Yn Nuw yn unig mae i gyd

O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth Yn Nuw yn unig mae i gyd

gan Edmwnd Prys

Trwy droeau'r byd, a'i wên a'i wg
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

54[1] SALM LXII. 7, 8, 11, 12.
M. S.

1.YN Nuw yn unig mae i gyd
Fy iechyd a'm gogoniant:
Fy nghraig yw, a'm cadernid maith,
A'm gobaith yn ddilysiant.

2.Gobeithiwch ynddo, ger ei fron
Tywelltwch galon berffaith;
Ac ymddiriedwch tra foch byw,
A dwedwch, Duw yw'n gobaith.

3.Duw a lefarodd hyn un waith,
Mi glywais ddwywaith hynny,
Sef, mai Duw biau'r nerth i gyd,
Gostyngiad byd, neu ffynnu.

4.O! Arglwydd, hefyd Ti a fedd
Drugaredd a daioni;
I bawb dan gwmpas ŵybren faith
Yn ôl ei waith y teli.


Edmwnd Prys

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 54, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930