Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Brith y Fuches
← Priodi Ffôl | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Calon Drom → |
CCXCVIII. BRITH Y FUCHES.
MAE nhw'n dwedyd am yr adar,
Nad oes un o'r rhain heb gymar;
Gwelais dderyn brith y fuches,
Heb un cymar na chymhares.