Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew/Pennod XX

Pennod XIX Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
Pennod XXI

PENNOD XX.

1 Crist, trwy ddammeg y gweithwyr yn y winllan, yn dangos nad ydyw Duw yn ddyledwr i neb: 17 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint: 20 trwy atteb i fam meibion Zebedëus, yn dysgu i'w ddisgyblion fod yn ostyngedig; 30 ac yn rhoddi i ddau ddyn dall eu golwg.

CANYS teyrnas nefoedd sydd debyg i wr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhâu, i gyflogi gweithwyr i'w winllan.

2 Ac wedi cyttuno â'r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.

3 Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;

4 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.

5 A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.

6 Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?

7 Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.

8 A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.

9 A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.

10 A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.

11 Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gwr y tŷ,

12 Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a'r gwres.

13 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cyttunaist â mi?

14 Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithau.

15 Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?

16 Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

17 ¶ Ac a'r Iesu yn myned i fynu i Jerusalem, efe a gymmerth y deuddeg disgybl o'r neilldu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,

18 Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a Mab y dyn a draddodir i'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,

19 Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.

20 ¶ Yna y daeth mam meibion Zebedëus atto gyd â'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.

21 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddehau, a'r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.

22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwppan yr ydwyf fi ar yfed o hono, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwppan, ac y'ch bedyddir â'r bedydd y'm bedyddir âg ef: eithr eistedd ar fy llaw ddehau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhad.

24 A phan glybu y deg hyn, hwy a sorrasant wrth y ddau frodyr.

25 A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy.

26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;

27 A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:

28 Megis na ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

29 ¶ Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.

30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

31 A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarhâ wrthym.

32 A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o honof i chwi?

33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.

34 A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.

Nodiadau

golygu