Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Buwch
← Fel Daw Tada Adre | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Lle Pori |
CCLXVIII. BUWCH.
MAE gennyf fuwch a dau gorn arian,
Mae gennyf fuwch yn godro'i hunan;
Mae gennyf fuwch yn llanw'r stwcau,
Fel mae'r môr yn llanw'r beiau.