Yr Haf
gan Dafydd ap Gwilym
- Gwae ni, hil eiddil Addaf,
- Fordwy rhad, fyrred yr haf.
- Rho Duw, gwir mai dihiraf,
- Rhag ei ddarfod. Dyfod haf,
- A llednais wybr chwybraf
- A llawen haul a’i lliw’n haf,
- Ac awyr erwyr araf,
- A’r byd yn hyfryd yn haf.
- Cnwd da iawn, cnawd dianaf,
- O’r ddaer hen a ddaw’r haf.
- I dyfu, gasu glwysaf,
- Dail ar goed y rhoed yr haf.
- Gweled mor hardd, mi chwarddaf,
- Gwalt ar ben hoyw fedwen haf.
- Paradwys, iddo prydaf,
- Pwy ni chwardd pan fo hardd haf?
- Glud anianol y’i molaf,
- Glwysfodd, wi o’r rhodd yw’r haf.
- Deune geirw dyn a garaf
- Dan frig, a’I rhyfyg yw’r haf.
- Y gog serchog, os archaf,
- A gân, ddechrau huan haf,
- Glasgain edn, glwys ganiadaf
- Gloch osber am hanner haf.
- Bangaw llais eos dlosaf
- Bwyntus hy dan bentis haf.
- Ceiliog, o frwydr ciliaf,
- Y fronfraith hoywfabiaith haf.
- Dyn Ofyss, hirddydd harddaf,
- A draid, gair hyfaidd, yr haf.
- Eiddig, cyswynfab Addaf,
- Ni ddawr hwn oni ddaw’r haf.
- Rhoed I’w gyfoed y gaeaf,
- A rhan serchogion yw’r haf.
- Minnau dan fedw ni mynnaf
- Mewn tai llwyn ond mentyll haf.
- Gwisgo gwe lân amdanaf,
- Gwnsallt bybyr harddwallt haf.
- Eiddew ddail a ddadeilaif.
- Annwyd ni bydd hirddydd haf.
- Lledneisferch os anerchaf,
- Llon arail hon ar ael haf.
- Gwawd ni lwydd, arwydd oeraf,
- Gwahardd ar hoywfarrd yr haf.
- Gwynt ni ad, gwasgad gwisgaf,
- Gwŷdd ym mhwynt, gwae ddow am haf.
- Hiraeth, nid ymddiheuraf,
- Dan fy mron am hini haf.
- O daw, hydref ef aeaf.
- Eiry a rhew, i yrru’r haf,
- Gwae finnau, Grist, gofynnaf,
- Os gyr mor rhyfyr, “Mae’r haf?”