Yr Hanesydd Emyr Preis

Wrth Sbio Drwy'r Ffenest Yr Hanesydd Emyr Preis

gan Robin Llwyd ab Owain

O Dan y Siwt
Cyhoeddwyd gyntaf ar y We, Mawrth, 1997.

Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



('Gwefr' oedd yr hen air am drydan. Cefnder cyna i mi; roedd ei fam 'Anti Citi' yn chwaer i 'Nhad.)

 
Weiren frau yn wefr o hyd, - yn dy wen
Drydanol: cyfanfyd!
Weiren fyw i'r hen fywyd,
Weiren fyw i'r hen, hen fyd.