Yn y Wlad/Dyddiau Mafon Duon
← Plu'r Gweunydd | Yn y Wlad gan Owen Morgan Edwards |
Ewenni → |
VI.
DYDDIAU MAFON DUON
CLYWAIS mai prif gŵyn un o athrawon Prifysgol Cymru yw ei fod yn gorfod troi tua'i goleg i ddarlithio pan y mae'r mafon duon ar aeddfedu. O'm rhan fy hun, y mae fy nghydymdeimlad yn hollol gydag ef. Llawer gwell gennyf fuasai bod yn rhydd hyd ddiwedd Medi, a bod yn gaeth ar gyfer hynny yng ngwyliau'r Nadolig. O hynny y ceid mwyaf o ynni ac ysbrydoliaeth i wneud y gwaith goreu.
Ond eleni cafodd yr athro yr wyf yn son am dano ei ddymuniad. Oherwydd yr haelioni o wres a goleuni dywalltodd haf eleni ar ein daear, aeddfedodd popeth yn gynnar. Dywed rhywun fod llyfr Natur ar ei brydferthaf pan fo'r hydref yn troi ei ddail. Eleni daeth y prydferthwch yn gynnar,— gwelwyd y gogoniant fflamgoch ar ddail llwyn a pherth, a'r disgleirdeb aeddfed ar rudd y mafon duon oedd yn eglur yn ymyl lliwiau llwydgochion y dail. Nid oes athraw pryderus nac efrydydd gwelw yn troi'n ol eleni heb gael digon o haf i lenwi y gaeaf gerwinaf â'i atgofion mwyn.
Hudwyd finnau i hel mafon duon.[1] Yr oeddwn yn anfoddlon wrth gychwyn, gan fy mod wedi meddwl dechre o ddifrif ar fy ngwaith y dydd cyntaf
o Fedi. Ond, pan gyrhaeddais yr orsaf fynyddig,Drws y Nant wrth ei henw, lle yr oeddym i gychwyn yn uwch i'r mynyddoedd, teimlais yn llawen iawn fy mod wedi dod. Ac yn awr, pan y mae gwyntoedd hiraethlawn Tachwedd ar eu ffordd at fy annedd, yr wyf yn teimlo mor ffodus oeddwn, oherwydd y mae atgofion pen y bryniau yn aros yn fy meddwl a iechyd pen y bryniau yn aros yn fy ngwaed.
Yr oedd yr awel yn adfywiol ac yn lleddf. Anadlai'n ysgafn o'r de-orllewin.. Yr awel hon yw prif gymhwynasydd daear Cymru. Oni bai am ei hymweliadau cynnes tyner hi, buasai ein gwlad dan eira bythol fel canol Labrador yr ochr arall i'r Werydd ar ein cyfer. Crwydra o'r môr dros ein brynjau, ac y mae ei hymweliad yn fwy bendithiol nag ymweliad Olwen gynt, oherwydd gedy laswellt gwyrdd dros yr holl wlad, o'r glyn mwyaf cysgodol i goryn y mynydd moel amlycaf. Rhydd glog o darth a niwl teneu dros y bronnydd, na allai yr un ddewines roi eu gwell, a cheidw y rhai hynny wres a bywyd yr haul. A'r diwrnod hwnnw, wrth anadlu ar ein hwynebau, yr oedd ei chyffyrddiad fel y gwin. Deffroai holl egni corff a meddwl, gwnai i ni weled fod pethau amhosibl yn bosibl a phethau anodd yn hawdd.
Yr oedd lliwiau'r mynyddoedd yn brydferth iawn, yn bob cyfuniad o las a gwyrdd. Ond edrych tua'r de gwelem drumau gleision Cader Idris. Codent yn rhes hir, yn uchel uwchlaw'r dyffryn. Yn y rhes falch yr oedd y Gader ei hun yn alwg yn y canol. Eu lliwiau oedd hynotaf. Rhwng y rhannau oedd dan wên haul a'r rhannau oedd yn y cysgodion, yr oedd pob arlliw a gwawr o las y gellid dychmygu am dano. A than y mynyddoedd, lle chwareuai goleuni'r haul ar gaeau o adlodd ac ar gaeau o sypiau yd parod i'r ydlan, yr oedd yno liwiau o borffor ac aur na all y llys gwychaf ddangos eu tebig.
Ac yr oedd yno fiwsig hefyd. Yr oedd afon Wnion, yn afiaeth ieuanc ei morwyndod, yn gwmni diddan inni trwy'r dydd. Yr oedd ei dŵr yn dryloyw ar ei graean glân, a'r mafon duon yn gynhaeaf prydferth yn crogi dros ymyl ei llif rhedegog. Dawnsiai, gwenai, llamai'r afonig; yr oedd yr heulwen ar ei dwfr, pan yn wyn wrth neidio o garreg i garreg, yn gwneud iddi ymddangos fel pe'n codi ei llaw, ac yn galw arnom ar ei hol. Yr oedd bywyd yn ei sŵn hefyd, yn ei murmur mwyn ac yn ei sisial dedwydd. Nid y hi'n unig oedd yn canu; yr oedd aberoedd eraill yn uno mewn un gydgan fawr, er mai'n gymysglyd, ond eto mewn cydgordiad perffaith, y clywem ni hwynt. Yr oedd yr Wnion welem ni fel genethig hawddgar yn prysuro i ganu soprano yn y côr glywem yn is i lawr, lle clywid "trymru ac islais," chwedl un o feirdd Arfon, y rhaeadr islaw.
I fyny gyda glan yr afon yr oeddym i fynd. O bobtu inni yr oedd mynyddoedd uchel. Ar y chwith yr oedd y Foel Ddu, yn codi i fyny dros bymtheg cant o droedfeddi, a thu ol iddi yr oedd y Rhobell Fawr, yn codi'n agos i wyth gant o droedfeddi yn uwch wedyn. Ar y dde yr oedd trum ardderchog yr Aran, a thrwy gymoedd rhaeadrog caem gipolygon ar Aran Fawddwy ac Aran Benllyn, y naill yn 2,970 a'r llall yn 2,901 troedfedd uwchlaw wyneb y môr. Y gyntaf yw'r uchaf yng Nghymru y tu allan i Eryri. Hiraethem am gopa'r llall, lle y mae llyn eang o ddwfr pur, haf a gaeaf; yr oedd ei phen fel pe yn ein hymyl, er fod yn rhaid dringo dros ddwy fil o droedfeddi iddo o'r fan y safem ni. Ond y mae sibrwd afon Wnion yn ein galw'n ol at y mafon duon.
Y mae'r awel yn codi perarogl o'r llysiau, fel yr ydym ninnau'n codi mafon oddiar y mieri. Y mae'n arogl llawn a goludog, ac yn hyfrytach na'r mwsg. Chwiliasom o ba le yr oedd yr awel yn ei gael. Denai o'r mintys gwylltion,[2] llysiau'r mel, [3] chwerwlys yr eithin,[4] a gwynwydd[5] aroglus. Medraf gofio arogl per y pedwar hyn, er nad oes gennym enwau ar aroglau fel sydd gennym ar liwiau; ac wrth geisio ail godi'r olygfa honno o flaen fy meddwl, yr wyf yn cofio hefyd yr arogl gymysgai awel y gorllewin i bersawru ei sandalau wrth grwydro dros y glynnoedd a'r bryniau hyn.
Yr oedd llawer o'r blodau wedi aros yn hwy na'u hamser, fel pe'n methu gadael bro mor gain. Yr oedd brenhines y weirglodd wedi mynnu gwisg o hen aur. A phwy feddyliech chwi oedd yn codi eu pennau, ac yn ymryson â'r frenhines mewn gwisg of borffor a heliotrope? Neb amgen na phys y llygod.[6] Ac yr oedd cylch yr eos,[7] safai'n wylaidd lle bynnag nad oedd eraill eisiau bod, wedi tynnu eu lliwiau o'r awyr yn hytrach nag o'r ddaear, oherwydd yr oedd rhywbeth yn eu glesni tyner yn sibrwd am yr angylion fu yn ein gwarchod, y rhai. gwaethaf o honom, yn nyddiau heulog bore oes.
Hyd yn oed i un heb wybod dim am lysieuaeth, y mae blodau'r Garneddwen yn agor byd o ryfeddodau. Dyma ddau flodeuyn yn tyfu yn ymyl ei gilydd, dau nad oes neb wedi eu hau, dau nad oes neb yn gofalu am danynt, dau elwir yn lladron tir yn ddigon aml. Y llynedd y daeth y naill yma. Pe gofynnech i amaethwr beth yw enw'r blodyn glas tal. dywedai nad oes enw iddo. mai gyda'r hadyd y daeth o ddeheudir Rwsia; a lled awgryma, dan daflu trem ddigroesaw at y trespaswr talog, na fydd eisiau enw arno, gan nad yw i aros yn y tir yn hir. Dywed mai enw'r llall yw rhawn y march,[8] a bod hwnnw yno er pan mae ef yn cofio ac er pan oedd ei dad yn cofio o'i flaen. Da y gall ddweyd hynny. Pan oedd tân a mŵg a lludw a cherrig anferth yn codi i awyr lawn mellt a tharanau'r cynfyd, yr oedd rhawn y march yn y cymoedd hyn.
Yr oedd yn hawdd rhoi coron i un goeden eleni. a'i chyhoeddi'n frenhines y cymoedd. Y griafolen[9] yw hi. Y mae'r griafolen yn hardd bob amser. oherwydd prydferthwch ei ffurf yn bennaf. Ond eleni yr oedd ei lliwiau yn gwneud i rai sylwi arni na welasent ei phrydferthwch erioed o'r blaen. Coch a gwyrdd oedd y lliwiau hynny. Sylwais ar dlysni'r griafolen lawer gwaith. Ond eleni sefais mewn syndod wrth weled goched oedd ei haeron, cochter esmwyth tryloyw yn erbyn gwyrdd goludog y dail.
Ni welsom ond ychydig o adar, ambell asgell fraith[10] a'r haul yn fflachio ar wyn ei haden, yn gwibio'n ddistaw o lwyn i lwyn. Ond drwy'r dydd cawsom gwmni miloedd o gacwn geifr[11] a gwenyn. Yr oedd y gacynen a minnau, yn ddigon aml, yn disgyn ar yr un fafen. Canai hi'n hapus, tybiwn yn ofer ei bod yn dynwared su'r afon â'i hedyn. Na, ni chlyw hi sŵn yr afon na dim sŵn arall; eithr gwêl liwiau'n dda, a hwyrach y medd ryw synwyr na feddwn ni. Ac mor brydferth oedd ei lliwiau wrth iddi sefyll ar y ffrwyth du. Yr oedd y rhesi gwyrddaur sydd ar draws ei chefn yn troi'n euraidd ddisglair yn yr haul; ac yr oedd y llinellau a'r ysbotiau duon yn gwneud llewyrch aur ei chefn yn fwy tanbaid fyth. Yr oedd ganddi ddigon o amynedd, symudai'n ddiddig oddiar fafen y mynnwn i roi'm bysedd arni. Y mae'n ddiddig oherwydd ei bod yn gweithio mor galed. Cwyd yn fore, ymhell o flaen y wenynen, a noswylia ymhell ar ei hol. Y diwrnod cynt yr oedd plant yn tynnu nyth cacwn. Rhaid dweyd y gwir, yr oedd y cacwn, er eu tlysed, fel pla eleni. Tra'r oedd y plant wrth eu gwaith daeth hen filwr heibio. Milwr dewr oedd y milwr. Yr oedd wedi cerdded blynyddoedd, ol a blaen, i ddysgu cerdded yn syth, a rhoi ei droed yn fflat i gyd ar lawr ar unwaith, pe digwyddai i'r gelyn lanio ar y glannau heddychlon hyn. Dywedir iddo sefyll yn stond unwaith ar Green y Bala, lle'r oedd y milwyr yn dysgu cerdded i ryfel y flwyddyn honno, o flaen pwll o ddwfr. "Pam ti sefyll, a stopio, byddin?" ebai swyddog ieuanc prin ei Gymraeg. Atebodd y dewr nad oedd ef wedi rhoddi llw y croesai'r dŵr. Ni ymunodd â'r plant yn y gad yn erbyn y cacwn, ond ceryddodd hwy am eu creulondeb. "Wnai y cacwn bach ddim drwg i neb," meddai, mewn llais un yn deisyfu heddwch, ond iddyn' nhw gael llonydd." Gyda hynny daeth tyrfa o'r cacwn heibio, wedi ymgynddeiriogi wrth weled eu cartref cywrain wedi ei ddinistrio. Gan mai pen y milwr dewr oedd uchaf ymysg y pennau, ymglymodd y cacwn yn ei wallt a'i war a'i glustiau. Rhedodd yntau ymaith, gan waeddi a chyhoeddi rhyfel, fel pe bai'n arwain byddin i frwydr chwerw.
Nid lle unig yw y lle y mae'r Wnion yn dod o'r mynyddoedd. Y mae'r amaethwyr wrthi'n ddiwyd; y maent wedi torri pob mieri lle mae perigl iddynt gydio mewn gwlan dafad yn y gaeaf. Pobl fwyn a deallgar ydynt. Os mynnwch ymgomio am feirdd a llenorion, byddant wrth eu bodd. Draw acw y mae'r Blaenau, cartref Rhys Jones. Canodd ef ogan a maswedd, gwir yw, a dilornodd rai gwell nag ef ei hun; ond canodd gywyddau llawn doethineb a chrefydd. Efe oedd prydydd yswain y ddeunawfed ganrif, meddai ei ffaeleddau a'i ysbryd gormes, a chanai ei alargerdd. Yn y bedd yn unig y gwelai gydraddoldeb, a llawer cân ganodd i'r lefelydd mawr Angeu,—
"Rhagor ni chaf, ar drafael,
Mewn rhych, rhwng y gwych a'r gwael."
Yn ein hymyl wele Fryn Tynoriad y tu hwnt i'w. fryncyn. Gŵyr pawb yma mai yno y ganwyd Ieuan Gwynedd; ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fyw ac anwyl eto. Ac onid yr wythnos cynt, pan oedd yr yd yn aeddfed i'r cynhaeaf, y cludid Machreth hynaws, weithgar, a phur i dŷ ei hir gartref ? Daeth adre, i ddisgwyl am yr hwyr, dan dderwent w Arthur,
"Yma'r wyf mewn hen gynhefin
Wedi oes o grwydro ffol,
Yma try hen olwyn Amser
Hanner canrif yn ei hol.
"Prun oedd lasaf y pryd hynny,
Ai dy ddeilen gyrliog di,
Dderwen Arthur, ynte wybren
Ddigymylau 'mywyd i?"
Flynyddoedd yn ol, adwaenwn fechgyn y fro hon
yn dda, a deuai llawer ohonynt dros y Garneddwen
i'r un ysgol a mi. Rhyfedd gynifer ohonynt fu
farw'n ieuaine. Bechgyn hoffus oedd dau fab
Drws Melai; bu'r ddau farw a'u bryd, mi gredaf,
ar bregethu efengyl Iesu. Dacw Esgair Gawr.
Oddiyno deuai bachgen bochgoch, diddan, caredig.
Ni fedrai ei symledd a'i wyleidd-dra guddio ei allu.
Aeth William Williams i Rydychen, a chafodd
anrhydedd uchel yno. Daeth yn athraw, yn
arholydd, ac yn awdurdod ar iechyd y cyhoedd.
Yr oedd ganddo reddf ac athrylith at wneud ardal yn
iach; ac i un o'i dymer addfwyn a charedig ef,
rhaid mai gwaith wrth ei fodd oedd y gwaith bendithiol ymddiriedwyd iddo. Pan noswyliodd mor
gynnar, yr oedd brif swyddog iechyd Morgannwg; ac yr oedd ei symledd pur megis llen oleu
yn dangos ei allu a'i athrylith yn fwy hygar.
Y mae un peth yn ein gwneud yn brudd iawn mewn ardal fel hon. Ar bob llaw gwelir anedd-dai, fu unwaith yn gartrefi clyd i blant dedwydd, yn prysur adfeilio. Y mae tô Bryn Tynoriad, lle adeiladwyd yn gain gan yr hen Syr Robert Vaughan, a'r lle bu tad Ieuan Gwynedd yn afradu mer ei esgyrn i wareiddio Ffridd y Celffant, erbyn hyn yn dyllog. Edrych Cae'r Dynin yn hawddgar oddiar lethr y bryn, er nad oes wydr yn ei ffenestri na drws yn troi ar ei golyn ynddo mwy. Yn y plwy nesaf, sef Llanuwchllyn, y mae dros ddau gant o aneddau, gofid a'u haelwydydd yn gynnes, wedi mynd yn anhrigiannol. Yn y nesaf at hwnnw, sef plwy Llangower, nid yw'r boblogaeth ond hanner y peth oedd gan mlynedd yn ol. Ac y mae safleoedd rhai o'r tai aeth i lawr mor hyfryd a dim ellid ddymuno. Cymerer, er esiampl, y Parc Bach. Cil Gellan, Hafod y Bibell, a Thŷ'n y Pant.
Ofer, mae'n ddiau, yw tynnu teuluoedd yn ol i hen gyfnod y bara haidd a'r ganwyll frwyn. Y mae'r byd wedi newid, a safon cysur wedi codi. Ond eto gall dedwyddwch trigiannol yr hen gyfnod ddod yn ol heb ei dlodi. Onid gwych fyddai i bob. un sy'n gadael y tir i ennill ei fara yn y trefydd ddod yn ol i'w hen fro i dreulio ei wyliau? Nid yw trenau'r ymbleserwyr haf yn aros yn y fro hyfryd hon; ac eto, o ran iechyd a difyrrwch, dyma'r lle goreu i gyd. Ac onid yw hwn yn lle campus i yrru plant i'w magu, o leiaf ar dymhorau gwyliau'r trefi? Y mae plentyn fagwyd yn y wlad yn meddu meddwl cyflymach a dyfnach na phlentyn wedi ei fagu yn y dref. Medd fwy o eiriau, gŵyr fwy am natur, gwêl ymhellach. Y llynedd yr oedd un o arlunwyr blaenaf yr Amerig yn aros yn un o bentrefydd Cymru, i baentio plant. Yr oedd wedi anfon ei fachgen ei hun i aros ar fferm dros y gwyliau. "Y mae'n siwr o ddysgu gwneud rhywbeth yno," meddai. A'r gwir yw fod bywyd beunyddiol amaethwr yn foddion addysg iddo. Ond hwyrach yr awgrymi'n wawdus, ddarllennydd, y byddai'n dda i lawer ddilyn f'esiampl i, a mynd i ennill eu bywoliaeth yn y wlad trwy hel mafon duon. Dug hynny fi'n ol at fy mafon.
Mafon ardderchog oeddynt. Ni welais rai cymaint erioed, na rhai mor felys. Yr oeddynt bron felgrawnwin duon. Disgleiriai eu duwch dan oleuni'r haul. Hulient y perthi megis â hyfrydwch. Disgynnent i fasged neu law ond prin eu cyffwrdd. Yr oeddynt yno, ar lannau hyfryd yr afon, yn ddigonedd. "Er cynnifer sy'n dod i hel," ebe genethig o amaethdy gerllaw, "nid yw'r mafon ddim llai." Wedi eu cadw, gwnant fwyd danteithiol at y gaeaf. Gall teulu hel mewn diwrnod ddigon i wneud amser tê'n hyfryd drwy'r flwyddyn. Y mae llwythi ar lwythi ohonynt yn mynd yn ofer yn y cymoedd hyn bob blwyddyn. Ac eto, buasai eu hel a'u cadw yn waith iach, difyr, ac enillgar. Anfonodd Cyngor Sir Fynwy ŵr ar daith drwy'r ffermydd i ddysgu'r merched pa fodd i botelu a chadw ffrwythau, ac y mae'r sir ar ei hennill. fyddai i siroedd eraill Cymru wneud yr un peth. Gallai ambell ddarlith wneud llawer i ddatblygu cyfoeth gwlad.
Na chamddealler fi. Nid wyf am gadw'r ieuanc yng nghilfachau'r bryniau, er mwyned murmur y nentydd a su'r awelon, os bydd ei uchelgais yn ei alw i ffwrdd. Gwn yn dda na all dyn fyw ar farddoniaeth a mafon duon. Ond gwn hefyd mai addysg yn y wlad yw'r tebycaf o godi'r ieuanc i ddefnyddioldeb a chyfoeth. Rhydd barddoniaeth a mafon duon ddedwyddwch iddo hefyd, ac y mae dedwyddwch yn nerth. Cymeriad da i ddyn yw dweyd y medr wneud ei waith dan ganu.
Dan hel mafon duon ac ymgomio, yr ydym bron a chyrraedd pen y Garneddwen. Y mae'r afon yn troi'n awr i gyfeiriad Aran Benllyn, oherwydd oddiyno y daw. Ond y mae ffrwd lai yn ymuno â hi yma, wedi dod o ben y Garneddwen. Ac yma eisteddwn ar fur y ffordd, uwchlaw'r fan yr ymuna'r dyfroedd. Y maent yn canu'n hapus, ond nid yn rhy uchel i ni ddeall ein gilydd. A welwch chwi'r murddyn acw, nid oes ond muriau'n aros, uwchben trofa'r afon? Y mae ei safle'n ddymunol. Ymwasga cylch o goed masarn o'i gwmpas, gan grymu drosto, fel pe'n ceisio achub ei furiau gwag rhag cam. Yn eu mysg y mae pinwydden brydferth a bedwen delaid, hwythau'n gwasgu ymlaen fel pe i gael rhan o'r fraint. Adfeilion y Dyfnant yw'r adfeilion. Bu'n llety clyd i fforddolion, pan redai'r ffordd yr ochr acw i'r nant. Ond ei fri pennaf yw ei fod wedi magu cenhadwr i fynd a'r efengyl i wledydd pell. Y mae'n hawddgar, er yn anghyfannedd, ac er fod y plant chwareuai yma gynt oll wedi mynd.
Fel dyfroedd nant y mynydd, mynd i ffwrdd wna'r bechgyn a'r genethod i gyd. Y mae'r afon ieuanc, sydd newydd adael unigedd y mynydd a chysgod y cwm, ac heb weled trigle dyn eto, yn galw arnynt i'w chanlyn, ac yn rhoi deuparth o'i ffydd iddynt. Fel yr â'r dyfroedd croyw peraidd i adfywio'r gwledydd cyn ymgolli yn y môr hallt, felly yr â plant y wlad i iachau a chryfhau a phuro bywyd y trefydd. Hwy sy'n arwain, hwy sy'n cynllunio, hwy sy'n dangos i eraill gyfrinion y gweledig a'r anweledig. Y mae awel garedig y deorllewin yn dod a'r dyfroedd yn ol. Daw'r niwl a'r glaw i lethrau'r Aran yn ol o'r môr, llanwant yr aberoedd fel o'r blaen, a murmurant yn hapus ar eu taith, yn llonnach ac yn burach nag erioed. Ond nid oes dim yn dod a bechgyn y Garneddwen yn ol; y mae eu cartrefi hwy, o un i un, yn dadfeilio i unigrwydd mud. Fath wlad fydd ein gwlad pan na bydd ychwaneg o fechgyn a genethod y cwm a'r mynydd i ddilyn yr aberoedd i lawr i'r gwastadeddau, i buro môr eang dynol ryw?
Nid colli amser yw ambell ddiwrnod ar y bryniau, yn gwrando ar ddwndwr croesawgar yr aberoedd bychain prysur. Hel mafon duon oedd yr esgus, ond anadlu iechyd oedd y gwaith, a chasglu atgofion fedr felysu llawer awr chwerw a blin.
Nodiadau
golygu- ↑ Ffrwyth y fwyaren (rubus fruticosus, black-berry bramble). Mwyar duon y gelwir hwy yn y De.
- ↑ Mentha arvensisi corn-mint.
- ↑ Spiraea ulmaria, meadow-sweet, llysiau'r mêl.
- ↑ Teucrum Scorodonia, wood-sage.
- ↑ Lonicera Periclymenum, gwyddfid, wood-bine, honeysuckle.
- ↑ Cicer, chick pea.
- ↑ 'Scilla nutans, harebell.
- ↑ Equisetum, horse-tail.
- ↑ Pyrus Aucuparia, cerddinen, mountain ash.
- ↑ Asgell arian, pinc, Chaffinch.
- ↑ Vespa vulgaris, wasp.