseren ywch ben y byd
a roddaf yn gyfrwyddyd
j 'ch dwyn att vab aur fflwch
arwydd ywch iraidd iechyd

y brenin gyntaf
dyrys yw 'r ffordd i veddlem
achos anghyfarwydd vyddem
i gael kyngor a dysc llawn
nyni awn i gaer selem

yr ail brenin
y porthor pyrth y ddinas
agor y pyrth i 'th addas
j vynd at vrenin erod
anryddfeddod [~ anrhyfeddod] y dyrnas

[td. 34v]
y porthor
vy\ nghenad a fedd parod
dos a dywaid i erod
vod yma dri brenin
o 'r gorllewin yn dywod

y genad
mae tri brenin mawr bob vn
wrth y porth i 'ch ymofyn
ydrychwch [~ edrychwch] o 'ch doethineb
para ateb a roeir yddyn

erod
arch i 'r porthor egori
a 'i gillwng hwy ata vi
j gael gwybod i meddwl
mae kythryfwl [~ cythrwfl] yn kodi

y genad
mae erod yn gorchymyn
ygori [~ agori] y pyrth yddyn
i gael gwybod nid ymraen
pa beth i maen yn i ofyn

y porthor
adolwc ywch na ddigioch
am y taring a gosoch
ewch yn hy gida 'r genad
mawr yw rhad ffordd i doethoch

[td. 35r]
y genad
Brenhinoedd glan ydych i
dowch oddyma gida mi
j weled brenin erod
a 'i ddefod a 'i riolti
val dyma y brenhinoedd
arwydd rryfeddod ydoedd
dyweten i hynain i neges
a 'i hanes o 'r eithafoedd

y brenin kynta
pa le mae hwn a aned
brenin iddefon [~ iddewon] addfed
y seren a fv yn kyfrwyddyd
gwyn i vyd a gae i weled

erod
o gwalsochi [~ gwelsoch chwi] y seren
y nos vnaws a 'r hevlwen
arwydd geni y gras a 'r grym
nid gwiw yn ddywedyd amgen

yr ail brenin
y seren ni a 'i gwalsom [~ gwelsom]
a 'i ffroffwydo i byon
efo aned yr Jessu
o 'i anrregv i doethon

erod
dowch ynes [~ yn nes] v' ysgolheigion
beth a ddywedwch i yr owron
ple i ganed mab i 'r vorwyn
ai gwiw dwyn arwiddion [~ arwyddion]

[td. 35v]
yr ysgolheigion
y mab a ddylav i eni
meddynt ymeddlem [~ ym Methlehem] siwdi
o ddoedyd y gwir yn ddiav
ni a ddylem i 'ddoli [~ addoli]

erod
ewch i imofyn [~ ymofyn] y mab kv
a ddoeth ymaf [~ yma] i 'n dysgv
megis id gallomi vyned
a thyrnged y 'w anregv [~ anrhegu]

y brenin
y seren vv yn kyfrwyddyd
sy 'n gyfyrgoll yn hefyd
nid oes weithian yn yn mysc
neb a ddysc ini vyned

erod
vy nghenad dos y 'w hanfon
a dysc yddyn lle ir elon
nhwy a gan wabar yn lle gwir
a mwy o sir pan ddelon

y genad
ych siwrnai vawr sy ryfedd
yrddas gorllewin dvedd
Rwng synwyr a doethineb
ewch i wyneb y gogledd

brenin
kyfod dy wyneb bydd lawen
gwir a ddyfod mab mair wen
ni bydd arnomi ddim drygsir
yn wir dakw 'r seren

[td. 36r]
y brenin kynta
hempych [~ hanbych] gwell brenin nefoedd
a brenin y brenhinioedd
ac aur mae d 'anrregv
kyfoeth a gallv da oedd

yr ail brenin
anrrydedd yt dduw keli
llyma ssens yr eglwisi
velly ir ydwyd tithe
yrogle [~ aroglau] a goleini

y trydydd brenin
yt i kyfarcha dduw marwol
gwreiddyn y drydydd daiarol
wrth dy gladdv hir a byrr
y myrr sy nattyriol

yr angel
erod grevlon sydd angall
aniwair anodd i ddyall
nag ewchi ddim ato ef
ewchi adre ffordd arall

erod
yr wyvi yn vrenin gallvoc
ynghaer selem [~ yng NGhaersalem] ddonoc
ac ar babilon yn berchen
ymhob [~ ym mhob] tir penn tywysoc
beth ddywedi di dere yn nes
vy mrenhines goranoc
mae 'r gair nid wi [~ wyf i] vodlon
vod brenin i 'r iddewon

[td. 36v]
Ryfedd geny 'r gair ar godd [~ gyhoedd]
ple mae 'r brenhinioedd weithian

y frenhines
gyrwchi rrai y 'w gofyn
Rac na alloch gael arnyn
ond mwy o gost a thrafel
i geisio gafel arnyn

erod
mae vy herod a 'm kenad
a 'm emddiriaid [~ ymddiried] a 'm kariad
dered yma v' anwylyd
parod oeddyd yn wastad

y genad
ymaith mi af hai how
y naill ai yn vyw ai yn varw
mi af at vrenin erod
hwyp am i vod yn galw
v' arglwydd vrenin mawrwyrthoc
mi a ddoethym val heboc
gair ych bron nid rryfedd ym
yn gyflym ac yn chwanoc

erod
kerdda i vethlem siwdi
ac ymofyn o ddifri
ble idd aeth y tri brenin
o 'r gorllewin hanoeddi

[td. 37r]
y genad
arglwydd vrenin mi af yno
mahownt amen a 'm katwo
ac a ddawa hwyp ar vrys
i 'th lys kyn gorffwyso
how mast porthor
kyfod i vyny agor
i genad brenin erod
a 'i herod a 'i ben kyngor

gwas y porthor
nid yw meistr yn gwrando
mogel gna i ddyhvno
hwde ddyrnod at dy siad
a dos i 'th wlad i gwyno

y genad
ho hwrswn lleidir
gwaetha i strangk no gwr o 'r tir
kyfod i vyny yn ebrwydd
er onestrwydd i 'th veistir

gwas y porthor
mi a roddais iti gyne
ddyrnod at dy glyste
hwde eto yn dy blith
ymhob rridd [~ ym mhob rhith] i daw ange

y porthor
how pa gad gymen
a wnaethoch hyd y plygen
yn ymladd val dav geiloc
yngroc [~ yng nghrog] i bo ych deyben

[td. 37v]
y genad
how porthor peddlem siwdi
kenad erod ydwyvi
ond mawr gwilidd [~ gywilydd] heb achos
vod dy was i amherchi

y porthor
how vo a 'm anrreithiwyd bellach
oni chedwi gyfrinach
hwde gan pvnt bydd ddiddic
o glenic [~ galennig] dos yn iach

kenad erod
a vv yma dri brenin
o dyedd y gorllewin
ond ydyn hwy yma eto
yn i keisio nid wy ddiflin

y porthor
oddyma nhwy aethon
ac nid i 'r ffordd i doethon
dos a dywaid i erod
ymod yn gowir galon

y genad
arglwydd vrenin henpych [~ hanbych] gwell
mi a gefais siwrnai bell
adre ir aeth y brenhinoedd
ond oedd vawr i dichell

[td. 38r]
erod
mahownt mahownt o 'r chwedle
mi a wn golli 'r chware
na naethwn [~ wnaethwn] a ddylaswn
na thoraswn i pene

y vrenhines
arglwydd vrenin vrddasol
na vyddwch anrrysymol [~ anrhesymol]
na newch [~ wnewch] ddialedd ydolwc
Rac kael drwc anysgorol [~ anesgorol]

erod
mae vy herod a 'm kenad
a 'm ymddiriaid a 'm kariad
dyred yma v' anwylyd
parod oeddyd yn wastad

y genad
v' arglwydd vrenin llyma vi
ar vy rhedec wrth ych kri
yn barod a 'm gwsaneth
ba beth a newch [~ wnewch] a mi

erod
dos i veddlem ar rredec
a ffar rroi kri ar ostec
i ddala meibion yn i swydd
hyd ynwyflwydd [~ yn nwy flwydd] ne ynghwanec

[td. 38v]
y genad
how tewch a 'ch tolo
a dowch ynes [~ yn nes] i wrando
gwiliwch y pyrth a deliwch
o gwelwch neb yn kilio

yr angel
josseff wyd ti yn gwrando
dos a 'r mab a 'r vam ar ffo
i etssiep hyd yr amser
i galwer amdano

josseff
y ni vo erchis yr angel
vynd i edssiep yn ddirgel
a thrigo nes i 'n galwer
ac ymgadw yn ddiogel

porthor
jdd wyvi yn kadw yma
lle ir archwyd ymgadw yn dda
mor debic wyd i fameth
pa beth sydd genyd yna

mair
jdd wyvi amab [~ â 'm mab] yn kilo
am glowed vod rrai i 'm keisio
mae geni y mab rrad
ni cheisiai wad amdano

[td. 62r]
y porthor
kardda [~ cerdda] di a duw genyd
amgen nis dweda wrthyd
hir ir wyd yn ymddiddan
bai ef yna nis dwedyd

erod
vy mrenhines ayr i ffen
mi af oddyma i veddlem
i ddala meibon giwdi
trigwchi yngharisalem [~ yng Nghaerusalem]
a wneythochi 'r gorchymyn
a roes i atochi bob vn
moyswch imi gar ymron [~ fy mron]
y meibon rwy 'n i mofyn [~ ymofyn]

y kenadwr
may nhwy yma gar ych bron
y sawl ysy yn sygno i bron
o vewn i oedran dwyflwydd
yn ych gwydd yn ddimryson [~ ddiymryson]

[td. 62v]
Erod
a oes genychi ddim amkan
pw [~ pwy] vn yw 'r mab dyrogan [~ darogan]
moeswch hwnnw chwip o 'ch mysc
ne van derfysc yrowan
how how nid wy 'n vy hwyl
pan laddwn vy mab anwyl
wrth geiso 'r mab darogan
nid ydoedd lan yngorchwyl
mi a fynwn mor greylon
pe bai 'r kledde drwy vy nghalon
mi a ddylwn gael dryglam
am wneythyr kam a 'r gwirion

y kythrel
ha ha mi a chwrya [~ chwaraeaf] ddawns
ac a neida yn ymrigawns
mi a wela 'r brenin erod
yn barod yn i vensiawns

tervyn ynglynion [~ englynion] y brenhinodd [~ brenhinoedd] o gwlen a dechre
ynglynion y groglith