Yr Heulwen (Mynyddog)
(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans).
- Daw yr heulwen a’i gusanau,
- Iechyd chwardda yn y gwynt,
- Cymyl sydd fel heirdd lumanau
- Bron a sefyll ar eu hynt;
- Gawn ni fynd a’r haf o’r gweunydd,
- Dwyn cusanau’r haul yn llu,
- Ar ein bochau gwridog beunydd,
- I addurno cartref cu?
- Dringwn fry i gartre’r hedydd,
- Chwarddwn, neidiwn megis plant,
- Lle mae’r cwmwl yn cael bedydd
- Yng ngrisialaidd ddwfr y nant;
- Canwn gerddi a dyrïau,
- Casglwn flodau gwyllt y wlad,
- Ac mi gadwn y pwysïau
- Harddaf oll i’n mam a’n tad.