Emynwyr Bro Morgannwg Y Wen Fro

gan Ellen Evans

Hysbysebion

EWENNI

TUA dwy filltir o Ben-y-bont gorwedd pentref Ewenni ynghyda'i Briordy enwog a'i briddweithfa a fu'n gweithio'n gyson am gan mlynedd. Byddai ymweled â'r briddweithfa yn ddiddorol iawn, ond heddiw awn heibio, gan gerdded drwy'r pentref, ac ymlaen i'r Priordy. Ar ein ffordd pasiwn heibio i gartref Edward Mathews, y pregethwr Methodistaidd enwog. Gŵr santaidd amryddawn ydoedd, yn llawn huodledd, ac yn feistr ar dafodiaith y Fro, sef y Wenhwyseg. Gresyn bod yr iaith bersain hon yn diflannu o'r Fro, a Saesneg gwael yn cymryd ei lle.

Dywed Crwys wrth dalu teyrnged i gof yr enwog ŵr yn ei gân:—

MATHEWS BIAU'R FRO

"Gall mai'r Barwn a'r pendefig
Sy'n cael rhent ei herwau bras,
A bod ambell symlyn gwledig
Yn tynnu'i het i ŵr y plas;
Ond o dreulio yng ngardd y gerddi
Dridiau difyr ar fy nhro,
Hawdd yw gweld mai'r gŵr o'r 'Wenni—
Edward Mathews biau'r Fro."

Er iddo farw fe erys ei ddylanwad i godi a phuro pobl,

Cartref Edward Mathews, Ewenni

"Ac er hardded Bro Morgannwg,
Heddyw, daw'n fireiniach darn,
Am fod coeddiad Edward Mathews
Yn y fro hyd fore'r Farn."

Awn heibio a chyrhaeddwn y Priordy. Er nad yw mor adnabyddus i drigolion Prydain ag yr haeddai fod, y mae myfyrwyr pensaernïaeth yr Almaen a gwledydd tramor eraill yn ymweled yn aml ag Ewenni. Cyfarfûm ag Americanwyr yno fwy nag unwaith.

Paham y daw'r bobl hyn i ymweled â'r lle, ac y dylem ninnau wybod mwy amdano? Oherwydd mai dyma'r esiampl orau o saerniaeth y Norman sydd gennym drwy Gymru benbaladr. Adeiladwyd y priordy yn y flwyddyn 1146. Yr oedd yn perthyn i'r Benedictiaid, ac yn gysylltiedig ag Eglwys Gadeiriol Caerloyw. Sefydliad crefyddol estron ydoedd, ac felly rhaid oedd iddo'i amddiffyn ei hun rhag y Cymry brodorol. Yn naturiol nid oedd cydymdeimlad o gwbl rhwng y Cymry a hwy. 'Roedd amddiffynfeydd y priordy yn effeithiol iawn gan fod tyrau a muriau caerog cryf iddo. Erys rhai o'r muriau hyd heddiw ynghyd â thŵr porthcwlis cryf ac ysblennydd, a hwnnw mewn stad dda iawn, er bod y rhan arall o'r priordy, ag eithrio'r eglwys, wedi diflannu.

Fel yn eglwys Llancarfan, gellir dweud bod yma ddwy eglwys o dan yr un to—eglwys y mynachod ac eglwys y Plwyf, ond yn Ewenni gwahenir y ddwy oddi wrth ei gilydd gan fur. Gwelwn nifer o gofgolofnau, ac olion diddorol yn yr eglwys. Y mae yma fedyddfaen prydferth, hen allor gerrig, piscina dwbl, ac ysgrîn goed odiaeth o dlws. Ar y llawr gwelir copïau o hen deils oedd yn yr eglwys, a gresyn mai ychydig o'r rhai gwreiddiol sydd ar gael.

Pan ewch i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, cofiwch edrych am ddarlun o'r Eglwys gan yr arlunydd Turner. Yn yr amser pan baentiodd ef hi yr oedd anifeiliaid ac ednod yn cael byw yn y rhan a berthynai gynt i'r mynach- od, gan fod y teulu yn dlawd ar y pryd. Y mae'r rhan hon o'r eglwys yn perthyn heddiw i'r Picton-Turberville, disgynyddion y Turbervilles a ddaeth i'r rhan hon gyda Maurice de Londres yn amser William II, a chanddynt ganiatâd oddi wrthoi ffurfio stad iddynt eu hunain. Gwelir tabledi a cherrig coffa i'r teulu yn y rhan fynachaidd o'r Eglwys.

Chwi glywsoch, efallai, sut y daeth y Turbervilles, er eu bod yn estroniaid Normanaidd, yn Gymry trwy fabwysiad. Yn ôl y stori, fe briododd un ohonynt ag etifeddes y Coety ac o hynny allan yr oedd Turberville yn arwain y Cymry yn erbyn y Normaniaid.

Perthynai Syr Thomas Picton i'r teulu, ac arhosodd yn y Priordy y noson cyn cychwyn ar ei daith i Waterlŵ.

Y mae'r Picton-Turbervilles yn ymhyfrydu yn hanes a thraddodiadau eu hen gartref. Y maent yn eithriadol o foesgar i ddieithriaid, ac yn ein hoes ni y mae un o'r merched, Miss Edith Picton-Turberville, yn gweithio â'i holl egni dros fudiadau dyngarol a chymdeithasol. Fel hyhi, hyderaf fod y Wen Fro yn ymfalchio yn ei gorffennol, ond yn gweithio yn y presennol â'i llygaid ar dyfodol. Boed i Fro Morgannwg adennill ei hen iaith a thraddodiadau ysbrydol ein cenedl ni, fel y gallo eto fagu cewri i wasanaethu Cymru.

Dyma'n pererindod trwy Fro Morgannwg ar ben. Gobeithio yr erys yn eich cof.

Nodiadau

golygu