Yr Arwr
gan Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans)
Yr Eneiniog
golygu- Wylo anniddig dwfn fy mlynyddoedd
- A'm gwewyr glyw-wyd ar lwm greigleoedd
- Canys Merch y Drycinoedd - oeddwn gynt:
- Criwn ym mawrwynt ac oerni moroedd.
- Dioer wylwn am na welwn fanwylyd,
- Tywysog meibion gwlad desog mebyd,
- Pan nad oedd un penyd hyd - ein dyddiau,
- Ac i'w rhuddem hafau cerddem hefyd.
- Un hwyr pan heliodd niwl i'r panylau
- Rwydi o wead dieithr y duwiau,
- Mi wybum weld y mab mau - yn troi'n rhydd
- O hen fagwyrydd dedwydd ei dadau.
- Y llanc a welwn trwy'r gwyll yn cilio
- I ddeildre hudol werdd Eldorado,
- O'i ôl bu'r coed yn wylo, - a nentydd
- Yn nhawch annedwydd yn ucheneidio.
- Y macwy heulog, paham y ciliodd?
- Ba ryw hud anwel o'm bro a'i denodd?
- Ei oed a'i eiriau dorrodd , - ac o'i drig
- Ddiofal unig efe ddiflannodd.
- A'i rhyw ddawn anwar oedd yn ei enaid?
- Neu ynteu hiraeth am lawntiau euraid?
- O'i ôl mae bro'i anwyliaid - dan wyll trwch
- Heb ei wên a'i degwch pur bendigaid.
- Minnau o'i ôl yng nghymun awelon,
- Troais i gwfert drysi ag afon,
- A churiwyd rhychau oerion - i'm deurudd,
- Is tawch cywilydd a thristwch calon.
- Twrf anniddan y gwynt ar fynyddau,
- A gawr allwynin y wig ar llynnau,
- Udent ym mhyrth fy nwydau, - oni throes
- Gerddi feinioes yn darth a griddfannau.
- Un nos oer hunais yn sur ewynnau,
- A gwenau aethus y lloergan hithau
- Hyd fy hirwallt fu oriau, - a'r crych pêr
- Yn wylon dyner fel henoed dannau.
- Yno mi gerddais tros drumau gwyrddion
- I bau hir-ddedwydd ym mraich breuddwydion;
- Hiraeth nid oedd yr awron, - canys caid
- Heulwennau euraid a thelynorion.
- Yn y bau loyw hon roedd teml ysblennydd
- O liwiau breuddwyd a haul boreddydd;
- Ac ar ei rhosliw geyrydd - roedd hwyliau
- O wyn lumannau fel niwl y mynydd.
- Oddi fewn gwelwn orsedd o fynor
- Ac arni ogonaid ddi-gryn gynnor;
- Ei lais mwyn fel su y môr, - a'i dalaith
- O wneuthuriad perffaith rhyw hud porffor.
- Yno roedd duwiau cerdd a dyhewyd
- A hoen ac asbri pob ieuanc ysbryd;
- Nid oedd ŵr annedwydd hyd - y wenfro,
- Ac ni bu yno o'r drwg nai benyd.
- A dull y gwron di-wall a gerais
- Ger allor heulog ar y llawr welais,
- Ac yn ei lyfn ysgawn lais - yr awron
- Hud ag alawon uwch gwybod glywais.
- Cans rhyw dduw â rhin ei fedr dewinol
- I'w ganaid wefus roes egni dwyfol;
- A rhoed lliw disglair hudol - i'w enaid
- O hafau euraid yr oes anfarwol.
- A rhoed dyhewyd hendre y duwiau
- Yn hud anorfod i'w danllyd nerfau,
- A chrisiant serch yr oesau - fel haen ddrud
- O ryfedd olud ar ei feddyliau.
- Ei law fynoraidd gariai lafn eurad
- A heriai dras pob diras ei doriad,
- Ac ar ei harddaf safiad - gwelwn ddelw
- Un allo farw i ennill ei fwriad.
- Yna rhyw faddon o dân rhyfeddol
- Welid yno trwy olau dewinol;
- Wedi hyn y mab denol - o'i fynwes
- I hwnnw a fwries y duw anfarwol.
- Codwyd y macwy, ac ymhen ennyd
- Doi nodau hudol y duwn dywedyd:
- Y mab hwn fydd grym y byd, - a'i eiriau
- Yn win y duwiau, yn dân dyhewyd.
- "Gwn y bydd creulon droeon i'w drywydd,
- A du iawn adwyth a byd annedwydd;
- Eithr efe athro a fydd, - yn nysg gêl
- Y dyddiau anwel ar oed ddihenydd.
- "Didlawd felyswawd y dwyfol oesau
- Au gloywaf fiwsig lif o'i wefusau;
- Ac yn asur dig nosau - pawb a'i gwêl
- Yn lloer dawel ac yn allur duwiau.
- "Merchyg fel drycin ar flaen y trinoedd,
- A baidd â'i anadl ysgwyd byddinoedd;
- Ei wŷs a chwâl lynghesoedd, - a'i nerth maith
- Ofwya'n oddaith ar wyllt fynyddoedd.
- "Geilw ar fywyd o'i benyd a'i boenau
- I fyd didranc yr ieuanc foreau,
- Ar oes wen liw rhosynnau - ddaw yn ôl
- Ar li anfarwol ei nwyf a'i eiriau.
- "Er i helynt y gerrynt ei guro,
- A bwrw ei hirnych o'r wybyr arno,
- Ni wêl hwn ddim a'i blino, - canys bydd
- Awen y gwynddydd pellennig ynddo.
- Rhyw ddydd llachar ofwya'r tyrfaoedd
- I'w oed urddasol 'rôl dadwrdd oesoedd;
- Yna holl wae ei drinoedd - dry'n nerfus
- Gân ar wefus moliannus ganrifoedd.
- Tros wefus ddi-wrid y pyramidiau
- Efe a lefair am ddwyfol hafau;
- Ac o'i lyfn gofgolofnau - efe fydd
- Duw a thywysydd gorymdaith oesau."
- Gwelwn y macwy mwy yn tramwyo
- I'w henwlad irad yn ôl i dario;
- Ond ar hyd Eldorado - llu mwynllais
- Yn dawnsio welais, a'r duw'n noswylio.
- Galwyd finnau o 'mreuddwyd mawreddog
- Gan wyntoedd oerfin cethrin ysgythrog;
- A chanai crych ewynog - ar y traeth
- Ogonedd hiraeth fy mron gynddeiriog.
Y Gŵr Gofidus
golygu- Y gŵr mwynllais gerais gynt
- Guriodd o gof i'r gerrynt,
- Ac aeth o gof atgof oed
- Moliangerdd mil o wingoed.
- Rhyw welw rwyg rywelwr oedd
- Ar hyn yn dod o'r trinoedd:
- Nid oedd hud na golud gwyn
- I'w grwm olwg, ŵr melyn.
- Yn ei wallt roedd chwaon hwyr
- A nos enaid i'w synnwyr.
- A thrwy'r fro oedd yno'n wen
- Gan eira, freugaen oerwen,
- Nid oedd ŵr na channaid ddyn
- I'w arddel, ledfyw furddyn.
- Lliw drysau llwyd yr oesoedd
- Hyd y trwm gardotwr oedd;
- A chan ei dristed, dwedyd
- Bwy oedd nid allai y byd;
- I'w wedd roedd agwedd dreigiau
- Welodd fil o ymladdfâu;
- A thwrf alaeth rhyfeloedd
- Yn y chwa o'i amgylch oedd.
- Eithr o'i ing aruthr yngo
- A diwyd iaith dwedai o:
- "I'w hoed mewn cyflawn adeg
- Y gelwais bob dyfais deg;
- Ban gawn gynt ar helynt rwydd
- Eurglod goruwch pob arglwydd,
- Trigais yng nghanol golud
- Aneddau aur bonedd hud,
- Ac yn serch pob gwenferch gain
- Lledais fy ngwenlliw adain;
- Tithau a'm bwriaist weithion
- O oedfa rwyg serch dy fron.
- Heddiw 'rwyn dlawd anniddos,
- Yn rhan o wynt chwerw y nos.
- "Daear anghyffwrdd duwiau
- Ac aml bell ddigwmwl bau
- Lle na bu y gwyll yn bod
- Diriais o'm mebyd erod
- Erwau Valhala'r arwyr
- Ar deg Eldorado ŵyr.
- "Sgrifennais a welais i
- A phwyntil haul a phaent lili;
- Gwisgais bob traith ag iaith gêl
- Cewri'r pellterau cwrel,
- A byd hardd pob gwybod hen
- Dramwyais i drwym hawen;
- A thrwy fil o athrofâu
- Heliais i ti feddyliau;
- Erod pob rhyw wybod ros
- Anwyd om deall dinos.
- Enwau'r sêr au niferoedd
- A'u lliw yn nail fy llên oedd;
- A thrwy drwm a dieithr drais
- Erod pob gwyddor huriais.
- "Fy nerthoedd tymestl oeddynt
- Yn huodl gerdd Handel gynt;
- Cenais drom oerlom hirlef
- Uffern, a hoff eiriau nef,
- A llawer clir gywir gân
- O hawddfyd dyn a'i riddfan.
- "Mae twrf gwyntoedd cymoedd cau
- Yn hud ar fy nghaniadau,
- A llam hoyw pob lli miwail
- A su dwys isleisiau dail.
- Tithau wrandewaist weithian
- Fy angerdd, fy ngherdd, fy nghân;
- A'r tâl mau fu treisiau trwm
- Eiddig warthrudd a gorthrwm.
- "A'm hewyd fu'n fflam awen
- Mewn llawer i Homer hen;
- Gwisgais bob cân â manaur
- O geyrydd yr hwyrddydd aur;
- Ac yn hedd y nos cawn wau
- Soned o wrid rhosynnau;
- Ac yn honno atgo hen
- Holl hiraeth mŷr y lloerwen.
- "Cenais obaith maith fy myd
- A hud ieuanc dyhewyd;
- Yn fy ngherdd roedd angerdd wynt
- Ac arogl mellt y gerrynt.
- Fy awen i, - llef ddofn oedd,
- A'i llais a glywr holl oesoedd;
- A'r wobr fau fu treisiau trwm
- A diarlwy fyd hirlwm.
- "O bu ar lawer i baith
- Firagl afar y gleifwaith,
- Yn ei oddaith a'i weiddi,
- Yn ei dân bum henaid i;
- Ysgydwais ddur Arthur hen
- A chawraidd freichiau Urien;
- Am hoywlafn gwenfflam welwyd
- Is tywyll oer gestyll llwyd:
- Ffoai crin ffeils frenhinedd
- Ar gyfyng hynt rhag fy ngwedd.
- "Rhin claer pob cronicl euriaith
- Yw cyni nghymhelri maith."
- "Bûm yn ddraig pan godai gad
- Aerwyr i'r trinoedd irad;
- A bûm darian i'r gwan gynt
- Ar draeth alaeth a helynt;
- Ac ar fy rhydd gywir fron
- Mae gwaed pob Armagedon.
- "Od ymleddais ymgais oedd
- Er ennill i ti rinoedd;
- A'th ennill o byrth unig
- Y nos ddofn a'i theyrnas ddig;
- Ac ar y daith hirfaith oed
- Lluniais rhag tywyll henoed
- Hafod wen i'th fywyd di
- O lelog teg a lili.
- "Er dy fwyn bu'r crwydrad, ferch,
- Trosot bu trinoedd traserch;
- A throsot ti gweddîais
- A haenau llosg yn fy llais.
- Gwyddost, Wen, na fu gennyf
- Un Iôn na fawn arno'n hyf.
- Eithr daeth oer fâr i'th gariad
- A niwl o fro anial frad;
- Minnau, fu gynt ym mhenyd,
- Yng nghymhelri'r cewri cyd,
- A chwythaist o'th serch weithion
- Ail ewyn deifl blaen y don.
- Eithr ba waeth, ni fathr y byd
- Actau ieuanc dyhewyd;
- Gwedi cŵyn ac oed cyni,
- I'r hafod wen cariaf di:
- Yno cei fywn unbennes
- Yng ngwlad hardd anneongl des."
- "Ffo, ŵr crin", ebe finnau,
- "I rwyg fyd yr ogofâu,
- O'th ôl mae maith ddialydd
- O dremyn storm nos a dydd.
- Gwell rhag llaw yw'r glaw ar glog
- I ymhonnwr crwm heiniog;
- Wr di-wawr, o'th garu di
- Amarch fy mro f'ai imi".
- Ynar gŵr brau garw ei bryd
- Giliodd fel cwmwl gwywlyd
- Efo'r gwynt cyforiog oedd
- Yn cwyno'n niwl drycinoedd;
- Eithr o'i ôl roedd dieithr hud
- I'r nos amur yn symud.
Y Merthyr
golygu- Yng nghwm fy ngwyll a nghamwedd - oedais i
- Ar rawd swrth amhuredd;
- Ogylch doi wynt fy nrygedd
- O ddinas ddu nos ddi-hedd.
- Yno daeth rhyw chwerthin du - o lawer
- O greigleoedd pygddu;
- Yntau noswynt yn nesu
- Fal gawr oer neu ddieflig ru.
- Ar hyn trwyr coedydd crinion - heibio daeth
- Wynebau du creulon,
- A nodau brad nwyd eu bron
- Yn eu mil ffurfiau moelion.
- Yr ymhonnwr crwm yno - a welwn
- Mewn hualau'n rhodio;
- Ac olion ing ac wylo
- Oedd ar ei ddwys ddeurudd o.
- Yn sŵn dig y coedwigoedd - a dirmyg
- Yr ystormus wyntoedd
- Holais ryw fab o'r niwloedd
- Ba oed o wae enbyd oedd.
- "Ar antur fer," ebr yntau, - "y daeth gŵr
- Ar daith gêl o'r deau;
- Heno bydd. cwsg y bedd cau
- Ar ei wynion amrannau.
- "Holai am ryw anwylyd - garodd gynt
- Is gwerdd gaer ei febyd;
- Er ei mwyn crwydrai mhenyd
- A duoer boen tlodi'r byd.
- "Dwedai mai caethglud ydoedd - ei fun ef
- Yn niwl du ein tiroedd;
- Ac amu'r wynt y cymoedd,
- Ebr ef, tros ei llwybrau oedd.
- "Er hon cydrhwng ein bryniau - ni ddorodd
- Ddyhirwawd i'r duwiau;
- A bu ofn pan glywai'r bau
- Lef ei ysol wefusau.
- "Ei fun aethus fynnai weithion - o deml
- Oes ddideimlad greulon;
- I'w diroedd di-bryderon,
- I'w wlad deg tros emraid don.
- "Gwaeau tost feiddiodd trosti, - o'i hachos
- Chwenychodd faith dlodi;
- Ei harddwch gollodd erddi
- A'i wrid oll i'w gwared hi.
- "Eithr er drycin a thrinoedd - a chwerwedd
- Carcharau yr oesoedd
- I'w enaid nerth byddinoedd
- A gwayw dân i'w lygaid oedd.
- "I'w neithior tros y moroedd - galwa'i wreng
- Gwelw rudd y mynyddoedd;
- Ar ei air tyrrai'r tiroedd -
- Rhuthr a chyrch anorthrech oedd.
- "Deffrowyd y breuddwydion - a hunent
- Rhwng ein bryniau llwydion;
- A thorf aruthr o feirwon
- A fywheid gan y llef hon.
- "Gadawent drig y duwiau - tua'r wawr
- Megis trin o ddreigiau:
- O'u hôl roedd sŵn dialau
- Yn holl byrth y dywell bau.
- "Ar gŵr tros dduoer geyrydd - a orug
- Eu harwain o'u tywydd,
- Drwy chwyldro wen ysblennydd,
- I ryddid oes werdd ei dydd.
- "Yno, ebr ef, cai fanon - ado'i hen
- Anghrediniaeth greulon;
- Duwiau'r hwyr o'i mynwes drôn,
- Eilwaith daw serch i'w chalon.
- "Ond diarbed i'w erbyn - y duwiau
- Duon a godesyn;
- Heno bydd salm y bedd syn
- Yn torri trwy'i wallt hirwyn."
- Yna y llais ddiflannodd, - ar hwyrwynt
- Trwy'r oror drist wylodd;
- A niwl du anaele dodd
- Lwyd dwyni y wlad danodd.
- Eithr yn ddirgel rhywelais - heibio oer
- Aberoedd du tristlais;
- Ac i'r oed doi'r gŵr wawdiais
- Yngo fal hud angof lais.
- Ar ei grog draw yn crogi - yn ei waed
- Gwelwn ef ar drengi;
- A'r awel oer a'i phêr li
- Hyd ei hirwallt yn torri.
- Rhyw aethus lwydwawr weithion - hyd oror
- Y dwyrain diglion
- Dorrai fel ar arch dirion
- Y gŵr gaid ar y grog hon.
- Un ennyd cyn ei huno - dywedodd:
- Diadwyth a drengo
- A dydd ei ddyhewyd o
- I'r awyr yn dwyreo.
- "Wele, ferch, dyrchafael fydd, - yno tau
- Pob rhyw storm annedwydd;
- Ac i'r oed is y coedydd
- Cariad rhos o'i dranc hir drydd."
- Dy enaid o'r gwyll dynnais ; - oth herwydd
- At ferthyron cerddais;
- Cans hiraeth meddf dy leddf lais
- Drwy gloiau dur a glywais.
- "Ponid gwell ydyw'r poenau - ddaw a gwawr
- Tros brudd geyrydd oesau
- Na dewis breuglod duwiau
- Yn niwl y bell anial bau?
- "Cyn hir fe'n hunir ninnau - ym mhaladr
- Y melyn foreau;
- Eisys mae llewych oesau
- Y deyrnas hud ar nesháu."
- Weithion di-fraw y tawodd, - ar wawr oer
- Ar ei wallt chwaraeodd,
- A'i lydain lygaid lwydodd
- Yn y tarth cyfrin a'u todd.
- Yna holais y niwloedd, - a hwythau
- Y creithiog fynyddoedd,
- Ai duw hud mewn oed ydoedd,
- A'i rhyw wyllt ymhonnwr oedd?
Y Dyrchafael
golygu- A'r huan megis troell
- O aur pur uwch y mÿr pell,
- Llifodd ias boeth o draserch
- I'm mynwes i o'm hen serch;
- A llais ar ddull eosydd:
- "Wele, ferch, dyrchafael fydd".
- Yna wrth borth traeth y bau
- Gwelwn sidanog hwyliau
- Rhyw long o gwrel, a'i hynt
- O deg orwel di gerrynt;
- Ar ei bron roedd gŵr o bryd
- Rhoslwyn, ag hirwallt dryslyd;
- Ataf ei dremyn ytoedd,
- A fenw i ar ei fin oedd.
- Minnau gan hud a gludwyd
- I'r llong ar y dyfnder llwyd;
- Wedyn awelon gododd,
- A hithau draw ymaith drodd.
- O f'ôl roedd hen adfeilion
- Yn oer a du ger y don;
- Is eu lawnt roedd treisiol wÿr,
- A thremyn hen orthrymwyr
- Wanwyd gan y mab gwynwawr
- Yn nydd mellt ei drinoedd mawr;
- Pand yno bu caddug cau
- Ac oed hen y cadwynau?
- O'm blaen bryd hyn ymdaenai
- Y lli mwyn fel mantell Mai;
- Ac uwch y môr porffor pell
- Weithian ar ddieithr draethell
- Roedd cwmwl mawr liw gwawr gêl
- Ceyrydd canrifoedd cwrel.
- Cyn hir y llong a diries
- Wrth ryw bau liw tonnau tes;
- A swyn haf glas ei nefoedd
- Dros ei thir fel dryswaith oedd,
- A thremyn teml ddi-seml sud,
- Wele, is coediog olud
- Ac iddi o'r gellïoedd
- Diri' dorf ar grwydrad oedd.
- Ymlaen tua'r deml yno
- Hyd erwau aur rhoddais dro,
- A phob tlysni ynddi oedd
- Fel yn hafal i nefoedd;
- Ac ar orsedd unwedd haul
- Ym mro hwyr y mŷr araul,
- Anwylyd fy mebyd maith
- Welwn mewn harddwch eilwaith;
- Iddo roedd talaith ruddaur
- O hudol sud deilios aur;
- Ac i'r llawr rhag ei fawredd
- Y syrthiais i wrth ei sedd.
- Arglwydd, ebr fenaid, erglyw,
- Dy ras eurad afrad yw;
- Haeddiant i'th fyd ni feddaf,
- Fy Iôr, a'm haneisior Naf,
- Canys yn oriau'r cyni
- Gwerthais a bradychais di;
- Ac yn ing drycin angau
- Tybiais ddiwedd dy wedd dau;
- Eithr er craith byw eilwaith wyt,
- Duw ar dud euraid ydwyt.
- "Eilwaith i 'mron dychweli
- Fel murmur pêr llawer lli;
- Eilwaith 'rwyt ar heolydd
- Yn fain rhos, yn fynor rhydd;
- Gawr wen im ac utgorn wyt,
- A rhi gwlad miragl ydwyt;
- Ni ddawr trwy'r byd yr awran
- Ond gwrid teg dy gariad tân."
- Ar hyn fy arglwydd a drodd,
- Ail llif hwyrwynt llefarodd:
- "Yn y ddihedd hendre ddu
- Gwelais dy drist fygylu;
- A gwyliais aethog helynt
- Dy gorff llesg is gormes gynt,
- A'th serch fel tymestl erchyll
- O uthr niwl a chethrin wyll,
- A mil o ddu gymylau
- Adwyth ag ing wedi'th gau,
- Mal eiddig yr ymleddais,
- Ac erod, ferch, curiwyd f'ais;
- Rhyw isel gur islaw gwerth
- Hebot f'ai poen fy aberth.
- "Tithau a ddaethost weithion
- I'r wlad o wull emrald hon,
- Lle 'rwyf fi 'r ôl cyni cyd
- Yn dduw pob cain ddyhewyd.
- "I'm gwlad fwyn ddiallwynin
- Ni ddaw trais na chwerwedd trin;
- Canys ysbrydion cynnydd
- Elwir i oed fy nheml rydd;
- Yno tanllyd ysbryd wyf
- A thad pob campwaith ydwyf;
- A chyrch llongau'n dyrfâu fil
- O dranc y duoer encil
- I borth llawen dadeni
- Ar amnaid fy enaid i.
- "Pob cân anfarwol ganwyd
- Ar wefus pob nerfus nwyd,
- A brud hen ddiwygwyr bro,
- A'u gwronwaith geir yno,
- A phob gwae cudd ddatguddir
- Yng ngwrid haf di-angred hir.
- "Teyrn i'r bau er angau wyf,
- A'i godidog hud ydwyf;
- Awen ei llên dragywydd,
- A'i hoesau aur ynof sydd;
- Miliynau'r mellt melynion
- I'r bys mau'n fodrwyau drôn;
- Ac fel duw di-fraw, llawen,
- Adeiniaf fyd y nef wen.
- "Er maith sen Prometheus wyf,
- Awdur pob deffro ydwyf,
- Ar oes well wrth wawrio sydd
- Ar dân o'm bri dihenydd."
- Ar gŵr glew yno'n tewi,
- Nid oedd yn fy enaid i
- Onid wyneb a daniwyd
- Yn nef pob anfarwol nwyd.