Yr Eneth Ga'dd ei Gwrthod
← | Yr Eneth Ga'dd ei Gwrthod gan Anhysbys |
→ |
YR ENETH GA'DD EI
GWRTHOD.
Mesur Bugeilio'r Gwenith Gwyn.
AR lan 'rhen afon Ddyfrdwy ddofn
Eisteddai glân forwynig,
Gan ddystaw sisial wrthi ei hun-
Gadawyd fi yn unig;
Heb gâr na chyfaill 'fewn y byd,
Na chartref chwaith fyn'd iddo,
Drws tŷ fy nhad sydd wedi ei gloi,
'Rwy'n wrthodedig yno.
Mae bys gwaradwydd ar fy ol
Yn nodi fy ngwendidau,
A llanw 'mywyd wedi ei droi
A'i gladdu dan y tonau;
Ar allor chwant aberthwyd fi,
Do, collais fy morwyndod,
A dyna'r achos pa'm yr wyf
Fi heno wedi 'ngwrthod.
Ti frithyll bach sy'n chwareu'n llon
Yn nyfroedd glân yr afon,
Mae genyt ti gyfeillion fyrdd,
A noddfa rhag gelynion;
Cei fyw a marw o dan y dw'r,
Heb undyn dy adnabod,
O na chawn inau fel tydi—
Gael marw ac yna darfod!
Ond 'hedeg mae fy meddwl prudd
I fyd sydd eto i ddyfod,
A chofia dithau, fradwr tost,
Rhaid iti fy nghyfarfod;
Ond meddwl am dy eiriau di,
A byw, sydd imi'n ormod;
O! afon ddofn, derbynia fi,
Caf angau yn dy waelod!
A boreu dranoeth cafwyd hi
Yn nyfroedd oer yr afon,
A darn o bapyr yn ei llaw
Ac arno yr ymadroddion-
"Gwnewch imi fedd mewn unig fan,
Na chodwch faen na chyfnod
I nodi'r fan lle gorwedd llwch
Yr eneth ga'dd ei gwrthod."
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.