Yn y Wlad/Bedd y Morwr

Llanelwedd Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

Plu'r Gweunydd

IV.

BEDD Y MORWR.

OS buost yn Aberaeron, ti gredi, ddarllennydd mwyn, dy fod wedi gweled un o'r llecynnau mwyaf prydferth yn y byd. O'th ystafell yn y gwesty clywi lais y bugail fry ar y mynydd, a llais y morwr o'i long yn y porthladd islaw, ar yr un pryd. Yn y bore cei gerdded hyd lan y môr, a chlywi ar dy wyneb anadl fywiol yr awel ieuanc nwyfus yn marchogaeth tuag atat hyd donnau na fuont erioed funud yn llonydd; yn y prynhawn cei gerdded bryniau uwchlaw'r weilgi, a "mwyn hedd y mynyddau " yn gorffwys yn ysgafn ar dir a môr. Oddiyma gwelir fod rhyw ysbryd gorffwys ar y bryniau, ac y mae'r môr fel pe wedi colli ei donnau; y mae'r don laethwen fel pe wedi ei suo i gysgu, gan su y tonnau sydd tu ol iddi, ar ei thraeth ei hun.

Yn nechre haf ardderchog y flwyddyn hon,[1] daethum i Aberaeron gyda'r tren. Y tro cynt, daethwn mewn cerbyd o Aberteifi, a gwynt caled sych gwanwyn cynnar yn addurno'm gwallt â llwydrew ac yn fferru f' anadl o'm blaen. Gwelais fedd John Jones Blaen Annerch; gwelais mewn dau gwm olynol gartrefi dwy Gymraes, y naill yn fwyaf adnabyddus am ysgrifennu Saesneg a'r llall am ysgrifennu Cymraeg yn ein dyddiau ni, Allen Raine a Chranogwen; ond y peth wy'n gofio oreu, er

hynny, yw min yr awel lem honno. Rhoddodd imi

awr neu ddwy o henaint llwyd a gwyw, a difyr oedd toddi i'm hieuenctid yn ol wrth dân a chroeso hyfryd Aberaeron.

Ond y tro hwn, daethum gyda'r tren o Lanbedr, pan oedd yr haf yn ieuanc a goludog ei liwiau. A hwyr tawel oedd hi. Rhedai'r plant o'r naill ffenestr i'r llall, i weled rhyw bentref diddorol y naill ochr, a chwm hyfryd yn ymagor ar yr ochr arall. Ymagorai Dyffryn Aeron, yn holl ysblander dwys prydferthwch ei brynhawn, fel y teithiai'r tren bach newydd yn ei flaen hyd fronnau'r fro; a gwnai Ceredigion i'w bryniau sefyll yn lwys a gwylaidd, fel rhes o blant, y tu ol iddo. Yr oedd pob gorsaf yn llawn o bobl ddifyr, yn enwedig hen bobl a gweision ffermydd, yn dod i "weld y tren"; oherwydd yr oedd y tren eto'n newydd. Codai pobl y pentrefydd a'r ffermdai eu dwylaw, ac ysgydwent eu cadachau, fel pe baent yn ein hadnabod ers blynyddau, ac fel pe baent wedi treulio oriau i'n disgwyl ni y diwrnod hwnnw. Teimlem ein bod yn cael cwmni ar hyd y ffordd. Y lle mwyaf unig y gwn i amdano yw mewn tren trwm, fydd yn chwyrnellu ymlaen am dair awr heb aros, hyd wlad wastad a phoblog. Y mae trigolion y wlad wedi ymgynefino âg ef; a gwyddoch nad oes neb o'r miloedd yn gwybod dim am danoch nag yn malio gwerth blewyn ynnoch. Y mae rhyw fath o unigrwydd yn brudd ac yn dwyn poen.

Dyma ni wedi cyrraedd gorsaf Aberaeron, meddir wrthym. Ond dyma unigrwydd o fath arall. Murmur yr afon yn ddedwydd heibio i ni, anadla awel ysgafn dros y gwair tonnog, sigla'r coed eu pennau trymion megis mewn cwsg. Gwlad yw i gyd. Ond sicrheir ni fod Aberaeron yn bod; ac wedi cerdded ennyd deuwn i un o'i gwestai cyfforddus, a chawn gipolwg ar ei heolydd bychain prysur, ar ei hysgwâr heddychol, ac ar ei phorthladd. Ac yna, yn araf a phenderfynol, gwneir cynllun, Mi arhosaf yn y lle hwn hyd nes y bydd raid i mi fynd oddiyma."

Y mae ffordd yn codi o'r pentref i gyfeiriad y de. Os gofynnwch i ble yr arwain y ffordd honno, esbonnir yn fanwl i chwi mai i Henfynyw y deuwch gyntaf os cerddwch heb droi ohoni am filltir go hir.

Cerddais yn araf i fyny hyd y ffordd. Yr oeddwn yn lled droi fy nghefn at y môr, ac yn cilio peth oddiwrtho; ond, wrth ddringo rhiw ar ol rhiw, cawn aml olwg ogoneddus ar eangder glas y môr ac ar y rhes o fryniau gwyrddion saif yn erchwyn tragwyddol iddo. Wrth edrych ar res o fynyddoedd yn sefyll ar lan y môr, a'r tonnau'n ymddryllio'n ewyn cynddeiriog ar eu godrau, a hwythau'n syllu'n dawel i'r nefoedd, ni fedraf feio y bardd a alwodd eu tebig yn "rhes ddwyfol o fynyddau."

Tan fwynhau golygfa ar ol golygfa, a rhyfeddu mor las oedd glas y môr ac mor wyrdd oedd gwyrdd y bryniau, daethum i bentref bychan iawn, ar ochr y ffordd, a ffordd seth yn torri ohono at eglwys. edrychai fel pe newydd ei hadeiladu. Yr oedd y tai yn lân fel yr aur, fel y mae tai bron bob amser ar lan y môr, y gwragedd yn ddiwyd, a'r plant yn llygadlon. Ie, hysbysid fi, honno oedd eglwys Henfynyw, ac yr oedd croeso i mi grwydro drwy ei mynwent eang.

Cedwir y fynwent yn ddestlus a glân, ac y mae serch tuag ati yn amlwg. Gofelir yn dda am y fynwent, fel rheol, os bydd llawer o rai ieuainc yn gorwedd ynddi. Naturiol iawn yw hynny'; pan ysgerir rhai yn eu hieuenctid y mae'r ing yn fwy angerddol a'r hiraeth yn hwy ei barhad. Ni fedrwch dreulio hanner awr ym mynwent Henfynyw heb weled mai bedd y morwr sydd amlycaf ymysg ei beddau hi. Saif ar fryn uwchben y môr, ac yn ei olwg. Y mae'r môr megis yn ymdawelu wrth ddod ati, mewn euogrwydd neu mewn hedd. Aberth y môr yw llawer o'r rhai sy'n huno ynddi; aberth y môr hefyd yw mwy o'r rhai sy'n huno yn y dyfnderoedd, ond a chof am danynt ar y cerrig hyn. Buont feirw, rai yn ieuainc a rhai ym mlodau eu dyddiau, y llanc bywiog uchelgeisiol ar ei fordaith gyntaf, a'r capten cydnerth oedd yn gwneud ei fordaith olaf cyn ffarwelio â'r môr i dreulio ei ddyddiau i fwynhau enillion ei lafur. Wrth grwydro o fedd i fedd, y mae dychryn yn ein meddiannu; ni welsoch erioed fynwent a chynifer o'r rhai sydd ynddi wedi marw'n ddisyfyd ac anamserol. Y mae arnoch ofn edrych ar y garreg nesaf, y mae ias ar ol ias o gydymdeimlad chwerw yn mynd i'r galon wrth weled mai morwr sydd yn huno yno hefyd. O'r braidd na felltithiech y môr am ei raib a'i greulondeb. Ac wrth godi'ch llygaid dros furiau'r fynwent at ei wyneb mawr llydan, y mae fel pe'n cilwgu arnoch am galedu eich calon tuag ato, ac yn edrych yn frochus a bygythiol.

Dyma'r argaff sydd ar y garreg gyntaf dynnodd fy sylw,—

Er serchus gof
am
Capt. JOHN RICHARDS
o Lannon, yr hwn a gollodd ei
fywyd pan ar ei fordaith o Gloster
i Bilboa, Rhag. 12, 1874, yn 29 oed.

JANE RICHARDS
ei wraig, a fu farw Medi 24,
1874, yn 22 oed.
Ei geiriau olaf oeddynt,
Gan fod gennyf chwant i'm dattod ac i fod.
gyda Christ, canys llawer iawn
gwell ydyw.
JOHN LEWIS RICHARDS
eu mab, a fu farw Hydref 24, 1874,
yn 6 wythnos oed.

Dyna i chwi garreg fedd, mewn geiriau syml, llawn gwirionedd, yn adrodd ystori o ing na all yr un bardd na nofelydd wneud un i apelio cymaint at ein teimlad. Dyma fam yn dymuno marw, er fod plentyn pythefnos oed yn hawlio ei gwên a'i nawdd. Dyma'r plentyn yn dilyn y fam wedi mis o nychu. A dyma'r môr trugarog yn cymeryd meddiant o'r tad crwydredig i'w fynwes ddihysbydd. Mor lwyr y chwalwyd teulu a chartref y morwr, mewn rhyw ddeufis o amser.

Arhosais wrth fedd arall. Gwelais rif oed llawn, ac adnod dangnefeddus, a dechre ystori dra gwahanol, a thybiais i ddechre nad oedd ystori am frad y môr yno. Ond yno hefyd yr oedd hanes boddi, ac englyn y clywais ei adrodd lawer gwaith,

Er cof am
JENKIN DAVIES,
Gweydd, Llyswen, yr hwn
a fu farw Tachwedd yr 8, 1874,
yn 70 mlwydd oed.
Digonaf ef â hir ddyddiau, a dangosaf
iddo fy iachawdwriaeth."

Hefyd am
THOMAS ei fab, yr hwn a gollodd
ei fywyd trwy suddiad y brig
"Pilgrim," Aberystwyth, yn Bay of
Biscay, Chwefror y 3, 1874,
yn 30 mlwydd oed.

Iach hwyliodd i ddychwelyd—ond ofer
Fu dyfais celfyddyd;
Y môr wnaeth ei gymeryd,
Ei enw gawn, dyna gyd.

Y môr; y môr yn y pellter, weithiau'n gwgu, weithiau'n fflachio gwên fradwrus dan sydyn dywyniad haul; a'r môr, y môr, ar bob carreg, yn cymeryd rhywun yn aberth o flodau ieuenctid neu o gryfder nerth. Trof i orffwys i edrych ar y glaswellt gwyrdd hyfryd, ac ar y blodau dan eu cyfoeth o liwiau. Anaml, hyd yn oed yng nghysgod, perthi Powys, y gwelais friallu dan liwiau mwy gogoneddus; ni welais erioed mo flodau balchter Llundain mor gain. Ac y mae ôl gofal tirion i'w weled ymhobman; y mae un o blant y fro wedi taclu'r llwybrau er cof am y dyddiau y bu yma'n chware.

Dyma hen garreg fedd, sy'n dangos pa dafodiaith siaredir yn y cyffiniau hyn. Yr oeddwn wedi cyfarfod gŵr dysgedig yn y gwesty yn y bore, a dywedai ef y gellir rhannu sir Aberteifi fel y rhennir Ffrainc, yn ol fel y dywedir y gair "oes". Yn ochr y môr, dywed pawb oes; yn yr ochr dde ddwyrain, sy'n taro ar Gaerfyrddin, dywedir "o's"; ac ar yr ochr ddeheuol, ar gyffiniau Penfro, dywedir "es." Y gwahaniaeth oedd gen i yn fy meddwl oedd rhwng "au" ac "oi." Ar y garreg fedd ceir enw " Jenkin Thomas of Caehaidd, died July. 25, 1771, aged 80," a'r pennill hwn,——

"Dymma'r fan dan garreg fedd
Gorphwysa fi mewn isel wedd,
Gan ddisgwyl boinydd am y dydd
Im gael fy rhoi o'm rhwymau'n rhydd."

Gadewch i ni grwydro eto, a chawn ychwaneg o hanes y dinistr ar fywyd wnaeth y môr. Dyma hanes dau frawd yn boddi, y naill yn ddeg ar hugain a'r llall yn ddeunaw. Dywed carreg draw fod capten y llong wedi boddi yr un pryd. Felly, yn ol pob tebig, aeth y llong i lawr. Dyma eto hanes tad a mab yn boddi gyda'i gilydd, yn y Lima, y capten yn ddeugain, a'i fab yn ddeunaw oed.

Y mae'n amlwg fod holl foroedd y ddaear yn cadw gweddillion bechgyn Aberaeron. Weithiau cludid y corff boddedig adre i'w gladdu; ac nid llon oedd hwyliau'r llong wrth gyrchu'r porthladd bach cartrefol pan gludai gorff marw gŵr ieuanc ar ei bron.

Cleddid rhai yn y porthladd agosaf i'r lle y boddasant, ar dueddau de Amerig bell neu yn Rotterdam garedig agos. Ond am y llu mawr, y maent hwy yn y gwahanol foroedd, ac ar lawer carreg fedd ceir yr ymadrodd,—" Nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn." O arfordir Ynys yr Ia hyd gulfor ystormus Magellan, ym Môr y Canoldir ac ym mhellteroedd y Môr Tawel, y mae bechgyn Aberaeron yn huno. Ac o'r fynwent yr wyf ynddi. i hedd yr hon y dihangodd llawer ohonynt, gwelaf y môr yn galw ac yn denu. Ac yn sicr, i fechgyn galluog ac anturiaethus, nid oes yr un ffordd mor hudolus a dyfnffordd y don.

Safaf yn syn. Dyma fedd un y cefais ymgom ddifyr âg ef,—

THOMAS DAVIES, (Compton):
died Oct. 28, 1907.
Aged 67.

A dyma hanes ei feibion yn ei ymyl. Y mae llun angor ar feddfaen tlws ei fab o forwr, a foddodd yn ystod nos Hydref 27, 1903, ar fordaith o Iquique. Y mae enw'r mab arall,—y Parch. Jenkyn Davies, B.A., ficer Llanbadrig ym Môn,—ar garreg fedd ei dad. Ond mor bell oddiwrth ei gilydd yw'r teulu, un mab yn eithaf Cymru a'r llall yn eithaf y byd. Hûn yn dawel, lenor dawnus a difyr, yn hedd y fynwent uwchlaw'r môr.

Dyma fedd un o fyfyrwyr cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, suddodd i'r bedd tra'n llawn addewid am waith bywyd gwych,—

In
Loving Memory of
T. Z. JONES,
Born Feb. 17, 1853,
died March 29,
1892.

Dyma fedd un arall y clywais am dano, bedd y Parch. Dafydd Evans o'r Morfa, fu farw Awst 21, 1825, yn 56 oed; ugain mlynedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gyda mawr lwyddiant Ac yna, o heddwch bywyd yr efengylydd, dyma fi eto mewn dychymyg yn nhymhestloedd y môr. Dyma fedd Jenkyn Williams, ysgubwyd oddiar fwrdd yr Adroit; dyma'r manylion gyrhaeddodd adre o lawer nos ystormus, o lawer môr pell, wedi ei gerfio'n gariadus ar fedd y morwr.

Ac eto bydd swyn yn y môr i'r ieuanc dros byth. Y mae ei donnau gwynion yn galw, galw, o hyd, ar yr anturus, i weled glannau pell. Ym myd mater ac ym myd y meddwl, y mae'n galw i ryddid pethau gwell—

"Anchor in no stagnant shallows,
Trust the wide and wondrous sea,
Where the tides are fresh for ever,
And the mighty currents free;
There, perchance, O young Columbus,
Thy new world of thought may be."

Y mae arfordir gorllewinol Cymru, o Gaernarfon i Abergwaen, yn rhoi i wasanaeth y wlad gynifer o forwyr da ag unrhyw ran gyfartal o draethau'r ymherodraeth. Nid o rannau Seisnig Cymru y daw morwyr, ond o'r rhan Gymreig. Ac y mae y môr yn cynnyg gyrfa ardderchog i fachgen,—gyrfa ag iechyd, cyfoeth, a llwyddiant arni. Gymaint yn well, law a phen, yw ein hen gapteniaid na'r segurwyr sy'n ofni'r môr, ac yn aros ar y lan i gludo celfi ceiswyr pleser. Dysgid Morwriaeth yn yr ysgolion ar y traethellau hyn gynt, a rhoid tipyn o wynt iach y môr yn y Ddaearyddiaeth; a daw amser eto. mae'n ddiau, pan roir i'r môr ei le priodol yn efrydiau ac yn nychymyg ein bechgyn ieuainc. A charedig iawn yw'r môr i'r anturus a'r dewr. Rhydd iechyd na fedr dim arall ei roi. Ychydig, mewn cymhariaeth, o forwyr sy'n cyfarfod â'u hangeu'n ieuanc. Y ffaith honno sy'n esbonio pam y croniclir hanes pob boddi mor fanwl yn y fynwent hon, peth eithriadol yw. Fel rheol, y mae i'r morwr fywyd hir iawn. Dyma fedd morwr, Thomas Thomas o'r Pant Teg, fu farw yn 92 oed, ac y mae englyn o waith Caledfryn ar ei fedd,—

"Drwy beryglon bron heb ri—yr hwyliais
Ar ael y dwfn weilgi;
Angau, er im angori,
Wedi aeth a mywyd i."


Wedi i mi gynefino âg amlder beddau'r morwyr, ac â'r ing oedd yn hyawdl guddiedig yn y cofnodion byr a syml, gwelwn y môr yn gwenu arnaf drachefn, yn heddwch mwyn ei eangder tyner glas. Onid oes fwy o farw ar y tir, allan o bob cymhariaeth, nag ar y môr? Onid ar y tir y mae'r haint a'r nychdod, onid ar wanegau hallt y môr y mae iechyd ac ynni parhaus? Nid oes gan y môr ei gleifion a'i anafusion fel y tir. Wedi ystorm y mae llai o ddifrod arno ef nag ar y tir. Ar y môr y mae mwy o ystwytho ac o ufuddhau i ddeddfau natur, ac felly y mae llai o dorri a dryllio arno ef. Nerth y tyner yw nerth y môr. Ar y tir ymgadarnha rhyw orthrymydd beunydd mewn grym a thraha, y mae'r môr yn dragwyddol rydd,—

"Y môr, mor ddynol newidiol,
Ac eto mor ddwyfol yr un.'

Troais fy nghefn ar y môr yn y fynwent, gan hiraethu am ei weled wedyn, ac mewn heddwch tragwyddol âg ef. Cerddais y ffordd i'r briffordd yn ol, gan groesi honno, a mynd ymlaen i'r tir." Esboniasid i mi gan wragedd mwyn ymadroddus y gallwn fynd i lawr i Aberaeron hyd lwybr arall. Y peth a'm temtiai ymlaen oedd gogoniant lliwiau'r wlad ar y noson haf dawel falmaidd honno. Yr oedd ysblander melyn yr eithin yn ogoneddus ynddo ei hun, ond yr oedd yn fwy tanbaid ddisglair o'i gymharu â thynerwch dyfnlas y môr ac â glesni esmwyth hyfryd y bryniau. Deuai'r nos yn araf, ac y mae'n anodd dychmygu am fantell mor hyfryd yn cuddio cymaint o dlysni.

Y mae Aberaeron wedi bod yn hir o gyrraedd y tren. Ond nid oedd yn anghysbell serch hynny. Y lleoedd mwyaf pell yw'r lleoedd y mae llu o drenau'n rhuo drwyddynt bob dydd heb aros ynddynt, mwy na phe baent heb fod. Ond am Aberaeron, ni fu erioed yn bell, rhoddai'r môr lwybr parod i bob man. Y noson honno, cefais ymgom ddifyr â chynrychiolwyr llenyddiaeth, addysg, cyfraith a masnach y cwmpasoedd; a'm syniad oedd nad oes dim newydd yn y byd nad yw Aberaeron wedi ei bwyso a'i chwilio. O'i fôr a'i fynydd, dalied i fagu ac i anfon i'r byd rai'n meddu cadernid cymeriad y mynydd ac ynni bywyd y môr.

Nodiadau

golygu
  1. Mis Mehefin 1911.