Ymddarostyngwn dan law Duw:
Mae Ymddarostyngom dan law Duw yn emyn gan Morris Davies (1796-1876)
- Ymddarostyngwn dan law Duw:
- Fe ddichon eto'n cadw'n fyw;
- Er inni haeddu gŵg y nef,
- Mae aml ymwared gydag Ef.
- Cyfrannwr mawr y gwlith a'r gwlaw,
- A phob rhyw fendith
- inni ddaw,
- O! cofia'n daear, clyw ein llef,
- I'w mwydo â chawodydd nef.
- Yr y'm yn beiddio gofyn hyn -
- Ein holl gamweddau ymaith tŷn;
- Bydd foddlawn ini byth er mwyn
- Dy unig Fab, a gwrando'n cŵyn.
- O! glawia ar y crindir crâs
- Iachâ ein llesgedd trwy Dy ras;
- Adfywia ein heneidiau gwyw,
- Fel y moliannom Di, ein Duw.