Yr Anrhydeddus Thomas Price (Y Winllan Ionawr 1908)

YR ANRHYDEDDUS THOMAS PRICE. MAE yn hyfryd gennym gael rhoddi yn "Ein Darlunfa " ar ddechrau'r flwyddyn newydd, ddarlun o Gymro Wesleaidd sydd wedi esgyn i'r safle gwleidyddol uchaf yng ngwlad ei fabwysiad,—nid amgen Mr Thomas Price, Prif Weinidog De Awstralia. Magodd Cymru, o bryd i bryd, feibion glew ac enwog mewn llawer cylch; yn bregethwyr, llenorion, cantorion a gwladweinwyr; ond nid ydym yn cofio fod Cymro erioed o'r blaen wedi codi i safle Prif Weinidog. Teimlwn yn falch fod y Prif Weinidog Cymreig cyntaf wedi ei fagu yn grefyddol mewn cysylltiad â Wesleaeth Gymreig, a llawen gennym ddeall ei fod yntau yn cydnabod yn ddiolchgar y fagwraeth dda a gafodd pan yn aelod o'r Ysgol Sabothol yn Boundary Street (y pryd hynny), Cylchdaith Oakfield Road. Yr oedd mam Mr Thomas Price yn ferch i Hugh a Betsan Morris, Pantymaen, Bryn Eglwys, Corwen; a hi a gafodd ei magu mewn cysylltiad â'r achos Wesleaidd yn yr ardal honno. Yn y "forties" hi a ddaeth i Frymbo, ger Wrecsam, lle y cafodd waith fel gwniadwraig, a gwnaeth ei chartref gyda'i modryb, Eleanor Charles, chwaer i'w mam. Yn ystod yr amser hwn daeth Mr John Price i'r ardal i weithio fel stone-cutter yng nglyn ag Ysgolion Eglwysig Brymbo. Daeth efe a Miss Morris i gysylltiad â'i gilydd fel Wesleaid, a phriodasant. Ganwyd eu plentyn cyntaf, Tom, ym Mrymbo, ac yn fuan symudasant i Everton, Lerpwl. Y mae byr gofiant i Mr John Price wedi ei ysgrifennu gan Monwyson yn Eurgrawn Medi, 1880. Yn Lerpwl y derbyniodd Mr Thomas Price ei addysg elfennol, ac yno hefyd y dysgodd crefft ei dad fel saer maen. Ymfudodd i Awstralia yn y flwyddyn 1883, a dilynodd yr un grefft yno am gyfnod. Diddorol ydyw deall iddo gymryd rhan i naddu'r cerrig yn yr Adeilad Seneddol yn Adelaide, lle y mae yn awr yn llywodraethu fel Prif- Weinidog. Ym mhen amser daeth yn un o brif ddynion y Contractwr mwyaf yn Adelaide. Wedi hyny, cafodd y swydd o Clerk ofthe Works dros y llywodraeth, a bu yn arolygu y gwaith adeiladu mawr a ddygid yn mlaen gan y llywodraeth yn 3 Islington, ger Adelaide. Erbyn hyn yr oedd wedi d'od yn adnabyddus yn y cylch a elwir yn "Labour circles" Ap- wyntiwyd ei yn Ysgrifennydd Cymdeithas yr Adeiladwyr, ac fe wnaeth y fath wasanaeth yn y swydd honno fel y gofyn- wŷd iddo ddyfod yn ymgeisydd dros blaid Lafur yn un o'r Etholaethau mwyaf yn y Dalaith. Enillodd fuddugoliaeth ar yr hen aelod gyda mwyafrif o un bleidlais; ond nid oedd hyn yn achos i daflu allan ei gyd-ymgeisydd, gan fod yr Etholaeth yn cael dau aelod. Yr oedd ei gyd- ymgeisydd yn Gymro, ac ar hyn o bryd efe yw'r Agent Genieral dros Dde Awstralia yn Llundain. Ei enw yw Mr J. G. Jenkins. Ym mhen pedair blynedd ar ôl hyn, penodwyd Mr Price yn Arweinydd Plaid Llafur. Pan unwyd y Taleithiau yn Awstralia safodd fel ymgeisydd am sedd yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr, ond er iddo gael 28,000 o bleidleisiau, collodd y sedd gydag ychydig iawn o bleidleisiau. Yn y flwyddyn 1905, fel Arweinydd yr Wrthblaid, efe a roes her i'r L/lywodraeth, a bu yn llwyddiannus i gario pleidlais o ddiffyg ymddiried. Mewn canlyniad anfonwyd am dano gan y Llywodraethwr dros y Goron i ffurfio Gweinyddiaeth Newydd. Llwyddodd i wneud hyny, ac y mae bellach yn Brif Weinidog ers dros ddwy flynedd. Er pan mae yn y swydd bwysig hon, y mae wedi dwyn cwestiynau pwysig ger bron y Senedd, a'i hyder yw y gedy hanes da ar ei ôl. Fel ei gyd-wladwr, y diweddar Hugh Price-Hughes, nid yw Mr Price yn gadael i unrhyw gyfleustra cyhoeddus fyned heibio heb fynegi i ba genedl y mae yn perthyn. " All Atistralia knows" meddai, " where I hail from. I am proud of my country— Wales." Ac ychwanega: " Yr wyf yn dal yn Weslead, ac yr wyf, ar fwy nag un achlysur, wedi cydnabod yn gyhoeddus mai i'r addysg grefyddol a gefais yn Ysgol Sul Boundary Street yr wyf yn ddyledus am y safle yr wyf ynddi heddiw." Y mae Mrs. Price yn ferch i'r diweddar Mr Edward Lloyd, yr hwn fu yn Oruchwyliwr Cylchdaith Shaw Street, ac yn ei briod hoff y mae Mr Price wedi cael pob cymorth a chydymdeimlad i gyflawni ei waith pwysig ym mhlaid cynnydd a lles y bobl. Eiddunwn i'r Anrhydeddus Thomas Price a'i briod oes faith o ddefnyddioldeb a llwyddiant. John Marsden.

Cyfeiriadau golygu

YR ANRHYDEDDUS THOMAS PRICE (Y Winllan Ionawr 1908)