Y Wen Fro/Clod Gwlad Forgan

Cynnwys Y Wen Fro

gan Ellen Evans

Y Barri

Ffonmon


St Nicholas

Y WEN FRO

CLOD GWLAD FORGAN

Dyma ardd flodeuog, ffriw
Paradwys wiwlwys olwg—
Brenhines Cymru lwysgu lon;
Mae teithi hon yn amlwg.
Dyma dir toreithiog, mad
Hen gynnes wlad Morgannwg."

PLE bynnag y ae eich cartrefi, clywsoch, mi wn, am Wlad Forgan, Sir Forgannwg. Credir mai Morgan Hen, brenin y rhanbarth hwn, gŵr a fu byw am gant, dau ddeg a naw o flynyddoedd, a enwodd y wlad ar ei ôl, yn y flwyddyn 1000 o oed Crist.

Chwi gofiwch i Geiriog ganu amdano:

"Hen frenin hoff, annwyl, oedd Morgan Hen,
Fe'i carwyd yng nghalon y bobloedd;
Esgynnodd i'w orsedd yn ddengmlwydd oed,
A chadwodd hi gant o flynyddoedd."

"Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth a thrais,
A gwelodd Forgannwg yn gwaedu;
Ond cadwodd ei goron, a'i orsedd yn ddewr,
A'i diroedd tan faner y Cymry."


Er amseroedd cynnar iawn bendithiwyd Gwlad Forgan â meibion enwog, ac y maent wedi ei gwasanaethu hi a Chymru yn ffyddlon a da. Magwyd ynddi hi ddynion grymus mewn brwydrau, a llenorion gwych, ac er dyddiau cynnar adnabuwyd ei beirdd o'r naill gwr o'r wlad i'r llall. (Gwelir hyn yn y cyfeiriad yn stori Math fab Mathonwy at "Feirdd o Forgannwg.") Y mae'r beirdd hyn wedi ei chlodfori am ei phrydferthwch a'i chynhesrwydd.

Prydferthwch! Clywaf chwi'n dweud "Nid oes ym Morgannwg ond cymoedd gweithfaol, tomenni ysbwrial y gwaith glo, pyllau glo, gweithiau haearn a dur, a dociau. Onid dyna randir y wlad lle y ceir streiciau yn aml? sicr, nid oes prydferthwch yn perthyn i'r pethau hyn!"

Edrychwn ymha le y gorwedd ei phrydferthwch. Rhennir Sir Forgannwg yn ddwy ran, a gelwir hwy y Cymoedd' neu'r 'Dyffrynnoedd' a'r Fro. Ni ellir dal bod y Cymoedd heddiw yn brydferth, oherwydd y mae dyn wedi hagru prydferthwch naturiol y mannau coediog hardd hyn. Y mae'n rhaid cyfaddef nad yw Cwm Rhondda, un o brif gymoedd gweithfaol Sir Forgannwg, yn nodedig heddiw am ei harddwch, ond lai na chan mlynedd yn ôl, yr oedd yn gwm prydferth dros ben. Dyma ddisgrifiad ohono fel yr oedd tua thrigain mlynedd yn ôl—"Y mae Cwm Rhondda yn fwy prydferth, hyd yn oed, na Chwm Taf; o leiaf, y mae'n fwy gwyllt a mawreddog, ac yn debyg i ddyffryn Gwy, o ran ei glogwyni sydd wedi eu gorchuddio â chen a phrysgwydd bytholwyrdd." Ond, gwae hi! hyd yn oed o fewn cof awdur y geiriau hyn, torrwyd coed i lawr yn ddidrugaredd, heb ailblannu rhai yn eu lle. Codwyd rhesi ar bennau'i gilydd o ystrydoedd, ac, fel y clywais blentyn bach yn dweud untro, fe grewyd o'r ysbwrial fynyddoedd newydd hagr. Bellach, nid yw'n bosibl cymharu prydferthwch Cwm Rhondda ag eiddo dyffryn Gwy. Nid yw'n awr yn llawenychu calon y bardd fel cynt! Ond, er gwaethaf hyn, gallwn hawlio bod bobl y cymoedd wresogrwydd y "Wlad Gynnes." "Dynion dwad "yw'r rhan fwyaf o drigolion canol oed a hen y cymoedd. Ychydig mewn rhif yw disgynyddion yr hen frodorion. Y mae ganddynt felly draddodiad am letygarwch a chroeso tuag at ddieithriaid. Er gwaethaf streiciau ac anawsterau ym myd masnach, y mae yma lawer o gariad brawdol, oherwydd y mae'r bobl yn byw yn agos iawn at bethau sylfaenol bywyd. Gwyddant beth yw byw yng "Nglyn Cysgod Angau," ac, yn ddi-os, y mae hynny wedi dwysáu eu profiadau. Gwyddant drwy brofiad beth yw "rhoi angen un rhwng y naw," a gwna hynny hwy'n barod i rannu'r dorth olaf mewn angen. Y mae gwroldeb yn eu gwaed. Rhaid i'r dynion wrth wroldeb i lawr yng nghrombil y ddaear, ac y mae gwir angen gwroldeb ar y gwragedd a'r mamau yn eu brwydr feunyddiol i gael dau pen y llinyn ynghyd.

Disgrifir bywyd y glowr Cymreig gan Wil Ifan yn ei gân, "Cerdd y Glowr," ond, fel y dywed yn ei bennill olaf, nid trasiedi yw ei holl fywyd. Ceir yn ogystal yr hiwmor a'r ffraethineb a welir yn aml ochr yn ochr â dwyster mawr; ceir y cariad at ganu a cherddoriaeth sydd yn dyrchafu ei fywyd i dir uwch, ac fe geir ei benderfyniad i aberthu er budd y genhedlaeth nesaf.

Pe carech weled y bobl dwymgalon hyn yn union fel y maent, efallai ryw ddiwrnod y darllenwch ddramâu Mr. D. T. Davies, "Ble Ma Fa ?" "Troi'r Tir," "Ffrois," a'r Pwyllgor." Fe sylweddolwch wedyn mai cyfoeth mwyaf y cymoedd gweithfaol yw'r bobl sydd yn byw yn yr ystrydoedd hir anhyfryd, nid y mwynau o dan y ddaear, ac fe welwch wirionedd disgrifiad yr Athro T. Gwynn Jones o'r glowr sydd er gwaethaf ei feiau yn "biwr yn y bôn." Rhyw dro, efallai y dywedaf ychydig wrthych am fannau hanesyddol y bryniau, a'r arwyr a fagwyd ynddynt.

Ni bu diffyg erioed ar ganu clod Bro brydferth Morgannwg. Gelwir hi "Y Wen Fro," a "Bro Morgannwg lon," a llawer enw cariadus annwyl arall. Galwyd hi "Anwyla man yn ael môr," ac fe ddywed y bardd Gwilym Ilid:—

"Tra haul ar daith, tra hwyl ar dôn,
Tra mwynion, dynion dannau,
Tra cŵyn y gwan, tra cân y gog,
Tra niwl yn glog i'r bannau,
Bydd clod Gwlad Forgan, wiwlan ardd,
Yn gân pob bardd â genau."


Yn ogystal â bod yn wlad brydferth iawn, y mae'n wlad lawn o ramant a thraddodiadau llenyddol a hanesyddol. Dyma wlad Caradog, Brenin y Siluriaid, a wrthsafodd holl allu Rhufain am lawer blwyddyn. Dyma wlad Esyllt, mam Hafren, a roddodd ei henw i Fôr Hafren. Am y wyryf hon y cân Milton yn ei "Comus," wedi dysgu'r stori o Frut y Brenhinoedd gan Sieffre o Fynwy. Dyma gyrchfan y Daniaid (y Paganiaid Duon, fel y'u gelwid) a'r Gwyddelod ar eu teithiau ysbeilio. Yn ogofâu glan y môr y rhanbarth hwn, mewn blynyddoedd diweddarach, y bu môr-ladron ac ysmyglwyr Sianel Bryste yn cuddio eu nwyddau.

Yn y Fro ceir cromlechi, croesau, cestyll, ac eglwysi hynafol a phrydferth, ac yma, yn Llanilltud Fawr a Llancarfan, cafwyd, yn y bumed ganrif, ddechrau addysg golegol yng Nghymru. Ceir yn y Fro heddiw fythynnod tô gwellt, gwyngalchog, "Morgannwg muriau gwynion"; cawn yma wastadedd llydan, tir ffrwythlon a daear gyfoethog. Fel hyn y canodd Iolo Morganwg am ei hoff fro:—

"Llawn adar a gâr y gwŷdd,
A dail a blodau dolydd,
Coed osglog, caeau disglair,
Wyth ryw ŷd, a thri o wair;
Perlawr pawrlas, mewn glas glog,
Yn llannaidd a meillionnog."

"Morgannwg ym mrig ynys
A byrth bob man, llan a llys."


Nodiadau golygu