gan Dafydd ap Gwilym

Annerch, nac annerch, gennad,
Ni wn pwy, gwraig macwy mad.
Arch i'r ferch a anerchais.
Ni wn pa beth rhag treth trais,
Ddyfod yfory'n fore,
Pŵl wyf, ac ni wn pa le.
Minnau a ddof, cof cawddsyth,
Ni wn pa bryd o'r byd byth.
O gifyn hi, gyfenw hawdd,
Poen eirchiad, pwy a anerchawdd,
Dywed dithau dan dewi,
Ysgoewan wyf, "Nis gwn i."
O gwely deg ei golwg,
Er nas gwelych, nid drych drwg,
Gwiw loywbryd haul goleubrim,
Ar dy gred na ddywed ddim.