Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Bwch y Wyddfa
← Delwedd Waith bachgen smart wyf fi | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Ceffyl John Bach → |
CCXXVI. BWCH Y WYDDFA.
'ROEDD bwch yn nhroed y Wyddfa
Yn rhwym wrth aerwy pren,
A'r llall yn Ynys Enlli,
Yn ymryson taro pen;
Wrth swn y rhain yn taro,
Mae hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy'r Bermo,
Ac ni chodwyd mohono byth.