Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Bum yn Byw
← Delwedd Os na lifiwn ni'n glau | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Pen y Mynydd Du → |
CCXLIV. CCXLV. BUM YN BYW.
BUM yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad;
Bum yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil.