Ymddiddan Rhwyng Cymro a Saesnes

gan Tudur Penllyn

'Dydd daed, Saesnes gyffes, gain
yr wyf i'th garu, riain.'


'What saist, mon?' ebe honno,
'For truthe, harde Welsman I tro.'


'Dyro wenferch loywserch lan,
amau gas, imi gusan.'


'Kyste dyfyl, what kansto doe,
sir, let alons with sorowe.'


'Gad i'r llaw dan godi'r llen
dy glywed, ddyn deg lawen.'


'I am nit Wels, thow Welsman,
for byde the, lete me alone.'


'Na fydd chwimwth i'm gwthiaw,
cai arian llydan o'm llaw.'


'I holde thi mad byrladi,
forth, I wyl do non for thi.'


'Pes meddwn, mi a roddwn rod,
myn dyn, er myned ynod.'


'Tis harm to be thy parmwr,
howld hain, I shalbe kalde hwr.'


Gad ym Saesnes gyffes, gu,
fondew fun, fynd i fyny.'


'Owt, owt! bisherewe thy twtile,
sir, how, ware my sore hile.'


'Na fydd ddig, Seisnig Saesnes,
yn war gad ddyfod yn nes.'


'By the rode I'll make the blodei,
anon I wyle plucke oute thyn ei.'


'Gad ym fyned i'th gedor,
hyd y groes onid oes dor?'


'Thowe shalt not pas, be Saynt Asaf,
for thy lyf I have a knife knave.'


'Io ddyn, ai caniadu'dd wyd
I Dudur ai nad ydwyd?'