Ymddiddan Rhwng Dau Fardd

gan Gwerful Mechain a Dafydd Llwyd

Dywed ym, meinir, meinion - yw d'aeliau,
mae d'olwg yn dirion;
oes un llestr gan estron,
a gwain hir y gannai hon?


Braisg yw dy gastr, bras gadarn - tyfiad
fal tafod cloch Badarn;
brisne cont, bras yn y carn,
brasach yw na membr isarn.


Hwde bydew blew, hyd baudblin, - Ddafydd,
i ddofi dy biden;
hwde gadair i'th eirin,
hwde, odoi hyd y din.


Haf atad, gariad geirwir, - y macwy,
dirmycer ni welir.
Dof yn d'ol oni'm delir,
y gwas dewr hael a'r gastr hir.


Gorau, naw gorau, nag arian - gwynion
gynio bun ireiddlan;
gorau'n fyw gyrru'n fuan
a'r taro, cyn twitsio'r tan.