Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Can Iar
← Camgymeriad | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Can Iar Arall → |
CCLXXXII. CAN IAR.[1]
A GLYWAIST ti
Gân ein iar ni?—
"Dodwy, dodwy 'rioed,
Heb un esgid am fy nhroed;
A phe bawn yn dodwy byth,
Ni chawn ond _un_ wy yn fy nyth."
"Taw'r ffolog," ebai'r ceiliog,
"Wnaeth y crydd 'rioed esgid fforchog."
- ↑ O gasgliad Ceiriog yn "Oriau’r Bore."