Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Berwi Poten
← Lliw'r Gaseg | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Wrth y Tân → |
CLXXXVIII. BERWI POTEN.
HEI, ding-a-ding, diri,
Mae poten yn berwi,
Shini a Shani yn gweithio tân dani;
Shani'n ei phuro â phupur a fflŵr,
Ychydig o laeth, a llawer o ddŵr.